Agenda a Chofnodion

Cyngor Sir - Dydd Mercher, 10fed Ebrill, 2019 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr S.A. Curry,  C.A. Davies, K. Davies, D.C. Evans, D. Harries, J.P. Jenkins, B. Thomas,  B.D.J. Phillips, D. Nicholas, J.G. Prosser a G.B. Thomas.

 

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y cynghorydd

Rhif y Cofnod

Math o Fuddiant

R. James

12.1 – Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW), (Chwefror, 2019)

Mae'n derbyn ad-daliadau costau gofal.

 

 

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·         Estynnodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad diffuant i deulu'r diweddar Gerald Meyler.
 

·         Cyfeiriodd y Cadeirydd at ddigwyddiadau diweddar a oedd yn cynnwys:

 

­   Agoriad Swyddogol y ffordd gyswllt newydd rhwng Nant-y-ci a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant;

 

­   cwblhau'r gwaith ffordd hanfodol yng nghanol tref Rhydaman;

­   cwblhau'r Ysgol Gynradd Newydd yn Llangadog a'r estyniad newydd yn Ysgol Gynradd Pontyberem;

 

­   Dadorchuddio plac glas ym Mancyfelin i anrhydeddu un o blant y pentref a ddaeth yn chwaraewr Rygbi uchel ei barch yn fyd-eang, Delme Thomas;

 

­   Dadorchuddio hysbysfwrdd ac arwyddion ffordd i roi sylw dyledus i ogof Twm Sion Cati ger Rhandirmwyn;

 

­   Llongyfarchiadau i'r holl enillwyr yn 2il noson wobrwyo Dathlu Diwylliant y Sir, yn enwedig i Cerys Angharad, a enillodd y wobr talent ifanc ac i Gwyn Nicholas, Llanpumsaint am ei gyfraniad oes i gerddoriaeth ac i'w gymuned;

 

­   Mynegwyd llongyfarchiadau i bawb o'r rheiny a gafodd eu hanrhydeddu am amrywiol gyfraniadau clodwiw mewn noson wobrwyo ym mhentref Penygroes, a oedd yn cynnwys y Cynghorydd Dai Thomas a dderbyniodd wobr am ei gyfraniad oes i'w gymuned.

 

·         Estynnodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau i'r canlynol am ennill gwobrau yng Ngwobrau Slow Food Cymru:-

 

­   Marchnad Caerfyrddin am ennill gwobr 'Marchnad Orau Cymru';

­   Wrights Emporium, Llanarthne am ennill gwobr y Deli/Groser Gorau;

­   Blasus Delicatessen, Caerfyrddin am ennill gwobr y Siop Gaws Orau. 

 

·         Mynegodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau i Owain Baxter ac Owen Bailey o ward Cydweli a ddewiswyd i chwarae criced dros Gymru.

 

·         Adroddodd y Cadeirydd fod Gwobr Athletau Sportshall y DU 2019 i gael ei chyflwyno i Ysgrifennydd Ysgolion Dyfed, Hedydd Davies, yn rownd derfynol y DU yn Sport City Manceinion ar ddydd Sadwrn 13 Ebrill 2019.

 

·         Dymunai'r Cadeirydd fynegi ei ddymuniadau gorau i Ddirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys Richard Lewis ar gael ei benodi'n ddiweddar yn Brif Gwnstabl Heddlu Cleveland.

 

 

 

·        Estynnodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau i Gôr Ysgol Gymraeg Teilo Sant a fu'n fuddugol yng nghystadleuaeth Côr Cymru Cynradd.

 

·        Dymunai'r Cadeirydd dynnu sylw at ddathliadau pen-blwydd y Mudiad Meithrin

·         Estynnodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau i Ysgol Pum Heol am:-

­   ennill Pencampwriaeth Pêl-rwyd Sir Gaerfyrddin gan fynd ymlaen i gynrychioli Sir Gaerfyrddin yn rownd derfynol Cymru.

­   ennill Rownd Ranbarthol Llanelli a'r Cylch yng Nghystadleuaeth Bêl-droed yr Urdd i Ysgolion Cynradd a mynd ymlaen i chwarae yn Rownd Derfynol Cymru yn Aberystwyth ar 11 Mai.

­   y Tîm Rygbi sy'n mynd trwodd i Rownd Derfynol Ysgolion Llanelli.

 

·         Dymunai'r Cadeirydd estyn ei ddymuniadau gorau i'r Cynghorydd Edward Thomas, a oedd fel rhan o'i rôl faerol yn codi arian i dair elusen trwy fynd ar daith gerdded noddedig ar 19 Mai 2019. 

 

·         Mynegodd y Cadeirydd ei ddiolchiadau i'r rheiny sydd wedi cefnogi'r elusennau a ddewiswyd ganddo. 

·        Cyfeiriwyd at y ffaith fod Dr David Nott, a aned yn Ysbyty Heol y Prior Caerfyrddin ac a fu'n byw gyda'i dad-cu a'i fam-gu yn Nhre-lech tan ei fod yn bedair oed, wedi cyhoeddi llyfr yn gynharach eleni o'r enw ‘War Doctor’.  Bu Dr Nott, llawfeddyg ymgynghorol o Gymru a weithiai'n bennaf  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

CYMERADWYO A LLOFNODI COFNODION CYFARFOD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR 20 CHWEFROR 2019 YN GOFNOD CYWIR

Dogfennau ychwanegol:

4.1

20 CHWEFROR 2019 pdf eicon PDF 734 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd y Cyngor bod y Cynghorydd Karen Davies yn bresennol yn y cyfarfod hwn ac y byddai'r cofnodion yn cael eu newid i adlewyrchu hyn.

 

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 20 Chwefror 2019 yn gofnod cywir, yn amodol ar y newid a nodwyd uchod.

 

 

4.2

6 MAWRTH 2019

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2019 yn gofnod cywir.

 

 

5.

YSTYRIED ENWEBU CADEIRYDD Y CYNGOR AR GYFER BLWYDDYN Y CYNGOR 2019/2020

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL enwebu'r Cynghorydd Kevin Madge yn Ddarpar Gadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2019/20.

 

 

6.

YSTYRIED ENWEBU IS-GADEIRYDD Y CYNGOR AR GYFER BLWYDDYN Y CYNGOR 2019/2020

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL enwebu'r Cynghorydd Ieuan Wyn Davies yn Ddarpar Is-Gadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2019/20.

 

 

7.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

 

8.

CYFLWYNO DEISEB

“Rydym ni sydd wedi llofnodi isod trwy hyn yn cyflwyno deiseb i Gyngor Sir Caerfyrddin wrthdroi ei benderfyniad blaenorol a chytuno i fabwysiadu’r ffyrdd yn natblygiad Dwyrain Machynys, Llanelli, SA15.

 

Nid ydym am fyw ar ystâd breifat, gan ein bod yn ymwybodol o’r posibilrwydd o ffioedd rheoli blynyddol sy’n cynyddu. Fel talwyr y Dreth Gyngor, rydym yn credu y dylai’r Cyngor fabwysiadu a chynnal a chadw ffyrdd yr ystâd.

 

Felly, gofynnwn i’r Cyngor Sir roi ystyriaeth ddyladwy i’r ddeiseb hon. O’r 226 o gartrefi ar y datblygiad, mae 87% wedi llofnodi’r ddeiseb hon.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r cyfarfod i Ms J. Adams, Aelod o Gymdeithas Preswylwyr Dwyrain Machynys, a wahoddwyd i gyflwyno'r ddeiseb ganlynol i'r Cyngor ynghylch ‘Mabwysiadu Ystâd Dai Dwyrain Machynys, Llanelli’ ac i siarad am y mater.

 

“Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn deisyf ar Gyngor Sir Caerfyrddin i wrthdroi eu penderfyniad blaenorol a chytuno i fabwysiadu'r ffyrdd yn natblygiad Dwyrain Machynys, Llanelli, SA15.

 

Nid ydym eisiau byw ar ystâd breifat, gan ein bod yn ymwybodol o'r posibilrwydd o gostau ffioedd cynnal a chadw blynyddol a fydd yn cynyddu. Fel trethdalwyr y Cyngor, rydym o'r farn y dylai'r Cyngor fabwysiadu a chynnal ffyrdd yr ystâd.

 

Rydym felly'n gofyn i'r Cyngor Sir roi ystyriaeth briodol i'r ddeiseb hon. O'r 226 o aelwydydd yn y datblygiad, mae 87% wedi llofnodi'r ddeiseb hon”

 

Rhoddodd Ms Adams amlinelliad i'r Cyngor o'r cefndir a'r rhesymau dros y ddeiseb mewn perthynas ag adeiladu ffyrdd preifat gan y datblygwr ‘Persimmon Homes’.  Roedd y ddeiseb yn dangos y byddai'n well gan fwyafrif y bobl sydd wedi prynu eiddo ar Ystâd Dwyrain Machynys, fel trethdalwyr y Cyngor, pe bai'r Cyngor Sir yn mabwysiadu'r ffyrdd.

 

O'r 224 o aelwydydd sydd ar Ystâd Dwyrain Machynys, roedd 125 yn aelodau o Gymdeithas y Preswylwyr ac roedd y ddeiseb a gyflwynwyd i'r Cyngor yn cynnwys llofnodion 86% o'r aelwydydd, a oedd yn arwydd o gryfder teimladau'r preswylwyr ynghylch y mater a godwyd.

 

Ymhellach, mynegodd Ms Adams fater cysylltiedig, sef sicrhau bod Persimmon Homes yn darparu ffyrdd wedi'u hadeiladu i'r safonau sy'n ofynnol gan adran priffyrdd yr Awdurdod Lleol ac fel y pennir yn y cais cynllunio.

 

Wedi iddi roi ei chyflwyniad, trosglwyddodd Ms Adams y ddeiseb yn ffurfiol i Gadeirydd y Cyngor.

 

Gwnaethpwyd nifer o sylwadau a oedd yn cefnogi'r ddeiseb.  Yn ogystal, gwnaethpwyd sawl sylw yngl?n â phroblemau tebyg yr oedd pobl yn eu profi ledled y Sir.

 

Gwnaethpwyd datganiad bod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu tasglu i ddatrys y broblem yngl?n â ffyrdd heb eu mabwysiadu a bod disgwyl cael adroddiad yn fuan.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gyfeirio'r ddeiseb at yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd i'w hystyried yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 10.14.

 

 

9.

CWESTIYNAU GAN YR AELODAU (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan aelodau.

 

 

10.

YSTYRIED Y RHYBUDDION O GYNNIG CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

10.1

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD JANE TREMLETT

“Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Talacharn wedi cynnal ymgyrch i wneud Talacharn yn ddi-blastig.

 

Mae busnesau lleol wedi cytuno i waredu plastig untro, yn yr un modd â sefydliadau arlwyo lleol, Ysgol Gynradd Talacharn, Cyngor Cymuned Talacharn a Neuadd Goffa Talacharn.  Mae sesiynau casglu sbwriel wedi cael eu cynnal ar y blaendraeth a'r Ginst yn ogystal ag o amgylch y strydoedd.  Mae symiau mawr o blastig (mawr a bach) wedi cael eu casglu.  Gydag oedran, mae plastig yn mynd yn fregus ac yn datgymalu yn eich dwylo wrth ichi ei godi ac o ganlyniad, yn angheuol i adar ac anifeiliaid bach.  Y cyfan hwn mewn Ardal Gadwraeth Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Talacharn yw'r gymuned gyntaf yn Sir Gaerfyrddin i gael ei chydnabod gan yr ymgyrch genedlaethol o dan arweiniad Surfers Against Sewage (SAS) fel y gwelir ar y map ar y wefan.

 

Caiff yr ymgyrch leol ei harwain gan gr?p llywio Talacharn Di-Blastig sy'n cynnwys preswylwyr lleol ymroddedig.

 

Mae'r Cynnig hwn yn gofyn i'r Cyngor gydnabod a chefnogi'r ymgyrch ar gyfer Talacharn Di-Blastig ac yn hyrwyddo ei nod i leihau plastig untro pryd bynnag sy'n bosibl.  Yn ogystal mae'n gofyn i'r Cyngor ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a Llywodraeth Genedlaethol i ddeddfu bod cwmnïau masnachol a gweithgynhyrchu yn defnyddio deunyddiau y gellir eu hailgylchu yn unig.”

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Cyngor y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Jane Tremlett:-

 

“Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Talacharn wedi cynnal ymgyrch i wneud Talacharn yn ddi-blastig.

 

Mae busnesau lleol wedi cytuno i waredu plastig untro, yn yr un modd â sefydliadau arlwyo lleol, Ysgol Gynradd Talacharn, Cyngor Cymuned Talacharn a Neuadd Goffa Talacharn.  Mae sesiynau casglu sbwriel wedi cael eu cynnal ar y blaendraeth a'r Ginst yn ogystal ag o amgylch y strydoedd.  Mae symiau mawr o blastig (mawr a bach) wedi cael eu casglu.  Gydag oedran, mae plastig yn mynd yn fregus ac yn datgymalu yn eich dwylo wrth ichi ei godi ac o ganlyniad, yn angheuol i adar ac anifeiliaid bach.  Y cyfan hwn mewn Ardal Gadwraeth Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Talacharn yw'r gymuned gyntaf yn Sir Gaerfyrddin i gael ei chydnabod gan yr ymgyrch genedlaethol o dan arweiniad Surfers Against Sewage (SAS) fel y gwelir ar y map ar y wefan.

 

Caiff yr ymgyrch leol ei harwain gan gr?p llywio Talacharn Di-Blastig sy'n cynnwys preswylwyr lleol ymroddedig.

 

Mae'r Cynnig hwn yn gofyn i'r Cyngor gydnabod a chefnogi'r ymgyrch dros Dalacharn Di-Blastig a hyrwyddo ei amcan o leihau plastig untro lle bynnag y bo modd.  Yn ogystal mae'n gofyn i'r Cyngor ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a'r Llywodraeth Genedlaethol i ddeddfu bod cwmnïau masnachol a gweithgynhyrchu yn defnyddio deunyddiau y gellir eu hailgylchu yn unig.”

 

Eiliwyd y Cynnig.

 

Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau yn mynegi cefnogaeth i'r  Cynnig.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Rhybudd o Gynnig yn cael ei gefnogi.

 

10.2

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD ROB JAMES pdf eicon PDF 42 KB

Bod y Cyngor hwn:-

 

a)    yn cymeradwyo Adolygiad Annibynnol Llywodraeth Cymru/DU ac Adolygiad Mewnol dan arweiniad Cyngor Sir Penfro o ran y Fargen Ddinesig;

 

b)    yn derbyn yr holl argymhellion yn y ddau adroddiad ac yn credu y dylid eu rhoi ar waith cyn gynted â phosibl;

 

c)     yn cefnogi'r defnydd o we-ddarlledu ar gyfer holl gyfarfodydd y Cyd-bwyllgor a'r Pwyllgor Craffu ar y Cyd yn y dyfodol;

 

d)    yn cefnogi newidiadau cyfreithiol rwymol i'r Cytundeb Cyd-bwyllgor i weithredu'r newidiadau angenrheidiol.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rob James:-

 

“Bod y Cyngor hwn:-

 

a)    yn cymeradwyo Adolygiad Annibynnol Llywodraeth Cymru/DU ac Adolygiad Mewnol dan arweiniad Cyngor Sir Penfro o ran y Fargen Ddinesig;

 

b)    yn derbyn yr holl argymhellion yn y ddau adroddiad ac yn credu y dylid eu rhoi ar waith cyn gynted â phosibl;

 

c)    yn cefnogi'r defnydd o we-ddarlledu ar gyfer holl gyfarfodydd y Cyd-bwyllgor a'r Pwyllgor Craffu ar y Cyd yn y dyfodol;

 

d)    yn cefnogi newidiadau cyfreithiol rwymol i'r Cytundeb Cyd-bwyllgor i weithredu'r newidiadau angenrheidiol.”

 

Eiliwyd y Cynnig.

 

Cynigiwyd y gwelliant canlynol i'r cynnig gan y Cynghorydd E. Dole a chafodd ei eilio:

 

“Mae'r Cyngor hwn yn argymell bod y Cyd-bwyllgor:

 

a)    yn derbyn ac yn ystyried yr holl argymhellion a wnaed gan Adolygiad Annibynnol Llywodraeth y DU/Llywodraeth Cymru, yr Adolygiad Mewnol dan arweiniad Cyngor Sir Penfro, adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru a'r adroddiad cyfreithiol allanol ar y Fargen Ddinesig;

 

b)    sicrhau bod holl gyfarfodydd y Cyd-bwyllgor a'r Pwyllgor Craffu ar y Cyd yn y dyfodol yn cael eu gwe-ddarlledu, lle mae Cyfleusterau o'r fath ar gael;

 

c)    yn cefnogi newidiadau cyfreithiol rwymol i'r Cytundeb Cyd-bwyllgor i weithredu'r newidiadau angenrheidiol.”

 

Rhoddwyd cyfle i Gynigydd ac Eilydd y Gwelliant siarad o'i blaid a rhoesant amlinelliad o'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Gwelliant.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau a gefnogai'r Cynnig a'r Gwelliant.

 

PENDERFYNWYD cefnogi'r Gwelliant i'r Cynnig.

 

 

11.

DERBYN ADRODDIAD CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALIWYD AR 4 MAWRTH 2019 pdf eicon PDF 211 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad y cyfarfod uchod.

 

 

12.

YSTYRIED ARGYMHELLIAD PWYLLGOR Y GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD GYDA GOLWG AR YR EITEM GANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

12.1

ADRODDIAD BLYNYDDOL PANEL ANNIBYNNOL CYMRU AR GYDNABYDDIAETH ARIANNOL (IRPW), (CHWEFROR, 2019) pdf eicon PDF 179 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Sylwer: Datganodd y Cynghorydd R James fuddiant yn yr eitem hon a gadawodd y Siambr y Cyngor cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno.]

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd, yn ei gyfarfod ar 12 Mawrth 2019 (gweler Cofnod 4), wedi ystyried y penderfyniadau a'r argymhellion oedd yn Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, a oedd wedi ei gyhoeddi ym mis Chwefror 2019, gyda golwg ar argymell bod y Cyngor yn eu cynnwys yng Nghynllun Cyflogau a Lwfansau'r Cynghorwyr a'r Aelodau Cyfetholedig ar gyfer 2019/20.

 

Cyfeiriwyd at yr opsiynau cyhoeddi ar gyfer ad-dalu costau gofal ac argymhelliad Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd fod Opsiwn 2 yn cael ei fabwysiadu sef cyhoeddi'r “cyfanswm a ad-dalwyd gan yr Awdurdod yn ystod y flwyddyn ond heb briodoli’r taliadau i unrhyw aelod”.  

 

Cynigiwyd ac eiliwyd bod Opsiwn 1 yn cael ei fabwysiadu a bod manylion y swm a gaiff ei ad-dalu i aelodau a enwir yn cael eu cyhoeddi.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu argymhellion Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd, yn amodol ar fod yr opsiwn cyhoeddi ad-daliadau costau gofal yn cael ei newid i Opsiwn 1.

 

 

13.

AELODAETH PWYLLGORAU CRAFFU, PWYLLGORAU RHEOLEIDDIO A PHWYLLGORAU ERAILL Y CYNGOR A PHENODI AELODAU I WASANAETHU ARNYNT pdf eicon PDF 156 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 a Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 1990, fel y'u diwygiwyd, rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yn manylu ar ganlyniad adolygiad o gyfansoddiad Pwyllgorau Craffu, Pwyllgorau Rheoleiddio a phwyllgorau eraill y Cyngor yn dilyn ymddiswyddiad 5 Aelod o'r Gr?p Llafur a'r hysbysiad o greu gr?p newydd a fydd yn cael ei adnabod fel y Gr?p Annibynnol Newydd.  Ystyriodd y Cyngor adroddiad a gafwyd gan y Gr?p Llafur a'r Gr?p Annibynnol Newydd, a nodai fanylion y newidiadau arfaethedig i'r aelodaeth.

 

Er mwyn adlewyrchu'r trefniadau newydd, nododd y Cyngor y byddai lleihad o 11 sedd yn cael ei wneud i gynrychiolaeth y Gr?p Llafur ar Bwyllgorau sef o 52 i 41, ac y byddai gan y Gr?p Annibynnol Newydd hawl i ddyraniad o'r 11 sedd. Er y byddai dyraniad y seddi i Blaid Cymru, y Gr?p Annibynnol a'r gr?p aelodau heb gysylltiad pleidiol yn aros heb newid, byddai'r Gr?p Annibynnol yn colli un sedd ar y Pwyllgor Craffu i'r Gr?p Llafur. 

 

Mewn ymateb i'r newidiadau gofynnol fel y'u nodwyd yn nhabl 2B yn yr adroddiad,  roedd y Gr?p Llafur wedi cytuno i ildio un sedd ar y Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd, y Pwyllgor Craffu - Addysg a Gwasanaethau Plant, y Pwyllgor Craffu – Polisi ac Adnoddau a'r Pwyllgor Craffu - Gofal Cymdeithasol ac Iechyd.  Roedd y Gr?p Annibynnol Newydd wedi enwebu 4 aelod i lenwi eu seddi Craffu fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Gyda golwg ar fod y newidiadau yn effeithio ar y sedd Reoleiddio fel y nodwyd yn Nhabl 3 yn yr adroddiad, roedd y Gr?p Llafur wedi cytuno i ildio sedd ar 6 Phwyllgor Rheoleiddio a Phwyllgorau eraill.  Mae'r adroddiad yn nodi'r Aelodau a enwebwyd o'r Gr?p Annibynnol i lenwi seddi a ildiwyd gan y Gr?p Llafur.

 

Nododd y Cyngor bod y Gr?p Annibynnol Newydd wedi dweud na fyddent yn hawlio eu dyraniad o 2 Sedd ar y Pwyllgor Cynllunio, ac y byddai'r seddi hyn yn aros yn wag nes bod y Gr?p yn rhoi gwybod fel arall.  Yng ngoleuni hyn, codwyd pryderon y gallai lleihau aelodaeth y Pwyllgor Cynllunio o 20 i 18 achosi rhai anawsterau mewn achosion o ymddiheuriadau ynghyd â datganiadau posibl o fuddiant, a fyddai'n cynyddu'r perygl o Bwyllgor heb gworwm.  Byddai trafodaethau'n cael eu cynnal er mwyn gweld a fyddai modd i'r Gr?p ddatrys y mater hwn.

 

At hynny, yn unol â Rhan 6 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, sy'n gosod y gofynion ar gyfer penodi Pobl i Gadeirio Pwyllgorau Craffu a Throsolwg, nododd y Cyngor bod y cyfrifiad yn datgelu un Cadeirydd heb ei ddyrannu, y byddai angen i aelodau'r Pwyllgor perthnasol ei benodi.

 

Roedd y Gr?p Llafur, y dyrannwyd 2 Gadair iddynt yn flaenorol, wedi rhoi gwybod y byddent yn ildio Cadeirydd y Pwyllgor Craffu - Cymunedau, ac y byddai'r Awdurdod felly yn trefnu bod y mater o  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 13.

14.

CYMARADWYO Y NEWIDIADAU CANLYNOL I AELODAETH PWYLLGORAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 2(2)(n), roedd yr enwebiadau canlynol wedi dod i law gan y Gr?p Llafur a

 

PHENDERFYNWYD:

 

14.1     nodi bod y Cynghorydd Fozia Akhtar a'r Cynghorydd Rob Evans yn cymryd seddi Llafur gwag ar y Pwyllgor Craffu - Cymunedau;

 

14.2     nodi y byddai'r Cynghorydd Colin Evansyn cymryd lle'r Cynghorydd Deryk Cundy ar y Pwyllgor Craffu - Cymunedau;

 

14.3       nodi y byddai'r Cynghorydd Derek Cundy yn cymryd lle'r Cynghorydd Colin Evans ar y Pwyllgor Craffu - Polisi ac Adnoddau;

 

14.4     nodi y byddai Amanda Fox yn cymryd y sedd Lafur wag ar y Pwyllgor Craffu - Gofal Cymdeithasol ac Iechyd;

 

14.5     nodi y byddai'r Cynghorydd Suzy Curry yn cymryd y sedd Lafur wag ar Bwyllgor Penodi 'A';

 

14.6     nodi y byddai'r Cynghorydd Andre McPherson yn cymryd y sedd Lafur wag ar y Panel Adolygu Tai.

 

 

 

15.

PENODI AELODAU I WASANAETHU AR BWYLLGORAU YMGYNGHOROL Y CYNGOR AC AR GYRFF ALLANOL YN AMODOL AR Y GOFYNION O RAN CYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL. pdf eicon PDF 196 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn dilyn y rhybudd a roddwyd bod 5 Aelod wedi ymddiswyddo o'r Gr?p Llafur a'u bod yn dilyn hynny wedi ffurfio gr?p newydd a gaiff ei adnabod fel y Gr?p Annibynnol Newydd.  Bu'r Cyngor yn ystyried adroddiad a gyflwynai'r newidiadau ôl-ddilynol i aelodaeth wleidyddol gyffredinol y Cyngor a bu'n adolygu'r trefniadau ar gyfer dyrannu seddi i grwpiau gwleidyddol.

 

Roedd yr adroddiad yn amlinellu'r ffaith y byddai angen i'r Gr?p Llafur ildio sedd ar Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru i'r Gr?p Plaid Cymru, ac y byddai angen i'r Gr?p Llafur ildio sedd ar Weithgor Trawsbleidiol Adolygu'r Cyfansoddiad i'r Gr?p Annibynnol Newydd.

 

Nododd y Cyngor bod y newidiadau ond yn effeithio ar y dyraniad seddi i'r grwpiau gwleidyddol ar gyfer Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gweithgor Adolygu'r Cyfansoddiad. 

Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer y trefniadau newydd er mwyn cael cynrychiolaeth ar Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gweithgor Adolygu'r Cyfansoddiad. 

PENDERFYNWYD:

15.1    nodi y byddai'r Aelod Plaid Cymru y Cynghorydd Mansel Charles yn cymryd lle'r Aelod o'r Gr?p Llafur Colin Evans ar Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru;

15.2    nodi y byddai'r Aelod o'r Gr?p Annibynnol Newydd y Cynghorydd Jeff Edmunds yn cymryd lle'r Aelod o'r Gr?p Llafur y Cynghorydd John James ar Weithgor Adolygu'r Cyfansoddiad.

15.3      nodi nad oedd dim newidiadau'n ofynnol o ran yr aelodaeth a dyraniad y seddi ar gyfer y canlynol:

            - Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
            - Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys;
            - Y Panel Ymgynghorol ynghylch y Polisi Tâl.