Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem | ||||
---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr B.A.L. Roberts a G.B. Thomas |
|||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol. |
|||||
PENODI CADEIRYDD AC IS-GADEIRYDD PDF 394 KB Cofnodion: Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol y byddai angen i'r Pwyllgor ystyried penodi Cadeirydd newydd yn dilyn ymddiswyddiad Mr C Downward fel Cadeirydd ac fel aelod annibynnol o'r Pwyllgor Safonau ac, yn dibynnu ar y penodiad hwnnw, Is-gadeirydd newydd.
PENDERFYNWYD
|
|||||
LLOFNODI FEL COFNOD CYWR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR Y:- PDF 243 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 1 a 9 Mehefin 2017 yn gofnodion cywir. |
|||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU 2016/2017 PDF 425 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2016/17 a oedd yn ymgorffori'r Datganiad Cyfrifon.
Nododd y Pwyllgor fod y pwyntiau allweddol a godwyd yn yr adroddiad fel a ganlyn: - Cynnydd o 13% mewn ymholiadau a chwynion yn ymwneud â chamweinyddu ledled Cymru; - Lleihad o 14% mewn cwynion yn ymwneud â chôd ymddygiad ledled Cymru; - Cynnydd o 19% yn nifer y cwynion yn ymwneud â chôd yr ymchwiliwyd iddynt; - Cynnydd o 38% yn nifer yr ymchwiliadau yn ymwneud â chôd a ddatgelodd dystiolaeth o dorri'r Côd.
Gan gyfeirio'n benodol at Gyngor Sir Caerfyrddin, nodwyd bod cyfanswm o 47 o g?ynion yn ymwneud â chamweinyddu wedi'u cwblhau yn ystod y flwyddyn. O'r rheiny, roedd 40 naill ai'n ymwneud ag awdurdodaeth, wedi'u gwneud yn rhy gynnar, neu wedi'u cau ar ôl derbyn ystyriaeth gychwynnol, cafodd 5 eu datrys yn wirfoddol, cafodd un ei chadarnhau, ac roedd un arall na chafodd ei chadarnhau. Roedd un g?yn yn ymwneud â'r Côd Ymddygiad a wnaed yn erbyn cynghorydd sir hefyd wedi cael ei chau ar ôl rhoi ystyriaeth gychwynnol iddi.
Gyda golwg ar g?ynion yn ymwneud â'r Côd Ymddygiad yn erbyn Cynghorau Tref a Chymuned yn Sir Gaerfyrddin, roedd yr Ombwdsmon wedi delio ag 11 o g?ynion yn erbyn Cynghorwyr Cymuned yng Nghyngor Tref Cwmaman (1), Cyngor Tref Cydweli (1), Cyngor Gwledig Llanelli (6), Cyngor Tref Llanelli (1) a Chyngor Cymuned Llangennech (2). Nodwyd nad oedd unrhyw un o'r achosion hyn wedi golygu cymryd unrhyw gamau disgyblu.
Cyfeiriodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol at y chwe ch?yn a gafwyd yn erbyn Cyngor Gwledig Llanelli a dywedodd y byddai'n darparu Hyfforddiant Côd Ymddygiad ar gyfer yr Awdurdod hwnnw, ar ei wahoddiad.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad. |
|||||
COFLYFR CÔD YMDDYGIAD PDF 419 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y rhifyn diweddaraf o ‘Goflyfr Côd Ymddygiad’ Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a oedd yn rhoi crynodeb o'r 12 o ymchwiliadau côd yn ymwneud ag aelodau o Gynghorau Sir a Chynghorau Cymuned a gwblhawyd yn ystod y chwarter blaenorol.
O'r 12 hynny, nododd y Pwyllgor fod tri o bwys arbennig gan eu bod yn ymwneud â dau achos a gyfeiriwyd at Bwyllgor Safonau Cyngor Sir Powys ac un a gyfeiriwyd at Banel Dyfarnu Cymru, gyda chopïau o'r dyfarniadau ym mhob un o'r tri achos hynny wedi cael eu hatodi i adroddiad y Pennaeth Gweinyddiaeth a’r Gyfraith.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad. |
|||||
HYFFORDDIANT YNGHYLCH Y CÔD YMDDYGIAD AR GYFER CYNGHORWYR SIR PDF 396 KB Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod sesiwn hyfforddi wedi'i threfnu ar gyfer pob aelod o'r Cyngor ar Gôd Ymddygiad yr Aelodau yn dilyn yr etholiadau llywodraeth leol a gynhaliwyd ym mis Mai 2017, a bod 43 o gynghorwyr yn bresennol ynddynt.
Trafododd y Pwyllgor yr angen am drefniadau hyfforddiant dilynol, er enghraifft adolygiad ymhen dwy flynedd, atgoffa aelodau am yr angen i fod yn ymwybodol o'r côd neu wahodd aelodau i fynd i hyfforddiant a ddarperir i'r Cynghorau Tref a Chymuned. Awgrymodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol y gellid cynnal unrhyw drafodaeth am hyfforddiant ychwanegol i aelodau yn y Flwyddyn Newydd pan fyddai ystyriaeth yn cael ei rhoi i ddarparu hyfforddiant i'r Cynghorau Tref a Chymuned.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL 7.1 bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn. 7.2 bod y broses o ystyried darparu Hyfforddiant Côd Ymddygiad ychwanegol i'r Cynghorwyr Sir yn cael ei gohirio tan y flwyddyn newydd pryd y byddai ystyriaeth yn cael ei rhoi i ddarparu hyfforddiant i'r Cynghorau Tref a Chymuned.
|
|||||
HYFFORDDIANT YNGHYLCH Y CÔD YMDDYGIAD AR GYFER CYNGHORWYR TREF A CHYMUNED PDF 423 KB Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad ar ddwy sesiwn hyfforddi a gynhaliwyd ar 29 Mehefin and 6 Gorffennaf, 2017 yngl?n â Chôd Ymddygiad yr Aelodau ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned. Roedd 103 o bobl yn bresennol ynddynt a oedd yn cynrychioli ystod eang o Gynghorau o bob rhan o'r Sir.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|||||
PAPUR GWYN LLYWODRAETH CYMRU AR DDIWYGIO LLYWODRAETH LEOL PDF 423 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad ar Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru o'r enw “Diwygio Llywodraeth Leol: Cadernid ac Adnewyddiad” sydd yn nodi ei gynigion ar gyfer cyflwyno ystod eang o wasanaethau cyngor ar sail ranbarthol, ond gan gadw'r 22 Awdurdod Unedol presennol. Nodwyd, tra oedd y Papur yn canolbwyntio ar ranbartholi'r gwasanaethau a ddarperir, ei fod yn cynnwys nifer o gynigion sydd â'r potensial o gael effaith arwyddocaol ar y Pwyllgor Safonau sef:
· Gosod dyletswyddau statudol penodol ar Gynghorwyr mewn perthynas â'r modd y maent yn ymgysylltu â'r cyhoedd. (‘Dyletswyddau Perfformiad Rhagnodedig’) · Mae'r Pwyllgorau Safonau i gael clywed am achosion ble honnir bod Cynghorwyr wedi methu â chyflawni'r dyletswyddau hyn · Gofyniad ar i Bwyllgorau Safonau ymgynghori â Chynghorwyr a'u hyfforddi mewn perthynas â'r dyletswyddau hyn · Gosod dyletswyddau statudol penodol ar arweinwyr grwpiau gwleidyddol i hyrwyddo safonau ymddygiad da o fewn eu gr?p a chydweithredu â Phwyllgorau Safonau wrth weithredu eu swyddogaethau · Gosod dyletswydd ar Gynghorwyr Tref a Chymuned i ystyried eu hanghenion am hyfforddiant a chynllunio ar eu cyfer · Newidiadau posibl i Côd Ymddygiad yr Aelodau i adlewyrchu dyletswydd Cynghorwyr i weithredu er budd eu rhanbarth, yn ogystal â'r awdurdod lleol y maent yn aelod ohono · Dyletswydd ar Bwyllgorau Safonau, cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, i gyflwyno adroddiad blynyddol i'r awdurdod mewn perthynas â'r flwyddyn honno sy'n disgrifio sut y cafodd swyddogaethau'r pwyllgor eu cyflawni yn ystod y flwyddyn ariannol honno. Mae hynny'n cynnwys gofyniad i asesu i ba raddau y mae arweinwyr grwpiau gwleidyddol ar y Cyngor wedi cydymffurfio â'u dyletswydd i hyrwyddo safonau ymddygiad da a chydweithredu â'r Pwyllgor Safonau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad |
|||||
CWYNION A CHANMOLIAETH PDF 421 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Diwedd Blwyddyn ynghylch Cwynion a Chanmoliaeth a oedd yn rhoi dadansoddiad o'r cwynion a'r sylwadau canmol a ddaethai i law'r Awdurdod yn ystod 2016/17.
Adroddwyd bod yr Awdurdod wedi cael 731 o g?ynion yn ystod 2016/17 o gymharu â 501 yn 2015/16, gyda'r cynnydd i raddau helaeth yn cael ei dadogi i godiad sylweddol yn nifer y cwynion yn ymwneud â'r gwasanaeth casglu gwastraff. Ymatebwyd i gyfanswm o 693 o g?ynion yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys nifer a oedd wedi cael eu cario ymlaen o flwyddyn flaenorol y cyngor. Cododd nifer yr achosion yr ymatebwyd iddynt o fewn y cyfnod amser gofynnol i 74%, sydd yn cynrychioli gwelliant sylweddol dros 2014/15 a 2015/16. Mewn perthynas â nifer y sylwadau canmoliaethus a gafwyd, nodwyd eu bod wedi gostwng rywfaint o 542 i 515.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad. |
|||||
CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD G SQUIRES PDF 425 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor gais a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Gloria Squires o Gyngor Cymuned Llanismel am ganiatáu gollyngiad yn unol â darpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a phleidleisio a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â cheisiadau am gymorth ariannol a gyflwynwyd i'r Cyngor gan Glwb Pensiynwyr Glanyfferi a Phlwyf Unedig Llanismel.
Adroddwyd bod cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Squires fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10 (2) (a) (1x) (ee) yn yr ystyr bod y busnes dan sylw yn ymwneud â chlwb preifat neu gymdeithas sy'n gweithredu yn ardal yr Awdurdod lle'r oedd hi'n aelod.
Roedd buddiant y Cynghorydd Squires hefyd yn rhagfarnol gan y byddai'n rhesymol i aelod o'r cyhoedd oedd yn gwybod y ffeithiau perthnasol ystyried bod y buddiant mor arwyddocaol fel ei fod yn debygol o ddylanwadu ar farn y Cynghorwyr ynghylch budd y cyhoedd.
Gan hynny, roedd y Cynghorydd Squires wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliad 2 (d) (e) (f) (g) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiad) (Cymru) 2001.
Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor y dylai, wrth ystyried y cais, nodi nad oedd paragraffau 2 (e) a (g) yn berthnasol yn yr achos hwn ac y byddai paragraff (h) ond yn caniatáu i'r Cynghorydd Squires siarad (ond nid pleidleisio na chyflwyno sylwadau ysgrifenedig).
Yn dilyn trafodaeth fanwl
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod gollyngiad yn cael ei ganiatáu o dan Reoliad 2 (d) (f) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Gloria Squires i SIARAD yn unig yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llanismel mewn perthynas ag unrhyw geisiadau am gymorth ariannol a ddaw oddi wrth Glwb Pensiynwyr Glanyfferi a Phlwyf Unedig Llanismel tan ddiwedd cyfnod eu tymor presennol yn y swydd. |
|||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor geisiadau a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr Sir Gareth Thomas, Jean Lewis, Ken Howell, Tyssul Evans, Mansel Charles, Eirwyn Williams ac Ann Davies am ganiatáu gollyngiad yn unol â darpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin mewn perthynas â materion yn ymwneud â ffermio ac amaeth neu sy’n debygol o gael effaith ar y maes hwnnw.
Adroddwyd bod cais am ollyngiad wedi'i wneud gan bob Cynghorydd oherwydd y gallent, o bosibl, fod â buddiant personol mewn materion o'r fath yn rhinwedd paragraffau 10(2)(a)(i), 10(2)(a)(iv), 10(2)(b)(i) a 10(2)(b)9ii) o'r Côd Ymddygiad yn yr ystyr eu bod i gyd naill ai'n ffermio yn y Sir, yn berchen ar dir fferm sy'n cael ei ffermio gan bobl eraill, neu fod ganddynt gymdeithion personol agos a oedd yn ffermio.
Roedd buddiant yr aelodau hefyd yn rhagfarnol gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor arwyddocaol fel ei fod yn dylanwadu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.
Gan hynny, roedd y Cynghorwyr Sir wedi gofyn am ollyngiad o dan reoliadau 2 (d) ac (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001.
Atgoffodd Rheolwr Dro Dro y Gwasanaethau Cyfreithiol y Pwyllgor eu bod yn eu cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Mehefin 2016 (gweler cofnod 7 ac 8) wedi caniatáu gollyngiad i'r Cynghorydd Gareth Thomas a'r Cynghorydd Jean Lewis i siarad, ond nid pleidleisio, ac i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas ag unrhyw drafodaethau yn ymwneud â ffermio yn gyffredinol tan ddiwedd eu cyfnod presennol yn y swydd yn yr Etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai 2017.
Roedd y Pwyllgor wrth ystyried y cais yn ystyriol o'r sefyllfa sef bod chwech o'r saith aelod a oedd yn gofyn am ollyngiad yn aelodau o Bwyllgor Cynllunio'r Cyngor y byddai'n ofynnol iddynt ystyried ceisiadau cynllunio ar gyfer y gymuned amaethyddol. Mynegwyd barn ynghylch y posibilrwydd y byddai gwrthdaro buddiannau yn codi yn rhinwedd y ffaith eu bod yn aelodau o'r Pwyllgor hwnnw, ac ynghylch yr angen i fonitro nifer yr achlysuron/amgylchiadau y byddai unrhyw ollyngiad yn cael ei ddefnyddio. Yn dilyn trafodaeth fanwl
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2(d) ac (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i'r Cynghorwyr Sir Gareth Thomas, Jean Lewis, Ken Howell, Tyssul Evans, Mansel Charles, Eirwyn Williams ac Ann Davies i SIARAD, OND NID PLEIDLEISIO, A CHYFLWYNO SYLWADAU YSGRIFENEDIG yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin mewn perthynas ag unrhyw faterion sy'n ymwneud â ffermio ac amaeth neu sy’n debygol o gael effaith ar y maes hwnnw, tan 30 Medi 2018. |