Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan M. Dodd, y Cynghorydd Cymuned J. Gilasbey a’r Cynghorwyr Sir S.M. Allen a B.A.L. Roberts

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd dim buddiannau personol yn y cyfarfod.

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR YR 11EG MAWRTH 2016 pdf eicon PDF 402 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 11eg Mawrth, 2016 gan eu bod yn gywir.

 

4.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD S DAVIES pdf eicon PDF 305 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor gais a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Sir Sharen Davies i ganiatáu gollyngiad o dan Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiad) (Cymru) 2001 i wneud sylwadau ysgrifenedig a llafar a phleidleisio yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin, neu ei Bwyllgorau, mewn perthynas â materion yn ymwneud â chynigion y Cyngor i godi rhent ar Ganolfan Deuluoedd T? Enfys yn Llanelli.

 

Nodwyd bod cais am ollyngiad am fod gan y Cynghorydd Davies fuddiant personol mewn materion o’r fath yn sgil paragraff 10(2)(a)(ix)(ee) y Côd Ymarfer am ei bod yn aelod o bwyllgor y ganolfan deuluoedd, ond heb ei phenodi i’r swydd honno gan Gyngor Sir Caerfyrddin na Chyngor Gwledig Llanelli.

 

Roedd buddiant y Cynghorydd Davies hefyd yn rhagfarnol gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor arwyddocaol fel ei fod yn debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny, roedd y Cynghorydd Davies wedi gofyn am ollyngiad o dan reoliadau 2 (d), (f) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y byddai gollyngiad yn cael ei ganiatáu o dan Reoliadau 2(d), (f) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i’r Cynghorydd Sir S. L. Davies i SIARAD, OND NID PLEIDLEISIO, A GWNEUD SYLWADAU YSGRIFENEDIG yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin, neu ei Bwyllgorau, mewn perthynas ag unrhyw faterion yn ymwneud â chynigion y Cyngor i godi rhent ar Ganolfan Deuluoedd T? Enfys, a bod y gollyngiad yn ddilys hyd at 9fed Medi, 2016.

 

5.

CYMERADWYO NEWIDIADAU I GÔD YMDDYGIAD YR AELODAU pdf eicon PDF 372 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad ar newidiadau a gyflwynwyd ar 1af Ebrill 2016 gan Orchymyn Awdurdodau Lleol (Côd Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) (Diwygio) 2016 i’r Côd Ymddygiad Enghreifftiol ar gyfer aelodau etholedig a chyfetholedig, gyda’r newidiadau allweddol fel a ganlyn:-

 

1.     Gwaredu’r ddyletswydd o dan Baragraff 6 y Côd i adrodd am achosion o fynd yn groes i’r Côd i’r Ombwdsmon;

2.     Gwaredu Paragraff 10 (2) (b) mewn perthynas â’r gwrthdaro rhwng ward a buddiannau aelod a buddiant y gymuned ehangach;

3.     Gwaredu cyfeiriadau at y Swyddogion Monitro ym Mharagraff 1(2) mewn perthynas â chynnal cofrestr o fuddiannau gan Gynghorau Tref a Chymuned.

 

Hysbyswyd y Pwyllgor gan y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol Dros Dro, er bod yn rhaid i’r Cyngor fabwysiadu’r Côd Ymarfer diwygiedig erbyn 26ain Gorffennaf 2016, yr oedd Llywodraeth Cymru wedi argymell iddo gael ei fabwysiadu erbyn ei gyfarfod blynyddol nesaf ar yr hwyraf. Meddai fod fersiwn ddiwygiedig o’r Côd sy’n adlewyrchu’r newidiadau wedi’i hatodi i’r adroddiad, ac roedd cais i’r Pwyllgor gadarnhau’r newidiadau ac argymell i’r Cyngor ei fod yn ailfabwysiadu’r Côd yn ei ffurf ddiwygiedig.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

5.1

Gadarnhau’r newidiadau a gyflwynwyd gan Orchymyn Awdurdodau Lleol (Côd Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) (Diwygio) 2016 i’r Côd Ymddygiad Enghreifftiol ar gyfer aelodau etholedig a chyfetholedig.

5.2

Argymell i’r Cyngor ailfabwysiadu’r Côd Ymddygiad Enghreifftiol ar gyfer aelodau etholedig a chyfetholedig, yn ei ffurf ddiwygiedig, yn ei Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf.

 

6.

RHEOLIADAU LLYWODRAETH LEOL (PWYLLGORAU SAFONAU, YMCHWILIADAU, GOLLYNGIADAU AC ATGYFEIRIO) (CYMRU) (DIWYGIO) 2016 pdf eicon PDF 388 KB

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad ar gyflwyno, ar 1af Ebrill 2016, Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau Safonau, Ymchwiliadau, Gollyngiadau ac Atgyfeirio) (Cymru) (Diwygio) 2016 sy’n diwygio’r ddeddfwriaeth ganlynol:-

 

·        Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001;

·        Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001,

·        Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001.

 

Hysbyswyd y Pwyllgor gan y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol Dros Dro mai effaith y rheoliadau diwygiedig fyddai:-

 

1.     Caniatáu dau neu ragor o awdurdodau i sefydlu pwyllgor safonau ar y cyd.

2.     Galluogi i’r Cyngor ymestyn hyd tymor aelodau cyngor sir a chyngor cymuned ar Bwyllgor Safonau hyd at yr etholiad arferol nesaf yn 2017.

3.     Gwaredu’r cyfyngiad cyfredol o 4 blynedd ar hyd tymor aelod o gyngor sir neu gyngor cymuned ar y pwyllgor.

4.     Galluogi i’r pwyllgor oedi cyn cyhoeddi agendâu a gwybodaeth arall yn ymwneud ag ymchwiliad camymddwyn hyd nes i’r achos camymddwyn gael ei gwblhau.

5.     Caniatáu i Bwyllgor Safonau (neu Swyddog Monitro gyda chytundeb Cadeirydd y Pwyllgor Safonau) gyfeirio ymchwiliad camymddwyn i Bwyllgor Safonau awdurdod arall i ddod i benderfyniad.

6.     Cadarnhau bod pwerau Pwyllgorau Safonau i wahardd aelod wedi’u cyfyngu i 6 mis neu hyd tymor yr aelod os yw hynny’n llai na 6 mis.

7.     Cyflwyno categori cyffredinol o ollyngiad – os yr ystyrir mai priodol yw gwneud hynny yn yr holl amgylchiadau lle nad yw fel arall yn bosibl gwneud addasiadau rhesymol ar gyfer anabledd rhywun.  Mae gollyngiad parhaus a ganiateir ar y sail hon yn destun adolygiad blynyddol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi’r newidiadau a gyflwynwyd gan Reoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau Safonau, Ymchwiliadau, Gollyngiadau ac Atgyfeirio) (Cymru) (Diwygio) 2016

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau