Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
PENODI CADEIRYDD AR GYFER Y CYFARFOD Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi'r Cynghorydd H. I. Jones yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.
|
|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gohiriwyd cyfarfod yr Is-bwyllgor yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin am 9:30am ac ailddechreuwyd y cyfarfod ar y safle am 10.10am, er mwyn gweld y safle lle cafwyd cyfle i weld y cyfleusterau mewnol ac allanol, gan gynnwys lleoliad y babell fawr ac eiddo'r gwrthwynebwyr. Ar ôl i'r ymweliad â'r safle ddod i ben, ailymgynullodd yr Is-bwyllgor yn y Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin am 11.50am i ystyried y ceisiadau.
Soniodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth bawb a oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod a rhoddodd wybod i'r Is-bwyllgor fod Adain Iechyd y Cyhoedd Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cyflwyno hysbysiad gwrthwynebu mewn perthynas â 4 Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro a oedd wedi'u cyflwyno gan Mrs Maria Dallavalle, La Scala, 15 Rhodfa Bryn Mawr, Rhydaman, SA18 2DA.
Roedd yr Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro yn berthnasol i werthu alcohol trwy fanwerthu, darparu adloniant rheoledig a lluniaeth gyda'r hwyr ar y safle ar y diwrnodau a'r amserau canlynol:-
Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro 1
– · Cyflenwi Alcohol, Adloniant Rheoledig a Lluniaeth gyda'r Hwyr 12:00-00:30.
Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro 2 – · Cyflenwi Alcohol, Adloniant Rheoledig a Lluniaeth gyda'r Hwyr 12:00-00:30.
Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro 3 – · Cyflenwi Alcohol, Adloniant Rheoledig a Lluniaeth gyda'r Hwyr 12:00-00:30.
Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro 4 – · Cyflenwi Alcohol, Adloniant Rheoledig a Lluniaeth gyda'r Hwyr 12:00-00:30.
Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth i'r dogfennau a gyflwynwyd, a'r holl sylwadau ysgrifenedig perthnasol a ddaeth i law cyn y gwrandawiad gan y partïon.
Hefyd, cafodd yr Is-bwyllgor sylwadau llafar gan yr Ymarferwyr Iechyd yr Amgylchedd:-
Nododd yr Ymarferydd Iechyd yr Amgylchedd ei fod wedi gwrthwynebu'r Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro oherwydd hanes blaenorol ynghylch niwsans s?n yn ystod digwyddiadau ym Mhlasty Derwydd, yn y drefn ganlynol:-
|