Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Safonau - Dydd Mercher, 6ed Rhagfyr, 2017 2.00 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb oddi wrth y Cynghorydd B.A.L. Roberts.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWWYLLGOR A GYNHALWYD AR Y 28AIN MEDI, 2017 pdf eicon PDF 215 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 28 Medi 2017, gan eu bod yn gywir.

4.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR SAFONAU - 2016/2017 pdf eicon PDF 166 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'w Adroddiad Blynyddol 2016/17 ynghylch y gwaith oedd wedi ei gyflawni yn ystod y cyfnod hwnnw a nododd, petai'r adroddiad yn cael ei fabwysiadu, y byddai'n cael ei roi gerbron cyfarfod y Cyngor ym mis Ionawr 2018 i'w gymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR y dylid mabwysiadu Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau - 2016/17.

5.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD ARWEL DAVIES pdf eicon PDF 154 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Sir Arwel Davies am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin mewn perthynas â materion yn ymwneud â ffermio neu faterion sy'n debygol o gael effaith ar y maes hwnnw.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd y gallai'r Cynghorydd Davies fod â buddiant personol mewn mater o'r fath yn rhinwedd paragraffau 10(2)(a)(i) a 10(2)(a)(iv) o'r Côd Ymddygiad gan ei fod yn ffermwr sy'n berchen ar dir yn y Sir.

 

Roedd buddiant yr aelod hefyd yn rhagfarnol gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor arwyddocaol fel ei fod yn amharu ar ei farn ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny, roedd y Cynghorydd Davies wedi gofyn am ollyngiad o dan reoliadau 2 (d) ac (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru).

 

Atgoffodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol y Pwyllgor ei fod, wrth ystyried y cais, yn ei gyfarfod ar 28 Medi, 2017 (gweler cofnod 12), wedi caniatáu gollyngiadau tebyg ar gyfer nifer o Gynghorwyr Sir tan 30 Medi 2018 i siarad ond nid i bleidleisio, ac i wneud sylwadau ysgrifenedig yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin.

 

Cyfeiriodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol at benderfyniad blaenorol y Pwyllgor gan ddweud pe byddai'n penderfynu caniatáu cais Cynghorydd Davies yn yr un modd, fod y Swyddog Monitro wedi holi a fyddai'n ystyried rhoi awdurdod dirprwyedig iddi ganiatáu unrhyw geisiadau ychwanegol o'r un fath am ollyngiad a allai gael eu cyflwyno gan Gynghorwyr Sir a oedd hefyd yn ymwneud â ffermio, yn berchen ar dir amaeth sy'n cael ei ffermio gan eraill neu a oedd â chymdeithion personol agos a oedd yn ffermio.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

5.1

ganiatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2(d) ac (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i'r Cynghorydd Arwel Davies SIARAD, OND NID PLEIDLEISIO, A CHYFLWYNO SYLWADAU YSGRIFENEDIG yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin mewn perthynas â materion yn ymwneud â ffermio neu faterion sy'n debygol o gael effaith ar y maes hwnnw tan 30 Medi 2018.

5.2

rhoi awdurdod dirprwyedig i Swyddog Monitro y Cyngor, hyd at gyfarfod y Pwyllgor ym mis Medi 2018, ganiatáu ceisiadau o'r un fath am ollyngiad a allai gael eu cyflwyno gan Gynghorwyr Sir eraill ar yr un telerau â'r rheiny a ganiatawyd gan y Pwyllgor Safonau ym mis Medi 2017 h.y. SIARAD, OND NID PLEIDLEISIO, A CHYFLWYNO SYLWADAU YSGRIFENEDIG yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin mewn perthynas â materion yn ymwneud â ffermio neu faterion sy'n debygol o gael effaith ar y maes hwnnw tan 30 Medi 2018.

 

 

6.

CYDYMFFURFIO Â'R CÔD YMDDYGIAD GAN GYNGHORWYR TREF A CHYNGHORWYR CYMUNED pdf eicon PDF 167 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor, fel rhan o'i rôl i fonitro a yw Cynghorau Tref a Chymuned yn cydymffurfio â'r Côd, adroddiad yn nodi lefelau'r hyfforddiant a gafwyd ynghylch y Côd, datganiadau o fuddiant, ceisiadau am ollyngiad a ganiatawyd a chwynion o ran y Côd Ymddygiad ar gyfer yr awdurdodau hynny yn ystod y cyfnod 2014/15-2016/17.

 

Cyfeiriwyd at y ffaith nad oedd nifer o Gynghorau Tref a Chymuned wedi cael Hyfforddiant ynghylch y Côd Ymddygiad. Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol er nad oedd yr awdurdodau hynny wedi mynychu unrhyw hyfforddiant a ddarparwyd gan y Cyngor Sir, ei bod yn bosibl eu bod wedi cael hyfforddiant drwy Un Llais Cymru. Dywedodd mai cyfrifoldeb Clercod y Cynghorau Tref a Chymuned oedd sicrhau bod Hyfforddiant ynghylch y Côd Ymddygiad yn cael eu darparu ar gyfer eu hawdurdodau perthnasol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

7.

COFLYFR CÔD YMDDYGIAD pdf eicon PDF 152 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y rhifyn diweddaraf o ‘Goflyfr Côd Ymddygiad’ Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a oedd yn rhoi crynodeb o'r pedwar o ymchwiliadau côd yn ymwneud ag aelodau o Gynghorau Sir a Chynghorau Cymuned a gwblhawyd yn ystod y cyfnod mis Gorffennaf i fis Medi 2017.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.