Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Janine Owen 01267 224030
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|||||||
DATGELU BUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion:
|
|||||||
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi'i gynnal ar 7 Rhagfyr, 2018 gan eu bod yn gywir.
|
|||||||
CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD JEANETTE GILASBEY PDF 146 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Gan ei bod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd Gilasbey Siambr y Cyngor cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno.]
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Jeanette Gilasbey o Gyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Cymuned Cydweli am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad mewn perthynas â materion yn ymwneud ag Ymddiriedolaeth ac Amgueddfa Ddiwydiannol Cydweli.
Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Gilasbey fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(ee) o'r Côd Ymddygiad gan ei bod yn aelod o Ymddiriedolaeth ac Amgueddfa Ddiwydiannol Cydweli.
Roedd buddiant y Cynghorydd Gilasbey hefyd yn rhagfarnol, gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor sylweddol fel ei fod yn debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.
Gan hynny, roedd y Cynghorydd Gilasbey wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliad 2 (d) (e) (f) (g) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiad) (Cymru) 2001.
Nododd y Pwyllgor NAD OEDD y gollyngiad i siarad yn cynnwys materion yn ymwneud ag unrhyw gais rheoleiddiol a wnaed gan yr Amgueddfa a/neu'r Ymddiriedolaeth neu ar eu rhan. Mae hwn hefyd yn cynnwys ceisiadau cynllunio neu drwyddedu.
Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor y dylai, wrth ystyried y cais, nodi mai paragraffau 2 (d) a (h) oedd y rhesymau mwyaf priodol pe byddai'r Pwyllgor am gymeradwyo'r cais i siarad yn unig.
Yn dilyn trafodaeth,
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliad 2 (d) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Jeanette Gilasbey SIARAD yn unig yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Cydweli mewn perthynas â materion yn ymwneud ag Ymddiriedolaeth ac Amgueddfa Ddiwydiannol Cydweli a bod y gollyngiad yn ddilys tan 31 Rhagfyr, 2020.
|
|||||||
CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD JEANETTE GILASBEY PDF 78 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Gan ei bod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, nid oedd y Cynghorydd Gilasbey yn bresennol yn Siambr y Cyngor ac felly nid oedd wedi cymryd rhan yn y broses o ystyried y mater a phenderfynu arno.]
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Jeanette Gilasbey o Gyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Cydweli am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad mewn perthynas â materion yn ymwneud â Chlwb Rygbi Tref Cydweli.
Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Gilasbey fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(ee) o'r Côd Ymddygiad gan ei bod yn aelod o Glwb Rygbi Tref Cydweli.
Roedd buddiant y Cynghorydd Gilasbey hefyd yn rhagfarnol, gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor sylweddol fel ei fod yn debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.
Gan hynny, roedd y Cynghorydd Gilasbey wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliad 2 (d) (e) (f) (g) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiad) (Cymru) 2001.
Nododd y Pwyllgor NAD OEDD y gollyngiad i siarad yn cynnwys materion yn ymwneud ag unrhyw gais rheoleiddiol a wnaed gan y Clwb Rygbi neu ar ei ran. Mae hwn hefyd yn cynnwys ceisiadau cynllunio neu drwyddedu.
Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor y dylai, wrth ystyried y cais, nodi mai paragraffau 2 (d) a (h) oedd y rhesymau mwyaf priodol pe byddai'r Pwyllgor am gymeradwyo'r cais i siarad yn unig.
Yn dilyn trafodaeth,
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliad 2 (d) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Jeanette Gilasbey SIARAD yn unig yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Cydweli mewn perthynas â materion yn ymwneud â Chlwb Rygbi Cydweli a bod y gollyngiad yn ddilys tan 31 Rhagfyr, 2020.
|
|||||||
CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD JEANETTE GILASBEY PDF 146 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Gan ei bod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, nid oedd y Cynghorydd Gilasbey yn bresennol yn Siambr y Cyngor ac felly nid oedd wedi cymryd rhan yn y broses o ystyried y mater a phenderfynu arno.]
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Jeanette Gilasbey o Gyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Cydweli am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad mewn perthynas â materion yn ymwneud â Chyngor Plwyf Eglwysig Eglwys y Santes Fair yng Nghydweli.
Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Gilasbey fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(ee) o'r Côd Ymddygiad sef ei bod yn aelod ac ymddiriedolwr o Gyngor Plwyf Eglwysig Eglwys Santes Fair yng Nghydweli.
Roedd buddiant y Cynghorydd Gilasbey hefyd yn rhagfarnol, gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor sylweddol fel ei fod yn debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.
Gan hynny, roedd y Cynghorydd Gilasbey wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliad 2 (d) (e) (f) (g) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiad) (Cymru) 2001.
Nododd y Pwyllgor NAD OEDD y gollyngiad i siarad yn cynnwys materion yn ymwneud ag unrhyw gais rheoleiddiol a wnaed gan yr Eglwys neu ar ei rhan. Mae hwn hefyd yn cynnwys ceisiadau cynllunio neu drwyddedu.
Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor y dylai, wrth ystyried y cais, nodi mai paragraffau 2 (d) a (h) oedd y rhesymau mwyaf priodol pe byddai'r Pwyllgor am gymeradwyo'r cais i siarad yn unig.
Yn dilyn trafodaeth,
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliad 2 (d) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Jeanette Gilasbey SIARAD yn unig yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Cydweli mewn perthynas â materion yn ymwneud â Chyngor Plwyf Eglwysig Eglwys y Santes Fair yng Nghydweli a bod y gollyngiad yn ddilys tan 31 Rhagfyr, 2020.
|
|||||||
CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD KEN LLOYD PDF 145 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Ymunodd y Cynghorydd R James â'r cyfarfod].
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Ken Lloyd o Gyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Caerfyrddin am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â materion yn ymwneud ag Amnesty International UK.
Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Lloyd fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(ee) o'r Côd Ymddygiad gan ei fod yn aelod o Amnesty International UK.
Roedd buddiant y Cynghorydd Lloyd hefyd yn rhagfarnol, gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor sylweddol fel ei fod yn debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.
Gan hynny, roedd y Cynghorydd Lloyd wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliad 2 (d) (e) (f) (g) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiad) (Cymru) 2001.
Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor y dylai, wrth ystyried y cais, nodi mai paragraffau 2 (d) a (h) oedd y rhesymau mwyaf priodol pe byddai'r Pwyllgor am gymeradwyo'r cais i siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig.
Yn dilyn trafodaeth,
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliad 2 (d) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Ken Lloyd siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Caerfyrddin mewn perthynas â materion yn ymwneud ag Amnesty International UK a bod y gollyngiad yn ddilys tan 31 Rhagfyr, 2020.
|
|||||||
CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD KEN LLOYD PDF 81 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Ken Lloyd o Gyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Caerfyrddin am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â'r sefydliad Campaign for Real Ale.
Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Lloyd fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(ee) o'r Côd Ymddygiad gan ei fod yn aelod o'r sefydliad Campaign for Real Ale.
Roedd buddiant y Cynghorydd Lloyd hefyd yn rhagfarnol, gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor sylweddol fel ei fod yn debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.
Gan hynny, roedd y Cynghorydd Lloyd wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliad 2 (d) (e) (f) (g) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiad) (Cymru) 2001.
Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor y dylai, wrth ystyried y cais, nodi mai paragraffau 2 (d) a (h) oedd y rhesymau mwyaf priodol pe byddai'r Pwyllgor am gymeradwyo'r cais i siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig.
Yn dilyn trafodaeth,
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliad 2 (d) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Ken Lloyd siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Caerfyrddin mewn perthynas â materion yn ymwneud â'r sefydliad Campaign for Real Ale a bod y gollyngiad yn ddilys tan 31 Rhagfyr 2020.
|
|||||||
CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD KEN LLOYD PDF 81 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Ken Lloyd o Gyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Caerfyrddin am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â materion yn ymwneud â Chyfeillion Amgueddfa Caerfyrddin.
Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Lloyd fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(ee) o'r Côd Ymddygiad gan ei fod yn aelod o Gyfeillion Amgueddfa Caerfyrddin.
Roedd buddiant y Cynghorydd Lloyd hefyd yn rhagfarnol, gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor sylweddol fel ei fod yn debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.
Gan hynny, roedd y Cynghorydd Lloyd wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliad 2 (d) (e) (f) (g) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiad) (Cymru) 2001.
Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor y dylai, wrth ystyried y cais, nodi mai paragraffau 2 (d) a (h) oedd y rhesymau mwyaf priodol pe byddai'r Pwyllgor am gymeradwyo'r cais i siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig.
Yn dilyn trafodaeth,
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliad 2 (d) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Ken Lloyd siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Caerfyrddin mewn perthynas â materion yn ymwneud â Chyfeillion Amgueddfa Caerfyrddin a bod y gollyngiad yn ddilys tan 31 Rhagfyr 2020.
|
|||||||
CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD KEN LLOYD PDF 78 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Gadawodd y Cynghorydd R. Evans y cyfarfod].
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Ken Lloyd o Gyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Caerfyrddin am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â Chyfeillion Archifau Caerfyrddin.
Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Lloyd fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(ee) o'r Côd Ymddygiad gan ei fod yn aelod o Gyfeillion Archifau Caerfyrddin.
Roedd buddiant y Cynghorydd Lloyd hefyd yn rhagfarnol, gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor sylweddol fel ei fod yn debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.
Gan hynny, roedd y Cynghorydd Lloyd wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliad 2 (d) (e) (f) (g) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiad) (Cymru) 2001.
Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor y dylai, wrth ystyried y cais, nodi mai paragraffau 2 (d) a (h) oedd y rhesymau mwyaf priodol pe byddai'r Pwyllgor am gymeradwyo'r cais i siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig.
Yn dilyn trafodaeth,
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliad 2 (d) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Ken Lloyd siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Caerfyrddin mewn perthynas â materion yn ymwneud â Chyfeillion Archifau Caerfyrddin a bod y gollyngiad yn ddilys tan 31 Rhagfyr 2020.
|
|||||||
CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD KEN LLOYD PDF 78 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Ken Lloyd o Gyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Caerfyrddin am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â materion yn ymwneud ag elusen Cwlwm Munduli.
Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Lloyd fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(ee) o'r Côd Ymddygiad gan ei fod yn aelod ac ymddiriedolwr o Cwlwm Munduli.
Roedd buddiant y Cynghorydd Lloyd hefyd yn rhagfarnol, gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor sylweddol fel ei fod yn debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.
Gan hynny, roedd y Cynghorydd Lloyd wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliad 2 (d) (e) (f) (g) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiad) (Cymru) 2001.
Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor y dylai, wrth ystyried y cais, nodi mai paragraffau 2 (d) a (h) oedd y rhesymau mwyaf priodol pe byddai'r Pwyllgor am gymeradwyo'r cais i siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig.
Yn dilyn trafodaeth,
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliad 2 (d) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Ken Lloyd siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Caerfyrddin mewn perthynas â materion yn ymwneud ag elusen Cwlwm Munduli a bod y gollyngiad yn ddilys tan 31 Rhagfyr 2020.
|
|||||||
CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD KEN LLOYD PDF 78 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Ken Lloyd o Gyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Caerfyrddin am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â materion yn ymwneud â Chymdeithas Teithwyr Rheilffordd Calon Cymru (HOWLTA).
Soniodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor fod y Cynghorydd Lloyd hefyd yn aelod o'r Pwyllgor Cynllunio. Yng ngoleuni hyn, dywedodd y Pwyllgor y byddai'n ddefnyddiol cynnwys y wybodaeth hon mewn adroddiadau yn y dyfodol.
Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Lloyd fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(ee) o'r Côd Ymddygiad gan ei fod yn aelod o Gymdeithas Teithwyr Rheilffordd Calon Cymru (HOWLTA).
Roedd buddiant y Cynghorydd Lloyd hefyd yn rhagfarnol, gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor sylweddol fel ei fod yn debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.
Gan hynny, roedd y Cynghorydd Lloyd wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliad 2 (d) (e) (f) (g) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiad) (Cymru) 2001.
Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor y dylai, wrth ystyried y cais, nodi mai paragraffau 2 (d) a (h) oedd y rhesymau mwyaf priodol pe byddai'r Pwyllgor am gymeradwyo'r cais i siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig.
Yn dilyn trafodaeth,
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliad 2 (d) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Ken Lloyd siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Caerfyrddin mewn perthynas â materion yn ymwneud â Chymdeithas Teithwyr Rheilffordd Calon Cymru (HOWLTA) a bod y gollyngiad yn ddilys tan 31 Rhagfyr 2020.
|
|||||||
CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD KEN LLOYD PDF 78 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Ken Lloyd o Gyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Caerfyrddin am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â materion yn ymwneud ag elusen MIND.
Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Lloyd fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(ee) o'r Côd Ymddygiad gan ei fod yn aelod o elusen MIND.
Roedd buddiant y Cynghorydd Lloyd hefyd yn rhagfarnol, gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor sylweddol fel ei fod yn debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.
Gan hynny, roedd y Cynghorydd Lloyd wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliad 2 (d) (e) (f) (g) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiad) (Cymru) 2001.
Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor y dylai, wrth ystyried y cais, nodi mai paragraffau 2 (d) a (h) oedd y rhesymau mwyaf priodol pe byddai'r Pwyllgor am gymeradwyo'r cais i siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig.
Yn dilyn trafodaeth,
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliad 2 (d) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Ken Lloyd siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Caerfyrddin mewn perthynas â materion yn ymwneud ag elusen MIND a bod y gollyngiad yn ddilys tan 31 Rhagfyr 2020.
|
|||||||
CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD KEN LLOYD PDF 78 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Ken Lloyd o Gyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Caerfyrddin am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â materion yn ymwneud ag Ymgyrch Cefnogi Nicaraguan.
Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Lloyd fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(ee) o'r Côd Ymddygiad gan ei fod yn aelod o Ymgyrch Cefnogi Nicaraguan.
Roedd buddiant y Cynghorydd Lloyd hefyd yn rhagfarnol, gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor sylweddol fel ei fod yn debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.
Gan hynny, roedd y Cynghorydd Lloyd wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliad 2 (d) (e) (f) (g) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiad) (Cymru) 2001.
Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor y dylai, wrth ystyried y cais, nodi mai paragraffau 2 (d) a (h) oedd y rhesymau mwyaf priodol pe byddai'r Pwyllgor am gymeradwyo'r cais i siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig.
Yn dilyn trafodaeth,
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliad 2 (d) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Ken Lloyd siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Caerfyrddin mewn perthynas â materion yn ymwneud ag Ymgyrch Cefnogi Nicaraguan a bod y gollyngiad yn ddilys tan 31 Rhagfyr 2020.
</AI14>
|
|||||||
CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD KEN LLOYD PDF 78 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Ken Lloyd o Gyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Caerfyrddin am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â materion yn ymwneud â Chynllun Cysylltu Bywydau.
Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Lloyd fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(ee) o'r Côd Ymddygiad sef bod ganddo gysylltiadau personol agos gyda phobl sy'n ofalwyr yn y Cynllun Cysylltu Bywydau.
Roedd buddiant y Cynghorydd Lloyd hefyd yn rhagfarnol, gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor sylweddol fel ei fod yn debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.
Gan hynny, roedd y Cynghorydd Lloyd wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliad 2 (d) (e) (f) (g) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiad) (Cymru) 2001.
Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor y dylai, wrth ystyried y cais, nodi mai paragraffau 2 (d) a (h) oedd y rhesymau mwyaf priodol pe byddai'r Pwyllgor am gymeradwyo'r cais i siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig.
Yn dilyn trafodaeth,
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliad 2 (d) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Ken Lloyd siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Caerfyrddin mewn perthynas â materion yn ymwneud â Chynllun Cysylltu Bywydau a bod y gollyngiad yn ddilys tan 31 Rhagfyr 2020.
</AI15> <AI16>
|
|||||||
CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD KEN LLOYD PDF 78 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Ken Lloyd o Gyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Caerfyrddin am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â materion yn ymwneud ag UNSAIN.
Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Lloyd fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(ee) o'r Côd Ymddygiad gan ei fod yn aelod o UNSAIN.
Roedd buddiant y Cynghorydd Lloyd hefyd yn rhagfarnol, gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor sylweddol fel ei fod yn debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.
Gan hynny, roedd y Cynghorydd Lloyd wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliad 2 (d) (e) (f) (g) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiad) (Cymru) 2001.
Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor y dylai, wrth ystyried y cais, nodi mai paragraffau 2 (d) a (h) oedd y rhesymau mwyaf priodol pe byddai'r Pwyllgor am gymeradwyo'r cais i siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig.
Yn dilyn trafodaeth,
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliad 2 (d) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Ken Lloyd siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Caerfyrddin mewn perthynas â materion yn ymwneud ag UNSAIN a bod y gollyngiad yn ddilys tan 31 Rhagfyr 2020.
|
|||||||
CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD OWEN ALEXANDER MARMION WILLIAMS PDF 153 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol y gall fod yn fuddiol i Aelodau'r Pwyllgor gael rhestr o fuddion Cynghorwyr Sir fel rhan o'r adroddiad. Cytunodd yr Aelodau y byddai cynnwys y wybodaeth hon yn yr adroddiad yn fuddiol oherwydd byddai'n eu galluogi i wneud penderfyniad mwy gwybodus.
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Williams o Gyngor Cymuned Maenordeilo a Salem am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â materion yn ymwneud â Chynllun Datblygu Lleol diwygiedig Cyngor Sir Caerfyrddin.
Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Williams fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(ee) o'r Côd Ymddygiad gan fod unrhyw drafodaethau gan y Cyngor ynghylch y Cynllun Datblygu Lleol yn debygol o effeithio ar gartref teuluol y Cynghorydd Williams.
Roedd buddiant y Cynghorydd Williams hefyd yn rhagfarnol, gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor sylweddol fel ei fod yn debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.
Gan hynny, roedd y Cynghorydd Williams wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliad 2 (d) (e) (f) (g) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiad) (Cymru) 2001.
Yn dilyn trafodaeth,
PENDERFYNWYD bod y cais a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Owen Alexander Marmion Williams am gael gollyngiad i siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Maenordeilo a Salem mewn perthynas â materion yn ymwneud â Chynllun Datblygu Lleol diwygiedig Cyngor Sir Caerfyrddin, yn cael ei wrthod.
|
|||||||
CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD WILLIAM CHARLES LOYNTON PDF 145 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Loynton o Gyngor Cymuned Maenordeilo a Salem am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â materion yn ymwneud â Chynllun Datblygu Lleol diwygiedig Cyngor Sir Caerfyrddin.
Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Loynton fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(ee) o'r Côd Ymddygiad gan ei fod yn berchen ar dir y mae'r Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig yn debygol o effeithio arno oherwydd ffin gyffredin.
Roedd buddiant y Cynghorydd Loynton hefyd yn rhagfarnol, gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor sylweddol fel ei fod yn debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.
Gan hynny, roedd y Cynghorydd Loynton wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliad 2 (d) (e) (f) (g) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiad) (Cymru) 2001.
Yn dilyn trafodaeth,
PENDERFYNWYD bod y cais a gyflwynwyd gan y Cynghorydd William Charles Loynton am gael gollyngiad i siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Maenordeilo a Salem mewn perthynas â materion yn ymwneud â Chynllun Datblygu Lleol diwygiedig Cyngor Sir Caerfyrddin yn cael ei wrthod.
|
|||||||
UNRHYW FATER ARALL Cofnodion: Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol eglurhad i'r Aelodau ynghylch eu hawliad lwfansau teithio.
|