Agenda a Chofnodion

Is-Bwyllgor Trwyddedu A - Dydd Mawrth, 26ain Chwefror, 2019 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos S Jenkins  01267 224088

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

2.

CAIS AM DRWYDDED PERSONOL SARAH PEARCE, FLAT 2. 2-4 NORTON ROAD, PENYGROES, LLANELLI SA14 7RS pdf eicon PDF 125 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Pwyllgor ystyried cais gan Ms Sarah Pearce am drwydded bersonol, o dan Adran 117 o Ddeddf Trwyddedu 2003.

 

Mae'r heddlu wedi gwrthwynebu'r cais o dan adran 120(5) o Ddeddf Trwyddedu 2003, gan fod yr ymgeisydd wedi cael ei dyfarnu'n euog o "drosedd berthnasol" a restrir yn Atodlen 4 o'r Ddeddf, gan ei fod o'r farn y byddai caniatáu'r cais yn tanseilio'r Amcan Atal Troseddau a nodir yn Neddf 2003.

 

Nid oedd yr ymgeisydd wedi dod i'r cyfarfod, nac wedi rhoi unrhyw esboniad am ei habsenoldeb.

Ar ôl trafodaeth:

 

PENDERFYNODD yr Is-bwyllgor arfer ei bwerau dan adran 11 o Reoliadau (Gwrandawiadau) 2005 Deddf Trwyddedu 2003 i ymestyn am 6 wythnos arall y terfyn amser o ran gwrandawiad y cais hwn, er mwyn gohirio ystyried y cais tan gyfarfod nesaf yr is-bwyllgor.

 

RHESYMAU

 

Roedd yr aelodau o'r farn bod ymestyn y terfyn amser a gohirio'r mater er budd y cyhoedd, er mwyn rhoi cyfle arall i'r Ymgeisydd fynychu'r cyfarfod a chyflwyno sylwadau o blaid ei chais.