Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Mary Dodd.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

COFNODION - 6 RHAGFYR, 2019 pdf eicon PDF 241 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr 2019 yn gofnod cywir.

 

4.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD ANNE CARYS JONES pdf eicon PDF 372 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Sir Carys Jones am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig yn unig mewn perthynas â busnes sy'n ymwneud â pharcio ar y Grîn yn Llansteffan.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Jones fuddiant personol yn y mater hwn yn rhinwedd paragraff 10(2)(a)(vi) o Gôd Ymddygiad yr Aelodau gan ei bod hi a'i theulu yn byw'n union gyferbyn â'r darn o dir dan sylw.

 

Roedd buddiant y Cynghorydd Jones hefyd yn rhagfarnol petai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor arwyddocaol fel y byddai'n debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny, roedd y Cynghorydd Jones wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliadau 2 (d) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD caniatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2 (d) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Carys Jones SIARAD A CHYFLWYNO SYLWADAU YSGRIFENEDIG YN UNIG mewn perthynas ag unrhyw fater y cyngor sy'n ymwneud â pharcio ar y Grîn yn Llansteffan, a bod y gollyngiad yn ddilys tan ddiwedd y cyfnod etholiadol presennol.

 

5.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD EDWARD THOMAS pdf eicon PDF 375 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Sir Edward Thomas am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad yng nghyfarfodydd Cyngor Tref Llandeilo Fawr mewn perthynas ag unrhyw fater y cyngor sy'n ymwneud â dyfarnu grantiau gan y Cyngor Tref i Gymdeithas Chwaraeon Llandeilo a'r Cylch.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Thomas fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(a)(ix)(ee) o Gôd Ymddygiad yr Aelodau gan ei fod yn Gadeirydd Cymdeithas Chwaraeon Llandeilo a'r Cylch.

 

Roedd buddiant y Cynghorydd Thomas hefyd yn rhagfarnol petai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor arwyddocaol fel y byddai'n debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny, roedd y Cynghorydd Thomas wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliadau 2 (d) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD caniatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2 (d) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Edward Thomas SIARAD YN UNIG yng nghyfarfodydd Cyngor Tref Llandeilo Fawr mewn perthynas ag unrhyw fater y cyngor sy'n ymwneud â dyfarnu grantiau gan y Cyngor Tref i Gymdeithas Chwaraeon Llandeilo a'r Cylch, a bod y gollyngiad yn ddilys tan ddiwedd y cyfnod etholiadol presennol.

 

6.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD KEN LLOYD pdf eicon PDF 373 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Sir Ken Lloyd am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig yn unig mewn perthynas â busnes y cyngor sy'n ymwneud ag Ynni Sir Gâr Cyfyngedig, sef cymdeithas budd cymunedol sy'n gweithredu yn y sir, neu sy'n debygol o gael effaith ar y gymdeithas honno.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Lloyd fuddiant personol yn y mater hwn yn rhinwedd paragraff 10(2)(b)(v) o Gôd Ymddygiad yr Aelodau gan ei fod ef a chysylltiadau personol agos yn aelodau o'r sefydliad hwnnw ac yn dal cyfranddaliadau ynddo.

 

Roedd buddiant y Cynghorydd Lloyd hefyd yn rhagfarnol petai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor arwyddocaol fel y byddai'n debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny, roedd y Cynghorydd Lloyd wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliadau 2 (d) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD caniatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2 (d) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Ken Lloyd SIARAD YN UNIG mewn perthynas â materion amgylcheddol cyffredinol ond nid materion sy'n ymwneud yn benodol ag Ynni Sir Gâr Cyfyngedig hyd nes cyfarfod y Pwyllgor Safonau ym mis Medi 2020.

 

7.

UNRHYW EITEMAU ERAILL O FUSNES BRYS

Cofnodion:

Nid oedd dim materion brys i'w trafod.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau