Agenda a Chofnodion

Is-Bwyllgor Trwyddedu B - Dydd Mawrth, 31ain Gorffennaf, 2018 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

 

2.

HYSBYSIAD DIGWYDDIAD DROS DRO - DERWYDD MANSION, DERWYDD ROAD, RHYDAMAN, SIR GAR, SA18 3LQ pdf eicon PDF 158 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn ei gyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 26 Mehefin 2018 cafodd yr Is-bwyllgor y 3 Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro, ond er mwyn casglu rhagor o dystiolaeth, penderfynwyd gohirio gwneud penderfyniad ynghylch y 3 Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro tan y cyfarfod hwn.

 

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb oedd yn bresennol am y weithdrefn ar gyfer y cyfarfod a dywedodd wrth yr Is-bwyllgor fod hysbysiad gwrthwynebu wedi cael ei gyflwyno gan Adain Iechyd y Cyhoedd Cyngor Sir Caerfyrddin mewn perthynas â'r 3 Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro a gyflwynwyd gan Mrs Maria Dallavalle o La Scala, 15 Rhodfa Bryn Mawr, Rhydaman, SA18 2DA.

 

Roedd yr Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro yn berthnasol i werthu alcohol trwy fanwerthu, darparu Adloniant Rheoledig a Lluniaeth Gyda'r Hwyr ar y safle ar y diwrnodau a'r amserau canlynol:-

 

Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro 1 –
Dydd Sadwrn, 25 Awst 2018 – Y Lawnt Uchaf, Plasty Derwydd

·         Cyflenwi Alcohol, Adloniant Rheoledig a Lluniaeth hwyrnos 12:00-00:30


 

Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro 2 –
Dydd Sadwrn, 1 Medi 2018 – Y Lawnt Uchaf, Plasty Derwydd.

·         Cyflenwi Alcohol, Adloniant Rheoledig a Lluniaeth hwyrnos 12:00-00:30

 

Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro 3 –
Dydd Sadwrn, 3 Tachwedd 2018 – Y Neuadd Fawr, Plasty Derwydd.

·         Cyflenwi Alcohol, Adloniant Rheoledig a Lluniaeth hwyrnos 12:00-00:30

 

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybod i'r Pwyllgor fod Adain Iechyd y Cyhoedd wedi gwrthod pob un o'r 3 Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro ar sail niwsans s?n yn dilyn digwyddiadau eraill a gynhaliwyd ar y safle.

 

Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth i'r dogfennau a gyflwynwyd, a'r holl sylwadau ysgrifenedig perthnasol a gafwyd cyn y gwrandawiad gan y partïon.

 

Cafodd yr Is-bwyllgor sylwadau llafar gan Ymarferydd Iechyd yr Amgylchedd:-

 

  • Rhoddodd yr Ymarferydd Iechyd yr Amgylchedd wybod i'r Is-bwyllgor ei fod wedi gwrthod yr Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro oherwydd hanes blaenorol ynghylch niwsans s?n yn ystod digwyddiadau ym Mhlas Derwydd.

 

  • Ers y cyfarfod diwethaf, rhoddodd yr Ymarferydd Iechyd yr Amgylchedd wybod ei fod wedi cwrdd â Mr Ian Matthews, sef Ymgynghorydd Acwstig Mrs Dallavalle, a oedd wedi nodi, er nad oedd lefelau s?n penodol yn bodoli ar gyfer digwyddiadau o'r fath, y cytunwyd y byddai lefel bwrpasol yn cael ei phennu ar gyfer y math hwn o ddigwyddiad. Cydnabuwyd y byddai angen arbrofi ychydig o bosibl er mwyn dod o hyd i lefel dderbyniol y cytunir arni.

 

  • Cafodd yr Is-bwyllgor gyfle i ystyried tystiolaeth ychwanegol a ddosbarthwyd ar ddechrau'r cyfarfod. Roedd y dystiolaeth yn cynnwys graffiau oedd yn dangos lefel y s?n a gofnodwyd ar 2 Mehefin 2018 am 22:57 ac ar 28 Gorffennaf 2018 am 21:11. Roedd yn amlwg bod y graff cofnodi s?n ar gyfer 28 Gorffennaf yn dangos bod gostyngiad sylweddol yn s?n y curiad/bas ers y lefel ar 2 Mehefin.

 

  • Tynnodd Rheolwr Iechyd yr Amgylchedd sylw'r Is-bwyllgor at y ffaith ei bod wedi bod yn anodd cael recordiad s?n 'clir' oherwydd y tywydd gwael, ond er gwaethaf hyn, roedd lefelau'r s?n ar y graff ar gyfer 28 Gorffennaf yn dal i ddangos gostyngiad sylweddol  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.