Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr L. Bowen, D.C. Evans, R. Evans, C. Harris, J.P. Jenkins, A. G. Morgan (sesiwn y bore), D. Nicholas, H. Shephardson, D. Thomas, G.B. Thomas a J.E. Williams.  

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

MATERION PERSONOL / CYHOEDDIADAU GAN Y CADEIRYDD YMADAWOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·                Estynnodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad diffuant i deulu'r diweddar Gynghorydd Paul James, Ceredigion, aelod blaenllaw o Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, a fu farw yn dilyn damwain ym mis Ebrill;

 

·                      Estynnodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau i'r canlynol:-

 

·         Dewi Griffiths, Llanfynydd, ar gael ei ddewis i redeg dros Brydain ym Mhencampwriaethau'r Byd yn dilyn ei lwyddiant ym Marathon Llundain;

·         Helen Gibbon (cerddor), Jonathan Davies a Ken Owens (chwaraewyr rygbi), Aled Samuel (darlledwr) a Nesta Williams (gwaith elusennol) a fyddai'n cael eu derbyn i'r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru;

·         Tîm Hoci Castellnewydd Emlyn - a enillodd 'Cwpan Hoci Cymru' yng Ngerddi Soffia, Caerdydd;

·         Islwyn Evans, un o weithwyr y Cyngor ac arweinydd Côr Ceredigion, a enillodd 'Côr Cymru' yn ddiweddar.

 

Croesawodd y Cynghorydd Mansel Charles, sef y cadeirydd a oedd yn ymddeol, westeion nodedig, Cynghorwyr, staff a ffrindiau i'r cyfarfod.

Wrth feddwl am ei flwyddyn yn y swydd, diolchodd y Cynghorydd Charles i'r Prif Weithredwr am ei gyngor a'i arweiniad proffesiynol, ac i'r Cyfarwyddwyr a staff yr Awdurdod oedd yn estyn cymorth i'r Cadeirydd, gan gyfeirio at yr Uned Gwasanaethau Democrataidd, ei yrrwr Jeff Jones, ac yn benodol at Eira Evans am ei chefnogaeth broffesiynol a phersonol, am drefnu ei ddigwyddiadau, ac am sicrhau bod popeth yn mynd yn hwylus bob amser.

Diolchodd i'r Cynghorydd Kevin Madge, sef yr Is-gadeirydd, ac i Mrs Catrin Madge, sef cydymaith y Cynghorydd Madge, am eu cymorth a'u cwmni yn ystod ei gyfnod yn y swydd a dymunodd yn dda i'r Cynghorydd Madge yn ystod ei flwyddyn yn y swydd. Diolchodd hefyd i'w Gaplan Dr. Caroline Jones am ei chefnogaeth ysbrydol a'i harweiniad drwy gydol y flwyddyn.

Diolchodd y Cynghorydd Charles yn ddiffuant am yr holl gefnogaeth a gafodd ef a'i gydymaith drwy gydol yr hyn a ystyriai ef yn bersonol yn flwyddyn lwyddiannus iawn, pan fu'n teithio ledled Sir Gaerfyrddin yn cwrdd â llawer o bobl.

Yn olaf, talodd deyrnged i'w gydymaith, Mrs. Bethan Charles-Davies, a oedd wedi bod wrth ei ochr dros y 12 mis diwethaf a diolchodd yn ffurfiol iddi am ei chefnogaeth. Credai ei fod wedi bod yn anrhydedd ac yn fraint gwasanaethu fel Cadeirydd y Cyngor a diolch i bawb am roi'r cyfle iddo. 

 

4.

ETHOL CADEIRYDD Y CYNGOR AM FLWYDDYN Y CYNGOR 2019-20

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynigiwyd gan y Cynghorydd J.M. Charles ac eiliwyd gan y Cynghorydd R. James a PHENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Cynghorydd K. Madge yn cael ei ethol yn Gadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin am Flwyddyn y Cyngor 2019/20.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Kevin Madge ei ddatganiad yn derbyn y swydd, ac fe'i harwisgwyd â'r Gadwyn Swyddogol gan y Cadeirydd oedd yn ymddeol.

 

Mynegodd y Cynghorydd Madge ei ddiolch i'r holl Gynghorwyr am eu cefnogaeth o ran ei benodi'n Gadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin. Dywedodd ei fod yn gobeithio efelychu'r safon uchel o ran Cadeiryddiaeth a ddarparwyd gan ei ragflaenwyr. Talodd y Cynghorydd Madge deyrnged i'r Cadeirydd a oedd yn ymddeol, sef y Cynghorydd J. M. Charles, a chyflwynodd Grogdlws i'r Cadeirydd a oedd yn ymddeol i nodi ei fod yn Gyn-gadeirydd.
 

 

Yna cyflwynodd Mrs Bethan Charles-Davies, cydymaith y Cadeirydd oedd yn ymddeol, Gadwyn Swyddogol i Mrs Catrin Madge, a chyflwynodd Mrs Catrin Madge Grogdlws Cydymaith Cyn-gadeirydd i Mrs Bethan Charles-Davies.

 

TEYRNGEDAU

Hefyd talwyd teyrngedau i'r Cadeirydd oedd yn ymddeol am y gwasanaeth rhagorol a roddodd i'r Cyngor gan arweinwyr Plaid Cymru, y Blaid Annibynnol, y Gr?p Llafur a'r Gr?p Annibynnol Newydd.  Cyfeiriwyd yn benodol at gadeiryddiaeth ragorol y Cynghorydd Charles yng nghyfarfodydd y Cyngor. Yn ogystal talodd y Prif Weithredwr deyrnged ar ran staff yr Awdurdod i'r Cadeirydd oedd yn ymddeol, a oedd wedi cyflawni'r rôl mewn modd proffesiynol dros ben gan fod yn hynod o gefnogol i waith y Cyngor.

 

5.

ETHOL IS-GADEIRYDD Y CYNGOR AM FLWYDDYN Y CYNGOR 2019-20

Arôl y penodiadau uchod bydd y Cadeirydd yn cynnig bod y

cyfarfodyn torri tan 1.30 p.m. pryd y rhoddir sylw i'r materion sydd

ynweddill ar yr agenda

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

ynigiwyd gan y Cynghorydd L.M. Stephens ac eiliwyd gan y Cynghorydd J. Tremlett a PHENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Cynghorydd Ieuan Davies yn cael ei ethol yn Is-gadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin am Flwyddyn y Cyngor 2019/20. 

 

Gwnaeth y Cynghorydd Ieuan Davies ei ddatganiad yn derbyn y swydd, ac fe'i harwisgwyd â'r Gadwyn Swyddogol. 

 

Estynnodd y Cadeirydd longyfarchiadau i'r Is-gadeirydd a'i Gydymaith ar eu penodiadau. 

Cyflwynwyd y Gadwyn Swyddogol i gydymaith yr Is-gadeirydd, Mrs Sue Allen, gan gydymaith y Cadeirydd, Mrs Catrin Madge.

 

6.

GOHIRIAD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynigiwyd gan y Cadeirydd ac eiliwyd gan yr Is-gadeirydd a PHENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y dylid gohirio gweddill y materion ar yr agenda tan 1.30pm y diwrnod hwnnw.

 

7.

Y CYFARFOD A AILYMGYNULLWYD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cyngor wedi ailymgynnull yn y Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin am 1.30pm.

 

YN BRESENNOL: Y Cynghorydd K. Madge (Cadeirydd)

 

Y Cynghorwyr:

F. Akhtar, K.V. Broom, C.A. Campbell, J.M. Charles, D.M. Cundy, S.A. Curry, C.A. Davies, G. Davies, H.L. Davies, I.W. Davies, J.A. Davies, S. Davies, T.A.J. Davies, E. Dole, J.S. Edmunds, P.M. Edwards, H.A.L. Evans, L.D. Evans, W.T. Evans, A.L. Fox, S.J.G. Gilasbey, D. Harries, T. Higgins, J.K. Howell, P. Hughes Griffiths, P.M. Hughes, A. James, J.D. James, R. James, D.M. Jenkins, G.H. John, A.C. Jones, B.W. Jones, D. Jones, G.R. Jones, H.I. Jones, T.J. Jones, A. Lenny, M.J.A. Lewis, K. Lloyd, S. Matthews, A.S.J. McPherson, A.G. Morgan, E. Morgan, S. Najmi, B.D.J. Phillips, J.S. Phillips, D. Price, J.G. Prosser, B.A.L. Roberts, E.M.J.G. Schiavone, B. Thomas, E.G. Thomas, G. Thomas, J. Tremlett, A. Vaughan Owen, D.T. Williams a D.E. Williams.

 

Roedd y Swyddogion canlynol yn bresennol yn y cyfarfod:

M. James, Prif Weithredwr

C. Moore, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol

J. Morgan, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol

G. Morgans, Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant

Mrs R. Mullen, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd

W. Walters, Cyfarwyddwr Adfywio a Pholisi

L.R. Jones, Cyfarwyddwr Gweinyddiaeth a'r Gyfraith

P.R. Thomas, Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad)

D. Hockenhull, Rheolwr Marchnata a'r Cyfryngau

M.S. Davies, Swyddog Gwasanaethau Democrataidd.

 

Y Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin:1.30 pm - 4.00 pm

 

8.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau pellach am absenoldeb gan y Cynghorydd S.M. Allen a'r Cynghorydd W.R.A. Davies.

 

9.

DERBYN ADRODDIAD BLYNYDDOL ARWEINYDD Y CYNGOR 2018-19 pdf eicon PDF 3 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2018-2019, a oedd yn edrych yn ôl ar lwyddiannau'r Cyngor dros y 12 mis diwethaf. 

 

Hwn oedd pedwerydd Adroddiad Blynyddol yr Arweinydd ac roedd wedi bwrw golwg yn ôl ar yr hyn a ystyriai yn amser prysur iawn i bawb, gan y cynhawliwyd llawer o ddigwyddiadau a gwnaed cynnydd a newidiadau, yn enwedig o ystyried ansicrwydd Brexit a oedd wedi creu ansefydlogrwydd gwleidyddol ar lefel leol ac ar lefel genedlaethol. Er gwaethaf hyn mynegodd falchder bod yr arweinyddiaeth yn Sir Gaerfyrddin, rhwng Gr?p Plaid Cymru a'r Gr?p Annibynnol, yn gadarn ac yn benderfynol i wneud yr hyn sydd orau i gymunedau lleol. 

Atgoffwyd y Cyngor ganddo ei fod wedi cyhoeddi cynllun 5 mlynedd ar ddechrau'r weinyddiaeth bresennol, a oedd yn cynnwys bron 100 o brosiectau a rhaglenni allweddol a fyddai'n cyfrannu at wella llesiant economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol y preswylwyr a'r cymunedau yn Sir Gaerfyrddin. Nododd yr Adroddiad Blynyddol y cynnydd a wnaed hyd yn hyn gan bob Adran yn y Cyngor. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau am rai o'r datblygiadau a'r prosiectau a oedd wedi'u cwblhau neu a oedd ar y gweill, a ddangosai fod Sir Gaerfyrddin yn arwain y ffordd, yn llawn uchelgais, er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau i breswylwyr, cymunedau ac ymwelwyr. Roedd y rhain yn cynnwys:

 

Prosiect MakerSpace yn llyfrgelloedd Rhydaman; Apêl Teganau Nadolig;             Fforwm 50+; Gwobrau Diwylliant; Cefnogi busnesau bach newydd; Llysgenhadon Ieuenctid; Cymorth i Fentrau [Coaltown Coffee, Rhydaman]; Safle Buckley ar gyfer tai; Rhaglen cipluniau i ddisgyblion chweched dosbarth; Hyrwyddo busnesau gwledig; Rhentu tai; Tlodi Misglwyf; Cam Cyntaf; Gwobrau Chwaraeon;

 Cyflwynodd yr Arweinydd aelodau newydd y bwrdd gweithredol bach, sef 10 plentyn ysgol lleol, a fyddai'n cysgodi eu cymheiriaid h?n, a phwysleisiodd yr angen i sicrhau bod gan genedlaethau'r dyfodol gyfleoedd gwaith da, cymunedau cefnogol, a lleoedd gwych i'w mwynhau wrth iddynt ddod yn oedolion a magu eu teuluoedd eu hunain.

 

Cyfeiriwyd at lwyddiannau'r disgyblion o ran TGAU, y Fagloriaeth Genedlaethol a pherfformiad cyfnod allweddol 5 disgyblion 16-18 oed ac estynnodd yr Arweinydd ei ddiolch i'r holl Benaethiaid a staff yn ysgolion y sir am y gofal, arweiniad ac addysg yr oeddent yn eu darparu ar gyfer eu disgyblion. Yn ogystal, mynegodd ei falchder o weld cynnydd yn y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg a'r dyhead i symud holl ysgolion y sir ymlaen yn y continwwm ieithyddol. Y gobaith oedd y byddai hyn yn galluogi cynifer o bobl ifanc â phosibl yn Sir Gaerfyrddin i fod yn gwbl ddwyieithog erbyn iddynt adael yr ysgol. Ychwanegodd fod cynnydd y Cyngor ar y rhaglen foderneiddio addysg yn destun balchder. Mae prosiectau gwerth £20m wedi'u cwblhau yn y 12 mis diwethaf. Mae'r buddsoddiad diweddaraf wedi cynnwys cyfleusterau a gwelliannau newydd yn St. John Lloyd, Ysgol Parc y Tywyn, Ysgol Pontyberem, a cham 1 o'r gwaith yn Ysgol Llangadog. Byddai buddsoddiad pellach o £4.1m dros y flwyddyn nesaf yn Ysgol Pump-hewl, a byddai prosiectau eraill yn dechrau'n fuan yn Ysgol Gors-las, Ysgol Pen-bre  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 9.

10.

CYNLLUN DATBLYGU LLEOL DIWYGIEDIG SIR GAERFYRDDIN 2018 - 2033 FERSIWN DDRAFFT O'R STRATEGAETH CYN-ADNEUO A FFEFRIR pdf eicon PDF 348 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor bod y Bwrdd Gweithredol wedi ystyried adroddiad ar Fersiwn Ddrafft o'r Strategaeth Cyn-adneuo a Ffefrir ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin 2018-2033 yn ei gyfarfod ar 7 Mai 2019, a luniwyd mewn ymateb i benderfyniad y Cyngor ar 10 Ionawr 2019 i ddechrau gwaith paratoi ar y cynllun diwygiedig. Roedd hyn garreg filltir bwysig yng ngwaith y Cyngor i gyflawni ei gyfrifoldebau statudol i baratoi cynllun cyfredol ar gyfer y Sir (ac eithrio'r ardal sy'n rhan o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog). Nodwyd bod yr adroddiad yn cynnwys 344 o sylwadau a ddaeth i law mewn ymateb i'r ymarfer ymgynghori â'r cyhoedd a gynhaliwyd rhwng 12 Rhagfyr 2018 a 8 Chwefror 2019.

Mynegwyd barn ynghylch yr angen i sicrhau bod pryderon o ran seilwaith trafnidiaeth a newid yn yr hinsawdd yn cael sylw a'u bod yn sail i ddatblygiadau newydd.  Dywedwyd hefyd mai'r gobaith yw y byddai'r CDLl newydd yn caniatáu datblygiadau bach o dai mewn ardaloedd gwledig a'r gwaith o addasu hen adeiladau'n hybiau economaidd.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:

 

 

10.1 bod y sylwadau a ddaeth i law o ran y Fersiwn Ddrafft o'r Strategaeth Cyn-adneuo a Ffefrir  yn cael eu nodi a bod yr argymhellion yn cael eu cadarnhau;

10.2 bod y sylwadau ddaeth i law o ran yr Arfarniad Cynaliadwyedd/Adroddiad Cychwynnol yr Asesiad Amgylcheddol Strategol, Adroddiad Sgrinio'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ac Adroddiad Adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol yn cael eu nodi a’r argymhellion yn cael eu cadarnhau

10.3 rhoi awdurdod dirprwyedig i swyddogion gyflawni'r canlynol:-

·                newid y Strategaeth a Ffefrir yng ngoleuni'r argymhellion sy'n deillio o'r prosesau uchod a'r dystiolaeth sy'n rhan o baratoi'r Fersiwn Adneuol o'r Cynllun Datblygu Lleol;

·                gwneud addasiadau teipograffyddol neu ffeithiol ansylweddol yn ôl yr angen, i wella eglurder a chywirdeb y Cytundeb Cyflawni.’

 

11.

CADARNHAU PENODI AELODAU I BWYLLGORAU'R CYNGOR AR GYFER BLWYDDYN Y CYNGOR 2019/20 pdf eicon PDF 149 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyngor yn ystyried aelodaeth y Pwyllgorau Rheoleiddio, y Pwyllgorau Craffu a'r Pwyllgorau a'r Panelau Eraill ac aelodaeth y pwyllgorau hynny. Cadarnhaodd Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol nad oes unrhyw newidiadau ychwanegol o ran aelodaeth.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yn briodol a

PHENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo cyfansoddiad ac aelodaeth y Pwyllgorau Rheoleiddio, y Pwyllgorau Craffu a'r Pwyllgorau a'r Panelau Eraill am Flwyddyn y Cyngor 2019/20, fel y manylir arnynt yn yr adroddiad.

 

12.

YSTYRIED YR ENWEBIADAU A DDAETH I LAW AR GYFER PENODI CADEIRYDDION AC IS-GADEIRYDDION PWYLLGORAU/ PANELAU Y CYNGOR AM FLWYDDYN Y CYNGOR2019/20 pdf eicon PDF 59 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Rheol 17.6 o'r Weithdrefn Gorfforaethol, bu'r Cyngor yn ystyried yr enwebiadau oedd wedi dod i law ar gyfer penodi Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion y Pwyllgorau am Flwyddyn y Cyngor 2019/20. 

Cynigiwyd ac eiliwyd yn briodol a

 

PHENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y canlynol yn cael eu penodi'n Gadeiryddion ac yn Is-gadeiryddion y Pwyllgorau Rheoleiddio, y Pwyllgorau Craffu, a'r Pwyllgorau a'r Panelau Eraill am Flwyddyn y Cyngor 2019/20:-

PWYLLGOR / PANEL

CADEIRYDD

IS-GADEIRYDD

Y Pwyllgor Craffu - Cymunedau

I'w benodi gan y Pwyllgor

Y Cynghorydd G.B. Thomas

Y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant

Y Cynghorydd D. Price

Y Cynghorydd E.G. Thomas

Y Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd

Y Cynghorydd J.D. James

Y Cynghorydd A. Vaughan Owen

Y Pwyllgor Craffu – Polisi ac Adnoddau

Y Cynghorydd A.G. Morgan

Y Cynghorydd G. John

Y Pwyllgor Craffu - Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Y Cynghorydd G.Thomas

Y Cynghorydd I.W. Davies

Y Pwyllgor Apêl

Y Cynghorydd J.K. Howell

Y Cynghorydd S.M. Allen

Pwyllgor Penodi A – Cyfarwyddwyr

Y Cynghorydd E. Dole

Y Cynghorydd L.M. Stephens

Pwyllgor Penodi B - Penaethiaid Gwasanaeth

Y Cynghorydd L.M. Stephens

Y Cynghorydd E. Dole

Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd

Y Cynghorydd S. Curry

Y Cynghorydd W.T. Evans

Y Pwyllgor Cynllunio

Y Cynghorydd A. Lenny

Y Cynghorydd H.I. Jones

Y Pwyllgor Trwyddedu

Y Cynghorydd E.G. Thomas

Y Cynghorydd D.E. Williams

Pwyllgor Penodi Aelodau

Y Cynghorydd A.D.T. Speake

Y Cynghorydd W.R.A. Davies

Y Panel Adolygu Tai

Y Cynghorydd G.B. Thomas

Y Cynghorydd I.W. Davies

Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed

Y Cynghorydd D.E. Williams

Heb fod yn ofynnol

 

13.

CYFANSODDIAD Y CYNGOR pdf eicon PDF 177 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyngor yn ystyried adroddiad a oedd yn nodi bod cyfrifoldeb ar y Cyngor yn gyfansoddiadol i fabwysiadu Cynllun Lwfansau'r Cynghorwyr ond mai Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol sy'n dynodi'r cyfansymiau i'w talu gyda'r nod o ddarparu fframwaith cenedlaethol cyson o ran cydnabyddiaeth i gynghorwyr. Roedd y Cyngor wedi ystyried newidiadau ar gyfer 2019/20 yn ystod ei gyfarfod ar 10 Ebrill 2019.  Roedd copi o'r Cynllun Lwfansau a fabwysiedir gan y Cyngor ar gyfer 2019/20 a oedd wedi'i ddiwygio i'w weithredu am flwyddyn y cyngor 2019/20 wedi'i atodi i'r adroddiad er mwyn ei ystyried.

Nodwyd y dylid hefyd gynnwys enwau'r Cynghorwyr F. Akhtar, J.M. Charles a H.I. Jones ar y rhestr o aelodau sy'n gymwys i gael y taliad cyflog sylfaenol ac y dylid dileu enwau'r Cynghorwyr I.W. Davies a K. Madge.

Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys diwygiadau i'r swyddogaethau trwyddedu er mwyn adlewyrchu argymhellion Gweithgor Adolygu'r Cyfansoddiad ar 8 Mai 2019.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

13.1    Mabwysiadu Cynllun Cyflogau a Lwfansau Cynghorwyr ac Aelodau Cyfetholedig ar gyfer 2019/20 fel y manylir arno yn yr adroddiad;

13.2 Cymeradwyo unrhyw newidiadau angenrheidiol i'r Cyfansoddiad o ran aelodaeth a wnaed yn gynharach yn y cyfarfod;

13.3   Diwygio swyddogaethau trwyddedu - Swyddogaeth 23 - swyddogaethau Dewis Lleol Rhan 3.1 Tabl 2 yn unol â'r Polisi Trwyddedu diwygiedig a gymeradwywyd gan y Cyngor ar 12 Rhagfyr 2019;

13.4 Bod y Swyddog Monitro yn cael ei awdurdodi i wneud unrhyw fân newidiadau, cywiro gwallau teipio neu wallau drafftio a sicrhau bod yr holl groesgyfeiriadau yn y Cyfansoddiad yn gywir ac y rhoddir gwybod am y rhain i Weithgor Adolygu'r Cyfansoddiad pan fydd angen;

13.5 Bod Cyfansoddiad y Cyngor ar gyfer 2019/20 yn cael ei fabwysiadu, yn amodol ar argymhellion 1-4 a nodir uchod.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau