Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Nodyn: Virtual Meeting. Members of the public can view the meeting live via the Authority's website
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||
LOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFODYDD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 14EG MEDI, 2020. PDF 215 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 14 Medi 2020, gan eu bod yn gywir.
|
|||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR SAFONAU 2019/20 PDF 302 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'w Adroddiad Blynyddol 2019/20 ynghylch y gwaith oedd wedi ei gyflawni yn ystod y cyfnod hwnnw a nododd, petai'r adroddiad yn cael ei fabwysiadu, y byddai'n cael ei roi gerbron cyfarfod y Cyngor yn gynnar yn 2021 i'w gymeradwyo.
Adroddwyd nad oedd yr Ombwdsmon, yn 2019-20, wedi cyfeirio unrhyw g?ynion at y Pwyllgor, ac nad oedd unrhyw faterion wedi'u cyfeirio at Banel Dyfarnu Cymru mewn perthynas â Chynghorwyr o Sir Gaerfyrddin. Yn ystod y cyfnod hwn nodwyd bod yr Ombwdsmon wedi ystyried a chau cyfanswm o 8 o g?ynion côd ymddygiad yn erbyn Cynghorwyr o Sir Gaerfyrddin. Roedd pedwar yn ymwneud â Chynghorwyr Sir a phedwar yn ymwneud â Chynghorwyr Cymuned.
Mynegodd y Pwyllgor bryderon bod lleiafrif bach o Gynghorau wedi methu'n gyson â darparu data côd ymddygiad ac ymgysylltu â'r Pwyllgor. Nododd y Pwyllgor y byddai'n ceisio canolbwyntio ei sylw ar y Cynghorau hynny yn y dyfodol ac awgrymwyd y dylid diweddaru'r llythyrau a anfonir at Gynghorau i ddweud y byddai'r rhai nad ydynt yn gwneud hyn yn cael eu henwi mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.
Nodwyd ei bod wedi bod yn flwyddyn heriol ac nad oedd pob Cyngor wedi dod i delerau â chyfarfodydd rhithwir; fodd bynnag, roedd yn ymddangos bod y pecyn hyfforddi a ddosbarthwyd wedi cael ei ddefnyddio'n helaeth. Awgrymwyd y gellid cynnal arolwg bach i sefydlu pa mor eang y defnyddiwyd y pecyn a sut y gellid ei wella.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR y dylid mabwysiadu Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau 2019/20.
|
|||||||
CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD J GILASBEY PDF 304 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: [SYLWER: Gan ei bod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd Gilasbey y cyfarfod cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno.]
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Jeanette Gilasbey o Gyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Cymuned Cydweli am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a gwneud sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â'r buddiannau personol a rhagfarnol canlynol:
· Eglwys y Santes Fair, Cydweli – Mae'r Cynghorydd Gilasbey yn aelod ac yn ymddiriedolwr ar Gyngor Plwyf Eglwys y Santes Fair yng Nghydweli. · Clwb Rygbi Cydweli – Mae'r Cynghorydd Gilasbey yn aelod, yn ysgrifennydd ac yn gyfarwyddwr ar Glwb Rygbi Cydweli · Amgueddfa Cydweli – mae'r Cynghorydd Gilasbey yn ymddiriedolwr ar Ymddiriedolaeth ac Amgueddfa Ddiwydiannol Cydweli
Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Gilasbey fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(ee) o'r Côd Ymddygiad.
Roedd buddiant y Cynghorydd Gilasbey hefyd yn rhagfarnol, gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor sylweddol fel ei fod yn debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.
Gan hynny, roedd y Cynghorydd Gilasbey wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliad 2 (d) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001.
Rhoddwyd gollyngiad i'r Cynghorydd Gilasbey yn flaenorol mewn perthynas â'r buddiannau hyn ar 28 Ionawr 2019 a ddefnyddiwyd ganddi ddwywaith mewn perthynas â Chlwb Rygbi Cydweli ac unwaith ar gyfer Amgueddfa Cydweli.
Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliad 2 (d) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Jeanette Gilasbey SIARAD A GWNEUD SYLWADAU YSGRIFENEDIG YN UNIG yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Cydweli mewn perthynas â materion yn ymwneud ag: · Eglwys y Santes Fair, Cydweli · Clwb Rygbi Cydweli · Amgueddfa Cydweli a bod y gollyngiadau hyn yn ddilys tan ddiwedd ei chyfnod presennol yn y swydd.
|
|||||||
CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD J GILASBEY PDF 302 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Gan ei bod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd Gilasbey y cyfarfod cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno.]
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Jeanette Gilasbey o Gyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Cydweli am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a gwneud sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â'r cynnig i gau ac uno ysgolion cynradd Ysgol Gwenllian ac Ysgol Mynyddygarreg.
Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Gilasbey fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(ee) o'r Côd Ymddygiad.
Roedd buddiant y Cynghorydd Gilasbey hefyd yn rhagfarnol, gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor sylweddol fel ei fod yn debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.
Gan hynny, roedd y Cynghorydd Gilasbey wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliad 2 (d) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001.
Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliad 2 (d) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Jeanette Gilasbey SIARAD A GWNEUD SYLWADAU YSGRIFENEDIG YN UNIG yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Cydweli mewn perthynas â materion yn ymwneud â'r cynnig i gau ac uno ysgolion cynradd Ysgol Gwenllian ac Ysgol Mynyddygarreg, a bod y gollyngiad hwn yn ddilys tan ddiwedd ei chyfnod presennol yn y swydd.
|
|||||||
CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD K LLOYD PDF 307 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Sir Ken Lloyd am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a gwneud sylwadau ysgrifenedig yn unig yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Caerfyrddin mewn perthynas â'r buddiannau personol a rhagfarnol canlynol:
· CAMRA – Mae'r Cynghorydd Lloyd yn aelod o'r sefydliad hwn · MIND – Mae'r Cynghorydd Lloyd yn aelod o'r sefydliad hwn · Cwlwm Monduli – Mae'r Cynghorydd Lloyd yn ymddiriedolwr ar yr elusen · Ymgyrch Cefnogi Nicaragua – Mae'r Cynghorydd Lloyd yn aelod o'r ymgyrch · Amnest rhyngwladol – Mae'r Cynghorydd Lloyd yn aelod o'r sefydliad hwn · Gwasanaethau rheilffordd yng nghanolbarth a gorllewin Cymru – Mae'r Cynghorydd Lloyd yn aelod o Gymdeithas Teithwyr Rheilffordd Calon Cymru (HOWLTA) · Amgueddfa Caerfyrddin – Mae'r Cynghorydd Lloyd a'i wraig yn aelodau o 'gyfeillion amgueddfa Caerfyrddin’ · Archifau Caerfyrddin – Mae'r Cynghorydd Lloyd a'i wraig yn aelodau o Gyfeillion Archifau Caerfyrddin · Cysylltu Bywydau /Gofal Cymdeithasol i Oedolion – Mae'r Cynghorydd Lloyd yn gydymaith personol agos i 2 berson sy'n ofalwyr cymeradwy o dan y Cynllun Cysylltu Bywydau.
Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Lloyd fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(ee) o'r Côd Ymddygiad.
Roedd buddiant y Cynghorydd Lloyd hefyd yn rhagfarnol, gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor sylweddol fel ei fod yn debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.
Gan hynny, roedd y Cynghorydd Lloyd wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliad 2 (d) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001. Rhoddwyd gollyngiad i'r Cynghorydd Lloyd yn flaenorol mewn perthynas â'r buddiannau hyn ar 28 Ionawr 2019 a ddefnyddiwyd ganddo unwaith er mwyn siarad am Cysylltu Bywydau/Gofal Cymdeithasol i Oedolion.
Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD caniatáu gollyngiad o dan Reoliad 2 (d) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Ken Lloyd SIARAD A GWNEUD SYLWADAU YSGRIFENEDIG YN UNIG yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Caerfyrddin mewn perthynas â materion yn ymwneud â: · CAMRA · MIND · Cwlwm Monduli · Ymgyrch Cefnogi Nicaragua · Amnest rhyngwladol · Gwasanaethau rheilffordd yng nghanolbarth a gorllewin Cymru · Amgueddfa Caerfyrddin · Archifau Caerfyrddin · Cysylltu Bywydau/Gofal Cymdeithasol i Oedolion a bod y gollyngiadau hyn yn ddilys tan ddiwedd ei gyfnod presennol yn y swydd.
|
|||||||
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor na fyddai'n bresennol yn y Cyngor Llawn i gyflwyno Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau ym mis Ionawr 2021.
|