Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
COFNODION - 6 RHAGFYR, 2017 PDF 126 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr 2017 gan eu bod yn gywir.
|
|
PENDERFYNIAD PANEL DYFARNU CYMRU PDF 166 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dosbarthwyd adroddiad i'r Pwyllgor a oedd wedi cael ei gyhoeddi'n ddiweddar gan Banel Dyfarnu Cymru yn manylu ar ei ganfyddiadau yn achos cyn-aelod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, sef Dr Stuart Anderson. Cyfeiriwyd y mater i'r Panel gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ym mis Gorffennaf 2017 o ganlyniad i gwynion a ddaeth i law. Daeth y Panel i'r casgliad fod Dr Anderson wedi torri Côd Ymddygiad yr Aelodau ar 9 fater gwahanol a diswyddwyd ef o'i swydd am 18 mis. Yn ôl Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol, roedd y penderfyniad yn darparu cyfarwyddyd defnyddiol ynghylch dehongliad rhannau allweddol o'r Côd. Ychwanegodd y byddai'n edrych ar ffyrdd o gyhoeddi'r canfyddiadau yn y sir.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.
|
|
LLYFR ACHOSION Y CÔD YMDDYGIAD PDF 165 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y rhifyn diweddaraf o ‘Goflyfr Côd Ymddygiad’ Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a oedd yn rhoi crynodeb o'r pump o ymchwiliadau côd yn ymwneud ag aelodau o Gynghorau Sir a Chynghorau Cymuned a gwblhawyd yn ystod y cyfnod rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr, 2017. Nid oedd dim o'r achosion yn berthnasol i gynghorwyr o Sir Gaerfyrddin.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y flaenraglen waith ddrafft ar gyfer blwyddyn y cyngor 2018/19. Datblygwyd y rhaglen ddrafft i ddosbarthu'r gwaith yn gyfartal drwy'r flwyddyn. Nodwyd yn ogystal â'r adroddiadau a nodwyd yn y Rhaglen, y byddai'r Pwyllgor yn parhau i dderbyn adroddiadau ad hoc mewn perthynas â materion megis ceisiadau am ollyngiad a phenderfyniadau gan Banel Dyfarnu Cymru wrth iddynt godi. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Blaenraglen Waith y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2018/19.
|
|
HYFFORDDIANT COD YMDDYGIAD AR GYFER CYNGHORWYR TREF A CHYMUNED. PDF 170 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Atgoffwyd y Pwyllgor ei fod, ers nifer o flynyddoedd, wedi bod yn trefnu sesiynau hyfforddiant ynghylch Côd Ymddygiad yr Aelodau ar gyfer Cynghorwyr Tref a Chymuned. Yn unol â'r arfer hwnnw, bu'n ystyried y cyflwyniad arfaethedig ar gyfer sesiynau 2018, a oedd yn ymgorffori adborth o ddigwyddiadau 2017. Nodwyd mai un o brif elfennau'r adborth oedd yr awydd i weld yr Iaith Gymraeg yn cael ei defnyddio mwy a rhoddwyd cyngor gan y Swyddog Polisi a Phartneriaeth ynghylch y ffordd orau o wneud hyn. Cytunodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol drafod y mater ymhellach gyda chydweithwyr a fyddai'n mynychu'r sesiynau gyda golwg ar sicrhau bod llif y sesiynau yn ddirwystr. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
7.1 gymeradwyo'r cyflwyniad a awgrymwyd ar gyfer Sesiynau Hyfforddiant 2018 ynghylch Côd Ymddygiad yr Aelodau ar gyfer Cynghorwyr Tref a Chymuned;
7.2 cynnal sesiynau hyfforddiant ar 14 a 26 Mehefin 2018 yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin am 6.00pm heb gyfyngu ar nifer y mynychwyr a allai fynychu o bob Awdurdod.
|
|
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 Cofnodion: Mewn ymateb i sylw, cytunodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol gysylltu â Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ynghylch y ffordd orau o godi gwaith a phroffil y Pwyllgor Safonau.
|