Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

2.

CAIS AM DRWYDDED SAFLE 2 SGWAR NOTT, CAERFYRDDIN, SA31 1PG pdf eicon PDF 329 KB

GOHIRIO'R CYFARFOD AC AILYMGYNNULL AM 10:10 Y.B YN 2 SGWAR NOTT, CAERFYRDDIN ER MWYN YMWELD Â'R SAFLE SY'N GYSYLLTIEDIG Â'R CAIS AM DRWYDDED.

 

AR ÔL GORFFEN YR YMWELIAD SAFLE UCHOD BYDD Y CYFARFOD YN CAEL EI OHIRIO AC YN AILYMGYNNULL YN SIAMBR NEUADD Y SIR, CAERFYRDDIN AM 10.30 Y.B ER MWYN CAEL SYLWADAU AC I BENDERFYNU AR CAIS UCHOD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Torrodd cyfarfod yr Is-bwyllgor yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin am 10.05am ac ailymgynullodd am 10:10am yn 2 Maes Nott, Caerfyrddin, er mwyn gweld yr eiddo.  Ar ôl i'r ymweliad â'r safle ddod i ben, ailymgynullodd yr Is-bwyllgor yn y Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin am 10:30am i ystyried y cais.

 

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb a oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod.  Rhoddwyd gwybod i'r Is-bwyllgor fod cais wedi dod i law gan Adam Cole am drwydded safle mewn perthynas â'r safle uchod i ganiatáu'r canlynol:

 

·         Cyflenwi Alcohol, Ffilmiau, Digwyddiadau Chwaraeon Dan Do, Cerddoriaeth Fyw, Cerddoriaeth a Recordiwyd, a Pherfformiadau Dawns - Dydd Llun a Dydd Mawrth 12:00-02:00, Dydd Mercher i Ddydd Sul 12:00-03:00.

  • Oriau Agor - Dydd Llun a Dydd Mawrth 12:00–02:30, Dydd Mercher i Ddydd Sul 12:00-03:30.

 

Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:

 

·         Atodiad A – copi o'r cais.

·         Atodiad B - sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu.

·         Atodiad C - sylwadau Heddlu Dyfed-Powys.

·         Atodiad D – sylwadau Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd.

·         Atodiad E - sylwadau a gyflwynwyd gan bobl eraill.

 

Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at ei sylwadau fel y nodwyd yn Atodiad B a hefyd at y sylwadau a gyflwynwyd gan Heddlu Dyfed-Powys (Atodiad C) a Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd (Atodiad D).  Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu hefyd at Amodau Trwydded Arfaethedig Drafft y cyfeiriwyd atynt uchod.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch y sylwadau a wnaed. 

 

Wedyn, cyflwynwyd sylwadau i'r Is-bwyllgor gan Gyngor Tref Caerfyrddin a oedd yn mynegi pryderon ac yn gwrthwynebu caniatáu trwydded safle am y rhesymau y manylwyd arnynt yn Atodiad E.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon ofyn cwestiynau am y dystiolaeth a gyflwynwyd.  Wedyn bu i'r ymgeisydd a'i gyfreithiwr ymateb i'r pryderon a'r materion a godwyd.

 

Ar hynny

 

PENDERFYNODD YR IS-BWYLLGOR YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i'r Ddeddf Llywodraeth Leol.

 

Ar ôl y toriad ailymgynullodd yr Is-bwyllgor i gyhoeddi ei benderfyniad ac ar ôl ystyried y paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu yr Awdurdod Trwyddedu a'r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref

 

PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried y dystiolaeth a roddwyd gerbron yr Is-bwyllgor, fod y cais yn cael ei ganiatáu, a hynny'n unol â'r amodau trwydded yr oedd yr awdurdodau cyfrifol wedi'u cynnig ac yr oedd yr ymgeisydd wedi cytuno arnynt.

 

RHESYMAU:

 

Roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y sylwadau ysgrifenedig a wnaed, yn ogystal â'r dystiolaeth a gyflwynwyd.  Roedd hefyd wedi rhoi ystyriaeth i'r paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu yr Awdurdod Trwyddedu a'r Cyfarwyddyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref, a'r rheiny a oedd wedi'u cyfeirio at ei sylw gan y partïon eraill.

 

Wrth benderfynu ar y cais, roedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor:

 

  1. Nid oedd y safle wedi cael trwydded i werthu alcohol o'r blaen.
  2. Roedd y safle mewn rhan fasnachol/preswyl cymysg  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.

3.

CAIS AM DRWYDDED SAFLE 12 WIND STREET, RHYDAMAN, SA18 3DN pdf eicon PDF 329 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod, a hysbysodd yr Is-bwyllgor fod cais wedi dod i law gan Mr Richard Stuart am drwydded safle ar gyfer 12 Stryd y Gwynt, Rhydaman SA18 3DN i ganiatáu'r canlynol:

 

·         Cyflenwi Alcohol a Cherddoriaeth a Recordiwyd -  Dydd Sul i Ddydd Iau 10:00-00:00, Dydd Gwener a Dydd Sadwrn 10:00-02:00. Dydd Sul cyn G?yl Banc, G?yl Banc, Noswyl Nadolig a Nos Galan 10:00-02:00.

·         Ffilmiau, Cerddoriaeth Fyw ac Unrhyw Beth o Ddisgrifiad Tebyg – Dydd Sul i Ddydd Iau 10:00-00:00, Dydd Gwener a Dydd Sadwrn 10:00-01:00. Dydd Sul cyn G?yl Banc, G?yl Banc, Noswyl Nadolig a Nos Galan 10:00-01:00

·         Lluniaeth Hwyrnos  - Dydd Sul i Ddydd Iau 23:00-00:00, Dydd Gwener a Dydd Sadwrn 23:00-02:00. Dydd Sul cyn G?yl Banc, G?yl Banc, Noswyl Nadolig a Nos Galan 23:00-02:00.

·         Oriau Agor - Dydd Sul i Ddydd Iau  10:00–00:30, Dydd Gwener a Dydd Sadwrn 10:00-02:30. Dydd Sul cyn G?yl Banc, G?yl Banc, Noswyl Nadolig a Nos Galan 10:00-02:30

 

Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:

 

·         Atodiad A – copi o'r cais

·         Atodiad B - sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu

·         Atodiad C – sylwadau Heddlu Dyfed-Powys

·         Atodiad D – sylwadau Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd

·         Atodiad E - sylwadau gan bobl eraill

 

Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at ei sylwadau fel y nodwyd yn Atodiad B a hefyd at y sylwadau a gyflwynwyd gan Heddlu Dyfed-Powys (Atodiad C) a Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd (Atodiad D).  Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu hefyd at Amodau Trwydded Arfaethedig Drafft y cyfeiriwyd atynt uchod.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch y sylwadau a wnaed. 

Ar hynny, cafodd yr Is-bwyllgor a'r ymgeisydd gyfle i ofyn cwestiynau. 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon ofyn cwestiynau i'r ymgeisydd am ei sylwadau.

 

Ni chafodd yr Is-bwyllgor unrhyw sylw ar lafar gan y gwrthwynebydd gan nad oedd yn bresennol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16, Atodlen 12 i'r Ddeddf Llywodraeth Leol.

 

Ar ôl y toriad ailymgynullodd yr Is-bwyllgor i gyhoeddi ei benderfyniad ac ar ôl ystyried y paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu'r Awdurdod Trwyddedu a'r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref

 

PENDERFYNODD yr Is-bwyllgor, ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a roddwyd ger ei fron, y dylid caniatáu'r cais yn amodol ar yr amodau trwydded y cytunwyd arnynt.

RHESYMAU:

 

Wrth benderfynu ar y cais, roedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor;

 

  1. Nid oedd dim hanes o droseddau ac anhrefn cysylltiedig ag alcohol neu niwsans cyhoeddus cysylltiedig ag alcohol ar y safle neu yn gysylltiedig â'r safle.
  2. Fodd bynnag, yn natganiad Polisi Trwyddedu y Cyngor nodwyd bod Stryd y Gwynt, Rhydaman yn fan problemus o ran troseddau ac anhrefn.
  3. Nid oedd dim un o'r Awdurdodau Cyfrifol wedi gwrthwynebu caniatáu'r drwydded mewn egwyddor.
  4. Roedd yr Heddlu a Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd wedi gofyn am amodau trwydded  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

DEDDF TRWYDDEDU 2003 - CAIS YN YMWNEUD Â DOSBARTHIAD FFILM pdf eicon PDF 280 KB

Cofnodion:

Bu'r Is-bwyllgor yn ystyried cais a gafwyd gan Mrs Mair Craig, ar ran Ystafelloedd Darllen Llansadwrn, yn gofyn am argymhelliad ynghylch caniatáu i blant wylio dwy ffilm fer a oedd yn ddiddosbarth yn flaenorol.

 

Roedd yr ymgeisydd yn bwriadu arddangos y ddwy ffilm, “Flowers” a “Mencap – Our Social Networks” cyn dangos ffilm dystysgrifedig yn y sinema gymunedol. Roedd y safle'n bwriadu gweithredu'r sinema gymunedol o dan yr esemptiadau safle cymunedol a nodir ym mharagraff 6A o Atodlen 1 i Ddeddf Trwyddedu 2003.

 

Nododd yr Is-bwyllgor y dylai'r ffilmiau a ddangosir gael argymhelliad ynghylch caniatáu i blant eu gwylio, a roddwyd naill ai gan gorff Bwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain neu gan yr Awdurdod Trwyddedu perthnasol, a hynny er mwyn bodloni gofynion Deddf Trwyddedu 2003. 

 

Er mwyn galluogi'r Is-bwyllgor i wneud yr argymhellion gofynnol ynghylch caniatáu i blant wylio'r ffilmiau, cafodd gyfle i wylio'r ddwy ffilm fer gan roi ystyriaeth i'r canllawiau ynghylch y graddau oedran a luniwyd gan Fwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain.

 

Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a roddwyd ger ei fron,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

4.1 byddai “Flowers” yn cael ei hystyried yn ffilm sy'n addas i bob oed (U);

4.2 byddai “Mencap - Our Social Networks” yn cael ei hystyried yn ffilm sy'n addas i bob oed (U).

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau