Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth yr Is-bwyllgor mai dim ond yr apelydd a Mr Thomas Lloyd, sef un o'r Ymddiriedolwyr, oedd yn bresennol ac nad oedd unrhyw wrthwynebwyr na chynrychiolwyr yr Awdurdodau Cyfrifol yn bresennol. Aeth ati i egluro trefn y cyfarfod i bawb a oedd yn bresennol. Bu'r Is-bwyllgor yn ystyried cais gan Ymddiriedolaeth Gelli Aur am drwydded safle ar gyfer GA Café, Parc Gwledig Gelli Aur, Gelli Aur, Caerfyrddin fel a ganlyn: - Cais i Ganiatáu:- Cyflenwi Alcohol, Dydd Llun i ddydd Sadwrn 11:00 – 23:00, Dydd Sul 11:00-22:00, Nos Galan 10:00-01:00
Cerddoriaeth Fyw, Dydd Mawrth i ddydd Sadwrn 14:00 – 23:00, Dydd Sul 10:00-17:00, Nos Galan 10:00-01:00
Cerddoriaeth a Recordiwyd, Dydd Llun i ddydd Sadwrn 10:00 – 23:00, Dydd Sul 10:00-22:00, Nos Galan 10:00-01:00
Oriau Agor, Dydd Llun i ddydd Sadwrn 10:00 – 23:30, Dydd Sul 10:00-22:30, Nos Galan 10:00-01:00
Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:- · Atodiad A - copi o'r cais gwreiddiol a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd; · Atodiad B - sylwadau a gyflwynwyd gan Heddlu Dyfed-Powys ac a gytunwyd gan yr ymgeisydd - sylwadau a chytundeb yn atodedig; · Atodiad C – sylwadau a gyflwynwyd gan bobl eraill. Nid oedd yr Awdurdodau Cyfrifol eraill wedi gwneud sylwadau mewn perthynas â'r cais.
Cyflwynwyd i'r Is-bwyllgor gopi o fap yn nodi lleoliad y safle ac eiddo'r gwrthwynebwyr. Dywedwyd wrth yr Is-bwyllgor fod Heddlu Dyfed-Powys wedi cyflwyno sylwadau ynghylch y cais, ond bod y naill ochr a'r llall wedi dod i gytundeb ers hynny. Hefyd roedd sylwadau wedi cael eu gwneud gan drigolion lleol a oedd yn gwrthod y cais, a nodwyd yn Atodiad C. Ar hynny, cafodd yr Is-bwyllgor a'r ymgeisydd gyfle i ofyn cwestiynau. Yna anerchodd Mr Lloyd a'r ymgeisydd yr Is-bwyllgor gan ddweud:-
· Ni fydd yr holl elfennau y gofynnwyd amdanynt yn y cais yn cael eu cyflwyno ar unwaith. Fodd bynnag, fe'u cynghorwyd i wneud cais am drwydded llawn, er mwyn sicrhau y bydd y caniatâd am yr amrywiol elfennau yn barod yn ôl yr angen; · O ran y pryderon ynghylch niwsans s?n, rhoddwyd sicrwydd na fydd y gerddoriaeth yn uchel nac yn gyson. Byddai'n cael ei defnyddio ar gyfer priodasau achlysurol yn y dyfodol ac ar gyfer telynor/es ar ddydd Sul; · Bwriedir i Gelli Aur fod yn ganolfan foethus ar gyfer y celfyddydau a byddai unrhyw gerddoriaeth yn gerddoriaeth swynol y delyn; · Mae angen cyffredinol yn yr ardal am le sy'n addas i blant, lle gall teuluoedd fynd i gael diwrnod allan.
Gofynnodd yr Is-bwyllgor gwestiynau ynghylch y dystiolaeth ac ar hynny
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i'r Ddeddf Llywodraeth Leol.
Ar ôl y toriad ailymgynullodd yr Is-bwyllgor i gyhoeddi ei benderfyniad ac ar ôl ystyried y paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu yr Awdurdod Trwyddedu a'r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref
PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a oedd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2. |