Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd R. James a'r Cynghorydd G. Thomas.

 

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

 

3.

LOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFODYDD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 18 TACHWEDD 2019 pdf eicon PDF 206 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd 2019 yn gofnod cywir.

 

 

4.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD CAROL DYER pdf eicon PDF 372 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Carol Dyer o Gyngor Cymuned Myddfai am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a phleidleisio mewn perthynas â materion yn ymwneud â Menter Bro Dinefwr (MBD) ac Y Lloffwr, papur newydd cymunedol Cymraeg.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Dyer fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(a)(ix)(ee) o'r Côd Ymddygiad gan mai hi yw Cyfarwyddwr Menter Bro Dinefwr (swydd wirfoddol) a chan mai hi yw Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfer Y Lloffwr (swydd wirfoddol).

 

Roedd buddiant y Cynghorydd Dyer hefyd yn rhagfarnol, petai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor arwyddocaol fel ei fod yn debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny, roedd y Cynghorydd Dyer wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliad 2 (d) (e) (f) (g) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiad) (Cymru) 2001.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor y dylai, wrth ystyried y cais, nodi mai paragraffau 2 (d) a (h) oedd y rhesymau mwyaf priodol pe byddai'r Pwyllgor am gymeradwyo'r cais i siarad yn unig.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliad 2 (d) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiad) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Carol Dyer SIARAD yn unig yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Myddfai mewn perthynas â materion yn ymwneud â'r canlynol:

  • Menter Bro Dinefwr (MBD);
  • Y Lloffwr,

a bod y gollyngiad yn ddilys tan ddiwedd y cyfnod etholiadol presennol.

 

 

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR SAFONAU 2018/2019 pdf eicon PDF 300 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'w Adroddiad Blynyddol 2018/19 ynghylch y gwaith oedd wedi'i gyflawni yn ystod y cyfnod hwnnw a nododd, petai'r adroddiad yn cael ei fabwysiadu, y byddai'n cael ei roi gerbron cyfarfod y Cyngor ym mis Ionawr 2020 i'w gymeradwyo.

 

Yn unol â chofnod 8 o gyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr, 2018 rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth ystadegol ychwanegol i'r Aelodau o ran canlyniadau'r achosion a gwblhawyd. Roedd y wybodaeth yn cynnig data cymharol o adroddiadau blynyddol a oedd yn ddyddiedig o 2012. Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol fod cynnydd yn nifer y cwynion 'datgelu camarfer' yn ystod y camau disgyblu, a oedd yn cymhlethu materion yn fawr ac o ganlyniad i hynny, yn achosi oedi o ran cwblhau'r broses datgelu camarfer. Dywedwyd y gwerthfawrogwyd y wybodaeth hon ac y byddai'n fuddiol i'r Pwyllgor barhau i fonitro tueddiadau'r dyfodol o ran achosion a gwblhawyd.

 

Rhoddodd y Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith wybod i'r Pwyllgor ei bod, wrth godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo ymddygiad da, wedi cynnwys gwybodaeth am Egwyddorion Nolan a'r Polisi Datgelu Camarfer mewn llythyr newyddion adrannol diweddar i'r holl staff.

 

Yn dilyn awgrym, cytunodd y Pwyllgor y byddai'n fuddiol cynnwys rhestr o aelodau'r Pwyllgor yn yr adroddiad. Cytunodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol i gynnwys y wybodaeth hon cyn cyflwyno'r adroddiad i'r Cyngor llawn ym mis Ionawr.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR fabwysiadu Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau 2018/19 yn amodol ar gynnwys aelodaeth y Pwyllgor.

 

 

6.

E-DDYSGU YNGHYLCH DATGELU CAMARFER pdf eicon PDF 207 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y rhifyn diweddaraf o ‘Goflyfr Côd Ymddygiad’ Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2019, a oedd yn cynnwys achosion a gwblhawyd rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2019.

 

Nododd y Pwyllgor fod y Coflyfr yn amlygu dau achos a gafodd eu cyfeirio at Bwyllgorau Safonau lleol er mwyn iddynt benderfynu arnynt ac un achos a gafodd ei gyfeirio at Banel Dyfarnu Cymru. Roedd copïau o'r hysbysiadau o benderfyniadau a gyflwynwyd gan y ddau Bwyllgor Safonau ynghlwm wrth yr adroddiad yn Atodiad 1 a 2.

 

Gwerthfawrogwyd y wybodaeth am benderfyniadau'r Pwyllgor Safonau. Dywedwyd nad oedd y cyfnod atal o ddyletswyddau yn ddigonol yn yr achosion a ddarparwyd. Esboniodd y Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith, er bod Pwyllgorau Safonau lleol yn penderfynu ynghylch y cyfnod atal, mai'r gosb fwyaf y gallent ei gosod oedd cyfnod atal o chwe mis yn unol â Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001.

 

Eglurodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol fod y broses o benderfynu ar y cosbau a osodir wedi'i nodi yn yr atodiadau.

 

Mewn ymateb i ymholiad a wnaed yngl?n â thaliadau i Gynghorwyr yn ystod cyfnodau atal, eglurodd y Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith fod pwynt 18 o adroddiad blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2019/20 yn nodi, "Os caiff aelod ei atal dros dro neu ei atal dros dro yn rhannol rhag bod yn aelod o awdurdod (gweler Rhan 3 o Ddeddf 2000) rhaid i'r awdurdod wrthod talu'r rhan o'r cyflog sylfaenol sy'n daladwy i'r aelod hwnnw mewn perthynas â'r cyfrifoldebau neu'r dyletswyddau y mae'r aelod hwnnw wedi'i atal dros dro neu ei atal dros dro yn rhannol rhag eu cyflawni (Adran 155(1) o'r Mesur). Os bydd y penderfyniad i'w atal dros dro yn ymwneud â’r elfen o’r taliad sy’n ymwneud â’r cyfrifoldeb penodol yn unig, gall yr aelod gadw'r cyflog sylfaenol."

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

 

7.

CYDYMFFURFIO Â'R CÔD YMDDYGIAD GAN GYNGHORWYR TREF A CHYNGHORWYR CYMUNED pdf eicon PDF 303 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor, fel rhan o'i rôl i fonitro a yw Cynghorau Tref a Chymuned yn cydymffurfio â'r Côd, adroddiad yn nodi lefelau'r hyfforddiant a gafwyd ynghylch y Côd, datganiadau o fuddiant, ceisiadau am ollyngiad a ganiatawyd a chwynion o ran y Côd Ymddygiad ar gyfer yr awdurdodau hynny yn ystod y cyfnod 2016/17 - 2018/19. Roedd taenlen, a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad, yn cynnwys y wybodaeth a roddwyd ac yn caniatáu cymharu â blynyddoedd blaenorol.

 

Roedd cyfran fawr o gynghorau wedi ymateb i'r cais am y wybodaeth uchod, a dim ond 11 o gynghorau oedd wedi methu ag ymateb.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol fod nifer y datganiadau o fuddiant a wnaed a/neu'r gollyngiadau a geisir yn parhau i amrywio rhwng cynghorau. Fodd bynnag, nid oedd yn ymddangos fel petai unrhyw gydberthynas rhwng y ffactorau hyn a lefel yr hyfforddiant a ddarparwyd ar y Côd Ymddygiad.

Yn yr un modd, nid oedd tystiolaeth glir o unrhyw gydberthynas rhwng darparu hyfforddiant ar y Côd a nifer y cwynion yn ymwneud â'r Côd, ac nid oedd patrwm cyson o gwynion yn erbyn cynghorau penodol.

 

Nododd y Pwyllgor fod y dystiolaeth ystadegol at ei gilydd yn awgrymu lefel gyffredinol dda o gydymffurfiaeth â'r Côd gan Gynghorwyr Tref a Chymuned ledled y sir.

 

Gofynnwyd, o blith y cynghorau nad oeddent wedi ymateb, faint ohonynt oedd yn rhannu Clerc? Cynigiodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol roi'r wybodaeth hon yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor, gan nad oedd ganddo'r wybodaeth wrth law.

 

Awgrymwyd, gan fod rhai cynghorau yn rhagweithiol o ran yr hyfforddiant ar y Côd Ymddygiad ac yn sicrhau bod datganiadau o fuddiant yn berthnasol ac yn cael eu diweddaru, y gallai fod yn ddefnyddiol gofyn i'r cynghorau hyn gynorthwyo o ran cyfrannu at gyflwyno'r hyfforddiant. Cytunodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol i nodi hyd at 3 chyngor rhagweithiol i'w gwahodd i gymryd rhan yn y rownd nesaf o sesiynau hyfforddiant.

 

Yn ogystal, er mwyn i'r Pwyllgor Safonau allu asesu a yw'r hyfforddiant a ddarperir yn cael ei roi ar waith, awgrymodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol gynnal sampl o gofnodion Cynghorau Tref a Chymuned o ran datganiadau o fuddiant. Dywedwyd y gallai canlyniadau'r gwaith samplu fod yn fuddiol o ran rhoi dealltwriaeth well i'r Pwyllgor Safonau ynghylch sut mae cynghorau yn cofnodi ac yn gweinyddu buddiannau. Felly cynigiwyd bod sampl flynyddol o 25% yn cael ei chynnal a bod y canlyniadau yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor yn unol â hynny.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

7.1     dderbyn yr adroddiad;

7.2     bod Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol yn trefnu cynnal sampl o 25% o gofnodion Cynghorau Tref a Chymuned yn flynyddol a bod y canlyniadau yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor.

 

 

8.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972

Cofnodion:

Rhoddodd y Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith wybod i'r Pwyllgor, er nad oedd cyflwyno Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) yn cael effaith uniongyrchol ar y Pwyllgor Safonau, fod y Bil yn ei gwneud yn ofynnol i arweinwyr grwpiau gwleidyddol gymryd camau rhesymol i hyrwyddo a chynnal safonau uchel o ymddygiad gan aelodau eu grwpiau.

 

Felly, pwysleisiwyd mai swyddogaethau newydd y Pwyllgor Safonau o dan y Bil fyddai sicrhau bod arweinwyr gr?p yn cael cyngor a hyfforddiant i gefnogi eu dyletswyddau newydd a monitro cydymffurfiaeth yr arweinwyr gr?p â'r dyletswyddau hynny.

 

Yn ogystal, roedd y Bil yn cynnwys gofyniad i'r holl brif gynghorau weddarlledu'r cyfarfodydd a oedd yn agored i'r cyhoedd wrth iddynt gael eu cynnal.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau