Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

2.

CAIS I AMRYWIO TRWYDDED SAFLE - TAFARN Y PELICAN, STRYD Y SYCAMORWYDDEN, CASTELL NEWYDD EMLYN. pdf eicon PDF 129 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Pen-swyddog Trwyddedu at y cais gan Mr Cefin Llewelyn Evans am Amrywio Trwydded Safle ar gyfer Tafarn y Pelican, Stryd y Sycamorwydden, Castellnewydd Emlyn a dywedodd wrth yr Is-bwyllgor nad oedd yr ymgeisydd na'r ddau aelod o'r cyhoedd a oedd wedi cyflwyno gwrthwynebiadau wedi rhoi'r pum niwrnod o rybudd sydd ei angen eu bod am fod yn bresennol yn y gwrandawiad er bod pob un wedi mynegi dymuniad i wneud hynny. Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol y gallai'r Is-bwyllgor naill ai ystyried a phenderfynu ar y cais yn absenoldeb y partïon dan sylw, er nad oedd yn argymell hyn gan y gallai unrhyw benderfyniad gael ei herio gan unrhyw barti anfodlon, neu gallai ohirio ystyried y cais tan gyfarfod o'r Is-bwyllgor yn y dyfodol er mwyn i'r ymgeisydd a'r gwrthwynebwyr fod yn bresennol a chyflwyno sylwadau ynghylch y cais.

          

           PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried y cais am Amrywio Trwydded Safle Tafarn y Pelican, Stryd y Sycamorwydden, Castellnewydd Emlyn tan gyfarfod arall o'r Is-bwyllgor Trwyddedu.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau