Agenda a Chofnodion

Is-Bwyllgor Trwyddedu A - Dydd Mawrth, 11eg Hydref, 2016 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd dim buddiannau yn y cyfarfod.

2.

CAIS I AMRYWIO TRWYDDED SAFLE , THE SQUARE, 3 CROSS INN BUILDINGS, STRYD Y GWYNT, RHYDAMAN, SA18 3DN pdf eicon PDF 131 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod, a hysbysodd yr Is-bwyllgor fod cais wedi cael ei gyflwyno gan Mr M Coelho am amrywio'r drwydded safle ar gyfer The Square, 3 Adeiladau'r Cross Inn, Stryd y Gwynt, Rhydaman i ganiatáu:

 

Cyflenwi Alcohol:

Dydd Gwener a Dydd Sadwrn, Dydd Sul Gwyliau Banc, Noswyl Nadolig a G?yl San Steffan

10:00 – 03:00

Cerddoriaeth a recordiwyd

Dydd Gwener a Dydd Sadwrn, Dydd Sul Gwyliau Banc, Noswyl Nadolig a G?yl San Steffan

 

Nos Galan

10:00 – 03:00

 

 

 

 

10:00 – 05:00

 

Oriau Agor:

Dydd Gwener a Dydd Sadwrn, Dydd Sul Gwyliau Banc, Noswyl Nadolig a G?yl San Steffan

10:00 – 03:30

 

Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:

·        Atodiad A – copi o'r cais

·        Atodiad B - copi o'r drwydded safle bresennol

·        Atodiad C - sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu

·        Atodiad D - sylwadau Heddlu Dyfed-Powys

·        Atodiad E - sylwadau Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd

·        Atodiad D – sylwadau a ddaethai i law gan bobl eraill oedd yn gwrthwynebu'r cais

 

Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at ei sylwadau, fel y nodwyd yn Atodiad C i'r adroddiad, a dywedodd, ar ôl cyhoeddi'r adroddiad, fod gohebiaeth wedi dod i law gan Heddlu Dyfed-Powys a Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd yn tynnu eu gwrthwynebiadau yn ôl, a hynny ar ôl dod i gytundeb â'r ymgeisydd ynghylch gosod amodau diwygiedig, yr oedd copïau o'r rhain wedi'u dosbarthu yn y cyfarfod. Hefyd, dosbarthwyd e-bost dyddiedig 19eg Medi 2016 gan yr ymgeisydd a oedd yn egluro nifer o faterion mewn perthynas â chapasiti The Square, y drws cefn a gosod system teledu cylch cyfyng.

 

Gan ystyried y cytundeb a wnaed rhwng yr ymgeisydd, yr Heddlu a Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd ynghylch yr amodau diwygiedig, roedd yr Awdurdod Trwyddedu o'r farn y byddai'n briodol ychwanegu'r amodau hynny at y drwydded newydd, petai'r Is-bwyllgor yn penderfynu caniatáu'r cais am amrywio'r drwydded.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon a oedd yn bresennol holi cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch ei sylwadau.

 

Cafwyd sylw gan wrthwynebwr ar ran pobl leol sy'n byw yng nghyffiniau The Square ynghylch y s?n sy'n dod o'r safle ar hyn o bryd a'r effaith bosibl y gallai caniatáu'r cais am amrywio'r drwydded er mwyn agor am awr arall ei chael ar eu hamwynder. Mynegwyd pryder hefyd ynghylch a oedd y safle yn dod yn glwb nos, yn enwedig o ystyried y ffaith fod cais (cynllunio) blaenorol am glwb nos yn yr ardal wedi cael ei wrthod. I gloi, rhoddwyd gwybod i'r Is-bwyllgor fod y rhan fwyaf o'r safleoedd eraill yn yr ardal yn cau am 1.00am.

 

Rhoddwyd cyfle i bawb oedd yn bresennol holi'r gwrthwynebwr ynghylch ei sylwadau.

 

Cafwyd sylw gan yr ymgeisydd o blaid ei gais. Cyfeiriodd at bryderon a fynegwyd ynghylch y drws cefn a chadarnhaodd fod y rhan fwyaf o'r cwsmeriaid yn gadael y safle drwy'r drws ffrynt. Mewn perthynas â'r pryderon ynghylch s?n, cadarnhaodd nad oedd wedi cael unrhyw gwynion gan naill ai'r Cyngor neu'r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.