Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Mrs Mary Dodd, Aelod Annibynnol.

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r Cynghorydd Andre McPherson i'w gyfarfod cyntaf fel aelod o'r Pwyllgor, a diolchodd i'w ragflaenydd, y Cynghorydd Louvain Roberts, am ei chyfraniad gwerthfawr i waith y Pwyllgor.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 26AIN MAWRTH, 2018. pdf eicon PDF 104 KB

Cofnodion:

Dywedwyd bod cyfeiriad wedi cael ei wneud at bapur Llywodraeth Cymru ynghylch Diwygio Llywodraeth Leol yn rhan o'r trafodaethau am y Flaenraglen Waith (gweler Cofnod 6) pryd y penderfynwyd y dylai'r Pwyllgor gael y wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd ynghylch hyn.

 

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 16 Mawrth, 2017 yn gywir, yn amodol ar gynnwys y newid uchod.

 

NEWID TREFN Y MATERION

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd ac yn unol â Rheol 2 [3] o Weithdrefn y Cyngor, cytunodd y Pwyllgor i amrywio trefn y materion oedd yn weddill ar yr agenda.

 

 

 

 

 

 

4.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD M.G. POORE. pdf eicon PDF 92 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Maria Gabriela Poore o Gyngor Tref Hendy-gwyn ar Daf am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad yn unig mewn perthynas â materion yn ymwneud â Neuadd Goffa Hendy-gwyn ar Daf.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Poore fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(a)(ix)(ee) o'r Côd Ymddygiad gan ei bod yn Ysgrifennydd ac yn Drysorydd y Neuadd.

 

Roedd buddiant y Cynghorydd Poore yn rhagfarnol hefyd gan y byddai'n rhesymol i aelod o'r cyhoedd oedd yn gwybod y ffeithiau i gyd ystyried bod y buddiant mor arwyddocaol fel ei fod yn debygol o ddylanwadu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny, roedd y Cynghorydd Poore wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliad 2 (d) (e) (f) (g) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor y dylai, wrth ystyried y cais, nodi mai paragraffau 2 (d) a (h) oedd y rhai â'r achosion mwyaf priodol pe byddai'r Pwyllgor yn bwriadu cymeradwyo'r cais i siarad yn unig.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliad 2 (d) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Maria Gabriela Poore SIARAD yn unig yng nghyfarfodydd Cyngor Tref Hendy-gwyn ar Daf mewn perthynas â materion yn ymwneud â Neuadd Goffa Hendy-gwyn ar Daf, a bod y gollyngiad mewn grym tan ddiwedd ei chyfnod presennol yn y swydd.

 

 

5.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD B. CHAPMAN (PWYLLGOR NEUADD Y DREF HENDYGWYN). pdf eicon PDF 96 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Barry Chapman o Gyngor Tref Hendy-gwyn ar Daf am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad yn unig mewn perthynas â materion yn ymwneud â Phwyllgor Neuadd Tref Hendy-gwyn ar Daf.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Chapman fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(a)(ix)(ee) o'r Côd Ymddygiad gan ei fod yn Gadeirydd y Pwyllgor ac yn aelod ohono.

 

Roedd buddiant y Cynghorydd Chapman yn rhagfarnol hefyd gan y byddai'n rhesymol i aelod o'r cyhoedd oedd yn gwybod y ffeithiau perthnasol i gyd ystyried bod y buddiant mor arwyddocaol fel ei fod yn debygol o ddylanwadu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny, roedd y Cynghorydd Chapman wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliad 2 (d) (e) (f) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor y dylai, wrth ystyried y cais, nodi mai paragraffau 2 (d) a (h) oedd y rhai â'r achosion mwyaf priodol pe byddai'r Pwyllgor yn bwriadu cymeradwyo'r cais i siarad yn unig.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliad 2 (d) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Barry Chapman SIARAD yn unig yng nghyfarfodydd Cyngor Tref Hendy-gwyn ar Daf mewn perthynas â materion yn ymwneud â Phwyllgor Neuadd Tref Hendy-gwyn ar Daf tan ddiwedd ei gyfnod presennol yn y swydd.

 

 

6.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD B. CHAPMAN (GRWP GWEITHREDU CYMUNED CYFEILLGAR DEMENSIA). pdf eicon PDF 154 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Barry Chapman o Gyngor Tref Hendy-gwyn ar Daf am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a phleidleisio mewn perthynas â materion yn ymwneud â Gr?p Gweithredu Cymunedau Talacharn, Sanclêr, Hendy-gwyn ar Daf ac ardaloedd cyfagos sy'n Cefnogi pobl â Dementia.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Chapman fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(a)(ix)(ee) o'r Côd Ymddygiad gan ei fod yn Gadeirydd Pwyllgor y Gr?p ac yn aelod ohono.

 

Roedd buddiant y Cynghorydd Chapman yn rhagfarnol hefyd gan y byddai'n rhesymol i aelod o'r cyhoedd oedd yn gwybod y ffeithiau perthnasol i gyd ystyried bod y buddiant mor arwyddocaol fel ei fod yn debygol o ddylanwadu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny, roedd y Cynghorydd Chapman wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliad 2 (d) (e) (f) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor y dylai, wrth ystyried y cais, nodi mai paragraffau 2 (d) a (h) oedd y rhai oedd yn rhoi'r achosion mwyaf priodol pe byddai'r Pwyllgor yn bwriadu cymeradwyo'r cais i siarad a phleidleisio.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD caniatáu gollyngiad o dan Reoliad 2 (d) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Barry Chapman SIARAD A PHLEIDLEISIO yng nghyfarfodydd Cyngor Tref Hendy-gwyn ar Daf mewn perthynas â materion yn ymwneud â Gr?p Gweithredu Cymunedau Talacharn, Sanclêr, Hendy-gwyn ar Daf ac ardaloedd cyfagos sy'n Cefnogi Pobl â Dementia tan 30 Mehefin, 2019.

 

 

 

7.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD B. CHAPMAN (SIAMBR MASNACH). pdf eicon PDF 100 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Barry Chapman o Gyngor Tref Hendy-gwyn ar Daf am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a phleidleisio mewn perthynas â materion yn ymwneud â'r Siambr Fasnach.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Chapman fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(a)(ix)(ee) o'r Côd Ymddygiad gan ei fod yn aelod ac yn Gadeirydd y Siambr.

 

Roedd buddiant y Cynghorydd Chapman yn rhagfarnol hefyd gan y byddai'n rhesymol i aelod o'r cyhoedd oedd yn gwybod y ffeithiau i gyd ystyried bod y buddiant mor arwyddocaol fel ei fod yn debygol o ddylanwadu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny, roedd y Cynghorydd Chapman wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliad 2 (b) (d) (e) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001.  Yn ogystal, ymddengys y byddai achos pellach dros wneud cais, sef (f).

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl

 

PENDERFYNWYD bod y cais gan y Cynghorydd Barry Chapman am gael gollyngiad i siarad a phleidleisio yng nghyfarfodydd Cyngor Tref Hendy-gwyn ar Daf mewn perthynas â materion yn ymwneud â'r Siambr Fasnach yn cael ei wrthod.

 

 

8.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD B. CHAPMAN (PWYLLGOR WYTHNOS DINESIG HENDYGWYN). pdf eicon PDF 161 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Barry Chapman o Gyngor Tref Hendy-gwyn ar Daf am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad yn unig mewn perthynas â materion yn ymwneud â Phwyllgor Wythnos Ddinesig Hendy-gwyn ar Daf.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Chapman fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(a)(ix)(ee) o'r Côd Ymddygiad gan ei fod yn aelod o'r Pwyllgor.

 

Roedd buddiant y Cynghorydd Chapman yn rhagfarnol hefyd gan y byddai'n rhesymol i aelod o'r cyhoedd oedd yn gwybod y ffeithiau perthnasol ystyried bod y buddiant mor arwyddocaol fel ei fod yn debygol o ddylanwadu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny, roedd y Cynghorydd Chapman wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliad 2 (d) (e) (f) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl

 

PENDERFYNWYD caniatáu gollyngiad o dan Reoliad 2 (d) (e) (f) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Barry Chapman SIARAD yn unig yng nghyfarfodydd Cyngor Tref Hendy-gwyn ar Daf mewn perthynas â materion yn ymwneud â Phwyllgor Wythnos Ddinesig Hendy-gwyn ar Daf tan 30 Mehefin, 2019.

 

 

[NODER:  Am 11.00 a.m., yn dilyn ystyried y cais uchod, roedd yn rhaid i Mrs Julie James, yr Aelod Annibynnol, adael y cyfarfod, ac yn unol ag Erthygl 9 o Gyfansoddiad y Cyngor, gadawodd y Cynghorydd Jeanette Gilasbey y cyfarfod.]

 

 

9.

ADOLYGU'R POLISI DATGELU CAMARFER CORFFORAETHOL. pdf eicon PDF 105 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r adroddiad blynyddol ar Bolisi Datgelu Camarfer y Cyngor gyda'r bwriad o gynnwys y wybodaeth berthnasol yn Adroddiad Blynyddol y Cadeirydd i'r Cyngor Llawn a gosod y polisi ar gyfer y flwyddyn i ddod. Roedd y polisi wedi cael ei ddiweddaru i adlewyrchu'r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ynghylch cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi.

 

Nodwyd bod y Cyngor wedi cael wyth o gwynion datgelu camarfer newydd rhwng 1 Ebrill, 2017 a 31 Mawrth, 2018. Roedd hyn yn cymharu â naw cwyn newydd yn 2016/17. Roedd un g?yn wedi ei chario ymlaen o 2016/17 ac roedd chwe chwyn wedi eu cario ymlaen i 2017/18. Nid oedd unrhyw gamau wedi cael eu cymryd yn dilyn y tair cwyn a wnaethpwyd yn ystod y flwyddyn. Nid oedd unrhyw un o'r achwynwyr wedi darparu unrhyw adborth.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Mynegwyd pryder nad yw cwynion ynghylch ysgolion yn cael eu cofnodi. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor nad oes gan yr Awdurdod reolaeth dros yr hyn sy'n digwydd o ran cwynion o'r fath gan eu bod yn fater i'r Corff Llywodraethu unigol, ac awgrymodd y swyddogion y gellid cofnodi'r wybodaeth hon ar wahân;

·       Roedd yna gamgymeriad rhifo ar y Polisi Datgelu Camarfer Corfforaethol gyda dwy adran wedi’i rhifo 22. Teimlwyd bod yr ail adran 22 yn y sefyllfa anghywir ac y byddai'n fwy priodol i’w symud ar ôl adran 26. Teimlwyd hefyd bod y ddwy frawddeg gyntaf yn yr adran yma (Whistleblowing is where...public interest dimension.) yn ddianghenraid, nid oeddent "mewn cyferbyniad" a dylid eu tynnu. Cytunwyd i awgrymu adran 27 newydd canlynol o'r Polisi Datgelu Camarfer Corfforaethol: "It should be noted that a whistleblowing issue could be entangled within a grievance or standards of behaviour, in which case the Council will need to consider the facts, assess the risks and decide how to best deal with the issue (See Appendix A Whitleblowing Flowchart).”

·       Mynegwyd pryder fod Astudiaeth Achos 3 yn esiampl wael ac yn annerbyniol. Esboniodd y swyddogion nad oedd yr astudiaethau achos yn berthnasol i Sir Gaerfyrddin, ond byddent yn rhoi gwybod i'w cydweithwyr am y sylwadau gyda'r bwriad o gynnwys astudiaeth achos wahanol yn lle hynny;

·       Cyfeiriwyd hefyd at nifer o gamgymeriadau teipio yn y ddogfen.

PENDERFYNWYD y dylid diwygio’r polisi i ystyried y sylwadau uchod a  chyflwyno’r ddogfen derfynol  i'r Pwyllgor er gwybodaeth.

 

 

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau