Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr C. Campbell a K. Madge.
|
|||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion:
|
|||||||
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddfsef gwybodaeth ynghylch ymgeiswyr oedd yn cynnig am swydd gan yr Awdurdod.
|
|||||||
PENNAETH I.C.T. & PHENNAETH REFENIW A CHYDYMFFURFIAETH ARIANNOL - SWYDD ARALL ADDAS Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 3 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch unigolyn penodol. Gwahoddwyd y Pwyllgor, ar ôl ystyried adroddiad oedd yn manylu ar ailstrwythuro a newidiadau o ran staff, i asesu addasrwydd Pennaeth Dros Dro TGCh a Phennaeth Dros Dro Archwilio, Risg a Chaffael i ymgymryd â dyletswyddau'r swyddi Pennaeth Gwasanaethau TGCh a Phennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol, yn y drefn honno. Cafodd y Pwyllgor gyflwyniadau gan y ddau aelod o staff a nodwyd uchod a chafodd aelodau'r Pwyllgor gyfle i ofyn cwestiynau. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL 4.1 penodi Mr. N. Daniel yn Bennaeth TGCh; 4.2 penodi Ms. H. Pugh yn Bennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol. [Galwyd y ddau aelod o staff a nodwyd uchod yn ôl i'r cyfarfod, a dywedasant eu bod yn derbyn y swyddi priodol.]
|