Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

2.

CAIS AM DRWYDDED SAFLE - THE GA CAFE, GELLI AUR COUNTRY PARK, GOLDEN GROVE, CARMARTHEN, SA32 8LR. pdf eicon PDF 133 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth yr Is-bwyllgor mai dim ond yr apelydd a Mr Thomas Lloyd, sef un o'r Ymddiriedolwyr, oedd yn bresennol ac nad oedd unrhyw wrthwynebwyr na chynrychiolwyr yr Awdurdodau Cyfrifol yn bresennol. Aeth ati i egluro trefn y cyfarfod i bawb a oedd yn bresennol.

Bu'r Is-bwyllgor yn ystyried cais gan Ymddiriedolaeth Gelli Aur am drwydded safle ar gyfer GA Café, Parc Gwledig Gelli Aur, Gelli Aur, Caerfyrddin fel a ganlyn: -

Cais i Ganiatáu:-

Cyflenwi Alcohol, Dydd Llun i ddydd Sadwrn 11:00 – 23:00, Dydd Sul 11:00-22:00,

Nos Galan 10:00-01:00     

 

Cerddoriaeth Fyw, Dydd Mawrth i ddydd Sadwrn 14:00 – 23:00, Dydd Sul 10:00-17:00,

Nos Galan 10:00-01:00

 

Cerddoriaeth a Recordiwyd, Dydd Llun i ddydd Sadwrn 10:00 – 23:00, Dydd Sul 10:00-22:00,

Nos Galan 10:00-01:00

 

Oriau Agor, Dydd Llun i ddydd Sadwrn 10:00 – 23:30, Dydd Sul 10:00-22:30,

Nos Galan 10:00-01:00

 

Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:-

·        Atodiad A - copi o'r cais gwreiddiol a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd;

·        Atodiad B - sylwadau a gyflwynwyd gan Heddlu Dyfed-Powys ac a gytunwyd gan yr ymgeisydd - sylwadau a chytundeb yn atodedig;

·        Atodiad C – sylwadau a gyflwynwyd gan bobl eraill.

Nid oedd yr Awdurdodau Cyfrifol eraill wedi gwneud sylwadau mewn perthynas â'r cais.

 

Cyflwynwyd i'r Is-bwyllgor gopi o fap yn nodi lleoliad y safle ac eiddo'r gwrthwynebwyr. 

Dywedwyd wrth yr Is-bwyllgor fod Heddlu Dyfed-Powys wedi cyflwyno sylwadau ynghylch y cais, ond bod y naill ochr a'r llall wedi dod i gytundeb ers hynny. Hefyd roedd sylwadau wedi cael eu gwneud gan drigolion lleol a oedd yn gwrthod y cais, a nodwyd yn Atodiad C.

Ar hynny, cafodd yr Is-bwyllgor a'r ymgeisydd gyfle i ofyn cwestiynau. 

Yna anerchodd Mr Lloyd a'r ymgeisydd yr Is-bwyllgor gan ddweud:-

 

·       Ni fydd yr holl elfennau y gofynnwyd amdanynt yn y cais yn cael eu cyflwyno ar unwaith. Fodd bynnag, fe'u cynghorwyd i wneud cais am drwydded llawn, er mwyn sicrhau y bydd y caniatâd am yr amrywiol elfennau yn barod yn ôl yr angen;

·       O ran y pryderon ynghylch niwsans s?n, rhoddwyd sicrwydd na fydd y gerddoriaeth yn uchel nac yn gyson. Byddai'n cael ei defnyddio ar gyfer priodasau achlysurol yn y dyfodol ac ar gyfer telynor/es ar ddydd Sul;

·       Bwriedir i Gelli Aur fod yn ganolfan foethus ar gyfer y celfyddydau a byddai unrhyw gerddoriaeth yn gerddoriaeth swynol y delyn;

·       Mae angen cyffredinol yn yr ardal am le sy'n addas i blant, lle gall teuluoedd fynd i gael diwrnod allan.

 

Gofynnodd yr Is-bwyllgor gwestiynau ynghylch y dystiolaeth ac ar hynny

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i'r Ddeddf Llywodraeth Leol.

 

Ar ôl y toriad ailymgynullodd yr Is-bwyllgor i gyhoeddi ei benderfyniad ac ar ôl ystyried y paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu yr Awdurdod Trwyddedu a'r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref

 

PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a oedd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau