Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir
Cyswllt: Michelle Evans Thomas 01267 224470
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Cofnodion: Derbyniwydymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr H.A.L. Evans ac A.G. Morgan.
|
|||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion:
|
|||||||
PENODI CADEIRYDD AR GYFER BLWYDDYN Y CYNGOR 2016/17. Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y byddai’r Cynghorydd C.P. Higgins yn cael ei benodi’n Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn ddinesig 2016/17
|
|||||||
PENODI IS-GADEIRYDD AR GYFER BLWYDDYN Y CYNGOR 2015/16. Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y byddai’r Cynghorydd A.G. Morgan yn cael ei benodi’n Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn ddinesig 2016/17.
|
|||||||
YMDEITHIAD CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL PDF 626 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad ar y cynnydd a oedd wedi cael ei wneud o ran gweithredu’r Cynllun Archwilio Mewnol. Roedd Rhan A o’r adroddiad yn darparu adroddiad cynnydd ar y Cynllun Archwilio 2015/16 a 2016/17 a matrics sgorio argymelledig tra bo Rhan B yn rhoi crynodeb o’r adroddiadau terfynol a oedd wedi’u cwblhau ar gyfer 2015/16 mewn perthynas â systemau ariannol allweddol (hyd yma, ers mis Ebrill 2015). Codwyd y mater canlynol mewn perthynas â’r adroddiad:- · Gofynnwyd i’r swyddogion sut y mae materion lle nad oes cynnydd yn cael ei wneud yn cael eu cyflwyno’n ôl i’r Pwyllgor dan y System Rheoli Gwybodaeth am Berfformiad (PIMS) newydd. Eglurodd y Rheolwr Archwilio a Risg fod neges e-bost atgoffa a grëwyd gan gyfrifiadur yn cael ei hanfon at y swyddogion cyfrifol a bod y mater yn cael ei uwchgyfeirio at y Pennaeth Gwasanaeth ac yna at y Cyfarwyddwr os oes diffyg cynnydd o hyd. PENDERFYNWYD, at ddibenion monitro, derbyn y diweddariad ar Gynllun Archwilio Mewnol 2015/16.
|
|||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL ARCHWYLIAD MEWNOL 2015/16 PDF 513 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol y Rheolwr Archwilio a Risg (Pennaeth Archwilio Mewnol dynodedig yr Awdurdod) i’w ystyried. Roedd yr adroddiad yn darparu barn am ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd amgylchedd rheoli’r Cyngor am y flwyddyn rhwng mis Ebrill 2015 a mis Mawrth 2016, yn seiliedig ar waith a wnaed yng Nghynllun Archwilio Mewnol 2015/16 fel a gytunwyd gan y Pwyllgor Archwilio.
Nododd y Pwyllgor fod yr adroddiad wedi cael ei lunio yn unol â gofynion Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus (PSIAS).
Barn gyffredinol y Rheolwr Archwilio a Risg oedd bod amgylchedd rheoli digonol ac effeithiol yn weithredol yn yr Awdurdod. Roedd trefniadau llywodraethu eglur gyda chyfrifoldebau rheoli diffiniedig a strwythurau pwyllgor yn eu lle, trefniadau addas i reoli risg ac roedd y fframwaith rheoli’n gadarn ar y cyfan ac yn gweithredu’n weddol gyson. Roedd gan yr Awdurdod Gyfansoddiad sefydledig, ac roedd wedi datblygu polisïau a chymeradwyo Rheolau Gweithdrefn Ariannol sy’n rhoi cyngor ac arweiniad i’r holl staff ac aelodau. Roedd y Rheolwr Archwilio a Risg yn fodlon bod digon o waith sicrwydd wedi cael ei wneud i’w galluogi i ddod i gasgliad rhesymol ynghylch digonolrwydd ac effeithiolrwydd amgylchedd rheolaeth fewnol yr Awdurdod.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â gofynion statudol, derbyn yr adroddiad.
|
|||||||
BLAENRHAGLEN GWAITH 2016/17 PDF 509 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’w Flaenraglen Waith ar gyfer blwyddyn ddinesig 2016/17.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Flaenraglen Waith ar gyfer 2016/17
|
|||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor adroddiad cynnydd i’w ystyried ar weithrediad y Cynllun Gweithredu Cefnogi Pobl. Roedd yr adroddiad yn crynhoi’r gwaith a oedd wedi cael ei wneud hyd yma gan y tîm Cefnogi Pobl i barhau i wella’i brosesau rheoli grantiau a chontractau, fel a nodwyd gan y Rheolwr Archwilio a Risg yn y cyfarfod ar 10 Gorffennaf 2015.
Ystyriwyd fod cynnydd da’n cael ei wneud ac y byddai’n cael ei fonitro gan y Gr?p Cynllunio Cefnogi Pobl a oedd yn cael ei gadeirio gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol.
Codwyd y materion canlynol mewn perthynas â’r adroddiad:-
· pwysleisiwyd pwysigrwydd sicrhau bod rhyw fath o system dracio’n bodoli i fonitro gweithdrefnau newydd er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu dilyn a gofynnwyd i swyddogion a fyddai’n bosibl cael adroddiad cynnydd mewn cyfarfod yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD
8.1 nodi’r cynnydd gyda’r Cynllun Gweithredu Cefnogi Pobl; 8.2 y byddai’r Pwyllgor yn cael adroddiad cynnydd yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr.
|
|||||||
CYFLEUSTERAU ARFORDIROL PDF 407 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor adroddiad cynnydd i’w ystyried ar weithrediad y Cynllun Gweithredu Cyfleusterau Arfordirol. Roedd yr adroddiad yn crynhoi’r gwaith a oedd wedi cael ei wneud hyd yma gan y tîm Cyfleusterau Arfordirol i barhau i wella’i brosesau fel a nodwyd gan y Rheolwr Archwilio a Risg yn y cyfarfod ar 22 Mawrth 2016.
Codwyd y materion canlynol mewn perthynas â’r adroddiad:-
· Cyfeiriwyd at y methiannau difrifol a oedd wedi dod i’r amlwg ym Mharc Gwledig Pen-bre a gofynnwyd am sicrwydd bod gwersi wedi cael eu dysgu a’u rhoi ar waith. Tynnodd y Pennaeth Hamdden sylw at y ffaith bod cyfradd y newid yn y gwasanaeth dros y 4/5 mlynedd ddiwethaf wedi bod yn sylweddol. Ychwanegodd mai’r her oedd darparu gwasanaethau gan gael incwm ar yr un pryd. Y wers yr oeddent wedi’i dysgu oedd pwysigrwydd bod â’r strwythur cywir yn ei le. Sicrhaodd y Pwyllgor fod prosesau a gweithdrefnau’n cael eu rhoi ar waith a chynnydd yn cael ei wneud;
· Mynegwyd pryder ynghylch y defnydd o’r gair “should” yn lle “shall” yn yr argymhellion a oedd yn argymell bod gweithredu’r argymhellion o bosibl yn ddewisol. Eglurodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod y gair “should” yn cael ei ddefnyddio yn y Crynodeb o Faterion ac Argymhellion gan mai argymhellion a gynigiwyd gan y tîm Archwilio Mewnol oedd y rhain. Mater i’r adran oedd ystyried pob argymhelliad, cytuno ar gamau gweithredu penodol gyda’r tîm Archwilio Mewnol a’u gweithredu. Mae gan y tîm Archwilio Mewnol gyfrifoldeb i wneud gwaith dilynol ac adrodd ar unrhyw argymhellion gan gynnwys i ba raddau y maent wedi cael eu gweithredu. Ychwanegodd y Pennaeth Archwilio, Risg a Chaffael bod derbyniad cyffredinol bod angen i rywbeth gael ei wneud os yw’r tîm Archwilio Mewnol yn dweud y dylid ei wneud; fodd bynnag, roedd yn derbyn y pryderon a fynegwyd a chytunodd i adolygu’r geiriad wrth gwblhau’r fersiwn derfynol o’r Cynllun Gweithredu;
· Pan ofynnwyd iddo a oedd yr archwiliad wedi gosod unrhyw gyfyngiadau ariannol ar y Parc, eglurodd y Pennaeth Hamdden nad oes ganddynt darged ar gyfer elw; fodd bynnag, mae’n rhaid iddynt gyflawni arbedion effeithlonrwydd. Tynnodd sylw at y ffaith mai’r realiti llwm oedd bod yn rhaid iddynt naill ai godi incwm neu gau cyfleusterau ac ailddatganodd bwysigrwydd sefydlu’r strwythur cywir. Ychwanegodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol ei bod yn wir bod y parc yn creu incwm sylweddol, ond bod angen seilwaith gwell er mwyn creu mwy o incwm.
PENDERFYNWYD nodi’r cynnydd gyda’r Cynllun Gweithredu Cyfleusterau Arfordirol.
[SYLWER: Yn unol â Rheol Weithdrefn y Cyngor 16.5, roedd y Cynghorydd W.G. Thomas am iddo gael ei gofnodi yn y cofnodion ei fod ef wedi pleidleisio yn erbyn y cynnig i nodi’r eitem hon.]
|
|||||||
ADRODDIADAU GAN SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd Mr Richard Harries o Swyddfa Archwilio Cymru i’r cyfarfod.
|
|||||||
DIWEDDARIAD PWYLLGOR ARCHWILIO CYNGOR SIR GAERFYRDDIN - GORFFENAF 2016 PDF 303 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad ar y gwaith archwilio a wnaed/a fydd yn cael ei wneud ar yr Awdurdod gan Swyddfa Archwilio Cymru ers y cyfarfod diwethaf. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL derbyn yr adroddiad.
|
|||||||
ARDYSTIAD GRANTIAU - CYNGOR SIR GAERFYRDDIN 2014-15 PDF 187 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a baratowyd gan SAC a oedd yn nodi ei ardystiad i Hawliadau a Ffurflenni Grant gan Gyngor Sir Caerfyrddin am y cyfnod 2014-15.
Hysbyswyd y Pwyllgor fod SAC wedi ardystio 26 o hawliadau grant yn ystod 2014-15 a’i bod hefyd wedi adolygu’r trefniadau rheoli grantiau o fewn y Cyngor trwy ddogfennu a cherdded drwy’r system a rheolaethau allweddol fel rhan o’i gwaith archwilio ariannol.
Daeth SAC i’r casgliad, er bod gwelliannau wedi bod yn nhrefniadau’r Cyngor o ran creu a chyflwyno hawliadau grant yn 2014-15, bod rhai meysydd lle gellid gwneud gwelliannau pellach o hyd. Nododd y Pwyllgor fod y casgliad yn seiliedig ar y canfyddiadau cyffredinol canlynol:-
- bod y mwyafrif o’r hawliadau wedi’u cyflwyno ar amser;
- o ystyried y gwelliannau hyn, roedd ffi SAC am ardystio hawliadau a ffurflenni grantiau nad oeddent yn ymwneud â chyllid yr UE ar gyfer 2014-15 wedi gostwng o £97,200 yn 2013-14 i £81,700 yn 2014-15; PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.
|
|||||||
CYFRIFLEN 2015-2016 PDF 590 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Ddatganiad o Gyfrifon yr Awdurdod ar gyfer 2015/16 a oedd yn cynnwys Cronfa Bensiwn Dyfed, yn unol â Rheoliadau Cyfrifon ac Archwiliadau (Cymru) 2014.
Roedd y Datganiad yn dwyn ynghyd holl drafodion ariannol yr Awdurdod a’r Gronfa Bensiwn am y flwyddyn a hefyd yn nodi asedau a rhwymedigaethau’r Awdurdod a’i Gronfa Bensiwn ar 31 Mawrth 2016.
Adroddwyd fod yr Awdurdod wedi cadw’r gwariant net cyffredinol o Gronfa’r Cyngor o fewn y gyllideb yn ystod 2015/16 ac roedd y Datganiad ar Symudiad mewn Cronfeydd yn adrodd ar y canlyniadau canlynol:-
- Cronfa’r Cyngor (ar gael fel rheol ar gyfer gwariant newydd) – trosglwyddiad i’r balans £279k; - Balansau a ddelir gan ysgolion dan gynlluniau rheoli lleol – trosglwyddiad o’r balansau £264k; - Cyfrif Refeniw Tai – gostyngiad yn y balans £1,542k
Er bod nifer o feysydd gwasanaeth ar draws yr Awdurdod wedi profi pwysau a achoswyd gan y galw yn ystod y flwyddyn, roedd y rhain wedi cael eu gwrthbwyso gan danwariant mewn meysydd gwasanaeth eraill, yn benodol ar gostau cyllido cyfalaf a lefel uwch nag a amcangyfrifwyd o ran casglu’r Dreth Gyngor.
Roedd yr alldro canlyniadol yn golygu bod yr Awdurdod wedi trosglwyddo £279k i’w gronfeydd cyffredinol, o’i gymharu â throsglwyddiad y cyllidebwyd ar ei gyfer o £138k o’r cronfeydd.
Tynnwyd sylw’r Pwyllgor at y symudiadau canlynol i ac o gronfeydd a glustnodwyd:-
Y Gronfa Datblygiadau Mawr – trosglwyddiad o £2.793m i gefnogi datblygiadau mawr yn y dyfodol;
Cronfa Gyfalaf Moderneiddio’r Ddarpariaeth Addysg - £3.689m wedi’i neilltuo yng nghyllideb 2015-2016 i gwrdd â chost benthyca darbodus i ariannu rhaglen Moderneiddio’r Ddarpariaeth Addysg. Bydd hwn yn awr yn cael ei ddefnyddio yn 2016-2017.
Gofynnwyd i’r Pwyllgor gymeradwyo’r symudiadau hyn yn ôl-weithredol. Nodwyd fod y Pwyllgor wedi bod mewn sesiwn friffio ar y Datganiad o Gyfrifon yn ystod yr wythnos a oedd wedi rhoi’r cyfle iddynt geisio eglurhad a.y.b. mewn perthynas â phob agwedd ar y Datganiad o Gyfrifon. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL 11.1 derbyn y Datganiad o Gyfrifon 2015/16 (Cyngor Sir Caerfyrddin a Chronfa Bensiwn Dyfed);
11.2 cymeradwyo’r symudiadau i ac o’r Cronfeydd a Glustnodwyd yn ôl-weithredol, yn enwedig trosglwyddiadau i’r canlynol:- · Y Gronfa Datblygiadau Mawr; · Cronfa Gyfalaf Rhaglen Moderneiddio’r Ddarpariaeth Addysg.
|
|||||||
DATGANIAD ARIANNOL AWDURDOD HARBWR PORTH TYWYN 2015-16 PDF 420 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Ddatganiad Ariannol Harbwr Porth Tywyn 2015-16 a oedd wedi cael ei baratoi yn unol â Deddf Harbyrau 1964 sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau harbwr statudol baratoi datganiad blynyddol o gyfrifon mewn perthynas â gweithgareddau’r harbwr.
Gan gydymffurfio â Rheoliadau Cyfrifon ac Archwiliadau (Cymru) 2014, roedd y cyfrifon hyn ar ffurf cyfrif incwm a gwariant blynyddol ar wahân a datganiad o falansau. £230k oedd cost net y gweithgareddau harbwr yn 2015-16 a chafodd yr holl weithgareddau eu hariannu’n llawn gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Roedd yr asedau sefydlog a oedd yn cael eu dal ar 31 Mawrth 2015 yn gyfanswm o £3,960k.
Nodwyd fod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cael ystod o bwerau a dyletswyddau statudol at ddibenion gwella, cynnal a chadw a rheoli harbwr Porth Tywyn trwy Orchymyn Diwygio Harbwr Porth Tywyn 2000. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL derbyn y Datganiad Cyfrifyddu ar gyfer Awdurdod Harbwr Porth Tywyn 2015-16.
|
|||||||
COFNODION GRWPIAU PERTHNSAOL IR PWYLLGOR ARCHWYLIO PDF 509 KB |
|||||||
GRWP LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL - 10FED MAWRTH, 2016 PDF 512 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD derbyn cofnodion cyfarfod y Gr?p Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 2016.
|
|||||||
GRWP LLYWIO RHEOL RISG - 13EG EBRILL, 2016 PDF 226 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD derbyn cofnodion cyfarfod y Gr?p Llywio Rheoli Risg a gynhaliwyd ar 13 Ebrill 2016.
|
|||||||
PANEL GRANTIAU - 10FED MAWRTH, 2016 PDF 218 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD derbyn cofnodion cyfarfod y Panel Grantiau a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 2016.
|
|||||||
PANEL GRANTIAU - 12FED MAI, 2016 PDF 218 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD derbyn cofnodion cyfarfod y Panel Grantiau a gynhaliwyd ar 12 Mai 2016.
|
|||||||
COFNODION |
|||||||
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 22 Mawrth fel cofnod cywir.
|
|||||||
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 16 Mai fel cofnod cywir.
|