Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Penodi B - Dydd Iau, 26ain Tachwedd, 2015 1.30 yp

Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

PENODI CADEIRYDD AR GYFER Y CYFARFOD.

Cofnodion:

Gan nad oedd Cadeirydd nac Is-gadeirydd y Pwyllgor yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod y diwrnod hwnnw, rhoddwyd gwybod i aelodau'r Pwyllgor y byddai'n angenrheidiol iddynt benodi Cadeirydd o blith aelodau parhaol y pwyllgor oedd yn bresennol.

 

PENDERFYNWYD bod y Cynghorydd W.T. Evans yn cadeirio'r cyfarfod

 

2.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth y Cynghorwyr R. Bartlett, J.A. Davies, E. Dole, A.W. Jones, H.B. Shepardson a P.A. Palmer.

 

3.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd dim buddiannau personol gan yr Aelodau.

 

4.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIADAU SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddfsef gwybodaeth ynghylch ymgeiswyr oedd yn cynnig am swydd gan yr Awdurdod.

 

5.

DERBYN NODIADAU GWEITHREDU CYFARFOD O'R PANEL RHESTR FER A GYNHALIWYD AR Y 9FED TACHWEDD, 2015

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 4 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch unigolyn penodol.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Panel Rhestr Fer oedd wedi ei gynnal ar 9fed Tachwedd 2015.

 

6.

DERBYN CYFLWYNIADAU A CHYFWELD YR YMGEISWYR AR Y RHESTR FER AR GYFER SWYDD PENNAETH IECHYD MEDDWL AC ANABLEDDAU DYSGU

(Amgaeir er sylw’r aelodau gopïau o’r Proffil Swydd a Ffurflenni Cais yr Ymgeiswyr)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 4 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch unigolyn penodol.

Rhoddodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol [Rheoli Pobl a Pherfformiad] wybodaeth am y broses ddethol hyd yn hyn a'r drefn a awgrymwyd ar gyfer y cyfarfod. Hefyd cafodd y Pwyllgor sylwadau ymgynghorydd allanol oedd wedi bod yn gysylltiedig â'r broses asesu.

Yna cafodd y Pwyllgor gyflwyniad gan y ddau ymgeisydd oedd ar y rhestr fer, a chafodd aelodau'r Pwyllgor gyfle i ofyn cwestiynau.

Ar ôl i'r cyflwyniadau a'r cyfweliadau orffen cafodd y Pwyllgor ragor o adborth gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol a'r Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad), a oedd yn cynnwys manylion y broses asesu a chasgliadau'r broses honno.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOLbenodi Ms. A. Bracey yn Bennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu.

[Galwyd Ms. Bracey yn ôl i'r cyfarfod, a dywedodd hi ei bod yn derbyn y swydd.]