Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Penodi B - Dydd Mawrth, 2ail Awst, 2016 1.30 yp

Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr J.A. Davies, E. Dole, L.D. Evans, S. Matthews a H.B. Shepardson.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

3.

NI DDYLID CYHOEDDI'R ADRODDIADAU SY'N YMWNEUD Â'R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y'I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â'R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O'R FATH.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddfsef gwybodaeth ynghylch ymgeiswyr oedd yn cynnig am swydd gan yr Awdurdod.

4.

DERBYN NODIADAU GWEITHREDU CYFARFOD O'R PANEL RHESTR FER A GYNHALIWYD AR Y 6ED O ORFFENNAF, 2016.

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 3 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch unigolyn penodol.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Panel Rhestr Fer oedd wedi ei gynnal ar 6ed Gorffennaf 2016.

 

5.

DERBYN CYFLWYNIADAU A CHYFWELD YR YMGEISWYR AR Y RHESTR FER AR GYFER SWYDD PENNAETH GWASTRAFF A GWASANAETHAU'R AMGYLCHEDD AC YSTYRIED GWNEUD PENODIAD:-

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 3 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch unigolyn penodol.

Amlinellodd y Prif Weithredwr y broses ddethol hyd yn hyn a'r drefn a awgrymwyd ar gyfer y cyfarfod.

Gyda hynny, cafodd y Pwyllgor gyflwyniad gan y ddau ymgeisydd oedd ar y rhestr fer a chafodd y Pwyllgor gyfle i ofyn cwestiynau.

Ar ôl i'r cyflwyniadau a'r cyfweliadau orffen cafodd y Pwyllgor adborth gan y Prif Weithredwr, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Amgylcheddol a'r Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad), ynghyd â sylwadau ymgynghorydd allanol a oedd yn cynnwys manylion y broses asesu a chasgliadau'r broses honno.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi Mr A. Williams yn Bennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff.

[Galwyd Mr. A. Williams yn ôl i'r cyfarfod, a dywedodd ei fod yn derbyn y swydd.]