Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, 3 Heol Spilman, Caerfyrddin - 3 Heol Spilman. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd D.T. Williams.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd dim buddiannau.

 

3.

CONFODION - 13EG MAWRTTH 2018. pdf eicon PDF 301 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 13 Mawrth 2018 gan eu bod yn gywir.

 

4.

UNRHYW FATER ARALL

Cofnodion:

Nid oedd dim.

 

5.

NAD YDYW I'W GYHOEDDI

THE REPORTS RELATING TO THE FOLLOWING ITEMS ARE NOT FOR PUBLICATION AS THEY CONTAIN EXEMPT INFORMATION AS DEFINED IN PARAGRAPH 13 OF PART 4 OF SCHEDULE 12A TO THE LOCAL GOVERNMENT ACT, 1972 AS AMENDED BY THE LOCAL GOVERNMENT (ACCESS TO INFORMATION) (VARIATION) (WALES) ORDER 2007.<br/>IF FOLLOWING THE APPLICATION OF THE PUBLIC INTEREST TEST THE COMMITTEE RESOLVES PURSUANT TO THE ACT TO CONSIDER THESE ITEMS IN PRIVATE, THE PUBLIC WILL BE EXCLUDED FROM THE MEETING DURING SUCH CONSIDERATION.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL yn unol ag Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 na fyddai’r cyhoedd yn cael aros yn y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn datgelu gwybodaeth eithriedig fel y diffiniwyd hynny ym Mharagraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf (fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) 2007), sef gwybodaeth a fyddai'n debygol o ddadlennu enw unigolyn.

 

6.

YSTYRIED APEL YN ERBYN DISWYDDO - ADRAN GWASANAETHAU CYMUNEDAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 5 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddid yn datgelu gwybodaeth eithriedig a fyddai'n debygol o ddatgelu pwy yw'r unigolyn dan sylw.

 

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud ag enw'r apelydd a manylion personol eraill, sef data personol yn unol â'r diffiniad yn Adran 1 o Ddeddf Diogelu Data 1998.  Nid oedd y mater a fyddai'n cael ei ystyried gan y Pwyllgor yn fater budd cyhoeddus.  Byddai datgelu'r wybodaeth oedd yn yr adroddiad yn annheg ac yn groes i hawl yr apelydd i gael preifatrwydd.  Felly ar ôl cloriannu'r mater, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cynnwys yr adroddiad yn gyfrinachol yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth.

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r cyfarfod i'r apelydd a'i chynrychiolydd, ynghyd â'r Swyddogion Comisiynu ac Ymchwilio penodedig, ac amlinellodd y protocol y byddid yn ei ddilyn wrth wrando ar yr apêl (roedd copïau o'r protocol wedi'u cynnwys ym mhecyn yr agenda.)

 

Aeth y Pwyllgor yn ei flaen i wrando ar dystiolaeth gan y Swyddog Comisiynu, yr apelydd a'i chynrychiolydd.

 

Cafodd y ddwy ochr gyfle i groesholi ynghylch y dystiolaeth a roddwyd ac i grynhoi. Ar ôl gwneud hynny, gadawodd y ddwy ochr y cyfarfod tra oedd y Pwyllgor yn ystyried y dystiolaeth a’r sylwadau a gyflwynwyd.

 

(NODER: gohiriwyd y cyfarfod gan y Pwyllgor am 12.45pm am ginio ac ailymgynullwyd am 1.30pm)

 

Ar ôl i'r Pwyllgor ystyried yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd, ynghyd â'r sylwadau a wnaed gan yr apelydd, ac ar ei rhan, a chan y Swyddogion Comisiynu ac Ymchwilio:-

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

6.1      cadarnhau'r apêl a bod penderfyniad y Gwrandawiad Disgyblu a gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf, 2019 i ddiswyddo'r apelydd yn cael ei ddiddymu a bod yr apelydd yn cael ei hadfer i'w swydd o'r dyddiad hwnnw, ond mewn rôl/maes gwahanol i o'r blaen;

6.2      bod yr apelydd yn cael rhybudd ysgrifenedig terfynol a bod yn rhaid iddi gael hyfforddiant priodol.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau