Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir
Cyswllt: Gaynor Morgan 01267 224026
Rhif | eitem | ||
---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd G.B.Thomas.
|
|||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant.
|
|||
ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI NI DDYLID CYHOEDDI’R Adroddiadau SY’N YMWNEUD Â’R Materion CANLYNOL GAN Eu bod YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERion HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH Cofnodion:
|
|||
DERBYN NODIADAU GWEITHREDU CYFARFOD O'R PANEL RHESTR FER A GYNHALIWYD AR Y 4YDD MAI, 2016. Cofnodion: Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 3 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'n golygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ymwneud ag unigolyn neilltuol neu wybodaeth a fyddai'n debygol o ddatgelu pwy oedd unigolyn (Paragraff 12 a 13 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).
Roedd prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am y ceisiadau a ddaethai i law am y swydd. Roedd y budd i'r cyhoedd o ran parchu hawl cyfrinachedd pob ymgeisydd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth honno. Felly ar ôl pwyso a mesur, y farn oedd bod y budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth.
PENDERFYNWYD derbyn adroddiad cyfarfod y Panel Rhestr Fer a gynhaliwyd ar 4ydd Mai 2016.
|
|||
DERBYN CYFLWYNIADAU A CHYFWELD YR YMGEISWYR AR Y RHESTR FER AR GYFER SWYDD AELOD ALLANOL O'R PWYLLGOR ARCHWILIO (Amgaeir er sylw’r aelodau gopïau o’r Pecyn Ymgeisio a Ffurflenni Cais yr Ymgeiswyr) Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 3 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'n golygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ymwneud ag unigolyn neilltuol neu wybodaeth a fyddai'n debygol o ddatgelu pwy oedd unigolyn (Paragraff 12 a 13 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).
Roedd prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys copïau o'r ceisiadau a ddaethai i law am y swydd. Roedd y ceisiadau hyn yn cynnwys manylion am fywyd preifat pob ymgeisydd. Roedd y budd i'r cyhoedd o ran parchu hawl cyfrinachedd pob ymgeisydd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth honno. Felly ar ôl pwyso a mesur, y farn oedd bod y budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â thri ymgeisydd ar gyfer swydd aelod allanol â phleidlais o'r Pwyllgor Archwilio.
Ar ôl ystyried y cyflwyniadau gan yr ymgeiswyr,
PENDERFYNWYD ARGYMELL I'R CYNGOR fod y Cyngor Sir yn penodi Mrs Julie James yn Aelod Allanol â Phleidlais o'r Pwyllgor Archwilio am y cyfnod rhwng 1af Gorffennaf 2016 a 30ain Mehefin 2019 a hynny er mwyn bodloni gofynion Cyfansoddiad y Cyngor.
|