Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Remote attendance. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

COFNODION - 21 IONAWR 2020 pdf eicon PDF 119 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Ionawr, 2020 yn gofnod cywir.

 

4.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD DOROTHY JONES pdf eicon PDF 372 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Sir Dorothy Louise Jones am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a phleidleisio ar faterion yn ymwneud â chludiant o'r cartref i'r ysgol yn Sir Gaerfyrddin, yn enwedig gweithrediadau'r Panel Ymgynghorol Adolygu Cludiant i'r Ysgol a sefydlwyd yn ddiweddar gan y Bwrdd Gweithredol i roi sylw i'r mater hwn y mae'r Cynghorydd Jones wedi'i phenodi i wasanaethu arno.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Jones fuddiant personol yn y mater hwn yn rhinwedd paragraff 10(2)(b)(i) o Gôd Ymddygiad yr Aelodau gan ei bod yn rhiant i blant oedran ysgol sy'n byw yn y Sir.

 

Roedd buddiant y Cynghorydd Jones hefyd yn rhagfarnol, gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor sylweddol fel ei fod yn debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny, roedd y Cynghorydd Jones wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliadau 2 (d) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ar y canlynol

4.1. caniatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2 (d) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Dorothy Jones SIARAD A PHLEIDLEISIO ar unrhyw fater y cyngor sy'n ymwneud â chludiant o'r cartref i'r ysgol yn Sir Gaerfyrddin a bod y gollyngiad yn ddilys tan, a chan gynnwys, cyfarfod y Cyngor ar 8 Gorffennaf 2020;

4.2. awdurdodi'r Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith i benderfynu ar unrhyw geisiadau eraill am ollyngiad sy'n ymwneud â'r Panel Ymgynghorol Adolygu Cludiant i'r Ysgol a nodwyd uchod.

 

 

5.

UNRHYW FATER BRYS ARALL

Cofnodion:

Nid oedd dim materion brys i'w trafod.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau