Agenda a Chofnodion

Is-Bwyllgor Trwyddedu B - Dydd Mawrth, 18fed Mehefin, 2019 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

2.

CAIS AM ADOLYGU TRWYDDED SAFLE - GREENBRIDGE INN, PENTYWYN, SIR GAERFYRDDIN, SA33 4PL pdf eicon PDF 243 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol y wybodaeth ddiweddaraf i bawb a oedd yn bresennol am y weithdrefn ar gyfer y cyfarfod a dywedodd wrth yr Is-bwyllgor fod cais wedi dod i law gan Heddlu Dyfed-Powys am adolygu trwydded safle ar gyfer Greenbridge Inn, Pentywyn, Sir Gaerfyrddin, yn dilyn ymweliad â'r safle gan yr Heddlu a Swyddog Trwyddedu'r Cyngor, yn ogystal â logiau gwybodaeth eraill a gyflwynwyd, a oedd wedi nodi diffyg rheolaeth a threfn ar y safle.

 

Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:-

 

Atodiad A - gwybodaeth gefndir am yr adolygiad a chopi o'r cais;

Atodiad B – sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu.

 

Cyfeiriodd Cynrychiolydd Awdurdod yr Heddlu at ei sylwadau, fel y nodwyd yn Atodiad A i'r adroddiad, gan ddweud, yn dilyn hynny, ei fod wedi cyfarfod â deiliad y drwydded safle a'i ddwy ferch i drafod y cais. O ganlyniad i'r ymweliad hwnnw, cytunodd Mr. Owen i roi'r gorau i fod yn Oruchwylydd Penodedig y Safle a byddai'r cyfrifoldeb hwn yn cael ei drosglwyddo i un o'i ferched. Roedd Mr. Owen a'i ferched hefyd wedi cytuno i dderbyn y 22 o amodau ychwanegol a restrir yn Atodiad A, yn amodol ar ddiwygio amod 17, yn unol â'u cais, i'r cynllun Her 25. Awgrymwyd y dylid gosod y system teledu cylch cyfyng erbyn 31 Gorffennaf 2019. Ers hynny roedd y ddwy ferch wedi ymgymryd â chyrsiau i ddeiliaid trwydded.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon oedd yn bresennol holi cynrychiolydd Awdurdod yr Heddlu ynghylch ei sylwadau.

 

Cyfeiriodd Cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at ei sylwadau, fel y nodwyd yn Atodiad B i'r adroddiad a dywedodd fod yr Awdurdod Trwyddedu'n cefnogi'r mesurau a gynigiwyd gan yr heddlu, a bod yr Awdurdod yn ystyried bod y mesurau hyn yn briodol ac yn gymesur.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon oedd yn bresennol holi cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch ei sylwadau.

 

Mewn ymateb i'r sylwadau a ddaeth i law, cadarnhaodd Ann Marie Owen (ar ran deiliad y drwydded) y cytunwyd ar y 22 o amodau ychwanegol y gofynnwyd amdanynt gan Awdurdod yr Heddlu, yn amodol ar ddiwygio amod 17.

 

Ar hynny

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gynnal sesiwn breifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16, Atodlen 12 i'r Ddeddf Llywodraeth Leol.

 

Ar ôl y toriad ailymgynullodd yr Is-bwyllgor i gyhoeddi ei benderfyniad ac ar ôl ystyried y paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu'r Awdurdod Trwyddedu a'r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref

 

PENDERFYNWYD:-

 

2.1bod Mr Huw Leslie Robert Owen yn cael ei ddiswyddo fel goruchwylydd penodedig y safle yn Greenbridge Inn, Pentywyn, o 31 Gorffennaf 2019;

2.2bod yr amodau trwydded ychwanegol 1-22 y gofynnwyd amdanynt gan yr Heddlu ac y cytunwyd arnynt gan ddeiliad trwydded y safle yn cael eu hychwanegu at y drwydded ar unwaith, ond na fydd yr amodau ynghylch gosod system teledu cylch cyfyng ar y safle yn cael eu gweithredu tan 31 Gorffennaf 2019.

RHESYMAU

Wrth benderfynu ar y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.

3.

DEDDF TRWYDDEDU 2003 CAIS YN YMWNEUD Â DOSBARTHIAD FFILM pdf eicon PDF 282 KB

Cofnodion:

Bu'r Is-bwyllgor yn ystyried cais a ddaeth i law gan Mrs Mair Craig, ar ran Ystafelloedd Darllen Llansadwrn, yn gofyn am argymhelliad ynghylch caniatáu i blant wylio tair ffilm fer a oedd yn ddiddosbarth yn flaenorol.

 

Roedd yr ymgeisydd yn bwriadu arddangos y tair ffilm, "Heartstrings", "Neckface" a "Iawn Dol" cyn dangos ffilm dystysgrifedig yn y sinema gymunedol.  Yn ogystal, roedd y safle'n bwriadu gweithredu'r sinema gymunedol o dan yr esemptiadau safle cymunedol a nodir ym mharagraff 6A o Atodlen 1 i Ddeddf Trwyddedu 2003.

 

Nododd yr Is-bwyllgor y dylai'r ffilmiau a ddangosir gael argymhelliad ynghylch caniatáu i blant eu gwylio, a roddwyd naill ai gan Gorff Bwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain neu gan yr Awdurdod Trwyddedu perthnasol, a hynny er mwyn bodloni gofynion Deddf Trwyddedu 2003. 

 

Er mwyn galluogi'r Is-bwyllgor i wneud yr argymhellion gofynnol ynghylch caniatáu i blant wylio'r ffilmiau, cafodd gyfle i wylio'r tair ffilm fer gan roi ystyriaeth i'r canllawiau ynghylch y graddau oedran a luniwyd gan Fwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain.

 

Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a roddwyd gerbron,

 

PENDERFYNODD yr Is-bwyllgor ar y canlynol

 

3.1 byddai “Heartstrings” yn cael ei hystyried yn ffilm sy'n addas i bob oed (U);

3.2 byddai “Neckface” yn cael ei hystyried yn ffilm sy'n addas i bobl dros 15 oed;

3.3 byddai “Iawn Dol” yn cael ei hystyried yn ffilm sy'n addas i bobl dros 18 oed.