Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Safonau - Dydd Gwener, 7fed Rhagfyr, 2018 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  (01267) 224030

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd A. McPherson a'r Cynghorydd G. Thomas.

 

 

2.

DATGELU BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

 

NEWID TREFN Y MATERION

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd ac yn unol â Rheol 2 [3] o Weithdrefn y Cyngor, cytunodd y Pwyllgor i amrywio trefn y materion oedd yn weddill ar yr agenda.

 

 

 

3.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD JENNY YOUENS. pdf eicon PDF 144 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Jenny Youens o Gyngor Cymuned Llanddarog, am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a phleidleisio mewn perthynas â materion yn ymwneud â Chlwb a Sefydliad y Gweithwyr Mynyddcerrig a Phwyllgor Lles Mynyddcerrig.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Youens fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(a)(ix)(ee) o'r Côd Ymddygiad gan ei bod yn aelod o bwyllgorau rheoli'r ddau sefydliad.

 

Roedd buddiant y Cynghorydd Youens hefyd yn rhagfarnol petai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor arwyddocaol fel y byddai'n debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny, roedd y Cynghorydd Youens wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliad 2 (d) (e) (f) (g) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiad) (Cymru) 2001.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor y dylai, wrth ystyried y cais, nodi mai paragraffau 2 (d) a (h) oedd y rhai â'r achosion mwyaf priodol pe byddai'r Pwyllgor yn bwriadu cymeradwyo'r cais i siarad yn unig.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2(d) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i'r Cynghorydd Jenny Youens SIARAD yn unig yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llanddarog mewn perthynas ag unrhyw drafodaeth ynghylch Clwb a Sefydliad y Gweithwyr Mynyddcerrig a Phwyllgor Lles Mynyddcerrig, a bod y Gollyngiad i fod yn ddilys tan 31 Rhagfyr 2019.

 

 

4.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD ROY WILLIAM OWEN. pdf eicon PDF 144 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Roy William Owen o Gyngor Cymuned Llanddarog, am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a phleidleisio mewn perthynas â materion yn ymwneud â Chlwb a Sefydliad y Gweithwyr Mynyddcerrig.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Owen fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(a)(ix)(ee) o'r Côd Ymddygiad gan ei fod yn aelod o'r pwyllgor.

 

Roedd buddiant y Cynghorydd Owen hefyd yn rhagfarnol, petai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor arwyddocaol fel ei fod yn debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny, roedd y Cynghorydd Owen wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliad 2 (d) (e) (f) (g) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiad) (Cymru) 2001.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor y dylai, wrth ystyried y cais, nodi mai paragraffau 2 (d) a (h) oedd y rhai â'r achosion mwyaf priodol pe byddai'r Pwyllgor yn bwriadu cymeradwyo'r cais i siarad yn unig.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliad 2 (d) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Roy William Owen SIARAD yn unig yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llanddarog mewn perthynas â materion yn ymwneud â Chlwb a Sefydliad y Gweithwyr Mynyddcerrig a bod y gollyngiad i fod yn ddilys tan 31 Rhagfyr 2019.

 

 

5.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD ROBERT HARLEY JONES. pdf eicon PDF 152 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Robert Harley Jones o Gyngor Cymuned Llanddarog, am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a phleidleisio mewn perthynas â materion yn ymwneud â Phwyllgor Llesiant Porth-y-rhyd.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Jones fuddiant personol yn y mater yn rhinwedd paragraff 10(2)(a)(ix)(ee) o'r Côd Ymddygiad gan ei fod yn aelod o'r pwyllgor.

 

Roedd buddiant y Cynghorydd Jones hefyd yn rhagfarnol petai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor arwyddocaol fel y byddai'n debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny, roedd y Cynghorydd Jones wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliad 2 (d) (e) (f) (g) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiad) (Cymru) 2001.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor y dylai, wrth ystyried y cais, nodi mai paragraffau 2 (d) a (h) oedd y rhai â'r achosion mwyaf priodol pe byddai'r Pwyllgor yn bwriadu cymeradwyo'r cais i siarad yn unig.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliad 2 (d) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Robert Harley Jones i SIARAD yn unig yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llanddarog mewn perthynas â materion yn ymwneud â Phwyllgor Llesiant Porth-y-rhyd a bod y gollyngiad i fod yn ddilys tan 31 Rhagfyr 2019.

 

 

 

6.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD WILLIAM JOHN WYN EVANS pdf eicon PDF 153 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd William John Wyn Evans o Gyngor Cymuned Llanddarog, am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a phleidleisio mewn perthynas â materion yn ymwneud â Neuadd Pentref Llanddarog a Phwyllgor Llesiant Porth-y-rhyd.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Evans fuddiant personol yn y mater yn rhinwedd paragraff 10(2)(a)(ix)(ee) o'r Côd Ymddygiad gan ei fod yn aelod o'r ddau bwyllgor.

 

Roedd buddiant y Cynghorydd Evans hefyd yn rhagfarnol petai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor arwyddocaol fel y byddai'n debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny, roedd y Cynghorydd Evans wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliad 2 (d) (e) (f) (g) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiad) (Cymru) 2001.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor y dylai, wrth ystyried y cais, nodi mai paragraffau 2 (d) a (h) oedd y rhai â'r achosion mwyaf priodol pe byddai'r Pwyllgor yn bwriadu cymeradwyo'r cais i siarad yn unig.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliad 2 (d) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd William John Wyn Evans i SIARAD yn unig yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llanddarog mewn perthynas â materion yn ymwneud â Phwyllgor Llesiant Porth-y-rhyd a bod y gollyngiad i fod yn ddilys tan 31 Rhagfyr 2019.

 

 

7.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD PWYLLGOR SAFONAU A GYNHALWYD AR Y DYDDIADAU CANLYNOL:-

Cofnodion:

[SYLWER: Yn ystod yr adeg hon ymunodd Mrs D. Evans â'r cyfarfod].

 

8.

PWYLLGOR SAFONAU A GYNHALIWYD AR Y 19EG HYDREF, 2018 pdf eicon PDF 207 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi'i gynnal ar 19 Hydref, 2018 gan eu bod yn gywir.

 

9.

PWYLLGOR SAFONAU A GYNHALIWYD AR Y 12FED TACHWEDD, 2018 pdf eicon PDF 101 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 12 Tachwedd 2018, gan eu bod yn gywir.

 

 

 

10.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR SAFONAU 2017/2018. pdf eicon PDF 142 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'w Adroddiad Blynyddol 2017/18 ynghylch y gwaith oedd wedi ei gyflawni yn ystod y cyfnod hwnnw a nododd, petai'r adroddiad yn cael ei fabwysiadu, y byddai'n cael ei roi gerbron cyfarfod y Cyngor ym mis Ionawr 2019 i'w gymeradwyo.

 

Cyfeiriwyd at y Polisi Datgelu Camarfer yn yr adroddiad. Awgrymwyd er mwyn gwella'r wybodaeth ystadegol a ddarparwyd y byddai'n fuddiol cynnwys canlyniadau achosion a gwblhawyd.  Roedd y Gwasanaethau Cyfreithiol yn cytuno â hyn a byddent yn cynnwys y wybodaeth cyn i'r adroddiad gael ei gyflwyno gerbron y Cyngor ym mis Ionawr.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR y dylid mabwysiadu Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau 2017/18 yn amodol ar gynnwys canlyniadau'r achosion Datgelu Camarfer.

 

 

 

11.

CYDYMFFURFIO Â'R CÔD YMDDYGIAD GAN GYNGHORWYR TREF A CHYNGHORWYR CYMUNED. pdf eicon PDF 144 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor, fel rhan o'i rôl i fonitro a yw Cynghorau Tref a Chymuned yn cydymffurfio â'r Côd, adroddiad yn nodi lefelau'r hyfforddiant a gafwyd ynghylch y Côd, datganiadau o fuddiant, ceisiadau am ollyngiad a ganiatawyd a chwynion o ran y Côd Ymddygiad ar gyfer yr awdurdodau hynny yn ystod y cyfnod 2015/16-2017/18.

 

Cyfeiriwyd at y ffaith nad oedd nifer o Gynghorau Tref a Chymuned wedi cael Hyfforddiant ynghylch y Côd Ymddygiad ac at y nifer helaeth o Gynghorau Tref a Chymuned nad oedd wedi ymateb. Fodd bynnag, dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol fod y dystiolaeth o ran ystadegau yn awgrymu lefel gyffredinol dda o gydymffurfiaeth â'r Côd gan Gynghorwyr Tref a Chymuned ledled y sir.

 

Nododd y Pwyllgor fod nifer y datganiadau a wnaed a'r gollyngiadau a geisir yn parhau i fod yn amrywiol, ac nid oeddent yn dangos cydberthynas rhwng y ffactorau hyn a lefel yr hyfforddiant a ddarperir ar y côd ymddygiad.  Yn yr un modd, nid oedd yr adroddiad yn dangos unrhyw gydberthynas rhwng y ddarpariaeth o ran hyfforddiant ar y Côd a nifer y cwynion yn ymwneud â'r côd.

 

Yn dilyn hyn cafwyd trafodaeth yngl?n â beth y gellid ei wneud i wella'r gyfradd ddychwelyd o ran gwybodaeth am hyfforddiant ynghylch y côd ymddygiad a sut orau i sicrhau y darperir hyfforddiant i bob Cynghorydd Tref a Chymuned. Cafwyd yr awgrymiadau canlynol:-

 

­   Anfon llythyrau dilynol at y Cynghorau Tref a Chymuned hynny nad ydynt wedi ymateb.

­   Annog Cynghorwyr Sir i holi Clercod a ydynt wedi dychwelyd y wybodaeth

­   Hyfforddi Clercod Cynghorau Tref a Chymuned i gynnal hyfforddiant sefydlu a'u galluogi i raeadru elfen o'r hyfforddiant ynghylch y côd ymddygiad.

 

Cytunodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol nad oedd ar hyn o bryd yn arfer safonol i anfon llythyrau dilynol, fodd bynnag, cytunwyd y gallai fod yn fuddiol o ran gwella'r gyfradd ymateb.  Yn ogystal, dywedodd y byddai'n adolygu'r modd y cyflwynir yr hyfforddiant ynghylch y côd ymddygiad ar hyn o bryd i Gynghorwyr Tref a Chymuned ac ystyried yr awgrymiadau y nodwyd uchod ynghyd â dulliau amgen i ddarparu hyfforddiant a fyddai'n cynnig dull gweithredu mwy hyblyg.

 

Mewn ymateb i gais i gael trafodaeth bellach yn ystod cyfarfod yn y dyfodol o ran hyfforddiant i Gynghorwyr Tref a Chymuned, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol ei fod yn bwriadu cyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor ym mis Mawrth, a fyddai'n cynnwys y cyflwyniad drafft i'r Cynghorwyr Tref a Chymuned ar yr hyfforddiant ynghylch y Côd Ymddygiad a byddai hyn yn rhoi cyfle am drafodaeth bellach. Yn ogystal, byddai copi o Flaenraglen Waith ddrafft y Pwyllgor yn cael ei ddosbarthu i aelodau'r Pwyllgor yn Ionawr 2019.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

 

12.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD CAROL DYER - Y LLOFFWR. pdf eicon PDF 143 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Carol Dyer o Gyngor Cymuned Myddfai am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a phleidleisio mewn perthynas â materion yn ymwneud â phapur bro Y Lloffwr.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Dyer fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(a)(ix)(ee) o'r Côd Ymddygiad gan ei bod yn Gadeirydd Pwyllgor Y Lloffwr (swydd wirfoddol).

 

Roedd buddiant y Cynghorydd Dyer hefyd yn rhagfarnol, petai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor arwyddocaol fel ei fod yn debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny, roedd y Cynghorydd Dyer wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliad 2 (d) (e) (f) (g) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiad) (Cymru) 2001.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor y dylai, wrth ystyried y cais, nodi mai paragraffau 2 (d) a (h) oedd y rhai â'r achosion mwyaf priodol pe byddai'r Pwyllgor yn bwriadu cymeradwyo'r cais i siarad yn unig.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliad 2 (d) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Carol Dyer SIARAD yn unig yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Myddfai mewn perthynas â materion yn ymwneud â phapur bro Y Lloffwr a bod y gollyngiad i fod yn ddilys tan 31 Rhagfyr 2019.

 

 

13.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD CAROL DYER - MENTER BRO DINEFWR. pdf eicon PDF 144 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Carol Dyer o Gyngor Cymuned Myddfai, am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a phleidleisio mewn perthynas â materion yn ymwneud â Menter Bro Dinefwr.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Dyer fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(a)(ix)(ee) o'r Côd Ymddygiad gan ei bod yn Gyfarwyddwr Menter Bro Dinefwr (swydd wirfoddol).

 

Roedd buddiant y Cynghorydd Dyer hefyd yn rhagfarnol, petai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor arwyddocaol fel ei fod yn debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny, roedd y Cynghorydd Dyer wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliad 2 (d) (e) (f) (g) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiad) (Cymru) 2001.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor y dylai, wrth ystyried y cais, nodi mai paragraffau 2 (d) a (h) oedd y rhai â'r achosion mwyaf priodol pe byddai'r Pwyllgor yn bwriadu cymeradwyo'r cais i siarad yn unig.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL i ganiatáu gollyngiad o dan Reoliad 2 (d) () a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Carol Dyer SIARAD yn unig yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Myddfai mewn perthynas â materion yn ymwneud â Menter Bro Dinefwr a bod y gollyngiad i fod yn ddilys tan 31 Rhagfyr 2019.

 

 

14.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972

Cofnodion:

Nid oedd dim materion eraill i'w trafod.