Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr S. Najmi a J.E. Williams
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol
|
|
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFAROD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIADAU SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf sef gwybodaeth ynghylch unigolyn penodol.
|
|
DERBYN NODIADAU GWEITHREDU CYFARFOD O’R PANEL RHESTR FER A GYNHALIWYD AR Y 12FED HYDREF, 2017 Cofnodion: PENDERFYNWYD derbyn Nodiadau Gweithredu cyfarfod y Panel Rhestr Fer oedd wedi ei gynnal ar 12 Hydref 2017
|
|
DERBYN CYFLWYNIADAU A CHYFWELD YR YMGEISYDD AR Y RHESTR FER AR GYFER SWYDD CYFARWYDDWR ADDYSG A GWASANAETHAU PLANT AC YSTYRIED GWNEUD PENODIAD. (Amgaeir er sylw’r aelodau gopï ar Pecyn Ymgeirio a Ffurflenni cais yr ymgeiswyr) Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am y broses asesu yr ymgymerwyd â hi ar gyfer penodi'r Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant a dywedwyd wrth y Pwyllgor fod yr ymgeisydd, yn dilyn llunio rhestr fer gychwynnol ar 12 Hydref 2017, wedi cael ei wahodd i gyfweliad y diwrnod hwnnw.
Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad gan yr ymgeisydd ar y rhestr fer, a chafodd aelodau'r Pwyllgor gyfle i ofyn cwestiynau.
Yn dilyn cwblhau'r cyflwyniad a'r cyfweliad,
PENDERFYNWYD penodi Mr G. Morgans i swydd Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant yn amodol ar y telerau a'r amodau i'w cytuno â'r Prif Weithredwr.
[NODER: Galwyd Mr. Morgans yn ôl i'r cyfarfod er mwyn rhoi gwybod iddo am y penderfyniad, a chadarnhaodd ei fod yn derbyn y swydd.
|