Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Penodi Aelodau - Dydd Iau, 10fed Mawrth, 2016 2.00 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd A.D.T. Speake.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant.

 

3.

CYNGOR IECHYD CYMUNED HYWEL DDA

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

3.1 penodi'r Cynghorydd R. Thomas i gymryd lle'r Cynghorydd B.A.L. Roberts fel un o dri chynrychiolydd Gr?p Llafur y Cyngor ar Gyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda o 1af Ebrill 2016;

 

3.2 penodi'r Cynghorydd H. Richards i gymryd lle'r Cynghorydd I. Jackson fel un o gynrychiolwyr Gr?p Annibynnol y Cyngor ar Gyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda, a hynny ar unwaith.

 

4.

YMDDIRIEDOLAETH ORIEL MYRDDIN

Cofnodion:

Dywedwyd bod cyfnod y Cynghorwyr S.M. Allen ac I.W. Davies fel ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Oriel Myrddin yn dod i ben ar 22ain Gorffennaf 2016. Dywedwyd bod Arweinydd Gr?p Annibynnol y Cyngor wedi enwebu'r ddau aelod i gael eu hailbenodi.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Cynghorwyr S.M. Allen ac I.W. Davies yn cael eu hailbenodi'n Ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Oriel Myrddin am gyfnod pellach o 4 blynedd gan ddechrau ar 23ain Gorffennaf 2016.

 

5.

PWYLLGOR YSGOLORIAETH THOMAS AC ELIZABETH WILLIAMS

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Cynghorydd R. Thomas yn cael ei benodi i gymryd lle'r Cynghorydd P.M. Jones yn aelod o Bwyllgor Ysgoloriaeth Thomas ac Elizabeth Williams.

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 366 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 14eg Hydref 2015 gan eu bod yn gywir.