Lleoliad: Ystafell Pwyllgor 2, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd J. Williams. |
|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd dim buddiannau.
|
|
NAD YDYW I'W GYHOEDDI NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R FATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 13 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y FATER YMA YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.
Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL yn unol ag Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 na fyddai’r cyhoedd yn cael aros yn y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn datgelu gwybodaeth eithriedig fel y diffiniwyd hynny ym Mharagraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf (fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) 2007), sef gwybodaeth a fyddai'n debygol o ddadlennu enw unigolyn.
|
|
YSTYRIED APEL YN ERBYN DISWYDDO - ADRAN YR AMGYLCHEDD Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 3 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddid yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch y canlynol.
Yr oedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud ag enw'r apelydd a manylion personol eraill, sef data personol yn unol â'r diffiniad yn Adran 1 o Ddeddf Diogelu Data 1988. Nid oedd y mater a fyddai'n cael ei ystyried gan y Pwyllgor yn fater budd cyhoeddus. Byddai datgelu'r wybodaeth oedd yn yr adroddiad yn annheg ac yn groes i hawl yr apelydd i gael preifatrwydd. Felly ar ôl cloriannu'r mater, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cynnwys yr adroddiad yn gyfrinachol yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth.
Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r cyfarfod i'r apelydd a'i gynrychiolydd undeb llafur, ynghyd â'r Swyddog Ymchwilio penodedig a'r cynrychiolydd Adnoddau Dynol, ac amlinellodd y protocol y byddid yn ei ddilyn wrth wrando ar yr apêl (dosbarthwyd copïau o'r protocol ym mhecyn yr agenda.)
Gan hynny, gwrandawodd y Pwyllgor ar dystiolaeth gan y Swyddogion Ymchwilio, a chynrychiolydd undeb llafur yr apelydd.
PENDERFYNWYD gohirio ystyried yr apêl tan 27 Chwefror 2017.
|
|
Y CYFARFOD YN AILYMGYNNULL Cofnodion:
Roedd y cyfarfod wedi ailymgynnull yn Ystafell Pwyllgorau 2, 3 Heol Spilman, Caerfyrddin ddydd Llun, 27 Chwefror 2017 am 9.15am.
YN BRESENNOL: Y Cynghorydd J.K. Howell (Cadeirydd); Y Cynghorwyr: J.P. Jenkins, B.A.L. Roberts a S.E. Thomas.
Roedd y swyddogion canlynol yn bresennol yn y cyfarfod: Mrs J. Stuart - Pen-swyddog Adnoddau Dynol Mr C. Jones - Cyfreithiwr Cynorthwyol Mr M. Davies - Swyddog Gwasanaethau Democrataidd
|
|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr S.M. Allen a J. Williams.
|
|
APÊL YN ERBYN DISWYDDO - ADRAN YR AMGYLCHEDD Cofnodion:
Estynnodd y Cadeirydd groeso'n ôl i'r apelydd a'i gynrychiolydd undeb llafur, ynghyd â'r Swyddogion Ymchwilio penodedig a'r cynrychiolydd Adnoddau Dynol, a dywedodd mai diben y cyfarfod oedd parhau â'r gwrandawiad ynghylch apêl yn erbyn diswyddiad a oedd wedi ei ohirio ar 24 Chwefror 2017. Yna bu i'r cynrychiolydd undeb llafur barhau â'i sylwadau ar ran yr apelydd. Cafodd y ddwy ochr gyfle i groesholi ynghylch y dystiolaeth a roddwyd ac i grynhoi. Ar ôl gwneud hynny, gadawodd y ddwy ochr y cyfarfod tra oedd y Pwyllgor yn ystyried y dystiolaeth a’r sylwadau a gyflwynwyd. Ar ôl i'r Pwyllgor ystyried yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd, ynghyd â'r sylwadau a wnaed gan yr apelydd a'r Swyddogion Ymchwilio, PENDERFYNWYD 7.1 bod yr apêl yn cael ei gwrthod a bod y penderfyniad i ddiswyddo'r apelydd, a oedd wedi'i ategu mewn llythyr dyddiedig 6 Hydref 2016 yn dilyn Gwrandawiad Disgyblu Ffurfiol ar 30 Medi 2017, yn cael ei gadarnhau; 7.2.bod yr apelydd yn cael ei hysbysu'n ysgrifenedig o'r rhesymau llawn dros wrthod yr apêl.
Cafodd y naill ochr a’r llall eu galw yn ôl i’r cyfarfod a'u hysbysu ynghylch penderfyniad y Pwyllgor.
|