Lleoliad: Ystafell Pwyllgor 2, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: No declarations of interest were received. |
|
10FED CHWEFROR 2017 PDF 123 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Chwefror 2017 gan eu bod yn gofnod cywir.
|
|
24AIN CHWEFROR 2017 PDF 115 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Chwefror 2017 gan eu bod yn gofnod cywir.
|
|
27AIN CHWEFROR 2017 PDF 100 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Chwefror 2017 gan eu bod yn gofnod cywir.
|
|
DDIM I’W GYHOEDDI NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R FATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 13 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y FATER YMA YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.
Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL yn unol ag Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 na fyddai’r cyhoedd yn cael aros yn y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n datgelu gwybodaeth eithriedig fel y diffiniwyd ym Mharagraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) 2007, sef gwybodaeth a fyddai'n debygol o ddatgelu pwy yw'r unigolyn dan sylw.
|
|
YSTYRIED APEL YN ERBYN DISWYDDO - ADRAN GWASANAETHAU CORFFORAETHOL Cofnodion: Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 4 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddid yn datgelu gwybodaeth eithriedig a fyddai'n debygol o ddatgelu pwy yw'r unigolyn dan sylw.
Yr oedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud ag enw'r apelydd a manylion personol eraill, sef data personol yn unol â'r diffiniad yn Adran 1 o Ddeddf Diogelu Data 1998. Nid oedd y mater a fyddai'n cael ei ystyried gan y Pwyllgor yn fater budd cyhoeddus. Byddai datgelu'r wybodaeth oedd yn yr adroddiad yn annheg ac yn groes i hawl yr apelydd i gael preifatrwydd. Felly ar ôl cloriannu'r mater, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cynnwys yr adroddiad yn gyfrinachol yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth.
Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r cyfarfod i'r apelydd a'i chynrychiolydd, ynghyd â'r Swyddog Comisiynu penodedig, ac amlinellodd y protocol y byddid yn ei ddilyn wrth wrando ar yr apêl (dosbarthwyd copïau o'r protocol ym mhecyn yr agenda.) Cyn i'r Pwyllgor ystyried yr apêl, cyfeiriodd y Rheolwr Comisiynu at dystiolaeth yr Awdurdod y manylwyd arni yn y pecyn a thynnodd ei sylw at sawl eitem o ohebiaeth nad oeddent wedi'u cynnwys yn y pecyn hwnnw ar gam. Gofynnodd a fyddai'r Pwyllgor yn caniatáu i'r dystiolaeth honno gael ei chyflwyno yn y cyfarfod. Gyda chaniatâd yr apelydd:-
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr ohebiaeth ychwanegol fel rhan o gyflwyniad yr Awdurdod, ac y byddai'r cyfarfod yn cael ei ohirio am gyfnod o 10 munud er mwyn rhoi'r cyfle i bob parti ddarllen yr ohebiaeth.
Aeth y Pwyllgor yn ei flaen i wrando ar dystiolaeth gan y Rheolwr Comisiynu, yr apelydd a'i chynrychiolydd.
Cafodd y ddwy ochr gyfle i groesholi ynghylch y dystiolaeth a roddwyd ac i grynhoi. Ar ôl gwneud hynny, gadawodd y ddwy ochr y cyfarfod tra oedd y Pwyllgor yn ystyried y dystiolaeth a’r sylwadau a gyflwynwyd.
Ar ôl i'r Pwyllgor ystyried yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd, ynghyd â'r sylwadau a wnaed gan yr apelydd, ac ar ei rhan, a chan y Rheolwr Comisiynu:-
PENDERFYNWYD cadarnhau'r apêl a rhoi gwybod i'r apelydd, yn ysgrifenedig, am y dyfarniad llawn.
|
|
YSTYRIED APEL YN ERBYN DISWYDDO - ADRAN GWASANAETHAU CORFFORAETHOL Cofnodion: Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 4 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddid yn datgelu gwybodaeth eithriedig a fyddai'n debygol o ddatgelu pwy yw'r unigolyn dan sylw.
Yr oedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud ag enw'r apelydd a manylion personol eraill, sef data personol yn unol â'r diffiniad yn Adran 1 o Ddeddf Diogelu Data 1998. Nid oedd y mater a fyddai'n cael ei ystyried gan y Pwyllgor yn fater budd cyhoeddus. Byddai datgelu'r wybodaeth oedd yn yr adroddiad yn annheg ac yn groes i hawl yr apelydd i gael preifatrwydd. Felly ar ôl cloriannu'r mater, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cynnwys yr adroddiad yn gyfrinachol yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth.
Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r cyfarfod i'r apelydd a'i chynrychiolydd, ynghyd â'r Rheolwr Comisiynu penodedig, ac amlinellodd y protocol y byddid yn ei ddilyn wrth wrando ar yr apêl (dosbarthwyd copïau o'r protocol ym mhecyn yr agenda.) Cyn i'r Pwyllgor ystyried yr apêl, cyfeiriodd y Rheolwr Comisiynu at dystiolaeth yr Awdurdod y manylwyd arni yn y pecyn a thynnodd ei sylw at sawl eitem o ohebiaeth nad oeddent wedi'u cynnwys yn y pecyn hwnnw ar gam. Gofynnodd a fyddai'r Pwyllgor yn caniatáu i'r dystiolaeth honno gael ei chyflwyno yn y cyfarfod. Gyda chaniatâd yr apelydd:-
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr ohebiaeth ychwanegol fel rhan o gyflwyniad yr Awdurdod, ac y byddai'r cyfarfod yn cael ei ohirio er mwyn rhoi'r cyfle i bob parti ddarllen yr ohebiaeth.
(NODER: gohiriwyd y cyfarfod gan y Pwyllgor am 12.40pm am ginio ac fe'i ailymgynullwyd am 1.15pm)
Aeth y Pwyllgor yn ei flaen i wrando ar dystiolaeth gan y Rheolwr Comisiynu, yr apelydd a'i chynrychiolydd.
Cafodd y ddwy ochr gyfle i groesholi ynghylch y dystiolaeth a roddwyd ac i grynhoi. Ar ôl gwneud hynny, gadawodd y ddwy ochr y cyfarfod tra oedd y Pwyllgor yn ystyried y dystiolaeth a’r sylwadau a gyflwynwyd.
Ar ôl i'r Pwyllgor ystyried yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd, ynghyd â'r sylwadau a wnaed gan yr apelydd, ac ar ei rhan, a chan y Rheolwr Comisiynu:-
PENDERFYNWYD cadarnhau'r apêl a rhoi gwybod i'r apelydd, yn ysgrifenedig, am y dyfarniad llawn.
|
|
COFNODION LLOFNODI YN COFNOD CYWIR CONFODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR |