Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Apelau - Dydd Mawrth, 13eg Mawrth, 2018 9.30 yb

Lleoliad: Ystafell Pwyllgor 2, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

No declarations of interest were received.

2.1

10FED CHWEFROR 2017 pdf eicon PDF 123 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Chwefror 2017 gan eu bod yn gofnod cywir.

 

2.2

24AIN CHWEFROR 2017 pdf eicon PDF 115 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Chwefror 2017 gan eu bod yn gofnod cywir.

 

 

2.3

27AIN CHWEFROR 2017 pdf eicon PDF 100 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Chwefror 2017 gan eu bod yn gofnod cywir.

 

 

3.

DDIM I’W GYHOEDDI

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R FATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 13 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y FATER YMA YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL yn unol ag Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 na fyddai’r cyhoedd yn cael aros yn y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n datgelu gwybodaeth eithriedig fel y diffiniwyd ym Mharagraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) 2007, sef gwybodaeth a fyddai'n debygol o ddatgelu pwy yw'r unigolyn dan sylw.

 

 

4.

YSTYRIED APEL YN ERBYN DISWYDDO - ADRAN GWASANAETHAU CORFFORAETHOL

Cofnodion:

Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 4 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddid yn datgelu gwybodaeth eithriedig a fyddai'n debygol o ddatgelu pwy yw'r unigolyn dan sylw.

 

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud ag enw'r apelydd a manylion personol eraill, sef data personol yn unol â'r diffiniad yn Adran 1 o Ddeddf Diogelu Data 1998.  Nid oedd y mater a fyddai'n cael ei ystyried gan y Pwyllgor yn fater budd cyhoeddus.  Byddai datgelu'r wybodaeth oedd yn yr adroddiad yn annheg ac yn groes i hawl yr apelydd i gael preifatrwydd.  Felly ar ôl cloriannu'r mater, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cynnwys yr adroddiad yn gyfrinachol yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth.

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r cyfarfod i'r apelydd a'i chynrychiolydd, ynghyd â'r Swyddog Comisiynu penodedig, ac amlinellodd y protocol y byddid yn ei ddilyn wrth wrando ar yr apêl (dosbarthwyd copïau o'r protocol ym mhecyn yr agenda.) Cyn i'r Pwyllgor ystyried yr apêl, cyfeiriodd y Rheolwr Comisiynu at dystiolaeth yr Awdurdod y manylwyd arni yn y pecyn a thynnodd ei sylw at sawl eitem o ohebiaeth nad oeddent wedi'u cynnwys yn y pecyn hwnnw ar gam. Gofynnodd a fyddai'r Pwyllgor yn caniatáu i'r dystiolaeth honno gael ei chyflwyno yn y cyfarfod. Gyda chaniatâd yr apelydd:-

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr ohebiaeth ychwanegol fel rhan o gyflwyniad yr Awdurdod, ac y byddai'r cyfarfod yn cael ei ohirio am gyfnod o 10 munud er mwyn rhoi'r cyfle i bob parti ddarllen yr ohebiaeth.

 

Aeth y Pwyllgor yn ei flaen i wrando ar dystiolaeth gan y Rheolwr Comisiynu, yr apelydd a'i chynrychiolydd.

 

Cafodd y ddwy ochr gyfle i groesholi ynghylch y dystiolaeth a roddwyd ac i grynhoi. Ar ôl gwneud hynny, gadawodd y ddwy ochr y cyfarfod tra oedd y Pwyllgor yn ystyried y dystiolaeth a’r sylwadau a gyflwynwyd.

 

Ar ôl i'r Pwyllgor ystyried yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd, ynghyd â'r sylwadau a wnaed gan yr apelydd, ac ar ei rhan, a chan y Rheolwr Comisiynu:-

 

PENDERFYNWYD cadarnhau'r apêl a rhoi gwybod i'r apelydd, yn ysgrifenedig, am y dyfarniad llawn.

 

5.

YSTYRIED APEL YN ERBYN DISWYDDO - ADRAN GWASANAETHAU CORFFORAETHOL

Cofnodion:

Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 4 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddid yn datgelu gwybodaeth eithriedig a fyddai'n debygol o ddatgelu pwy yw'r unigolyn dan sylw.

 

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud ag enw'r apelydd a manylion personol eraill, sef data personol yn unol â'r diffiniad yn Adran 1 o Ddeddf Diogelu Data 1998.  Nid oedd y mater a fyddai'n cael ei ystyried gan y Pwyllgor yn fater budd cyhoeddus.  Byddai datgelu'r wybodaeth oedd yn yr adroddiad yn annheg ac yn groes i hawl yr apelydd i gael preifatrwydd.  Felly ar ôl cloriannu'r mater, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cynnwys yr adroddiad yn gyfrinachol yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth.

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r cyfarfod i'r apelydd a'i chynrychiolydd, ynghyd â'r Rheolwr Comisiynu penodedig, ac amlinellodd y protocol y byddid yn ei ddilyn wrth wrando ar yr apêl (dosbarthwyd copïau o'r protocol ym mhecyn yr agenda.) Cyn i'r Pwyllgor ystyried yr apêl, cyfeiriodd y Rheolwr Comisiynu at dystiolaeth yr Awdurdod y manylwyd arni yn y pecyn a thynnodd ei sylw at sawl eitem o ohebiaeth nad oeddent wedi'u cynnwys yn y pecyn hwnnw ar gam. Gofynnodd a fyddai'r Pwyllgor yn caniatáu i'r dystiolaeth honno gael ei chyflwyno yn y cyfarfod. Gyda chaniatâd yr apelydd:-

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr ohebiaeth ychwanegol fel rhan o gyflwyniad yr Awdurdod, ac y byddai'r cyfarfod yn cael ei ohirio er mwyn rhoi'r cyfle i bob parti ddarllen yr ohebiaeth.

 

(NODER: gohiriwyd y cyfarfod gan y Pwyllgor am 12.40pm am ginio ac fe'i ailymgynullwyd am 1.15pm)

 

Aeth y Pwyllgor yn ei flaen i wrando ar dystiolaeth gan y Rheolwr Comisiynu, yr apelydd a'i chynrychiolydd.

 

Cafodd y ddwy ochr gyfle i groesholi ynghylch y dystiolaeth a roddwyd ac i grynhoi. Ar ôl gwneud hynny, gadawodd y ddwy ochr y cyfarfod tra oedd y Pwyllgor yn ystyried y dystiolaeth a’r sylwadau a gyflwynwyd.

 

Ar ôl i'r Pwyllgor ystyried yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd, ynghyd â'r sylwadau a wnaed gan yr apelydd, ac ar ei rhan, a chan y Rheolwr Comisiynu:-

 

PENDERFYNWYD cadarnhau'r apêl a rhoi gwybod i'r apelydd, yn ysgrifenedig, am y dyfarniad llawn.

 

 

6.

COFNODION

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR CONFODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR