Our services aren't available right now
We're working to restore all services as soon as possible. Please check back soon.
Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Janine Owen 01267 224030
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd R. James
a'r Cynghorydd G. Thomas.
|
|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
LOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFODYDD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 18 TACHWEDD 2019 PDF 206 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd 2019 yn gofnod cywir.
|
|
CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD CAROL DYER PDF 372 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Carol Dyer o Gyngor Cymuned Myddfai am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a phleidleisio mewn perthynas â materion yn ymwneud â Menter Bro Dinefwr (MBD) ac Y Lloffwr, papur newydd cymunedol Cymraeg.
Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Dyer fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(a)(ix)(ee) o'r Côd Ymddygiad gan mai hi yw Cyfarwyddwr Menter Bro Dinefwr (swydd wirfoddol) a chan mai hi yw Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfer Y Lloffwr (swydd wirfoddol).
Roedd buddiant y Cynghorydd Dyer hefyd yn rhagfarnol, petai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor arwyddocaol fel ei fod yn debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.
Gan hynny, roedd y Cynghorydd Dyer wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliad 2 (d) (e) (f) (g) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiad) (Cymru) 2001.
Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor y dylai, wrth ystyried y cais, nodi mai paragraffau 2 (d) a (h) oedd y rhesymau mwyaf priodol pe byddai'r Pwyllgor am gymeradwyo'r cais i siarad yn unig.
Yn dilyn trafodaeth,
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliad 2 (d) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiad) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Carol Dyer SIARAD yn unig yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Myddfai mewn perthynas â materion yn ymwneud â'r canlynol:
a bod y gollyngiad yn ddilys tan ddiwedd y cyfnod etholiadol presennol.
|
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR SAFONAU 2018/2019 PDF 300 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'w Adroddiad Blynyddol 2018/19 ynghylch y gwaith oedd wedi'i gyflawni yn ystod y cyfnod hwnnw a nododd, petai'r adroddiad yn cael ei fabwysiadu, y byddai'n cael ei roi gerbron cyfarfod y Cyngor ym mis Ionawr 2020 i'w gymeradwyo.
Yn unol â chofnod 8 o gyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr, 2018 rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth ystadegol ychwanegol i'r Aelodau o ran canlyniadau'r achosion a gwblhawyd. Roedd y wybodaeth yn cynnig data cymharol o adroddiadau blynyddol a oedd yn ddyddiedig o 2012. Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol fod cynnydd yn nifer y cwynion 'datgelu camarfer' yn ystod y camau disgyblu, a oedd yn cymhlethu materion yn fawr ac o ganlyniad i hynny, yn achosi oedi o ran cwblhau'r broses datgelu camarfer. Dywedwyd y gwerthfawrogwyd y wybodaeth hon ac y byddai'n fuddiol i'r Pwyllgor barhau i fonitro tueddiadau'r dyfodol o ran achosion a gwblhawyd.
Rhoddodd y Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith wybod i'r Pwyllgor ei bod, wrth godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo ymddygiad da, wedi cynnwys gwybodaeth am Egwyddorion Nolan a'r Polisi Datgelu Camarfer mewn llythyr newyddion adrannol diweddar i'r holl staff.
Yn dilyn awgrym, cytunodd y Pwyllgor y byddai'n fuddiol cynnwys rhestr o aelodau'r Pwyllgor yn yr adroddiad. Cytunodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol i gynnwys y wybodaeth hon cyn cyflwyno'r adroddiad i'r Cyngor llawn ym mis Ionawr.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR fabwysiadu Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau 2018/19 yn amodol ar gynnwys aelodaeth y Pwyllgor.
|
|
E-DDYSGU YNGHYLCH DATGELU CAMARFER PDF 207 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y rhifyn diweddaraf o ‘Goflyfr Côd Ymddygiad’ Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2019, a oedd yn cynnwys achosion a gwblhawyd rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2019.
Nododd y Pwyllgor fod y Coflyfr yn amlygu dau achos a gafodd eu cyfeirio at Bwyllgorau Safonau lleol er mwyn iddynt benderfynu arnynt ac un achos a gafodd ei gyfeirio at Banel Dyfarnu Cymru. Roedd copïau o'r hysbysiadau o benderfyniadau a gyflwynwyd gan y ddau Bwyllgor Safonau ynghlwm wrth yr adroddiad yn Atodiad 1 a 2.
Gwerthfawrogwyd y wybodaeth am benderfyniadau'r Pwyllgor Safonau. Dywedwyd nad oedd y cyfnod atal o ddyletswyddau yn ddigonol yn yr achosion a ddarparwyd. Esboniodd y Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith, er bod Pwyllgorau Safonau lleol yn penderfynu ynghylch y cyfnod atal, mai'r gosb fwyaf y gallent ei gosod oedd cyfnod atal o chwe mis yn unol â Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001.
Eglurodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol fod y broses o benderfynu ar y cosbau a osodir wedi'i nodi yn yr atodiadau.
Mewn ymateb i ymholiad a wnaed yngl?n â thaliadau i Gynghorwyr yn ystod cyfnodau atal, eglurodd y Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith fod pwynt 18 o adroddiad blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2019/20 yn nodi, "Os caiff aelod ei atal dros dro neu ei atal dros dro yn rhannol rhag bod yn aelod o awdurdod (gweler Rhan 3 o Ddeddf 2000) rhaid i'r awdurdod wrthod talu'r rhan o'r cyflog sylfaenol sy'n daladwy i'r aelod hwnnw mewn perthynas â'r cyfrifoldebau neu'r dyletswyddau y mae'r aelod hwnnw wedi'i atal dros dro neu ei atal dros dro yn rhannol rhag eu cyflawni (Adran 155(1) o'r Mesur). Os bydd y penderfyniad i'w atal dros dro yn ymwneud â’r elfen o’r taliad sy’n ymwneud â’r cyfrifoldeb penodol yn unig, gall yr aelod gadw'r cyflog sylfaenol."
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|
CYDYMFFURFIO Â'R CÔD YMDDYGIAD GAN GYNGHORWYR TREF A CHYNGHORWYR CYMUNED PDF 303 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor, fel rhan o'i rôl i fonitro a yw Cynghorau Tref a Chymuned yn cydymffurfio â'r Côd, adroddiad yn nodi lefelau'r hyfforddiant a gafwyd ynghylch y Côd, datganiadau o fuddiant, ceisiadau am ollyngiad a ganiatawyd a chwynion o ran y Côd Ymddygiad ar gyfer yr awdurdodau hynny yn ystod y cyfnod 2016/17 - 2018/19. Roedd taenlen, a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad, yn cynnwys y wybodaeth a roddwyd ac yn caniatáu cymharu â blynyddoedd blaenorol.
Roedd cyfran fawr o gynghorau wedi ymateb i'r cais am y wybodaeth uchod, a dim ond 11 o gynghorau oedd wedi methu ag ymateb.
Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol fod nifer y datganiadau o fuddiant a wnaed a/neu'r gollyngiadau a geisir yn parhau i amrywio rhwng cynghorau. Fodd bynnag, nid oedd yn ymddangos fel petai unrhyw gydberthynas rhwng y ffactorau hyn a lefel yr hyfforddiant a ddarparwyd ar y Côd Ymddygiad. Yn yr un modd, nid oedd tystiolaeth glir o unrhyw gydberthynas rhwng darparu hyfforddiant ar y Côd a nifer y cwynion yn ymwneud â'r Côd, ac nid oedd patrwm cyson o gwynion yn erbyn cynghorau penodol.
Nododd y Pwyllgor fod y dystiolaeth ystadegol at ei gilydd yn awgrymu lefel gyffredinol dda o gydymffurfiaeth â'r Côd gan Gynghorwyr Tref a Chymuned ledled y sir.
Gofynnwyd, o blith y cynghorau nad oeddent wedi ymateb, faint ohonynt oedd yn rhannu Clerc? Cynigiodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol roi'r wybodaeth hon yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor, gan nad oedd ganddo'r wybodaeth wrth law.
Awgrymwyd, gan fod rhai cynghorau yn rhagweithiol o ran yr hyfforddiant ar y Côd Ymddygiad ac yn sicrhau bod datganiadau o fuddiant yn berthnasol ac yn cael eu diweddaru, y gallai fod yn ddefnyddiol gofyn i'r cynghorau hyn gynorthwyo o ran cyfrannu at gyflwyno'r hyfforddiant. Cytunodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol i nodi hyd at 3 chyngor rhagweithiol i'w gwahodd i gymryd rhan yn y rownd nesaf o sesiynau hyfforddiant.
Yn ogystal, er mwyn i'r Pwyllgor Safonau allu asesu a yw'r hyfforddiant a ddarperir yn cael ei roi ar waith, awgrymodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol gynnal sampl o gofnodion Cynghorau Tref a Chymuned o ran datganiadau o fuddiant. Dywedwyd y gallai canlyniadau'r gwaith samplu fod yn fuddiol o ran rhoi dealltwriaeth well i'r Pwyllgor Safonau ynghylch sut mae cynghorau yn cofnodi ac yn gweinyddu buddiannau. Felly cynigiwyd bod sampl flynyddol o 25% yn cael ei chynnal a bod y canlyniadau yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor yn unol â hynny.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
7.1 dderbyn yr adroddiad; 7.2 bod Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol yn trefnu cynnal sampl o 25% o gofnodion Cynghorau Tref a Chymuned yn flynyddol a bod y canlyniadau yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor.
|
|
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 Cofnodion: Rhoddodd y Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith wybod i'r Pwyllgor, er nad oedd cyflwyno Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) yn cael effaith uniongyrchol ar y Pwyllgor Safonau, fod y Bil yn ei gwneud yn ofynnol i arweinwyr grwpiau gwleidyddol gymryd camau rhesymol i hyrwyddo a chynnal safonau uchel o ymddygiad gan aelodau eu grwpiau.
Felly, pwysleisiwyd mai swyddogaethau newydd y Pwyllgor Safonau o dan y Bil fyddai sicrhau bod arweinwyr gr?p yn cael cyngor a hyfforddiant i gefnogi eu dyletswyddau newydd a monitro cydymffurfiaeth yr arweinwyr gr?p â'r dyletswyddau hynny.
Yn ogystal, roedd y Bil yn cynnwys gofyniad i'r holl brif gynghorau weddarlledu'r cyfarfodydd a oedd yn agored i'r cyhoedd wrth iddynt gael eu cynnal.
|
We're working to restore all services as soon as possible. Please check back soon.