Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Mrs. J. James a'r Cynghorwyr R. James a G.B. Thomas.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

 

3.

COFNODION - 28 IONAWR 2019 pdf eicon PDF 359 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2019 yn gofnod cywir.

 

 

4.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGYHORWYR JEAN LEWIS, HAZEL EVANS, JOSEPH DAVIES, ALUN LENNY, KIM BROOM, ANDREW JAMES, ARWEL DAVIES, ANN DAVIES, EIRWYN WILLIAMS, MANSEL CHARLES, TYSSUL EVANS, KEN HOWELL, GARETH THOMAS A CEFIN CAMPBELL. pdf eicon PDF 176 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gan gyfeirio at Gofnod 3 y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Tachwedd 2018 ystyriodd y Pwyllgor geisiadau a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr Sir Jean Lewis, Hazel Evans, Joseph Davies, Alun Lenny, Kim Broom, Andrew James, Arwel Davies, Ann Davies, Eirwyn Williams, Mansel Charles, Tyssul Evans, Ken Howell, Gareth Thomas a Cefin Campbell am ollyngiad o dan ddarpariaethau'r Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallent siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin mewn perthynas ag unrhyw fater i'r Cyngor sy'n ymwneud â ffermio'n gyffredinol.

 

Adroddwyd bod cais am ollyngiad wedi'i wneud gan bob Cynghorydd oherwydd y gallent, o bosibl, fod â buddiant personol mewn materion o'r fath yn rhinwedd paragraffau 10(2) o Gôd Ymddygiad yr Aelodau yn yr ystyr eu bod i gyd naill ai'n ffermio yn y Sir, yn berchen ar dir fferm sy'n cael ei ffermio gan bobl eraill, neu fod ganddynt gymdeithion personol agos a oedd yn ffermio.

 

Roedd buddiant yr aelodau hefyd yn rhagfarnol gan y byddai'n rhesymol i aelod o'r cyhoedd oedd yn gwybod y ffeithiau perthnasol ystyried bod y buddiant mor arwyddocaol fel ei fod yn debygol o ddylanwadu ar farn y cynghorwyr ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny, roedd y Cynghorwyr wedi gofyn am ollyngiad ar ddwy sail a nodir yn Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 sef:-

 

(1) Na fyddai cyfranogiad y Cynghorwyr mewn materion o'r fath yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y cyflawnir gwaith y Cyngor;

(2) Bod modd cyfiawnhau eu cyfranogiad oherwydd eu harbenigedd penodol.

 

Nodwyd bod y pwyllgor wedi caniatáu gollyngiad i aelodau'r Cyngor yn y gorffennol mewn perthynas â materion sy'n ymwneud â ffermio ar 12/11/2018, 28/09/2017, 03/06/2016, 03/12/2015 a 29/07/2015 a bod pob un o'r 14 cynghorydd a enwyd wedi defnyddio gollyngiadau a ganiatawyd iddynt yn flaenorol gan y Pwyllgor Safonau (neu gan y Swyddog Monitro o dan awdurdod dirprwyedig gan y pwyllgor) i siarad yn dilyn Rhybudd o Gynnig a roddwyd gerbron y Cyngor llawn mewn perthynas â mater sy'n ymwneud â ffermio.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

4.1      ganiatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2(d) ac (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i'r Cynghorwyr Sir  Jean Lewis, Hazel Evans, Joseph Davies, Alun Lenny, Kim Broom, Andrew James, Arwel Davies, Ann Davies, Eirwyn Williams, Mansel Charles, Tyssul Evans, Ken Howell, Gareth Thomas a Cefin Campbell i SIARAD, OND NID PLEIDLEISIO, A CHYFLWYNO SYLWADAU YSGRIFENEDIG yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin mewn perthynas ag unrhyw faterion i'r Cyngor sy'n ymwneud â ffermio yn gyffredinol, tan 31 Mai 2022;

4.2    bod y Cynghorwyr a enwir uchod yn cael eu cynghori i geisio cyngor cyfreithiol pellach ac os oes angen, wneud cais am ollyngiad arall os byddant yn dymuno cymryd rhan ym musnes y Cyngor sy'n ymwneud yn benodol â hwy, neu sy'n debygol o effeithio arnynt hwy, neu'u cysylltiadau personol agos o ran gweithgareddau ffermio neu dir fferm.

 

5.

HYFFORDDIANT CÔD YMDDYGIAD 2019 pdf eicon PDF 150 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd y Pwyllgor ei fod, ers nifer o flynyddoedd, wedi bod yn trefnu sesiynau hyfforddiant ynghylch Côd Ymddygiad yr Aelodau ar gyfer Cynghorwyr Tref a Chymuned. Yn unol â'r arfer hwnnw, ystyriwyd y cynnwys a gynigiwyd ar gyfer sesiynau 2019 gan gynnwys adran ar Egwyddorion Nolan, set newydd o astudiaethau achos a mân newidiadau i'r adrannau ar fuddiannau personol a gollyngiadau. Bu'r aelodau hefyd yn trafod yn fanwl yr opsiynau ar gyfer cynyddu'n sylweddol nifer y cynghorwyr unigol sy'n derbyn hyfforddiant o'r fath yn dilyn pryder a fynegwyd yn flaenorol bod llai na 50% o Gynghorwyr Tref a Chymuned wedi derbyn hyfforddiant ar y côd yn ystod y 5 mlynedd diwethaf.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

5.1    gymeradwyo'r cynnwys a awgrymwyd ar gyfer Sesiynau Hyfforddiant 2019 ynghylch Côd Ymddygiad yr Aelodau ar gyfer Cynghorwyr Tref a Chymuned;

5.2         gwneud trefniadau i gynnal sesiwn yng Nghaerfyrddin, Llanelli ac ardal Llandeilo/Llanymddyfri ym mis Gorffennaf (gan osgoi wythnos y Sioe Frenhinol) gan wahodd cynrychiolwyr i fynd i'r sesiwn fwyaf cyfleus iddynt hwy;

5.3         anfon llythyrau gwahodd, sy'n pwysleisio pwysigrwydd y côd, y cynnydd mewn cwynion yn ymwneud â'r côd yn Sir Gaerfyrddin yn ystod 2018/2019 a manteision mynychu hyfforddiant, ynghyd â ‘slip ateb’ er mwyn i'r derbynnydd nodi pa sesiwn, os o gwbl, y mae am fynd iddi;

5.4         Estyn gwahoddiadau i Gynghorwyr Sir i ddod i'r sesiynau;

5.5         Cyflwyno adroddiad yng nghyfarfod Mehefin sy'n manylu ynghylch yr ymatebion a gafwyd;

5.6         addasu'r ffurflenni adborth fel eu bod yn cynnwys cwestiynau am amser a lleoliad y sesiynau a gofyn am farn ynghylch dulliau hyfforddi amgen (ond heb awgrymu unrhyw opsiynau amgen penodol);

5.7     yn dilyn y sesiynau y sonnir amdanynt uchod, darparu'r deunyddiau a ddefnyddir i glercod yr holl gynghorau Tref a Chymuned, ynghyd â chais eu bod yn cynnwys y drafodaeth ynghylch y deunyddiau hynny fel eitem agenda ffurfiol yn eu cyfarfod Cyngor nesaf a'u bod hefyd yn cael gwybod y gallai aelodau o'r Pwyllgor Safonau benderfynu mynd i sampl bach o'r Cyfarfodydd hynny i arsylwi'r trafodion.

 

6.

DATA CYDYMFFURFIO Â'R CÔD pdf eicon PDF 149 KB

Cofnodion:

 

Yn dilyn cofnod 9 o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 7Rhagfyr 2018 lle derbyniwyd yr

Adroddiad Blynyddol Cydymffurfio â'r Côd, bu'r Pwyllgor yn ystyried pa ddata pellach y dylai ei geisio a beth fyddai'r ffordd orau o wella'r data y mae'n ei dderbyn, yn enwedig mewn perthynas â nifer y datganiadau o fuddiant a ph'un a oedd unrhyw gynghorwyr wedi cael hyfforddiant yngl?n â'r Côd. Bu'r pwyllgor hefyd yn ystyried derbyn data tebyg gyda golwg ar Gynghorwyr Sir.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

6.1         anfon ceisiadau am gydymffurfio â'r Côd at bob Cyngor gan adlewyrchu'r gofyniad cyfreithiol i ddal gafael ar wybodaeth ynghylch datganiadau o fuddiant ac i gyhoeddi agendâu a chofnodion a ph'un a oedd cyngor yn ymateb yn2018/2019;

6.2         adroddiadau pellach yn manylu ynghylch yr ymatebion a gafwyd a'r angen posibl am gyflwyno llythyrau dilynol wedi'u targedu i'r Pwyllgor yn y cyfarfodydd a drefnwyd ar gyfer Mehefin a Medi 2019;

6.3         coladu pob ymateb mewn adroddiad ar gyfer cyfarfod Rhagfyr 2019 ynghyd â data cymharol ar gyfer Cynghorwyr Sir.

 

7.

UNRHYW FATER ARALL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim eitemau brys i'w hystyried.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau