Agenda a Chofnodion

Is-Bwyllgor Trwyddedu A - Dydd Iau, 20fed Ebrill, 2017 10.00 yb

Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd dim buddiannau yn y cyfarfod.

 

2.

CAIS I AMRYWIO TRWYDDED SAFLE NOTTS BAR, 16 NOTT SQUARE, CAERFYRDDIN SA31 1PQ. pdf eicon PDF 124 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod, a hysbysodd yr Is-bwyllgor fod cais wedi cael ei gyflwyno gan Mr S. Davies am amrywio'r drwydded safle ar gyfer Notts Bar, 16 Notts Bar, Caerfyrddin i ganiatáu:

 

Cyflenwi Alcohol:-                               Dydd Sul i Ddydd Mercher 11:00 – 23:00

                                                            Dydd Iau 11:00-01:00

                                                            Dydd Gwener a Dydd Sadwrn     11:00 – 02:00

          

Cerddoriaeth a Recordiwyd:- Dydd Sul i Ddydd Mercher 18:00-23:00 

                                                            Dydd Iau 18:00-01:00

                                                            Dydd Gwener a Dydd Sadwrn   14:00 – 02:00 

 

Oriau Agor:-                                        Dydd Sul i Ddydd Mercher 11:00-23:00         

                                                            Dydd Iau 11:00-01:00

                                                            Dydd Gwener a Dydd Sadwrn   11:00 – 02:00

 

Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:

·         Atodiad A – copi o'r cais

·         Atodiad B – sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu

·         Atodiad C – sylwadau Heddlu Dyfed-Powys

·         Atodiad D – copi o'r Drwydded Safle bresennol

 

Nid oedd yr Awdurdodau Cyfrifol eraill wedi gwneud sylwadau ar y cais.

 

Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at ei sylwadau, y manylwyd arnynt yn Atodiad B yr adroddiad.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch ei sylwadau.

 

Cyfeiriodd y Swyddog Trwyddedu Rhanbarthol o Heddlu Dyfed-Powys at ei sylwadau, y manylwyd arnynt yn Atodiad C yr adroddiad.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd Heddlu Dyfed-Powys ynghylch ei sylwadau.

 

Cafwyd sylw gan yr ymgeisydd o blaid ei gais. 

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon ofyn cwestiynau i'r ymgeisydd ynghylch ei sylwadau.

 

Yna bu i'r Is-bwyllgor

 

BENDERFYNU'N UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16, Atodlen 12A o'r Ddeddf Llywodraeth Leol.

 

Ar ôl y toriad ailymgynullodd yr Is-bwyllgor i gyhoeddi ei benderfyniad ac ar ôl ystyried y paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu yr Awdurdod Trwyddedu a'r Cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am amrywio'r drwydded safle ar gyfer Notts Bar, 16 Maes Nott, Caerfyrddin, yn amodol ar y canlynol;

 

  1. Mai'r awr derfynol ar gyfer cyflenwi alcohol a chwarae cerddoriaeth a recordiwyd fyddai 01.30 o'r gloch ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn;
  2. Bod amod yn cael ei ychwanegu at y drwydded, sef, pan fo'r safle ar agor ar ôl 01.00 o'r gloch, fod goruchwylwyr drysau ar ddyletswydd hyd at 02.00 o'r gloch neu hyd nes bod yr holl gwsmeriaid wedi gadael.

 

Y RHESYMAU

Wrth benderfynu ar y cais, yr oedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor;

 

1.    Roedd y safle mewn ardal a glustnodwyd yn 'fan problemus' o ran troseddau ac anhrefn yn Natganiad Polisi Trwyddedu yr Awdurdod Trwyddedu;

2.    Roedd achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi bod ar y safle neu'n gysylltiedig â'r safle;

3.    Roedd y safle wedi mynd yn groes i amodau ei drwydded yn y gorffennol; 

4.    Roedd Datganiad y Polisi Trwyddedu yn 'argymell yn gryf' gynnwys amser gorffen diodydd yn yr amserlenni gweithredu; 

5.    Roedd caniatáu 30 munud o amser gorffen diodydd yn cael ei dderbyn yn gyffredinol fel arfer da yn y diwydiant;

6.    Ar hyn o bryd nid oedd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.