Agenda a Chofnodion

Is-Bwyllgor Trwyddedu B - Dydd Mawrth, 26ain Mawrth, 2019 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

2.

CAIS AM DRWYDDED PERSONOL - SARAH PEARCE, FLAT 2. 2-4 NORTON ROAD, PENYGROES, LLANELLI SA14 7RS. pdf eicon PDF 133 KB

Cofnodion:

Bu i'r Cyfreithiwr Cynorthwyol friffio pawb oedd yn bresennol ar y weithdrefn ar gyfer y cyfarfod a rhoddodd wybod i'r Is-bwyllgor fod cais wedi dod i law am roi trwydded bersonol i Miss Sarah Pearce o Fflat 2, 2-4 Heol Norton, Pen-y-groes, Llanelli, SA14 7RS.

 

Gofynnwydi'r Pwyllgor ystyried cais gan Miss Sarah Pearce am drwydded bersonol, o dan Adran 117 o Ddeddf Trwyddedu 2003.

 

Roedd yr heddlu wedi gwrthwynebu'r cais o dan adran 120(5) o Ddeddf Trwyddedu 2003, gan fod yr ymgeisydd wedi cael ei dyfarnu'n euog o "drosedd berthnasol" a restrir yn Atodlen 4 o'r Ddeddf, ac roedd yr Heddlu o'r farn y byddai caniatáu'r cais yn tanseilio'r Amcan Atal Troseddau a nodir yn Neddf 2003.

 

Cafodd yr Is-bwyllgor sylwadau gan gynrychiolydd yr Heddlu ynghylch y collfarnau, a chafodd yr ymgeisydd a'r Is-bwyllgor gyfle i ofyn cwestiynau am dystiolaeth cynrychiolydd yr Heddlu.

 

Bu i'r ymgeisydd, a gefnogwyd gan ei mam, annerch yr Is-bwyllgor a siarad o blaid ei chais, a rhoddwyd cyfle i'r Is-bwyllgor a'r Heddlu gwestiynu'r dystiolaeth a ddarparwyd. Bu i'r ymgeisydd hefyd gyflwyno dau sylw ysgrifenedig a oedd yn cefnogi ei chais.

 

Ar hynny

 

PENDERFYNODD yr Is-bwyllgor YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd yr Is-bwyllgor i gyhoeddi ei benderfyniad, ac, ar ôl ystyried y paragraffau priodol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu yr Awdurdod Trwyddedu:

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod cais Miss Pearce am drwydded bersonol o dan Ddeddf Trwyddedu 2003 yn cael ei wrthod.

 

Rheswm

 

Nid oedd y Pwyllgor, o ystyried y dystiolaeth a'r sylwadau a gyflwynwyd, yn argyhoeddedig fod Miss Pearce yn berson addas a phriodol i ddal trwydded, ac roedd o'r farn y byddai rhoi'r drwydded yn debygol o arwain at drosedd ac anhrefn ac yn tanseilio Amcan Atal Troseddau Deddf Trwyddedu 2003.