Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin J Thomas  01267 224027

Nodyn: Rhith-gyfarfod. Gall aelodau'r cyhoedd weld y cyfarfod yn fyw trwy wefan yr Awdurdod. Os oes angen cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg arnoch yn ystod y cyfarfod, ffoniwch330 336 4321 cyfrin-gôd' 97746311# Am daliadau galwad cysylltwch â'ch darparwr gwasanaeth. 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr T. Higgins, J. James, T.J. Jones, S. Najmi, S. Phillips a G.B. Thomas.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

MATERION PERSONOL / CYHOEDDIADAU GAN Y CADEIRYDD YMADAWOL

Cofnodion:

·                Talodd y Cadeirydd deyrnged i Mr David Tom Davies OBE, MM yn dilyn ei farwolaeth. Bu Mr Davies yn Gadeirydd yr hen Gyngor Sir Dyfed o 1981-82 ac ef oedd y Cadeirydd pan sefydlwyd y Cyngor Sir Caerfyrddin presennol o 1995-97 a bu'n gweithio'n ddiflino dros y sir a'r gymuned leol yn Nryslwyn a'r cyffiniau. Roedd yn un o'r sylfaenwyr Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a chwaraeodd ran fawr wrth sefydlu Gerddi Aberglasne ac yn haeddiannol iawn felly, yn 2018 ar achlysur dathlu ei ben-blwydd yn 100 oed, derbyniodd Ryddid Anrhydeddus Sir Gaerfyrddin.

 

Bu Mr Davies hefyd yn gwasanaethu yn ystod yr Ail Ryfel Byd fel aelod o'r Magnelwyr Brenhinol a threuliodd dair blynedd fel carcharor rhyfel. Yn 2016, cyhoedded ei stori mewn llyfr.

·                Cyfeiriodd y Cadeirydd at y cyfnod anodd sy'n wynebu llawer ar hyn o bryd oherwydd pandemig Covid-19 gan gofio am y teuluoedd hynny yr effeithiwyd arnynt gan y feirws;

·                Mynegodd y Cadeirydd ei werthfawrogiad i holl staff y Cyngor a'r holl wasanaethau cyhoeddus a gwasanaethau iechyd eraill am eu gwaith caled yn ystod y pandemig yn sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn Sir Gaerfyrddin yn parhau i ddarparu cynifer o wasanaethau â phosibl a helpu pobl agored i niwed yn y gymuned. Mynegodd ddiolch arbennig i'r gwirfoddolwyr di-ri a oedd wedi helpu yn ystod yr argyfwng dros y tri mis blaenorol.

·               Estynnodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau i'r trigolion canlynol o fewn y Sir a oedd wedi dathlu eu pen-blwydd yn 100 oed yn ddiweddar:-

 

Ethel Wheeler - Capel Hendre

Joan Davies - Betws

Douglas Davies - Llanell

 

Bu Cadeirydd y llynedd yn edrych yn ôl ar ei flwyddyn yn y swydd a fu ychydig yn wahanol dros y tri mis diwethaf oherwydd y coronafeirws. Mynegodd ei werthfawrogiad i'r llu o bobl a oedd wedi gwirfoddoli i helpu'r rhai sy'n agored i niwed yn y gymuned yn ystod y pandemig. Cyfeiriodd hefyd at y nifer fawr o bobl yr oedd wedi eu cyfarfod yn ystod ei flwyddyn yn y swydd ac at y gwaith yr oeddent yn ei wneud ar ran eu cymunedau a chyhoeddodd bod gwobr newydd sef 'Y Gwobrau Diolch Dinesig' wedi cael ei sefydlu i gydnabod eu gwaith. Byddai enwau enillwyr y gwobrau yn 2019-20 yn cael eu cyhoeddi'r bore hwnnw, gyda'r derbynwyr yn derbyn eu gwobrau yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Mynegodd hefyd ei werthfawrogiad i'r rhai a gyfrannodd at ei elusen gan godi £3,925 ar gyfer y banciau bwyd yn Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli.

 

Diolchodd i'w Is-gadeirydd, y Cynghorydd Ieuan Davies a Chydymaith y Cynghorydd Davies sef, Mrs Sue Allen, am eu cymorth a'u cwmni yn ystod ei gyfnod yn y swydd a dymunodd yn dda i'r Cynghorydd Davies yn ystod ei flwyddyn yn y swydd. Diolchodd hefyd i'w Gaplan y Parchedig Caroline Jones am ei chefnogaeth ysbrydol a'i harweiniad drwy gydol y flwyddyn.

 

Mynegodd ei ddiolch i'r Prif Weithredwr am ei chyngor a'i harweiniad proffesiynol, ac i'r Cyfarwyddwyr a staff yr Awdurdod a oedd wedi cefnogi gwaith y Cadeirydd, gan gynnwys yr  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

ETHOL CADEIRYDD Y CYNGOR AM FLWYDDYN Y CYNGOR2020-21.

Cofnodion:

Cynigiwyd gan y Cynghorydd K. Madge ac eiliwyd gan y Cynghorydd L.M. Stephens a PHENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Cynghorydd I.W. Davies yn cael ei ethol yn Gadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin am Flwyddyn y Cyngor 2020/21.

 

Mynegodd y Cynghorydd K. Madge ei longyfarchiadau i'r Cynghorydd Davies ar gael ei ethol gan ddweud, oherwydd rheolau cadw pellter cymdeithasol, ni allai gyflwyno'r Gadwyn Swyddogol i'r Cynghorydd Davies yn bersonol, ond trefnwyd bod y gadwyn yn cael ei hanfon i'w gartref.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Ieuan Davies ei ddatganiad yn derbyn y swydd, ac arwisgodd y Gadwyn Swyddogol.

 

Mynegodd y Cynghorydd Davies ei ddiolch i'r holl Gynghorwyr am eu cefnogaeth wrth ei benodi'n Gadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin ac roedd yn edrych ymlaen at ei flwyddyn yn y swydd yn cynrychioli'r Cyngor ac yn cyfarfod â phobl pan fyddai'r cyfyngiadau symud presennol yn cael eu llacio.  Talodd y Cynghorydd Davies deyrnged hefyd i Gadeirydd y llynedd sef, y Cynghorydd K. Madge

 

Rhoddwyd teyrngedau hefyd i Gadeirydd y llynedd gan Arweinyddion Gr?p Plaid Cymru, y Blaid Annibynnol, Gr?p Llafur, a'r Gr?p Annibynnol Newydd am y gwasanaeth rhagorol yr oedd wedi'i roi i'r Cyngor yn ystod ei flwyddyn yn y swydd.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Aelodau am eu holl eiriau caredig gan ddweud, oherwydd y rheolau cadw pellter cymdeithasol, ni fyddai'r Gadwyn Swyddogol yn cael ei chyflwyno i'w Gydymaith (Mrs Sue Allen) y diwrnod hwnnw. Y gobaith oedd trefnu digwyddiad seremonïol yn ddiweddarach yn y flwyddyn. 

 

Yn ogystal talodd y Prif Weithredwr deyrnged ar ran staff yr Awdurdod i Gadeirydd y llynedd, a'i Gydymaith (Cynghorydd Kevin Madge a Mrs Catrin Madge) a oedd wedi cyflawni'r rôl mewn modd proffesiynol dros ben gan fod yn hynod o gefnogol i waith y Cyngor. Mynegodd ei llongyfarchiadau i'r Cadeirydd a'i Gydymaith a oedd newydd gael eu hethol (y Cynghorydd Ieuan Davies a Mrs Sue Allen) ar eu penodiad.  Cyfeiriodd hefyd at natur y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol eleni fel un o nifer o brofiadau newydd, a dywedodd er bod y rhai a fyddai fel rheol yn y Siambr heddiw i ddymuno'n dda i'r Cadeirydd yn methu â gwneud hynny, roeddent wedi mynd ati i roi eu dymuniadau gorau at ei gilydd ar fideo.

 

Bu'r Cyngor yn gwylio'r fideo.

 

Dymunodd y Prif Weithredwr flwyddyn hapus a llwyddiannus iawn i'r Cadeirydd yn ei swydd.

5.

ETHOL IS-GADEIRYDD Y CYNGOR AM FLWYDDYN Y CYNGOR 2020-21

Cofnodion:

Cynigiwyd gan y Cynghorydd W.T.Evans ac eiliwyd gan y Cynghorydd G. Thomas a PHENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Cynghorydd Eirwyn Williams yn cael ei ethol yn Is-gadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin am Flwyddyn y Cyngor 2020/21. 

 

Mynegodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau i'r Is-gadeirydd ar ei benodiad a dywedodd oherwydd y rheolau cadw pellter cymdeithasol cyfredol, bod trefniadau wedi'u gwneud i ddosbarthu’r Gadwyn Swyddogol i gartref y Cynghorydd Williams.

 

Mynegodd yr Is-gadeirydd ei werthfawrogiad i'r Cyngor ar ei benodiad a gwnaeth ei ddatganiad yn derbyn swydd.

 

Dywedodd y Cadeirydd oherwydd rheolau cadw pellter cymdeithasol, ni fyddai'r Gadwyn Swyddogol yn cael ei chyflwyno i Gydymaith yr Is-gadeirydd (Mrs Joyce Williams) heddiw. Y gobaith oedd gwneud hynny'n ddiweddarach yn y flwyddyn.

6.

DERBYN ADRODDIAD BLYNYDDOL ARWEINYDD Y CYNGOR 2019-20 pdf eicon PDF 3 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd ei bumed Adroddiad Blynyddol i'r Cyngor yn cwmpasu'r cyfnod 2019/20 ac edrychodd yn ôl ar gyflawniadau'r Cyngor dros y 12 mis blaenorol (yr oedd copïau ohonynt wedi eu rhoi i'r Cynghorwyr cyn y cyfarfod). Dywedodd er nad oedd yn bwriadu mynd drwy'r adroddiad yn fanwl, y byddai'n hoffi tynnu sylw at gyflawniadau canlynol y Cyngor dros y flwyddyn (gan gynnwys cyflwyniad fideo) cyn rhoi sylwadau ar effaith pandemig Covid 19 ar y Sir a graddfa ac ymateb y Cyngor i hynny.

 

Bu'r Cyngor yn gwylio'r fideo.

 

Atgoffodd yr Arweinydd y Cyngor mai dim ond blwyddyn yn ôl y cynhaliwyd cymal olaf Taith Merched OVO pan ddaeth miloedd o bobl i sefyll ar strydoedd y sir i annog y beicwyr yn eu blaenau ar eu ras 79 milltir drwy Sir Gaerfyrddin. Roedd cynnal y ras wedi rhoi cyfle i arddangos golygfeydd hardd y sir a'r croeso cynnes sy'n aros i'r rheiny sy'n ymweld â'r sir. Roedd y Cyngor hefyd wedi neilltuo £20,000 ar gyfer ei Gynllun Cymorth Digwyddiadau er mwyn i sefydliadau a grwpiau cymunedol gynnal eu digwyddiadau eu hunain. Roedd y rheiny'n cynnwys wythnos G?yl Dewi Sant Caerfyrddin, G?yl Ddefaid Llanymddyfri, Pride Llanelli a G?yl Canol Dre.

 

Roedd yn ystyried mai un o'r cyflawniadau y gallai'r Cyngor ymfalchïo fwyaf ynddo yn ystod y flwyddyn oedd yr Adroddiad "Symud Sir Gaerfyrddin Ymlaen". Roedd dros 60% o boblogaeth y Sir yn byw yn ei hardaloedd gwledig ac roedd gan y Cyngor bortffolio penodol i gynrychioli anghenion y bobl hynny. Roedd Menter y Deg Tref Wledig yn amlinellu'r weledigaeth strategol hirdymor ar gyfer adfywio cymunedau gwledig y sir drwy sicrhau cynaliadwyedd economaidd, diwylliannol, cymdeithasol ac amgylcheddol i'r trefi hynny h.y. Llanymddyfri, Sanclêr, Hendy-gwyn ar Daf, Castellnewydd Emlyn, Talacharn, Cwmaman, Llanybydder, Cydweli, Llandeilo a Cross Hands. Fodd bynnag, yn wyneb Covid-19 sylweddolwyd yn fwy nag erioed fod yr angen i edrych yn lleol, ac wrth gefnogi a datblygu'r economi honno, byddai'r sir yn dod hyd yn oed yn fwy cydnerth a chadarn.

 

Byddai Cynlluniau'r Cyngor i gynyddu ei stoc dai ar draws y Sir hefyd yn cefnogi'r strategaeth wledig. Dros y pum mlynedd nesaf roedd y Cyngor wedi ymrwymo i fuddsoddi £150 miliwn i adeiladu 900 o dai cyngor newydd ar draws y sir, gyda llawer o'r rheiny mewn ardaloedd gwledig lle mae prinder tai wedi bod ers blynyddoedd lawer. Roedd gwaith hefyd ar y gweill ym Mhen-bre a'r Bryn, Llanelli i adeiladu 300 o gartrefi cyn 2022 ac er bod y gwaith wedi'i atal ar ddechrau'r cyfyngiadau symud roedd y safleoedd hyn yn dechrau ailagor ac roedd y gwaith wedi ailddechrau.

 

Roedd yr Awdurdod wedi adnewyddu ei ymrwymiad i newid yn yr hinsawdd, gan ddod yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i gyhoeddi cynllun gweithredu newid yn yr hinsawdd, sy'n amlinellu sut y byddai'n carbon sero-net erbyn 2030. Roedd y cynllun yn uchelgeisiol ac roedd y Cyngor wedi ymrwymo i'w lwyddiant. Roedd fflyd sy'n fwy ynni-effeithlon yn cael ei brynu, ac roedd y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

CADARNHAU PENODI AELODAU I BWYLLGORAU'R CYNGORAR GYFER BLWYDDYN Y CYNGOR 2020-21. pdf eicon PDF 77 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyngor yn ystyried aelodaeth y Pwyllgorau Rheoleiddio, y Pwyllgorau Craffu a'r Pwyllgorau a'r Panelau Eraill ac aelodaeth y pwyllgorau hynny. Cadarnhaodd Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol nad oes unrhyw newidiadau ychwanegol o ran aelodaeth.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yn briodol a

PHENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo cyfansoddiad ac aelodaeth y Pwyllgorau Rheoleiddio, y Pwyllgorau Craffu a'r Pwyllgorau a'r Panelau Eraill am Flwyddyn y Cyngor 2020/21, fel y manylir arnynt yn yr adroddiad.

8.

YSTYRIED YR ENWEBIADAU A DDAETH I LAW AR GYFER PENODI CADEIRYDDION AC IS-GADEIRYDDION PWYLLGORAU/PANELAU Y CYNGOR AM FLWYDDYN Y CYNGOR 2020-21. pdf eicon PDF 78 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol RhGG 17.6, rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i'r enwebiadau oedd wedi dod i law ar gyfer penodi Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion y Pwyllgorau am Flwyddyn y Cyngor 2020/21. 

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yn briodol a

 

PHENDERFYNWYD bod y canlynol yn cael eu penodi'n Gadeiryddion ac yn Is-gadeiryddion y Pwyllgorau Rheoleiddio, y Pwyllgorau Craffu, a'r Pwyllgorau a'r Panelau Eraill am Flwyddyn y Cyngor 2020/21:-

 

PWYLLGOR / PANEL

CADEIRYDD

IS-GADEIRYDD

Y Pwyllgor Craffu - Cymunedau

I'w benodi gan y Pwyllgor

Y Cynghorydd G.B. Thomas

Y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant

Y Cynghorydd D. Price

Y Cynghorydd E.G. Thomas

Pwyllgor Craffu Diogelu’r Cyhoedd a’r Amgylchedd

Y Cynghorydd J. D James

Cynghorydd A. Vaughan Owen

Y Pwyllgor Craffu – Polisi ac Adnoddau

Y Cynghorydd A.G. Morgan

Y Cynghorydd G. John

Y Pwyllgor Craffu - Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Y Cynghorydd G.Thomas

Y Cynghorydd I.W. Davies

Pwyllgor Apêl

Y Cynghorydd J.K. Howell

Y Cynghorydd S. C Allen

Pwyllgor Penodi A – Cyfarwyddwyr

Y Cynghorydd E. Dole

Y Cynghorydd L.M. Stephens

Pwyllgor Penodi B - Penaethiaid Gwasanaeth

Y Cynghorydd L.M. Stephens

Y Cynghorydd E. Dole

Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd

Y Cynghorydd S. Curry

Y Cynghorydd W.T. Evans

Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed

Y Cynghorydd D.E. Williams

Heb fod yn ofynnol

Y Pwyllgor Trwyddedu

Y Cynghorydd E.G. Thomas

Y Cynghorydd D.E. Williams

Pwyllgor Penodi Aelodau

Y Cynghorydd A.D.T Speake

Y Cynghorydd W.R.A. Davies

Y Pwyllgor Cynllunio

Y Cynghorydd A. Lenny

Y Cynghorydd H.I. Jones

Y Panel Adolygu Tai

Y Cynghorydd G.B. Thomas

Y Cynghorydd I.W. Davies

 

(SYLWER:  Cafwyd pleidlais ar wahân ar gyfer y seddi yr oedd cystadleuaeth amdanynt sef Is-gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu – Addysg a Phlant)

9.

ADOLYGIAD BLYNYDDOL O'R CYFANSODDIAD pdf eicon PDF 95 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd y Cyngor o'r gofyniad iddo adolygu ei gyfansoddiad yn flynyddol ac, fel rhan o'r broses honno, roedd wedi sefydlu Gweithgor Adolygu'r Cyfansoddiad i gyflwyno unrhyw newidiadau a argymhellwyd.

 

Dywedwyd er nad oedd unrhyw newidiadau deddfwriaethol wedi'u cyflwyno yn ystod 2019/20 a oedd yn mynnu bod newidiadau'n cael eu gwneud i Gyfansoddiad y Cyngor, bod angen newid Rhan 6.1 i adlewyrchu'r symiau a ragnodwyd gan y Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol a oedd i'w talu i Gynghorwyr ar gyfer 2020/21, fel y manylir yn yr adroddiad.

 

O ran gwaith Gweithgor Adolygu'r Cyfansoddiad, dywedwyd er ei fod wedi cael y dasg o adolygu ac argymell unrhyw newidiadau i'r cyfansoddiad, ni fu hyn bosibl ar ôl atal holl gyfarfodydd y Cyngor mewn ymateb i bandemig Covid 19. Felly, cynigiwyd y dylid gohirio'r Adolygiad Blynyddol i gyfarfod o'r Cyngor yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD 

 

9.1

bod Cynllun Cyflogau a Lwfansau Cynghorwyr ac Aelodau Cyfetholedig ar gyfer 2020/21 fel y manylir arno yn yr adroddiad yn cael ei fabwysiadu;

9.2

cymeradwyo unrhyw newidiadau angenrheidiol i'r Cyfansoddiad o ran aelodaeth a wnaed yn gynharach yn y cyfarfod;

9.3

Wrth ystyried pandemig Covid-19, bod yr adolygiad blynyddol llawn o'r Cyfansoddiad yn cael ei ohirio i gyfarfod o'r Cyngor yn y dyfodol.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau