Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
CAIS I AMRYWIO TRWYDDED SAFLE, STRADEY PARK HOTEL, FFWRNES, LLANELLI, SA15 4HA Cofnodion: Wedi i'r Is-bwyllgor ymgynnull am 10.00 a.m. yn Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Caerfyrddin, gohiriwyd y cyfarfod am 10.10 a.m. er mwyn cynnal ymweliad safle â Gwesty Parc y Strade, Ffwrnes, Llanelli, mewn perthynas â chais a gafwyd am amrywio Trwydded Safle'r Gwesty. Cyrhaeddodd yr Is-bwyllgor y safle am 11.00 a.m. a gwelsant lolfa'r Gwesty ar ben y to, sef y rhan hwnnw o'r safle a fyddai'n destun y cais am amrywio'r drwydded. Gwelsant hefyd o Falconi'r Gwesty leoliad eiddo'r gwrthwynebwyr, ac wedi hynny aethant yn eu blaenau i'r briffordd o flaen yr eiddo yn ‘The Dell’ i weld pa mor agos oedd y datblygiad hwnnw i'r gwesty. Wedi i'r ymweliad â'r safle ddod i ben am 11.20 a.m., ailymgynullodd yr Is-bwyllgor yn Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Caerfyrddin am 1.30 p.m. i ystyried y cais.
Soniodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth bawb oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod, gan ddweud wrth yr Is-bwyllgor fod cais wedi dod i law gan Gryphon Leisure am amrywio'r drwydded safle ar gyfer Gwesty Parc y Strade, Ffwrnes, Llanelli fel a ganlyn:-
“Atodiad 3 - 1. Dim ond preswylwyr y gwesty fydd yn cael prynu alcohol yn y lolfa ben to”.
Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol fod natur yr amrywiad yn benodol i lolfa ben to'r Gwesty yn unig, ac felly byddai amrywio'r drwydded yn galluogi pobl nad ydynt yn breswylwyr i brynu alcohol yn y lolfa. Pe bai'r cais yn cael ei ganiatáu, byddai unrhyw amodau ar yr amrywiad hwnnw ond yn gallu cael eu gwneud ar gyfer y lolfa honno, ac nid ar gyfer gweithrediad cyffredinol y gwesty neu mewn perthynas â Thrwydded Lluniaeth Hwyrnos.
Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:-
Atodiad A – copi o'r cais Atodiad B – copi o'r drwydded safle bresennol Atodiad C – sylwadau a gyflwynwyd gan yr Awdurdod Trwyddedu Atodiad D – sylwadau a gyflwynwyd gan Wasanaethau Iechyd y Cyhoedd Atodiad E – sylwadau a gyflwynwyd gan bobl eraill.
Yn ychwanegol at y dogfennau uchod cafodd yr Is-bwyllgor, gyda chaniatâd yr holl bartïon, y dogfennau ychwanegol canlynol a gohiriwyd y cyfarfod am 10 munud i roi cyfle i'r holl bartïon ddarllen y deunydd:- · Cynllun yn nodi lleoliad Gwesty Parc y Strade ac eiddo'r gwrthwynebwyr · Nodyn yn dwyn y dyddiad 20 Hydref oddi wrth Gryphon Leisure mewn ymateb i'r sylwadau a gafwyd · Llythyr yn dwyn y dyddiad 23 Tachwedd 2017 oddi wrth Mr E. Jones, Cyngor Sir Caerfyrddin at Gryphon Leisure · Llythyr yn dwyn y dyddiad 23 Tachwedd 2017 oddi wrth Mr A. Morgan, Cyngor Sir Caerfyrddin at Gryphon Leisure · Neges e-bost yn dwyn y dyddiad 28Tachwedd oddi wrth Mr T Byrne, Gryphon Leisure at Is-adran Drwyddedu Cyngor Sir Caerfyrddin · Neges e-bost yn dwyn y dyddiad 27 Tachwedd 2017 oddi wrth Mr Morris at uned diogelu'r cyhoedd Cyngor Sir Caerfyrddin · Llythyr yn dwyn y dyddiad 28 Tachwedd 2017 oddi wrth Nia Griffith AS. Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at ei sylwadau, fel y nodwyd yn Atodiad C i'r ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2. |