Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Safonau - Dydd Gwener, 9fed Mehefin, 2017 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

COFNODION - 17EG MAWRTH 2017 pdf eicon PDF 215 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 17 Mawrth 2017, gan eu bod yn gywir.

 

4.

ADOLYGU'R POLISI CORFFORAETHOL YNGHYLCH DATGELU CAMARFER pdf eicon PDF 467 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ynghylch yr adolygiad blynyddol o'r Polisi Corfforaethol ynghylch Datgelu Camarfer, gyda golwg ar gynnwys gwybodaeth berthnasol am hynny yn adroddiad blynyddol y Cadeirydd i'r Cyngor. Nodwyd bod y Cyngor wedi parhau i gymryd camau i gynyddu ymwybyddiaeth staff ynghylch y polisi a sicrhau bod rheolwyr wedi cael eu hyfforddi'n llawn i adnabod cwynion datgelu camarfer a rhoi sylw iddynt yn briodol. Roedd y Polisi Corfforaethol ynghylch Datgelu Camarfer wedi cael ei ddiweddaru i adlewyrchu newidiadau sefydliadol ac adborth o'r sesiwn briffio aelodau etholedig a gynhaliwyd yn gynharach yn y flwyddyn.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo'r polisi diwygiedig.

5.

COFLYFR CÔD YMDDYGIAD pdf eicon PDF 468 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried rhifyn diweddaraf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru o'r 'Coflyfr Côd Ymddygiad' a oedd yn cynnwys crynodebau o'r 13 ymchwiliad o dan y Côd a oedd yn ymwneud ag aelodau o'r Cyngor Sir a Chynghorau Cymuned, a oedd wedi dod i ben yn ystod y chwarter blaenorol.

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad ond ceisio eglurhad pellach ynghylch y 5 achos a gyfeiriwyd at y Pwyllgor Safonau yn 2016/17 a chanfyddiad Panel Dyfarnu Cymru.

 

6.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD G. HOWELLS pdf eicon PDF 437 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r cais gan y Cynghorydd Gerald Howells, a oedd yn aelod o Gyngor Cymuned Llansteffan a Llanybri, ac a oedd yn gofyn am ganiatáu gollyngiad yn unol â darpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a phleidleisio yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llansteffan a Llanybri mewn perthynas â materion yn ymwneud ag Ysgol Gynradd Llansteffan, Eglwys y Plwyf, Llansteffan a Chwmni Buddiannau Cymunedol Llongau Fferi Bae Caerfyrddin.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Howells fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(ix)(aa) o'r Côd Ymddygiad mewn perthynas â'r ysgol, paragraff 10(2)(ix)(ee) mewn perthynas ag Eglwys y Plwyf a pharagraff 10(2)(ix)(bb) mewn perthynas â Chwmni Buddiannau Cymunedol Llongau Fferi Bae Caerfyrddin i'r graddau:

 

(1)       Bod yr ysgol yn gorff sy'n arfer swyddogaethau cyhoeddus a'i fod, fel Cadeirydd y Llywodraethwyr, yn dal swydd reoli gyffredinol. Ni chafodd y Cynghorydd Howells ei benodi i'w swydd bresennol fel llywodraethwr ysgol gan ei Gyngor Cymuned;

 

(2)       Dylid ystyried yr eglwys yn gymdeithas breifat y mae ef, fel Warden yr Eglwys, yn aelod ohoni;

 

(3)       Mae'n Gyfarwyddwr y Cwmni.

 

Hefyd yr oedd buddiannau y Cynghorydd Howells yn rhagfarnol gan y byddai'n rhesymol i aelod o'r cyhoedd oedd yn gwybod y ffeithiau perthnasol ystyried bod y buddiannau mor arwyddocaol fel y byddent yn debygol o ddylanwadu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny, roedd y Cynghorydd Howells wedi gofyn am ollyngiad o dan reoliad 2 (d) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001.

 

Roedd y Cynghorydd Howells eisoes wedi cael gollyngiad i siarad, ond nid i bleidleisio mewn perthynas â materion (1) a (2) uchod ym mis Mehefin 2016 ac roedd y gollyngiad hwnnw wedi dod i ben ym mis Mai 2017.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

6.1 ganiatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2(d) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Gerald Howells SIARAD A CHYFLWYNO SYLWADAU YSGRIFENEDIG OND NID PLEIDLEISIO, yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llansteffan a Llanybri mewn perthynas ag unrhyw drafodaeth ynghylch Ysgol Gynradd Llansteffan, Eglwys y Plwyf, Llansteffan, a Chwmni Buddiannau Cymunedol Llongau Fferi Bae Caerfyrddin, a bod y gollyngiad yn ddilys tan ddiwedd ei gyfnod gwasanaethu presennol;

6.2 dweud wrth y Cynghorydd Howells am roi gwybod i'r Swyddog Monitro ynghylch unrhyw newid perthnasol o ran ei Gyfarwyddiaeth o Gwmni Buddiannau Cymunedol Llongau Fferi Bae Caerfyrddin.

 

7.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD I. R. LLEWELYN pdf eicon PDF 435 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd y Pwyllgor ei fod, yn y cyfarfod ar 9 Medi 2016 (gweler cofnod 9), wedi caniatáu gollyngiad i'r Cynghorydd I.R. Llewellyn, a oedd yn aelod o Gyngor Cymuned Llandybïe, tan ddiwedd y cyfnod etholiadol sy'n dod i ben ym mis Mai 2017, i siarad ond nid i bleidleisio yng nghyfarfodydd y Cyngor Cymuned mewn perthynas ag unrhyw drafodaeth ynghylch trosglwyddo asedau'r Cyngor Sir i'r Cyngor Cymuned.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor, yn dilyn yr uchod, fod cais wedi'i gyflwyno gan y Cynghorydd Llewellyn yn ceisio gollyngiad i siarad a phleidleisio yng nghyfarfodydd y Cyngor Cymuned mewn perthynas ag unrhyw drafodaeth ynghylch trosglwyddo asedau'r Cyngor Sir i'r Cyngor Cymuned.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r cais gan y Cynghorydd Llewellyn, a oedd yn aelod o Gyngor Cymuned Llandybïe, ac a oedd yn gofyn am ganiatáu gollyngiad yn unol â darpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a phleidleisio yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llandybïe mewn perthynas â'r bwriad i drosglwyddo Asedau'r Cyngor Sir i'r Cyngor Cymuned.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Llewellyn fuddiant personol yn y mater yn rhinwedd paragraff 10(2)(ii) o'r Côd Ymddygiad gan fod y mater yn ymwneud â'i gyflogwr, neu'n debygol o effeithio ar ei gyflogwr, sef Cyngor Sir Caerfyrddin.

 

Hefyd yr oedd buddiant y Cynghorydd Llewellyn yn rhagfarnol gan y byddai'n rhesymol i aelod o'r cyhoedd oedd yn gwybod y ffeithiau perthnasol ystyried bod y buddiant mor arwyddocaol fel ei fod yn debygol o ddylanwadu ar farn y cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny, roedd y Cynghorydd Llewellyn wedi gofyn am ollyngiad o dan reoliad 2 (d) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) ar y sail na fyddai ei gyfranogiad mewn unrhyw drafodaeth yng nghyfarfodydd y Cyngor Cymuned yn niweidio hyder y cyhoedd.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad dan Reoliad 2(d) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i'r Cynghorydd I.R. Llewellyn SIARAD OND NID I BLEIDLEISIO yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llandybïe mewn perthynas ag unrhyw drafodaeth ynghylch trosglwyddo asedau'r Cyngor Sir i Gyngor Cymuned Llandybïe, a bod y Gollyngiad yn ddilys tan ddiwedd ei gyfnod gwasanaethu presennol.

 

 

8.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD COUNCILLOR W.R. A. DAVIES pdf eicon PDF 436 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd y Pwyllgor ei fod, yn y cyfarfod ar 9 Medi 2016 (gweler cofnod 10), wedi caniatáu gollyngiad i'r Cynghorydd W.R.A. Davies, a oedd yn aelod o Gyngor Cymuned Llandybïe, tan fis Mai 2017, siarad ond nid i bleidleisio yng nghyfarfodydd y Cyngor Cymuned mewn perthynas ag unrhyw drafodaeth ynghylch trosglwyddo cyfleusterau tennis o'r Cyngor Sir i'r Cyngor Cymuned.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor, yn dilyn yr uchod, fod cais wedi'i gyflwyno gan y Cynghorydd Davies yn ceisio gollyngiad i siarad ond nid i bleidleisio yng nghyfarfodydd y Cyngor Cymuned mewn perthynas ag unrhyw drafodaeth ynghylch trosglwyddo cyfleusterau bowlio o'r Cyngor Sir i'r Cyngor Cymuned.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r cais gan y Cynghorydd W.R.A Davies, a oedd yn aelod o Gyngor Cymuned Llandybïe, ac a oedd yn gofyn am ganiatáu gollyngiad yn unol â darpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a phleidleisio yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llandybïe mewn perthynas â'r bwriad i drosglwyddo cyfleusterau bowlio o'r Cyngor Sir i'r Cyngor Cymuned.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Davies fuddiant personol yn y mater yn rhinwedd paragraff 10(2)(a)(ix)(ee) o'r Côd Ymddygiad gan ei fod yn Ysgrifennydd ac yn Drysorydd Clwb Tennis Llandybïe.

 

Hefyd yr oedd buddiant y Cynghorydd Davies yn rhagfarnol gan y byddai'n rhesymol i aelod o'r cyhoedd oedd yn gwybod y ffeithiau perthnasol ystyried bod y buddiant mor arwyddocaol fel ei fod yn debygol o ddylanwadu ar farn y cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2(d)(f) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i'r Cynghorydd W.R.A Davies SIARAD OND NID I BLEIDLEISIO yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llandybïe mewn perthynas ag unrhyw drafodaeth ynghylch trosglwyddo cyfleusterau bowlio o'r Cyngor Sir i Gyngor Cymuned Llandybïe, a bod y Gollyngiad yn ddilys tan ddiwedd y cyfnod etholiadol presennol.

 

9.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD E. W. NICHOLAS pdf eicon PDF 436 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd y Pwyllgor ei fod, yn y cyfarfod ar 9 Medi 2016 (gweler cofnod 11), wedi caniatáu gollyngiad, tan fis Mai 2017, i'r Cynghorydd E.W. Nicholas, a oedd yn aelod o Gyngor Cymuned Llandybïe, siarad ond nid i bleidleisio yng nghyfarfodydd y Cyngor Cymuned mewn perthynas ag unrhyw drafodaeth ynghylch trosglwyddo cyfleusterau tennis o'r Cyngor Sir i'r Cyngor Cymuned.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor, yn dilyn yr uchod, fod cais wedi'i gyflwyno gan y Cynghorydd Nicholas yn ceisio gollyngiad i siarad ond nid i bleidleisio yng nghyfarfodydd y Cyngor Cymuned mewn perthynas ag unrhyw drafodaeth ynghylch trosglwyddo cyfleusterau bowlio o'r Cyngor Sir i'r Cyngor Cymuned.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r cais gan y Cynghorydd E.W. Nicholas, a oedd yn aelod o Gyngor Cymuned Llandybïe, ac a oedd yn gofyn am ganiatáu gollyngiad yn unol â darpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a phleidleisio yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llandybïe mewn perthynas â'r bwriad i drosglwyddo cyfleusterau bowlio o'r Cyngor Sir i'r Cyngor Cymuned.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Nicholas fuddiant personol yn y mater yn rhinwedd paragraff 10(2)(a)(ix)(ee) o'r Côd Ymddygiad gan ei fod yn Gadeirydd Clwb Tennis Llandybïe.

 

Hefyd yr oedd buddiant y Cynghorydd Nicholas yn rhagfarnol gan y byddai'n rhesymol i aelod o'r cyhoedd oedd yn gwybod y ffeithiau perthnasol ystyried bod y buddiant mor arwyddocaol fel ei fod yn debygol o ddylanwadu ar farn y cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2(d)(f) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i'r Cynghorydd E.W. Nicholas SIARAD OND NID I BLEIDLEISIO yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llandybïe mewn perthynas ag unrhyw drafodaeth ynghylch trosglwyddo cyfleusterau bowlio o'r Cyngor Sir i Gyngor Cymuned Llandybïe, a bod y Gollyngiad yn ddilys tan ddiwedd y cyfnod etholiadol presennol.

10.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD B. REES pdf eicon PDF 436 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Atgoffwyd y Pwyllgor ei fod, yn y cyfarfod ar 9 Medi 2016 (gweler cofnod 12), wedi caniatáu gollyngiad, tan fis Mai 2017, i'r Cynghorydd B. Rees, a oedd yn aelod o Gyngor Cymuned Llandybïe, siarad ond nid i bleidleisio yng nghyfarfodydd y Cyngor Cymuned mewn perthynas ag unrhyw drafodaeth ynghylch trosglwyddo cyfleusterau tennis o'r Cyngor Sir i'r Cyngor Cymuned.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor, yn dilyn yr uchod, fod cais wedi'i gyflwyno gan y Cynghorydd Rees yn ceisio gollyngiad i siarad ond nid i bleidleisio yng nghyfarfodydd y Cyngor Cymuned mewn perthynas ag unrhyw drafodaeth ynghylch trosglwyddo cyfleusterau bowlio o'r Cyngor Sir i'r Cyngor Cymuned.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r cais gan y Cynghorydd B. Rees, a oedd yn aelod o Gyngor Cymuned Llandybïe, ac a oedd yn gofyn am ganiatáu gollyngiad yn unol â darpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a phleidleisio yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llandybïe mewn perthynas â'r bwriad i drosglwyddo cyfleusterau bowlio o'r Cyngor Sir i'r Cyngor Cymuned.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Rees fuddiant personol yn y mater yn rhinwedd paragraff 10(2)(a)(ix)(ee) o'r Côd Ymddygiad gan ei fod yn Llywydd Clwb Bowlio Llandybïe.

 

Hefyd yr oedd buddiant y Cynghorydd Rees yn rhagfarnol gan y byddai'n rhesymol i aelod o'r cyhoedd oedd yn gwybod y ffeithiau perthnasol ystyried bod y buddiant mor arwyddocaol fel ei fod yn debygol o ddylanwadu ar farn y cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2(d)(f) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i'r Cynghorydd B. Rees SIARAD OND NID I BLEIDLEISIO yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llandybïe mewn perthynas ag unrhyw drafodaeth ynghylch trosglwyddo cyfleusterau bowlio o'r Cyngor Sir i Gyngor Cymuned Llandybïe, a bod y Gollyngiad yn ddilys tan ddiwedd y cyfnod etholiadol presennol.

 

 

11.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD PHILIP NIGEL THOMPSON pdf eicon PDF 438 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Phillip Nigel Thompson o Gyngor Tref Cydweli am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig yng nghyfarfodydd Cyngor Tref Cydweli mewn perthynas â'r canlynol:

 

1)    Ymwneud y Cynghorydd Thompson gyda Chwmni Buddiannau Cymunedol Ynghyd (y mae'n gyfarwyddwr ohono);

2) Ymwneud y Cynghorydd Thompson gyda Hwb Cymunedol Cydweli yn rhinwedd ei aelodaeth o'r Pwyllgor Rheoli.

 

3) Clwb Cinio Cydweli (a oedd yn cael ei gynnal ar y cyd gan y mudiadau uchod).

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud ar sail debyg i'r cais a ganiatawyd yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Ionawr 2017 [gweler cofnod 5] oherwydd bod gan y Cynghorydd Thompson fuddiant personol yn y materion yn rhinwedd y paragraffau canlynol o'r Côd Ymddygiad:-

 

1) 10(2)(a)(ix)(bb) gan fod y mater yn ymwneud â busnes y mae'n dal swydd reoli gyffredinol ynddo, neu'n debygol o effeithio ar y busnes hwnnw;

2) 10(2)(a)(ix)(ee) gan fod y mater yn ymwneud â chymdeithas breifat y mae'n dal swydd reoli gyffredinol ynddi, neu'n debygol o effeithio ar y gymdeithas honno.

 

Roedd buddiant y Cynghorydd Thompson hefyd yn rhagfarnol gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor arwyddocaol fel ei fod yn amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny, roedd y Cynghorydd Thompson wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliad 2 (d)(f)(g) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2(d)(f)(g) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i'r Cynghorydd Philip Nigel Thompson SIARAD OND NID I GYFLWYNO SYLWADAU YSGRIFENEDIG yng nghyfarfodydd Cyngor Tref Cydweli mewn perthynas ag unrhyw drafodaeth ynghylch Cwmni Buddiannau Cymunedol Ynghyd, Hwb Cymunedol Cydweli a Chlwb Cinio Cydweli, a bod y Gollyngiad yn ddilys tan ddiwedd y cyfnod etholiadol presennol.

 

 

12.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN CYNGHORWYR O GYNGOR CYMUNED GORS-LAS pdf eicon PDF 436 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y cais oedd wedi'i gyflwyno gan Glerc Cyngor Cymuned Gors-las ar ran y cynghorwyr canlynol, a oedd yn aelodau o Gyngor Cymuned Gors-las, am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 fel y gallent siarad a phleidleisio yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Gors-las ynghylch eu cysylltiad â'r pedair ysgol yn yr ardal sef:-

Ysgol Maes y Gwendraeth – Y Cynghorydd A.V. Owen;

Ysgol Cefneithin – Y Cynghorydd S.D. Martin;

Ysgol Dre-fach - Y Cynghorwyr D. Price a N. Lewis;

Ysgol Gors-las – Y Cynghorydd J. Price.

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i gyflwyno am fod y pum cynghorydd yn aelodau o gyrff llywodraethu yr ysgolion uchod, neu wedi mynegi dymuniad i fod yn aelodau, ond nad oeddynt wedi'u penodi gan y Cyngor Cymuned, a bod ganddynt felly fuddiant personol mewn materion ynghylch y cyfryw ysgolion o dan 10(2)(a)(ix)(ee) o'r Côd, neu y byddai ganddynt fuddiant personol. Hefyd yr oedd y buddiant hwnnw'n rhagfarnol gan y byddai'n rhesymol i aelod o'r cyhoedd oedd yn gwybod y ffeithiau perthnasol ystyried bod y buddiant mor arwyddocaol fel ei fod yn debygol o ddylanwadu ar farn y Cynghorwyr ynghylch budd y cyhoedd.

Gan fod y buddiant yn barhaus yr oedd yr ymgeiswyr wedi gofyn, petai'r Pwyllgor yn bwriadu caniatáu'r gollyngiad, i'r gollyngiad fod am weddill eu cyfnod gwasanaethu presennol, hynny yw tan yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai 2022.

Yn dilyn trafodaeth fanwl

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliad 2(d) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorwyr A.V. Owen, S.D. Martin, D. Price, N. Lewis a J. Price SIARAD A PHLEIDLEISIO yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Gors-las ynghylch unrhyw drafodaethau am eu swyddogaeth fel llywodraethwyr Ysgol Maes y Gwendraeth, Ysgol Gynradd Cefneithin, Ysgol Gynradd Dre-fach, ac Ysgol Gynradd Gors-las tan ddiwedd y cyfnod etholiadol presennol.

 

13.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN CYNGHORWYR O GYNGOR CYMUNED GORS-LAS pdf eicon PDF 434 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y cais oedd wedi'i gyflwyno gan Glerc Cyngor Cymuned Gors-las, ar ran y cynghorwyr canlynol, am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 fel y gallent siarad a phleidleisio yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Gors-las ynghylch materion oedd yn ymwneud â'r 3 pharc hamdden yr oedd y Cyngor Cymuned yn berchen arnynt ac yn eu cynnal a'u cadw.

 

Parc Cefneithin – Y Cynghorwyr Simon Martin, Terry Jones, David Mervyn Evans, Brian Kirby a Darren Price;

 

Parc Dre-fach – Y Cynghorwyr Wyn Edwards, Clive Green, Anthony Rees, Tina Jukes a Nia Lewis;

 

Parc Gors-las – Y Cynghorwyr Aled Owen a Janice Price.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i gyflwyno am fod gan y 12 cynghorydd fuddiant personol yn y materion hyn o dan baragraff 10(2)(ix)(ee) o'r Côd gan eu bod yn aelodau o Bwyllgorau'r Cymdeithasau Lles lleol oedd yn gysylltiedig â chynnal y parciau hynny. Nid oedd y Cynghorwyr wedi'u penodi i'w rolau ar y pwyllgorau hynny gan y Cyngor Cymuned.

 

Roedd buddiant y Cynghorwyr yn rhagfarnol gan y byddai'n rhesymol i aelod o'r cyhoedd oedd yn gwybod y ffeithiau perthnasol ystyried bod y buddiant mor arwyddocaol fel ei fod yn debygol o ddylanwadu ar farn y cynghorwyr ynghylch budd y cyhoedd.  Er enghraifft, pan mae'r Cyngor Cymuned yn penderfynu a ddylid gwario arian ar y parciau neu beidio, byddai'n rhesymol i aelod o'r cyhoedd ddod i'r casgliad y byddai'r ffaith bod cynghorydd yn aelod o Bwyllgor y Gymdeithas Les berthnasol yn dylanwadu ar ei farn/barn ynghylch a ddylid gwario'r arian ar y parc neu ar ryw fater arall nad oes gan y Gymdeithas gysylltiad ag ef.  Nodwyd nad oedd gan y cynghorwyr fuddiant ariannol uniongyrchol yn eu gwahanol Gymdeithasau Lles.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl

 

PENDERFYNWYD caniatáu gollyngiad tan ddiwedd y cyfnod etholiadol presennol i'r 12 aelod uchod o Gyngor Cymuned Gors-las SIARAD A PHLEIDLEISIO yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Gors-las mewn perthynas ag unrhyw drafodaethau ynghylch y tri pharc hamdden y mae'r Cyngor Cymuned yn berchen arnynt ac yn eu cynnal a'u cadw o dan Reoliad 2(a) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001.