Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Michelle Evans Thomas 01267 224470
Rhif | eitem | ||||
---|---|---|---|---|---|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiannau personol. |
|||||
CAIS AM DRWYDDED SAFLE - ETTO'S COFFEE SHOP, 25 HIGH STREET, LLANDYBIE, SA18 3HX PDF 123 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Cyfreithiwr Cynorthwyol wybodaeth i bawb oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod, a hysbysodd yr Is-bwyllgor fod cais wedi dod i law am Drwydded Safle ar gyfer Etto's Coffee Shop, 25 Stryd Fawr, Llandybie, SA18 3HX i ganiatáu'r canlynol:
Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad: · Atodiad A – Copi o'r cais · Atodiad B – Sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu · Atodiad C – Sylwadau a gyflwynwyd gan Heddlu Dyfed-Powys · Atodiad D - Sylwadau gan bobl eraill
Yn ogystal â'r uchod, cafodd yr Is-bwyllgor, yn dilyn cytundeb yr holl bartïon oedd yn bresennol, y dogfennau ychwanegol canlynol:
· Cynllun yn dangos lleoliad y safle · Gohebiaeth gan Heddlu Dyfed-Powys yn tynnu ei wrthwynebiadau yn ôl ar ôl dod i gytundeb â'r ymgeisydd ynghylch cynnwys yr 18 o amodau a awgrymwyd ar y Drwydded, pe caniateir. · Gohebiaeth gan yr ymgeisydd dyddiedig 17 Chwefror, yn derbyn yr 18 o amodau a awgrymwyd gan yr Heddlu.
Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at ei sylwadau ysgrifenedig, fel y nodwyd yn Atodiad B i'r adroddiad, a chadarnhaodd yn dilyn hynny, bod Heddlu Dyfed-Powys wedi dweud wrth yr Awdurdod Trwyddedu ei fod yn tynnu ei sylwadau yn ôl ar sail cytundeb a wnaed gyda'r ymgeisydd ynghylch cynnwys yr 18 o amodau a awgrymwyd ar y Drwydded. O ganlyniad i'r cytundeb hwnnw, awgrymodd pe bai'r Is-bwyllgor yn penderfynu caniatáu'r cais fel y cyflwynwyd, byddai'r 18 o amodau hynny yn disodli'r amodau a oedd ynghlwm â'r atodlen weithredu wreiddiol.
Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu hefyd at Atodiad D yr adroddiad ac at y sylwadau a gafwyd gan Gyngor Cymuned Llandybie a nodai er bod y cyngor yn cefnogi'r cais, roedd o'r farn y dylid gosod cyfyngiad ar werthu alcohol tan ar ôl 6.00 p.m. pan fyddai'n llai tebygol y byddai plant heb gwmni oedolyn yn bresennol pan gaiff alcohol ei werthu. Yn dilyn y sylwadau hynny, roedd yr Awdurdod Trwyddedu wedi ystyried darpariaethau Paragraff 91 o Bolisi Trwyddedu'r Cyngor a rhannau 14.46 ac 14.49 y Canllawiau Statudol sy'n ymwneud â mynediad plant at safleoedd trwyddedig, ac roedd o'r farn nad oedd unrhyw ofyniad i osod amodau ychwanegol ar y Drwydded.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon oedd yn bresennol holi cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch ei sylwadau.
Cafwyd sylw a oedd yn cefnogi'r cais ac yn cyfeirio at y modd rhagorol y mae'r busnes yn gweithredu ar hyn o bryd, gan ddarparu swyddi ychwanegol a denu mwy o bobl i bentref Llandybie. Ni chafodd pryderon Cyngor Cymuned Llandybïe eu cefnogi.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon ofyn cwestiynau i'r cefnogwr ynghylch ei sylwadau.
Amlinellodd yr ymgeisydd i'r Is-bwyllgor ei resymau dros geisio trwydded safle er mwyn galluogi cwsmeriaid i fwyhau diodydd alcoholaidd â the prynhawn/ byrbrydau gyda'r hwyr ac ati mewn amgylchedd t? coffi. Ar hyn o bryd mae'r safle yn gweithredu fel ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2. |