Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Mary Dodd.
|
|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
COFNODION - 6 RHAGFYR, 2019 PDF 241 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr 2019 yn gofnod cywir.
|
|
CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD ANNE CARYS JONES PDF 372 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Sir Carys Jones am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig yn unig mewn perthynas â busnes sy'n ymwneud â pharcio ar y Grîn yn Llansteffan.
Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Jones fuddiant personol yn y mater hwn yn rhinwedd paragraff 10(2)(a)(vi) o Gôd Ymddygiad yr Aelodau gan ei bod hi a'i theulu yn byw'n union gyferbyn â'r darn o dir dan sylw.
Roedd buddiant y Cynghorydd Jones hefyd yn rhagfarnol petai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor arwyddocaol fel y byddai'n debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.
Gan hynny, roedd y Cynghorydd Jones wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliadau 2 (d) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001.
Yn dilyn trafodaeth,
PENDERFYNWYD caniatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2 (d) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Carys Jones SIARAD A CHYFLWYNO SYLWADAU YSGRIFENEDIG YN UNIG mewn perthynas ag unrhyw fater y cyngor sy'n ymwneud â pharcio ar y Grîn yn Llansteffan, a bod y gollyngiad yn ddilys tan ddiwedd y cyfnod etholiadol presennol.
|
|
CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD EDWARD THOMAS PDF 375 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Sir Edward Thomas am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad yng nghyfarfodydd Cyngor Tref Llandeilo Fawr mewn perthynas ag unrhyw fater y cyngor sy'n ymwneud â dyfarnu grantiau gan y Cyngor Tref i Gymdeithas Chwaraeon Llandeilo a'r Cylch.
Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Thomas fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(a)(ix)(ee) o Gôd Ymddygiad yr Aelodau gan ei fod yn Gadeirydd Cymdeithas Chwaraeon Llandeilo a'r Cylch.
Roedd buddiant y Cynghorydd Thomas hefyd yn rhagfarnol petai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor arwyddocaol fel y byddai'n debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.
Gan hynny, roedd y Cynghorydd Thomas wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliadau 2 (d) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001.
Yn dilyn trafodaeth,
PENDERFYNWYD caniatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2 (d) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Edward Thomas SIARAD YN UNIG yng nghyfarfodydd Cyngor Tref Llandeilo Fawr mewn perthynas ag unrhyw fater y cyngor sy'n ymwneud â dyfarnu grantiau gan y Cyngor Tref i Gymdeithas Chwaraeon Llandeilo a'r Cylch, a bod y gollyngiad yn ddilys tan ddiwedd y cyfnod etholiadol presennol.
|
|
CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD KEN LLOYD PDF 373 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Sir Ken Lloyd am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig yn unig mewn perthynas â busnes y cyngor sy'n ymwneud ag Ynni Sir Gâr Cyfyngedig, sef cymdeithas budd cymunedol sy'n gweithredu yn y sir, neu sy'n debygol o gael effaith ar y gymdeithas honno.
Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Lloyd fuddiant personol yn y mater hwn yn rhinwedd paragraff 10(2)(b)(v) o Gôd Ymddygiad yr Aelodau gan ei fod ef a chysylltiadau personol agos yn aelodau o'r sefydliad hwnnw ac yn dal cyfranddaliadau ynddo.
Roedd buddiant y Cynghorydd Lloyd hefyd yn rhagfarnol petai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor arwyddocaol fel y byddai'n debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.
Gan hynny, roedd y Cynghorydd Lloyd wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliadau 2 (d) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001.
Yn dilyn trafodaeth,
PENDERFYNWYD caniatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2 (d) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Ken Lloyd SIARAD YN UNIG mewn perthynas â materion amgylcheddol cyffredinol ond nid materion sy'n ymwneud yn benodol ag Ynni Sir Gâr Cyfyngedig hyd nes cyfarfod y Pwyllgor Safonau ym mis Medi 2020.
|
|
UNRHYW EITEMAU ERAILL O FUSNES BRYS Cofnodion: Nid oedd dim materion brys i'w trafod.
|