Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Safonau - Dydd Iau, 25ain Mawrth, 2021 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

 

3.

COFNODION - 14EG RHAGFYR 2020 pdf eicon PDF 230 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2020 yn gofnod cywir.

 

4.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD JOHN JENKINS pdf eicon PDF 331 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Sir John Jenkins am ganiatáu gollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig yng nghyfarfodydd Cyngor Tref Llanelli a Chyngor Sir Caerfyrddin mewn perthynas â materion yn ymwneud â chasglu sbwriel yn Stryd Brettenham a materion diogelwch priffyrdd wrth adael Stryd Brettenham i Stryd Chapman a Stryd Pryce, Llanelli.

 

Roedd gan y Cynghorydd Jenkins fuddiannau personol a rhagfarnol, gan ei fod yn byw yn Stryd Brettenham a byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor sylweddol fel ei fod yn debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD caniatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2 (d) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd John Jenkins SIARAD A CHYFLWYNO SYLWADAU YSGRIFENEDIG YN UNIG mewn perthynas â materion yn ymwneud â chasglu sbwriel yn Stryd Brettenham a materion diogelwch priffyrdd wrth adael Stryd Brettenham i Stryd Chapman a Stryd Pryce, Llanelli.

 

5.

PENDERFYNIADAU PANEL DYFARNU CYMRU pdf eicon PDF 321 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Banel Dyfarnu Cymru yn manylu ar ei ganfyddiadau yn achosion y cyn-Gynghorydd Baguley o Gyngor Cymuned Abersili a Larnog, mewn perthynas â phostiadau ar gyfryngau cymdeithasol, a'r Cynghorydd Kevin O'Neill o Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, mewn perthynas â buddiannau personol a rhagfarnol a'i ddull o drin cyn Brif Weithredwr yr Awdurdod perthnasol.

 

Cyfeiriwyd y materion i'r Panel gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru o ganlyniad i gwynion a ddaeth i law.

 

Penderfynodd y Panel yn unfrydol, mewn perthynas â'r cyn-Gynghorydd Baguley, y dylai'r Ymatebwr gael ei wahardd am 15 mis rhag bod neu ddod yn aelod o Gyngor Cymuned Abersili a Larnog neu unrhyw awdurdod perthnasol arall o fewn ystyr Deddf Llywodraeth Leol 2000.

 

Penderfynodd y Panel yn unfrydol, mewn perthynas â'r Cynghorydd O'Neill, y dylai'r Ymatebwr gael ei wahardd rhag bod yn aelod o'r Awdurdod perthnasol am saith mis neu, os am gyfnod byrrach, gweddill ei gyfnod yn y swydd o ddyddiad yr hysbysiad o'r penderfyniad.

 

Roedd y Pwyllgor o'r farn fod yr achos cyntaf y cyfeirir ato uchod yn pwysleisio pa mor bwysig yw cynnwys gwybodaeth am ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol yn yr hyfforddiant Côd Ymddygiad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

6.

HYFFORDDIANT CÔD YMDDYGIAD AR GYFER CYNGHORWYR TREF A CHYMUNED pdf eicon PDF 323 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd y Pwyllgor fod gwneud trefniadau i gynghorwyr tref a chymuned yn y sir gael hyfforddiant côd ymddygiad yn dasg a oedd o fewn ei gylch gwaith. Er bod sesiynau blynyddol, o dan amgylchiadau arferol, fel arfer yn cael eu cynnal yn Neuadd y Sir, cafodd y sesiynau hyn eu canslo yn 2020 oherwydd y pandemig Coronafeirws, ac yn lle hynny, roedd nodiadau o'r hyfforddiant wedi'u dosbarthu i bob cyngor tref a chymuned. Yn dilyn sawl ymholiad gan gynghorau tref a chymuned ynghylch pryd y byddai sesiynau hyfforddiant pellach yn cael eu cynnal, gofynnwyd i'r Pwyllgor ystyried, yng ngoleuni'r cyfyngiadau parhaus sy'n gysylltiedig â'r pandemig, yr opsiwn o gynnal sesiwn hyfforddi ar-lein trwy Zoom neu Microsoft Teams gan mai'r unig ddewis arall fyddai gohirio'r sesiynau am flwyddyn arall neu ddarparu nodiadau o'r hyfforddiant fel yn 2020.

Roedd yr aelodau o'r farn ei bod yn bwysig cynnal rhyw fath o sesiwn hyfforddi, yn hytrach na dosbarthu nodiadau, ac y dylid cynnwys canllawiau ar ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol, yn enwedig yng ngoleuni canfyddiadau Panel Dyfarnu Cymru y cyfeiriwyd atynt yng nghofnod 5 uchod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ofyn i Reolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol ymchwilio i'r posibilrwydd o drefnu Hyfforddiant Côd Ymddygiad ar-lein a chanfod a fyddai'r cynghorau tref a chymuned yn gallu cymryd rhan.

7.

CYDYMFFURFIO Â'R CÔD YMDDYGIAD CYNGHORAU TREF A CHYMUNED pdf eicon PDF 304 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol adroddiad lle atgoffwyd y Pwyllgor y gofynnir bob blwyddyn i Gynghorau Tref a Chymuned ddarparu data ynghylch cydymffurfiaeth eu haelodau â'r Côd Ymddygiad ac roedd yr ymatebion a ddaeth i law yn cael eu cyfuno â data a gedwir gan y Swyddog Monitro i ddarparu trosolwg cynhwysfawr o gydymffurfiaeth y cynghorwyr hyn â'r côd, gan gynnwys y canlynol:

 

1.     Datgan buddiannau

2.     Ceisiadau am ollyngiad

3.     Cwynion ynghylch y côd ymddygiad

4.     Hyfforddiant côd ymddygiad

 

Er bod y rhan fwyaf o'r Cynghorau wedi darparu'r data y gofynnwyd amdano yn gyson, roedd lleiafrif bach o'r Cynghorau heb wneud hynny, rhai am sawl blwyddyn. Felly, awgrymwyd y dylid anfon llythyr yn gofyn am wybodaeth yn unol â'r hyn sydd ynghlwm wrth yr adroddiad at bob Cyngor Tref a Chymuned yn syth ar ôl diwedd blwyddyn bresennol y cyngor, gyda'r bwriad o gasglu'r data mewn pryd i'w gyflwyno i'r Pwyllgor yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr. Nododd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol nifer o fân newidiadau a awgrymwyd i'r llythyr.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r camau gweithredu a gynigiwyd uchod.

 

8.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd dim materion brys i'w trafod.