Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr S.L. Davies a P.M. Hughes.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
YMDDIRIEDOLAETH ORIEL MYRDDIN. Cofnodion: Adroddwyd bod cyfnodau swydd y Cynghorwyr T. Davies, A. James a H.I. Jones ar Ymddiriedolaeth Oriel Myrddin i fod i ddod i ben ar 14 Rhagfyr, 2016.
Adroddwyd bod y Gr?p Annibynnol wedi enwebu'r Cynghorwyr A. James a H.I. Jones i gael eu hailbenodi. Roedd y Gr?p Llafur wedi gofyn am i'r Cynghorydd T.Davies gael ei ailbenodi tan yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai 2017 gan nad oedd yn mynd i sefyll i gael ei ail-ethol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
3.1 bod y Cynghorwyr A. James a H.I. Jones yn cael eu hailbenodi yn Ymddiriedolwr Oriel Myrddin am dymor pellach o 4 blynedd, gan fod yn weithredol o 15 Rhagfyr, 2016;
3.2 bod y Cynghorydd T. Davies yn cael ei ailbenodi yn Ymddiriedolwr Oriel Myrddin tan yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai 2017, gan fod yn weithredol o 15 Rhagfyr, 2016. </AI3>
|
|
LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 10FED MAWRTH, 2016. PDF 107 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOLlofnodi cofnodion y cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 10 Mawrth 2016 gan eu bod yn gywir.
|