Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Penodi B - Dydd Gwener, 20fed Tachwedd, 2015 1.30 yp

Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr L.D. Evans a H.B. Shepardson.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd dim buddiannau gan yr aelodau.

 

3.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddfsef gwybodaeth ynghylch ymgeiswyr oedd yn cynnig am swydd gan yr Awdurdod.  

 

4.

NODIADAU GWEITHREDU CYFARFOD Y PANEL RHESTR FER OEDD WEDI EI GYNNAL AR 9FED TACHWEDD 2015.

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 3 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch unigolyn penodol. 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad cyfarfod y Panel Rhestr Fer oedd wedi ei gynnal ar 9fed Tachwedd 2015.

 

5.

PENODI PENNAETH Y GWASANAETHAU INTEGREDIG

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 3 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch unigolyn penodol. 

Rhoddodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol [Rheoli Pobl a Pherfformiad] wybodaeth i'r Pwyllgor am y broses ddethol hyd yn hyn a'r drefn a awgrymwyd ar gyfer y cyfarfod. Cafodd y Pwyllgor sylwadau ymgynghorydd allanol oedd wedi bod yn gysylltiedig â'r broses asesu. Yr oedd aelodau'r Pwyllgor wedi cael cyfle eisoes i gyfarfod â'r ymgeiswyr.

Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad gan y ddau ymgeisydd oedd ar y rhestr fer, a chafodd aelodau'r Pwyllgor gyfle i ofyn cwestiynau.

Ar ôl i'r cyflwyniadau a'r cyfweliadau orffen cafodd y Pwyllgor ragor o adborth gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol a'r Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad), a oedd yn cynnwys manylion y broses asesu a chasgliadau'r broses honno.    

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi Ms. R. Dawson yn Bennaeth y Gwasanaethau Integredig.

[Galwyd Ms. Dawson yn ôl i'r cyfarfod, a dywedodd hi ei bod yn derbyn y swydd.]