Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr E. Dole, D.C. Evans a D.M. Jenkins.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFODYDD Y PWYLLGOR PENODI B A GYNHALWYD AR Y 14EG GORFFENNAF 2017 & 3YDD HYDREF 2017 pdf eicon PDF 203 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf 2017 ac ar 3 Hydref 2017 gan eu bod yn gywir.

 

 

4.

NI DDYLID CYHOEDDI'R ADRODDIAD SY'N YMWNEUD Â'R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y'I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â'R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O'R FATH

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf sef gwybodaeth ynghylch unigolyn penodol.

 

5.

PENNAETH MYNEDIAD I ADDYSG - SWYDD ARALL ADDAS

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 4 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch unigolyn penodol.

 

Ar ôl ystyried adroddiad a fanylodd ar newidiadau o ran staff a gwaith ailstrwythuro yn yr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant, gwahoddwyd y Pwyllgor i asesu addasrwydd Pennaeth Dros Dro Mynediad i Addysg o ran ymgymryd â dyletswyddau swydd y Pennaeth Mynediad i Addysg.

 

Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad gan yr ymgeisydd, a chafodd aelodau'r Pwyllgor gyfle i ofyn cwestiynau.  Yn dilyn y cyflwyniad a'r cyfweliad, cafodd y Pwyllgor adborth gan y swyddogion.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi Mr S. Davies i swydd y Pennaeth Mynediad i Addysg.

 

[Galwyd Mr. Davies yn ôl i'r cyfarfod, a dywedodd ei fod yn derbyn y swydd.]

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau