Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Nodyn: Virtual meeting - members of the public can view the meeting live via the Authority's website. If you require Welsh to English simultaneous translation during the meeting please telephone 0330 336 4321- passcode 96221472# (For call charges contact your service provider) 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd B.A.L. Roberts.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

DATGANIAD CYFRIFON CRONFA BENSIWN DYFED:-

3.1

ADRODDIAD DATGANIADAU ARIANNOL Y CRONFA BENSIWN DYFED pdf eicon PDF 365 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad Archwilio Cymru ynghylch yr archwiliad a gynhaliwyd o Gyfrifon Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn ystyried a oedd y datganiad ariannol yn rhoi golwg gywir a theg ar sefyllfa ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed ar 31 Mawrth, 2020 a'i hincwm a'i gwariant yn ystod y flwyddyn honno.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor, er bod Archwilio Cymru yn bwriadu cyhoeddi adroddiad archwilio diamod ar y cyfrifon, fod rhai materion yr oedd angen eu hadrodd i'r Pwyllgor cyn iddynt gael eu cymeradwyo, a bod manylion wedi'u cynnwys yn yr adroddiad.

 

Roedd y Pwyllgor yn falch o nodi bod Archwilio Cymru yn bwriadu cyhoeddi barn archwilio ddiamod ar y cyfrifon a fyddai'n cael ei chyhoeddi cyn gynted ag y deuai'r Llythyr Sylwadau i law. Roedd y Pwyllgor hefyd yn falch o nodi nad oedd unrhyw gamddatganiadau wedi'u nodi yn y datganiadau ariannol a oedd yn dal heb eu cywiro.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

3.2

LLYTHYR CYNRYCHIOLAETH I ARCHWILIO CYMRU CRONFA BENSIWN DYFED pdf eicon PDF 329 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor ei bod yn ofynnol gan Archwilio Cymru, yn unol â'r Datganiad Safonau Archwilio (SAS440 - Sylwadau Rheolwyr), fod Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol yn llunio Llythyr Sylwadau yn flynyddol, a bod y llythyr hwn yn cael ei lofnodi gan y Swyddog hwnnw a Chadeirydd y Pwyllgor Archwilio. Ar ben hyn, roedd yn ofynnol gan Archwilio Cymru fod y Pwyllgor a oedd yn gyfrifol am gymeradwyo'r cyfrifon o dan Reoliad 8 o'r Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio yn cydnabod yr ymateb yn ffurfiol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Llythyr Sylwadau i Swyddfa Archwilio Cymru gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol a Chadeirydd y Pwyllgor Archwilio i Archwilio Cymru mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed yn cael ei gydnabod.

 

 

3.3

YMHOLIADAU ARCHWILIO AR GYFER Y RHEINY SYDD YN GYFRIFOL AM LYWODRAETHU A RHEOLAETH pdf eicon PDF 173 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor ymatebion yr Awdurdod i Archwilio Cymru ar nifer o feysydd llywodraethu sy'n effeithio ar archwiliad y datganiadau ariannol. Roedd yr ystyriaethau hynny hefyd yn berthnasol i reolwyr Cronfa Bensiwn Dyfed a'r 'rhai sy'n gyfrifol am lywodraethu' (Pwyllgor Archwilio). Roedd y wybodaeth a ddarparwyd yn cyfrannu at ddealltwriaeth Archwilio Cymru o Gronfa Bensiwn Dyfed a'i phrosesau busnes gan gefnogi ei waith o ddarparu barn archwilio ar gyfer datganiadau ariannol 2019-20.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r ymatebion i'r ceisiadau a wnaed i'r rheolwyr a'r Pwyllgor Archwilio fel y manylir yn yr adroddiad.

 

 

3.4

DATGANIAD CYFRIFON CRONFA BENSIWN DYFED 2019-20 pdf eicon PDF 362 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â darpariaethau Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014, cafodd Datganiad Cyfrifon 2019/20 a oedd yn ymwneud â Chronfa Bensiwn Dyfed ac a oedd wedi'i archwilio, ei roi gerbron y Pwyllgor i'w gymeradwyo. Roedd y Datganiad yn dwyn ynghyd holl drafodion ariannol y Gronfa Bensiwn am y flwyddyn, ac roedd yn rhoi manylion am ei hasedau a'i rhwymedigaethau fel yr oeddent ar 31 Mawrth, 2020.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Datganiad Cyfrifon 2019/20 Cronfa Bensiwn Dyfed wedi'i archwilio.

 

 

4.

Y DIWEDDARAF YNGHYLCH AR CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL 2020/21 pdf eicon PDF 416 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad cynnydd ynghylch gweithredu Cynllun Archwilio 2020/21.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad diweddaru am Gynllun Archwilio Mewnol 2020/21.

 

 

5.

BLAENRHAGLEN GWAITH Y PWYLLGOR ARCHWILIO pdf eicon PDF 414 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y wybodaeth ddiweddaraf  am Flaenraglen Waith Flynyddol y Pwyllgor a oedd yn rhoi manylion am yr eitemau disgwyliedig ar gyfer yr agenda yng nghylch cyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio 2020/21.

 

Dywedodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol fod trefniadau'n cael eu gwneud i'r Pwyllgor gael hyfforddiant ar gwmnïau Masnachu Awdurdodau Lleol yn ystod mis Rhagfyr 2020.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad diweddaru am Flaenraglen Waith y Pwyllgor Archwilio ar gyfer 2020/21.

 

6.

ADRODDIADAU CYNNYDD:-

6.1

CANOLFAN SGÏO PENBRE pdf eicon PDF 418 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd y Pwyllgor ei fod wedi ystyried adroddiad ar Ganolfan Sgïo Pen-bre yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Medi, 2019 a gofynnwyd i'r Pwyllgor ei gyflwyno ynghyd â diweddariad chwe mis. Gan fod cyfarfod mis Mawrth 2020 y Pwyllgor wedi’i ganslo oherwydd Covid-19, derbyniwyd adroddiad dilynol ynghylch y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa ym mis Hydref 2020.

 

Dywedodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol, er bod yr adroddiad a gyflwynwyd i'r Pwyllgor yn rhoi sicrwydd bod yr holl gamau gweithredu y manylir arnynt ynddo wedi cael sylw, ei hargymhelliad pe bai'r Pwyllgor yn derbyn yr adroddiad oedd bod Canolfan Sgïo Pen-bre yn cael ei chynnwys hefyd yng Nghynllun Archwilio 2021/22.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

6.1

dderbyn yr adroddiad diweddaru ynghylch Canolfan Sgïo Pen-bre.

6.2

bod Canolfan Sgïo Pen-bre yn cael ei chynnwys yng Nghynllun Archwilio 2021/22.

 

 

6.2

CANOLFAN HAMDDEN LLANELLI pdf eicon PDF 321 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor, yn unol â'r penderfyniad a wnaed yn ei gyfarfod ar 1 Gorffennaf 2019, adroddiad diweddaru ynghylch Canolfan Hamdden Llanelli a roddodd grynodeb o'r gwaith a'r prosesau y cytunwyd arnynt hyd yma gan Dîm Rheoli'r Ganolfan i wella ei brosesau yn dilyn Adroddiad Archwilio Mewnol 2018/19 a gynhaliwyd ym mis Ionawr 2019 ac adroddiad 2019/20 a gynhaliwyd ym mis Mawrth 2020.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch cyflwyno system gwella TG arall yn y cyfnod adeiladu, dywedodd yr Uwch-reolwr Chwaraeon a Hamdden, er bod y cyfnod adeiladu wedi'i gwblhau, y byddai'r data gofynnol mewn perthynas ag oriau staff/rota gwaith ac ati yn cael ei fewnbynnu i'r system pan fydd staff hamdden yn dychwelyd i'w canolfannau dynodedig, gan eu bod wedi'u gwasgaru i ganolfannau hamdden/dyletswyddau eraill oherwydd Covid-19 ar hyn o bryd. Cadarnhaodd hefyd, oherwydd yr amser yr oedd staff wedi'u hadleoli a'u penodi i gyflawni dyletswyddau eraill, y byddent, ar ôl dychwelyd i'w canolfannau dynodedig, yn cael cyrsiau hyfforddi gloywi a hyfforddiant ar unrhyw systemau newydd a gyflwynwyd.

 

Ar ôl ystyried yr adroddiad a'r sicrwydd a ddarparwyd ar y cynnydd sy'n cael ei wneud yng Nghanolfan Hamdden Llanelli, penderfynodd y Pwyllgor, fel yn achos eitem 6.1 uchod, gynnwys y ganolfan yng Nghynllun Archwilio 2021/22. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

6.2.1

dderbyn yr adroddiad diweddaru ynghylch y cynnydd a wnaed yng Nghanolfan Hamdden Llanelli.

6.2.2

bod Canolfan Hamdden Llanelli yn cael ei chynnwys yng Nghynllun Archwilio 2021/22.

 

 

7.

STRATEGAETH GWRTH-DWYLL A LLYGREDD pdf eicon PDF 437 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor ddiweddariad arfaethedig i Strategaeth Atal Twyll ac Arferion Llwgr y Cyngor a luniwyd yn unol â gofynion llywodraethu corfforaethol da i'r Awdurdod ddangos yn glir ei fod wedi ymrwymo i fynd i'r afael â thwyll ac arferion llwgr ac y byddai'n ymdrin yn gyfartal â throseddwyr o fewn a thu allan i'r Cyngor. Nodwyd bod y Strategaeth wedi'i chysylltu'n agos â pholisïau presennol y Cyngor gan roi canllawiau i staff ynghylch atal a rhoi gwybod am dwyll ac arferion llwgr.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch rhoi gwybod am dwyll ac arferion llwgr, dywedodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol, er nad oedd gweithdrefn ffurfiol ar waith ar hyn o bryd, y bwriad oedd y byddai'r manylion hynny yn cael eu cynnwys mewn Adroddiad Twyll ac Arferion Llwgr Blynyddol i'w gyflwyno i'r Pwyllgor Archwilio.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor hefyd fod sesiynau hyfforddiant ynghylch Twyll ac Arferion Llwgr yn cael eu trefnu ar gyfer aelodau etholedig ac uwch-swyddogion ac yr ystyrir sut y dylid codi ymwybyddiaeth staff o'r polisi. Byddai hynny'n cynnwys gosod y Strategaeth ar fewnrwyd y Cyngor ac mewn modiwl e-ddysgu i staff o bosibl.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Strategaeth Atal Twyll ac Arferion Llwgr.

 

8.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 11EG MEDI, 2020. pdf eicon PDF 422 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio
 a gynhaliwyd ar 11 Medi 2020 yn gofnod cywir.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau