Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michelle Evans-Thomas  01267 224470

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Mrs Daphne Evans, Aelod Annibynnol a'r Cynghorydd G.B. Thomas.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORWYR CEFIN CAMPBELL GARETH THOMAS, JEAN LEWIS, KEN HOWELL, TYSSUL EVANS, MANSEL CHARLES, EIRWYN WILLIAMS, ANN DAVIES AC ARWEL DAVIES pdf eicon PDF 172 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor geisiadau a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr Cefin Campbell, Gareth Thomas, Jean Lewis, Ken Howell, Tyssul Evans, Mansel Charles, Eirwyn Williams, Ann Davies ac Arwel Davies am ganiatáu gollyngiad yn unol â darpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin mewn perthynas â materion yn ymwneud â ffermio ac amaeth neu sy’n debygol o gael effaith ar y maes hwnnw.

 

Adroddwyd bod cais am ollyngiad wedi'i wneud gan bob Cynghorydd oherwydd y gallent, o bosibl, fod â buddiant personol mewn materion o'r fath yn rhinwedd paragraffau 10(2)(a)(i), 10(2)(a)(iv), 10(2)(b)(i) a 10(2)(b)9ii) o'r Côd Ymddygiad yn yr ystyr eu bod i gyd naill ai'n ffermio yn y Sir, yn berchen ar dir fferm sy'n cael ei ffermio gan bobl eraill, neu fod ganddynt gymdeithion personol agos sy'n ffermio.

 

Hefyd yr oedd buddiant yr aelodau yn rhagfarnol gan y byddai'n rhesymol i aelod o'r cyhoedd oedd yn gwybod y ffeithiau perthnasol ystyried bod y buddiant mor arwyddocaol fel ei fod yn debygol o ddylanwadu ar farn y cynghorwyr ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny, roedd y Cynghorwyr wedi gofyn am ollyngiad ar ddwy sail a nodir yn Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 sef:-

 

(1) Na fyddai cyfranogiad y Cynghorwyr mewn materion o'r fath yn niweidio hyder y cyhoedd wrth gyflawni gwaith y Cyngor;

(2) Bod modd cyfiawnhau eu cyfranogiad oherwydd eu harbenigedd penodol.

 

Atgoffodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol y Pwyllgor fod y Cynghorwyr Gareth Thomas a Jean Lewis eisoes wedi cael gollyngiad mewn perthynas â'r materion hyn ym mis Mehefin 2016 hyd nes etholiadau'r Awdurdod Lleol ym mis Mai 2017.

Roedd yr holl Gynghorwyr a enwyd uchod (ac eithrio'r Cynghorydd Campbell) wedi cael gollyngiad mewn perthynas â'r materion hyn o fis Medi 2017 hyd at fis Medi 2018.  Roedd y Cynghorydd Arwel Davies wedi cael gollyngiad o fis Rhagfyr 2017 i fis Medi 2018.

 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2(d) ac (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i'r Cynghorwyr Sir Cefin Campbell, Gareth Thomas, Jean Lewis, Ken Howell, Tyssul Evans, Mansel Charles, Eirwyn Williams, Ann Davies ac Arwel Davies i SIARAD, OND NID PLEIDLEISIO, A CHYFLWYNO SYLWADAU YSGRIFENEDIG yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin mewn perthynas ag unrhyw faterion sy'n ymwneud â ffermio ac amaeth neu sy’n debygol o gael effaith ar y maes hwnnw, tan 31 Medi 2019;

3.2 bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi  i'r Swyddog Monitro i ganiatáu unrhyw geisiadau pellach am ollyngiad o'r fath hyd at a chan gynnwys 31Mawrth, 2019.

 

 

 

 

4.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau