Agenda a Chofnodion

Cyngor Sir
Dydd Mercher, 14eg Tachwedd, 2018 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michelle Evans Thomas  01267 224470

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr S.M. Allen, S.L. Davies, D. Harries, A.S.J. McPherson, D. Nicholas, H.B. Shepardson, D. Thomas a D.E. Williams.

 

Croesawyd y Cynghorydd Hazel Evans yn ôl i'r Siambr gan y Cadeirydd, a dymunodd yn dda iddi ar ôl ei llawdriniaeth yn ddiweddar.

 

Croesawodd y Cadeirydd Zac Hayman o Eglwys Gymraeg Melbourne yn Awstralia, a oedd yng nghwmni'r Parchedig Beti-Wyn James ac wedi dod i arsylwi ar y cyfarfod.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Math o Fuddiant

K. Broom

7.1 – Rhybudd o Gynnig

Yn berchen ar dyddyn. Wedi cael caniatâd i siarad gan y Swyddog Monitro ar 13 Tachwedd, 2018.

C.A. Campbell

7.1 – Rhybudd o Gynnig

Yn berchen ar dir ond nid yw'n cael unrhyw gymorth.  Wedi cael caniatâd i siarad gan y Pwyllgor Safonau ar 12 Tachwedd, 2018.

J.M. Charles

7.1 – Rhybudd o Gynnig

Yn berchen ar dir.  Wedi cael caniatâd i siarad gan y Pwyllgor Safonau ar 12 Tachwedd, 2018.

C.A. Davies

7.1 – Rhybudd o Gynnig

Rydym yn ffermio. Wedi cael caniatâd i siarad gan y Pwyllgor Safonau ar 12 Tachwedd, 2018.

J.A. Davies

7.1 – Rhybudd o Gynnig

Yn berchen ar dir.  Wedi cael caniatâd i siarad gan y Swyddog Monitro ar 13 Tachwedd, 2018.

T.A.J. Davies

7.1 – Rhybudd o Gynnig

Yn berchen ar dir.  Wedi cael caniatâd i siarad gan y Pwyllgor Safonau ar 12 Tachwedd, 2018.

E. Dole

7.1 – Rhybudd o Gynnig

Yn berchen ar dir ond nid yw'n cael unrhyw gymorth o unrhyw le.

H.A.L. Evans

7.1 – Rhybudd o Gynnig

Mae ei brawd-yng-nghyfraith yn berchen ar dir.  Wedi cael caniatâd gan y Swyddog Monitro ar 14 Tachwedd, 2018.

L.D. Evans

7.1 – Rhybudd o Gynnig

Ei merch a'i mab-yng-nghyfraith yn ffermio.

W.T. Evans

7.1 – Rhybudd o Gynnig

Yn berchen ar dir ond nid yw'n cael cymorth gan y Cyngor Sir, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU na'r Undeb Ewropeaidd.  Wedi cael caniatâd i siarad gan y Pwyllgor Safonau ar 12 Tachwedd, 2018.

K. Howell

7.1 – Rhybudd o Gynnig

Yn berchen ar dir.  Wedi cael caniatâd i siarad gan y Pwyllgor Safonau ar 12 Tachwedd, 2018.

A. James

7.1 – Rhybudd o Gynnig

Yn ffermwr ac yn berchen ar dir. Wedi cael caniatâd i siarad gan y Swyddog Monitro ar 13 Tachwedd, 2018.

A. Lenny

7.1 – Rhybudd o Gynnig

Perthynas iddo'n berchen ar dir.  Wedi cael caniatâd i siarad gan y Swyddog Monitro ar 13 Tachwedd, 2018.

M.J.A. Lewis

7.1 – Rhybudd o Gynnig

Yn berchen ar dir.  Wedi cael caniatâd i siarad gan y Pwyllgor Safonau ar 12 Tachwedd, 2018.

E. Schiavone

7.1 – Rhybudd o Gynnig

Yn berchen ar dir ond nid yw'n cael cymorth.

L.M. Stephens

7.1 – Rhybudd o Gynnig

Yn berchen ar dir ond nid yw'n cael unrhyw gymorth o unrhyw le.

G.B. Thomas

7.1 – Rhybudd o Gynnig

Yn ffermwr amser llawn. Wedi cael caniatâd i siarad gan y Pwyllgor Safonau ar 12 Tachwedd, 2018.

A. Vaughan Owen

7.1 – Rhybudd o Gynnig

Aelod agos o'r teulu'n berchen ar dir.

J.E. Williams

7.1 – Rhybudd o Gynnig

Yn berchen ar dir.  Wedi cael caniatâd i siarad gan y Pwyllgor Safonau ar 12 Tachwedd, 2018.

 

 

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·       Roedd y Cadeirydd wedi bod mewn nifer o ddigwyddiadau coffa gan gynnwys gwasanaethau yng Nghaerfyrddin, Llanelli a Phump-hewl. Roedd wedi cael y fraint o fynd i seremoni dadorchuddio cofeb newydd ger Eglwys Llanarthne ar gyfer y plwyfolion o Lanarthne a gollwyd yn ystod y rhyfel. Bu hefyd mewn dadorchuddiad cofeb yn Neuadd Llansteffan i'r milwr olaf o'r ardal i golli ei fywyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac roedd wedi agor gardd goffa yn Nafen. Agorodd arddangosfa addysgol ardderchog yn Hendy-gwyn ar Daf a mwynhau perfformiad arbennig o "Oh what a lovely war" yn Llanelli ynghyd â chyngherddau coffa yn y Garnant a Phorth Tywyn. Hoffai ddiolch yn fawr i'r trefnwyr, ac yn enwedig y Lleng Brydeinig.  Roedd pob digwyddiad y bu iddo yn gofiadwy ac yn brofiad emosiynol a berodd i bawb sylweddoli pa mor erchyll yw rhyfel;

·       Cyfeiriodd y Cadeirydd at y lluniau pabi a oedd wedi goleuo wal Neuadd y Sir nos Sul 11 Tachwedd. Roedd Neuadd y Sir hefyd wedi'i goleuo ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Baban a Diwrnod Polio y Byd, a byddai hynny'n digwydd ar gyfer Diwrnod Aids y Byd;

·       Cyfeiriodd y Cadeirydd at y tywydd garw a darodd Sir Gaerfyrddin fis diwethaf.  Dywedodd ein bod yn meddwl am yr unigolion, y busnesau a'r cymunedau oedd wedi dioddef yn sgil y llifogydd gwaethaf i ni weld am dros 30 mlynedd. Rhoddodd Arweinydd y Cyngor ddiweddariad am y llifogydd, gan ddweud wrth y Cyngor fod cronfa wedi'i sefydlu y diwrnod canlynol i helpu'r rheiny roedd y llifogydd wedi effeithio arnynt. Bu swyddogion yn ymweld â'r ardaloedd a darwyd i gynnig cymorth ymarferol ac i helpu pobl i gael arian gan y gronfa. Diolchodd yr Arweinydd o waelod calon i'r swyddogion fu'n gweithio mor galed, gan fynd yr ail filltir. Roedd Cronfa arall wedi'i sefydlu rai diwrnodau'n ddiweddarach i helpu'r 210 o fusnesau yr effeithiwyd arnynt gan y llifogydd. Roedd swyddogion hefyd yn cynnig cefnogaeth a chymorth i gael y busnesau hynny yn ôl ar eu traed cyn gynted â phosibl.  O ran ffyrdd a seilwaith, roedd yr holl ffyrdd a phontydd wedi cael eu harchwilio ac ar agor, ar wahân i'r A484 yng Nghwmduad, lle roedd tirlithriad wedi bod. Byddai angen tua £3 miliwn i sicrhau bod y seilwaith hwnnw yn dychwelyd i'r un cyflwr ag ydoedd cyn y storom. Ar ran y Cyngor, bu i'r Arweinydd gydymdeimlo'n ddiffuant â pherthnasau a chyfeillion Corey Sharpling, a gollodd ei fywyd yn y drychineb yn Nghwm-duad;

·       Trafodwyd Ymgyrch y Rhuban Gwyn fis Tachwedd y llynedd.  Gweledigaeth yr ymgyrch yw gweld cymdeithas rhydd rhag pob math o drais gan ddynion.

Ers hynny, roedd y Cynghorydd Cefin Campbell wedi'i benodi'n Llysgennad ar gyfer yr ymgyrch.  Roedd wedi ceisio Achrediad Rhuban Gwyn erbyn Diwrnod Rhuban Gwyn 2018, sef 25 Tachwedd, ac roedd y Cyngor wedi llwyddo i ennill Statws Rhuban Gwyn ym mis Awst er mwyn cydnabod y gwaith rydym yn ei wneud a beth rydym yn bwriadu ei wneud i gael dynion i siarad ac i herio trais gan  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR YR 10FED HYDREF, 2018 pdf eicon PDF 335 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 10 Hydref 2018 yn gofnod cywir.

 

5.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD:

Dogfennau ychwanegol:

5.1

CWESTIWN GAN MR N.B. LEWIS I'R CYNGHORYDD DAVID JENKINS, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADNODDAU

"Beth oedd cyfanswm y Dreth Gyngor a gasglwyd yn Sir Gaerfyrddin ym mlwyddyn 2017."

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

"Beth oedd cyfanswm y Dreth Gyngor a gasglwyd yn Sir Gaerfyrddin ym mlwyddyn 2017”

 

Ymateb y Cynghorydd David Jenkins, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau:-

 

“Yn gyntaf, mae'n rhaid i mi esbonio fod cyllidebau ariannol yr Awdurdod Lleol wedi'u seilio ar flynyddoedd ariannol ac nid blynyddoedd calendr, felly mae'r flwyddyn ariannol yn cychwyn ar 1 Ebrill tan 31 Mawrth y flwyddyn ganlynol. Felly dyma'r wybodaeth i chi – casglwyd £83.9m o Dreth Gyngor yn y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2016 a 31 Mawrth 2017, a chasglwyd £88.13m rhwng 1 Ebrill 2017 a 31 Mawrth 2018. Yn syml, os gwnewch chi gyfrifiad bras ac adio 3/12 o'r ffigwr cyntaf a 9/12 o'r ail ffigwr, fe gewch chi ffigwr o ryw £87m ar gyfer faint gasglwyd ar gyfer 2017.”

 

Gofynnodd Mr Lewis y cwestiwn atodol canlynol:-

 

"Faint o gymorthdaliadau ar ffurf taliadau gan Lywodraeth Cymru neu unrhyw ffynonellau eraill megis C.A.P.?

 

Ymateb y Cynghorydd David Jenkins, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau:-

 

“Mae arnaf ofn na allaf ateb y cwestiwn yna. Byddai'n rhaid ei gyfeirio i Lywodraeth Cymru yng Nghaerdydd. Nid oes gennym y wybodaeth honno ar lefel sirol.”

 

6.

CWESTIYNAU GAN AELODAU:-

Dogfennau ychwanegol:

6.1

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD GILES MORGAN I'R CYNGHORYDD GLYNOG DAVIES, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG & PHLANT

“Llynedd, gwnaethom sefydlu cronfa datblygu ysgolion gwerth £500k. A allaf i ofyn i'r Aelod dros Addysg faint o'r Gronfa Gwella Ysgolion sydd wedi ei ddefnyddio a sawl cais sydd wedi'i gyflwyno? Pan gafodd y Gronfa ei chyflwyno, fy nisgwyliad i oedd y byddai'n rhoi ychydig o gymorth i ysgolion a oedd yn gwneud eu gorau ond yn methu â dal dau ben llinyn ynghyd ac a oedd yn wynebu mwy o ddiffyg yn eu cyllidebau. Mae'r Gronfa wedi ei throi yn rhywbeth hollol wahanol ac nid yn bot cyffredinol o arian i ysgolion sy'n cael trafferth â chyllidebau ond yn hytrach yn bot o arian mwy cyfyngedig i'w ddefnyddio ar gyfer gwneud arbedion effeithlonrwydd. A allaf i ofyn ai dyma fwriad Aelodau'r Bwrdd Gweithredol pan gafodd y gyllideb ei ffurfio y llynedd?"

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Llynedd, gwnaethom sefydlu cronfa datblygu ysgolion gwerth £500k. A allaf i ofyn i'r Aelod dros Addysg faint o'r Gronfa Gwella Ysgolion sydd wedi ei ddefnyddio a sawl cais sydd wedi'i gyflwyno? Pan gafodd y Gronfa ei chyflwyno, fy nisgwyliad i oedd y byddai'n rhoi ychydig o gymorth i ysgolion a oedd yn gwneud eu gorau ond yn methu â dal dau ben llinyn ynghyd ac a oedd yn wynebu mwy o ddiffyg yn eu cyllidebau. Mae'r Gronfa wedi ei throi yn rhywbeth hollol wahanol ac nid yn bot cyffredinol o arian i ysgolion sy'n cael trafferth â chyllidebau ond yn hytrach yn bot o arian mwy cyfyngedig i'w ddefnyddio ar gyfer gwneud arbedion effeithlonrwydd. A allaf i ofyn ai dyma fwriad Aelodau'r Bwrdd Gweithredol pan gafodd y gyllideb ei ffurfio'r llynedd?"

Ymateb gan y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

“Fel y soniwyd y llynedd, wrth lunio cyllideb ar gyfer eleni, cytunwyd ein bod yn sefydlu'r gronfa benodol hon sef y Gronfa Gwella Ysgolion ac roedd £0.5m yn swm sylweddol i'w roi yn y pot hwn. Ond dim ond unwaith gellir rhoi'r arian hwn, eglurwyd mai cronfa unwaith yn unig ydoedd a fyddai ar gael ar gyfer 2018/19.

Y bwriad oedd bod y gronfa'n dilyn fformat tebyg i'r gronfa datblygu cyffredinol, ac mae'r gronfa honno'n dal i fodoli wrth gwrs. Os edrychwch ar gofnodion y Cyngor yn ôl ym mis Chwefror eleni, gallwch weld mai nod y gronfa benodol hon oedd rhoi cymorth pellach i ysgolion, ac, fel Cyngor ac Aelod, rydym yn gwneud ein gorau glas i gefnogi ysgolion. Mae'r Adran yn gweithio'n galed iawn i gefnogi ysgolion.  Ond yn bwysicach byth yma, rhoddir mynediad uniongyrchol i ysgolion i'r gronfa benodol hon, sy'n gronfa buddsoddi i arbed. Esboniwyd hynny'n llawn ar y pryd, mai cronfa buddsoddi i arbed ydoedd. Roedd hon yn gronfa arbennig i fuddsoddi i arbed, a dyna oedd bwriad y gronfa. Galluogi ysgolion i gael rhywfaint ymlaen llaw er mwyn gwneud arbedion effeithlonrwydd yn yr ysgol, dyna'r hyn a eglurais ar y pryd. Roedd y rheswm yn glir ac roedd yr esboniad yn glir iawn yn fy marn i. Roeddwn am helpu ysgolion yn eu hymdrechion i wneud arbedion effeithlonrwydd ac arbedion cynaliadwy, dyna oedd y bwriad. Oedd, roedd angen peth amser i gwblhau meini prawf y grant a'r amodau, ond bellach mae'n weithredol. Gallaf eich sicrhau ein bod ni, hyd yma, wedi cael 8 o geisiadau gwerth hyd at £185k. Cytunwyd ar dri ohonynt eisoes, cyfanswm o £116k.  Newydd ddod i law mae'r 5 cais arall, ac maent yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd. Mae'n werth nodi bod pob cais yn ymwneud yn bennaf â chefnogi gwella systemau TG a chyfathrebu yn ein hysgolion, ac wedyn byddai'r gwaith hwnnw'n cael effaith glir o ran gwneud yr ysgolion yn fwy cynaliadwy yn y dyfodol.”

 

 

6.2

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD GILES MORGAN I'R CYNGHORYDD GLYNOG DAVIES, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG & PHLANT

“A allaf i ofyn i'r Aelod dros Addysg a fydd ef yn ysgogi newidiadau i'r pot cyllido Anghenion Dysgu Ychwanegol wrth bennu'r gyllideb y tro nesaf.  Ar hyn o bryd mae rhai ysgolion sy'n gwneud eu gorau i integreiddio disgyblion heriol i addysg prif ffrwd yn cael eu cosbi yn sgil y ffordd rydym yn rhannu'r pot Anghenion Dysgu Ychwanegol. A allaf i geisio sicrwydd y caiff hwn ei edrych arno yn ystod y broses gyllidebu bresennol?"

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“A allaf i ofyn i'r Aelod dros Addysg a fydd ef yn ysgogi newidiadau i'r pot cyllido Anghenion Dysgu Ychwanegol wrth bennu'r gyllideb y tro nesaf.  Ar hyn o bryd mae rhai ysgolion sy'n gwneud eu gorau i integreiddio disgyblion heriol i addysg prif ffrwd yn cael eu cosbi yn sgil y ffordd rydym yn rhannu'r pot Anghenion Dysgu Ychwanegol. A allaf i geisio sicrwydd yr edrychir ar hyn yn ystod y broses gyllidebu bresennol?"

Ymateb gan y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

“Y peth cyntaf yr hoffwn ei ddweud yw fy mod yn trafod y gyllideb Anghenion Dysgu Ychwanegol yn rheolaidd. Mae'r cyfarwyddwr yma heddiw'r bore, a gall dystio ein bod yn trafod y sefyllfa hon yn rheolaidd. Mae cyfarfodydd misol rhyngof fi, fe, a hefyd y Penaethiaid Gwasanaeth. Dylech hefyd gofio fy mod yn Gadeirydd ar Fwrdd Llywodraethu ac yn gwybod llawn cystal ag un ohonoch am yr her mae ysgolion yn ei hwynebu. Mae pwysau ar ysgolion yn ddyddiol i sicrhau eu bod yn cefnogi'r plant yn ein hysgolion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

 

Un peth y mae'n rhaid i mi ei ddweud yw ein bod ni fel Cyngor wedi bod yn arloesol i ryw raddau, ac efallai nad oeddech yn sylweddoli hyn, ond roeddem ni ymysg y cyntaf i fwrw ymlaen â chynlluniau. Rhyw 4 blynedd yn ôl rwy'n credu, aethom ati i ddefnyddio'r peth o'r cyllid at anghenion dysgu ychwanegol, a'i roi'n benodol i ysgolion ddiwallu ac asesu eu hanghenion eu hunain. Erbyn hyn wrth gwrs mae siroedd eraill yn gwneud hyn.  Mae'n bwysig bod gan ysgolion afael personol ar yr arian hwn, a'u bod yn ei ddefnyddio mewn ffordd sy'n briodol iddyn nhw ac sy'n addas i'w plant.

 

Aeth 21m i'r ysgolion y llynedd i gefnogi'r dysgwyr hyn, bron 600k yn fwy na roddwyd y flwyddyn flaenorol. Erbyn hyn mae'r ysgolion bellach yn cael 67% o'r cyfanswm sy'n cael ei wario, o gymharu â chyfartaledd Cymru, sef 73%.  Felly, mae ysgolion yn gallu cynllunio'n lleol er mwyn diwallu eu hanghenion eu hunain.  Fel y gwyddoch mae'r system yn cael ei newid erbyn hyn a'r wythnos nesaf byddaf yn cadeirio cyfarfod pwysig iawn yng Nghaerdydd i drafod y newidiadau hyn. Mae'r hyn rydym yn ei wneud yn gosod sail ar gyfer datblygu'r materion lleol hyn er mwyn diwallu anghenion ein disgyblion. Rydym yn gwrando ar yr ysgolion ac yn ceisio adolygu'r sefyllfa yn ôl yr atebion a gawn gan yr ysgolion.

 

Mae pob elfen o'r fformiwla ariannu ysgolion yn cael ei hadolygu'n barhaus, mae'n bwysig gwrando a bod adborth yn ein cyrraedd, oherwydd rwyf yn sylweddoli bod diwallu'r anghenion hyn yn gallu bod yn gymhleth iawn ac yn anodd iawn mewn llawer i achos.

 

Yn dilyn adborth am yr heriau mae ysgolion cynhwysol penodol yn eu hwynebu, rydym ni, dros y misoedd diwethaf, wedi bod yn edrych ar y fformiwla ar gyfer pennu ein cyllid anghenion dysgu ychwanegol, i sicrhau ei bod yn adleisio anghenion ein hysgolion yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.2

6.3

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ROB JAMES I'R CYNGHORYDD EMLYN DOLE, ARWEINYDD Y CYNGOR

“A fyddai modd i Arweinydd y Cyngor roi trosolwg cryno i ni ar y broses a ddilynwyd wrth ddewis partner sector preifat ar gyfer y Pentref Llesiant, gan amlinellu faint o sefydliadau a gymerodd ran yn y Drafodaeth Gystadleuol a’r rheswm pam y dewiswyd Sterling Health?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“A fyddai modd i Arweinydd y Cyngor roi trosolwg cryno i ni ar y broses a ddilynwyd wrth ddewis partner sector preifat ar gyfer y Pentref Llesiant, gan amlinellu faint o sefydliadau a gymerodd ran yn y Drafodaeth Gystadleuol a’r rheswm pam y dewiswyd Sterling Health?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:-

 

“Os ydynt yn dymuno, gall rhai aelodau o'r Cyngor hwn adael yn awr os ydynt am fynd mas i'r lolfa i ddarllen beth sy'n mynd i gael ei drafod yn y papur lleol cyn ei fod yn cael ei drafod, oherwydd mae'n ymddangos bod Arweinydd yr Wrthblaid wedi rhannu'r cwestiynau hyn ymlaen llaw â newyddiadurwr. Dyna ddywedodd Richard Jewell. Rwyf yn dweud hyn am ddau reswm oherwydd yn un o'r paragraffau olaf mae'n dweud fy mod wedi cael cais gan y newyddiadurwr hwn i ateb y cwestiynau hyn iddo cyn y cyfarfod hwn o'r cyngor. Gwrthodais, ac nid wyf yn si?r sut y gall ddweud "Ychwanegodd Mr Dole" oherwydd ni siaradais ag ef. Gwrthodais siarad ag ef drwy'r adran lawr y grisiau. Fe wnes ei atgoffa mai yma oedd y seddi democrataidd yng nghyd-destun yr awdurdod lleol, nid mewn swyddfa newyddiaduraeth, ac mai yma fyddai'r atebion yn cael eu rhoi i'r cwestiynau. Dyma'r man lle mae angen iddynt gael eu hateb, ac mae'r ffaith bod hyn wedi'i amlinellu mewn papur lleol cyn bod y cwestiwn wedi'i ofyn yn ffurfiol yma, a chyn bod yr ateb wedi'i lunio'n ffurfiol, yn dangos diffyg parch i'r siambr hwn ac i brosesau democrataidd yn y sir hon. Nid fel hyn mae pethau'n gweithio. Dyma lle gofynnir y cwestiynau. Bu'n rhaid i mi atgoffa'r newyddiadurwr y dylai ddod i'r cyfarfod ac wedyn adrodd ar yr hyn a drafodwyd, nid i'r gwrthwyneb. Dim ond crybwyll hynny cyn inni ddechrau.

 

Er eglurhad, dilynwyd y broses dendro er mwyn nodi partner datblygu, nid partner o'r sector preifat. Efallai y gallaf esbonio'r gwahanol gamau yn y broses honno, yn unol â'r cais. Yn gyntaf, y drefn gaffael a'r broses ei hun. Cyflwynwyd hysbysiad gwybodaeth ymlaen llaw a holiadur profi'r farchnad ar 15 Mawrth 2017, a daeth i ben ar 10 Ebrill 2017 y llynedd. Nod gwneud hynny oedd creu diddordeb yn y broses gaffael. Yna rhoddwyd hysbysiad yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd a chyflwynwyd tendr a oedd yn gwahodd cynigion gan sefydliadau neu gonsortia i fod yn bartneriaid datblygu i'r awdurdod. Daeth y cam hwnnw i ben haf diwethaf ar 8 Awst, 2017. Gofynnwyd i ymgeiswyr gyflwyno holiadur cyn-gymhwyso i'w asesu. Roedd 34 o sefydliadau i gyd wedi bwrw golwg ar yr holiadur cyn-gymhwyso a chyflwynodd un cynigydd yr holiadur. Yn dilyn ei asesu, barnwyd bod yr un cynnig hwnnw'n cydymffurfio â'r meini prawf, a gofynnwyd iddo gymryd rhan yn rhan nesaf y broses, sef y sesiynau dialog. Felly, roeddem wedyn yn cychwyn ar gam dialog gystadleuol y broses. Cynhaliwyd dwy rownd o ddeialog. Bydd pob un yn cynnwys chwe chyfarfod unigol. Yn dilyn pob rownd o ddeialog, cynhaliwyd cyfres o weithdai  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.3

6.4

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ROB JAMES I'R CYNGHORYDD EMLYN DOLE, ARWEINYDD Y CYNGOR

“A fyddai modd i Arweinydd y Cyngor nodi pwy yw’r Cyfarwyddwyr o ran Partner y Fenter ar y Cyd a pha brofiad sydd ganddynt i ychwanegu at y prosiect?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“A all Arweinydd y Cyngor ddweud pwy yw'r Cyfarwyddwr sy'n bartneriaid y fenter ar y cyd a pha brofiad y maent yn ei roi i'r prosiect?

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:-

 

“Nid yw Cyfarwyddwr Cwmnïau'r Fenter ar y Cyd fydd yn darparu'r pentref wedi'u cadarnhau eto. Mae cyngor cyfreithiol wedi cael ei geisio ynghylch y strwythur corfforaethol mwyaf buddiol a'r cytundeb rhanddeiliaid y bydd yr Awdurdod yn rhan ohono.”

 

Gofynnodd y Cynghorydd James y cwestiwn atodol canlynol:-

 

“Mewn datganiad i'r wasg yn gynharach eleni, dywedodd bod y cwmni wedi'i ddewis gan eu bod yn arbenigwyr yn y maes. Ers mis Medi 2018 mae'r cardiolegydd Dr Holt Vickman wedi ymddiswyddo o Sterling Health tra bo cyn Arweinydd y Cyngor hwn, Meryl Gravell, dal yn gyfarwyddwr ar y cwmni hwn. A fyddech cystal â nodi a yw Miss neu Doctor Holt Vickman yn dal yn rhan o'r prosiect a pha ran sydd gan gyn Arweinydd y Cyngor yn y prosiect hwn?"

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:-

 

“Cafodd Procurement Sterling Health ei bartneru â phenseiri blaengar a chwmnïau adeiladu, fferyllol, a meddygol sydd ag enw da ledled y byd. Maent yn gysylltiedig â nifer o ymgynghorwyr meddygol, yn enwedig rhai sydd ag arbenigedd blaenllaw ar draws y byd o ran adfer, niwroleg a chardioleg hefyd. Enwau cyfarwyddwyr presennol Sterling Health Security Holdings Ltd yw Franz Dickman, James Dickman, Rupert Harrison a Kevin Schmidt.”

 

6.5

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ROB JAMES I'R CYNGHORYDD EMLYN DOLE, ARWEINYDD Y CYNGOR

“Dywedir bod y Cytundeb Cydweithio ar gyfer prosiectau Llynnoedd Delta gyda Phrifysgol Abertawe a Sterling Health yn costio £200 miliwn, a fyddai modd i Arweinydd y Cyngor nodi sut y bydd disgwyl i bob partner gyfrannu at gost hon?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Dywedir bod y Cytundeb Cydweithio ar gyfer prosiectau Llynnoedd Delta gyda Phrifysgol Abertawe a Sterling Health yn costio £200 miliwn, a fyddai modd i Arweinydd y Cyngor nodi sut y bydd disgwyl i bob partner gyfrannu at gost hon?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:-

 

“Yr ateb syml yw bod cyfraniadau ariannol yn cael eu gwneud gan bob partner yn bwyllog. Dyna yw'r ateb syml. Rwyf yn gallu dyfalu am beth y mae'n chwilio, ac fe wnaf geisio egluro, ac rwyf am roi'r ffigurau canlynol ichi, ond unwaith eto maent yn hysbys ac rwyf yn rhannu pethau y byddech yn eu gwybod pe byddech wedi dod i'r cyfarfod. Felly, i fod yn glir, mae'r ffigurau canlynol yn ymwneud â buddsoddiad yn hytrach na chost, ac rwyf am bwysleisio'r gwahaniaeth hwnnw, buddsoddiad ydyw ac nid cost. Bydd y Fargen Ddinesig ei hun yn cyfrannu £40m, bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cyfrannu £32m, gan gynnwys canolfan hamdden a gwerth y tir, a bydd y sector preifat yn cyfrannu £127.5m. Mae'n bwysig ychwanegu bod diddordeb sylweddol wedi bod gan sefydliadau ariannol mawr. Fodd bynnag ni ellir gwarantu'r cyllid hyd nes bod y cynlluniau busnes yn barod ar gyfer buddsoddwr a'r dyluniadau ar gyfer elfennau unigol, heb gynnwys y ganolfan llesiant a'r  cyllid tan y cynlluniau busnes barod buddsoddwr a dyluniadau ar gyfer elfennau unigol, heb gynnwys y ganolfan llesiant a'r ganolfan iechyd cymunedol, wedi ei cwblhau a'u cyflwyno i'r sefydliadau hyn. Mae hynny'n digwydd ar hyn o bryd. Prin fod angen nodi y bydd y camau diwydrwydd dyladwy yn cael eu cymryd gyda'r buddsoddwyr pan fydd trafodaethau wedi symud ymlaen ymhellach a phan fydd cyllid wedi'i sicrhau gyda'r buddsoddwr priodol.”

 

Gofynnodd y Cynghorydd James y cwestiwn atodol canlynol:-

 

“Yn ôl datganiad ariannol Sterling Health yn 2017, mae gan y cwmni ddyledion net o £127k ac mae'n dibynnu ar fenthyciadau gan y Cyfarwyddwyr i barhau i fasnachu. Sut mae'r Cyngor hwn yn disgwyl gwneud cyfraniad ariannol i'ch prosiect £127m?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:-

 

“Cafwyd y cyngor cyfreithiol canlynol mewn perthynas â'r strwythur corfforaethol sydd i'w ddatblygu gyda phartneriaid er mwyn darparu'r pentref. Dywedwyd wrth y rhanddeiliaid am sefydlu cyfryngau corfforaethol newydd ar gyfer y prosiect ar ffurf cwmnïau cyfyngedig drwy gyfranddaliadau, Unwaith eto, rhannwyd y wybodaeth hon yng nghyfarfod y Bwrdd Gweithredol.  Bydd y cyfryngau diben arbennig hyn yn galluogi £200m i fwrw ymlaen â chyllid preifat cyhoeddus a bydd yn diogelu buddsoddiad y Cyngor hwn. Mae strwythur corfforaethol yn caniatáu risgiau prosiect a diogelwch ar gyfer prosiectau ariannol gael eu gosod ar lefel cwmni prosiect yn hytrach na'n uniongyrchol gyda'r Cyngor, mae'n ddechreuad â llechen lân. Bydd strwythur corfforaethol yn cynnwys cynllun busnes, cofrestr risgiau, polisïau sydd wedi'u llunio i ddiogelu'r Cyngor a sicrhau atebolrwydd a chydnabyddiaeth priodol a chadarn o ran gofynion llywodraethu Awdurdod Lleol.” 

 

 

6.6

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ROB JAMES I'R CYNGHORYDD EMLYN DOLE, ARWEINYDD Y CYNGOR

“A fyddai modd i Arweinydd y Cyngor amlinellu faint y mae'r Awdurdod hwn wedi'i dalu mewn ffioedd ymgynghori ers mis Mai 2015, gan gynnwys y rheiny sy'n gysylltiedig â phrosiectau Bargen Ddinesig Bae Abertawe?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“A fyddai modd i Arweinydd y Cyngor amlinellu faint y mae'r Awdurdod hwn wedi'i dalu mewn ffioedd ymgynghori ers mis Mai 2015, gan gynnwys y rheiny sy'n gysylltiedig â phrosiectau Bargen Ddinesig Bae Abertawe?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:-

 

“Mae'r dasg o ofyn i swyddogion gyfrifo faint mae'r Awdurdod hwn wedi ei dalu mewn ffioedd ymgynghori dros gyfnod o 3 blynedd a hanner yn un enfawr. Byddai'r gwaith hwn yn cymryd wythnos mwy neu lai i 3 neu 4 swyddog fynd i'r afael ag ef. Sylwaf o'ch cwestiwn eich bod hefyd yn crybwyll prosiectau sy'n gysylltiedig â Bargen Ddinesig Bae Abertawe.  Wel, er mwyn rhoi ateb cynhwysfawr i'r agwedd hon ar eich cwestiwn, byddai'n rhaid i mi ddibynnu ar y 3 awdurdod arall sy'n rhan o'r fargen gyda ni i ddarparu i ni'r wybodaeth sydd gyda ni, heb sôn am wybodaeth Llywodraeth Cymru ynghylch yr ymgyngoriadau hynny hefyd.

 

Rwyf yn dechrau amau a ydych wir am i'r pentref llesiant hwn gael ei wireddu a beth yn union yw'r broblem yma? Byddwch yn gwybod oherwydd eich cysylltiad â'r papur rydym eisoes wedi sôn amdano, bu inni gyhoeddi wythnos diwethaf fod y gwaith hwn i'w gwblhau erbyn 2021, sef canolfan dd?r sy'n cynnwys pwll nofio hir 5 metr, pwll sblash, pwll dysgwr, campfa fodern a stiwdios ffitrwydd, neuadd chwaraeon aml-bwrpas ar gyfer ystod o chwaraeon yn cynnwys badminton a phêl-rwyd, pwll hydrotherapi, wal ddringo ac yn blaen. Nid ydych fel pe baech am y pethau hyn ar gyfer trigolion Llanelli.”

 

Gofynnodd y Cynghorydd James y cwestiwn atodol canlynol:-

 

“Mae'n ymddangos nad yw'r weinyddiaeth hon yn hoffi craffu. Mae cynifer o gwestiynau heb eu hateb ynghylch sut ydych yn cael yr arian a phwy sy'n ymwneud â hyn, ac mae'r cyhoedd yn ymbil am y wybodaeth hon a'r unig beth rydych chi'n ei ddweud yw "Peidiwch â phoeni am y peth, bydd popeth yn iawn”.  Er gwaethaf cyni cyllidol, mae'r Awdurdod hwn wedi rhoi miliynau o bunnoedd i gwmnïau ymgynghori preifat er mwyn rhoi gweinyddiaeth Plaid Cymru diarweiniad ar ben ffordd yn Sir Gaerfyrddin.  A wnewch chi heddiw, gymryd cyngor gan y Blaid Lafur a gwahardd y defnydd o ymgynghori os gwelwch yn dda yn Sir Gaerfyrddin?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:-

 

“Na.”

 

 

6.7

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ROB JAMES I'R CYNGHORYDD EMLYN DOLE, ARWEINYDD Y CYNGOR

“Yn gynharach eleni, cafodd strwythurau rheoli a llywodraethu cwmni Cwm Environmental Limited eu newid yn gwmni Teckal.  A fyddai modd i Arweinydd y Cyngor nodi pa effaith, os o gwbl, y mae'r newidiadau hyn wedi eu cael ar dâl ac amodau'r gweithwyr?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Yn gynharach eleni, cafodd strwythurau rheoli a llywodraethu cwmni Cwm Environmental Limited eu newid yn gwmni Teckal.  A fyddai modd i Arweinydd y Cyngor nodi pa effaith, os o gwbl, y mae'r newidiadau hyn wedi eu cael ar dâl ac amodau'r gweithwyr?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd E. Dole, Arweinydd y Cyngor:-

 

“Gallaf sicrhau'r Cynghorydd James nad oedd unrhyw newidiadau i unrhyw gyflogau ac amodau staff mewn perthynas â Cwm Environmental Limited yn cael eu hail-ddynodi fel cwmni Teckal.”

 

Gofynnodd y Cynghorydd James y cwestiwn atodol canlynol:-

 

“Dywedwyd wrth ein gr?p bod mynediad gan gynrychiolwyr Undebau Llafur yn cael ei rwystro i Cwm Environmental o fewn y Cwmni, gan ddweud nad ydynt yn cydnabod Undebau Llafur, ac rydym yn gofyn pam?  A ydych yn credu bod y cwmni mae'r Cyngor yn berchen arno yn rhwystro mynediad gan Undebau Llafur a ddim yn cydnabod Undebau Llafur?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:-

 

“Mae gweithwyr sy'n penderfynu bod yn Aelodau Undebau Llafur a'r Aelodau hynny sy'n mynd ymlaen i gael eu hethol yn Swyddogion Undeb Llafur yn mwynhau hawliau cyfreithiol penodol sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r cyflogwr beidio â'u trin yn llai ffafriol o achos eu bod yn Aelod o Undeb Llafur neu weithgareddau na fyddai'n trin rhywun nad yw'n aelod. Ceir y darpariaethau hyn yn Neddf Cysylltiadau (Cydgrynhoi) Undebau Llafur 1992.  Mae'n ofynnol i Cwm Environmental Services PLC gydymffurfio â'r gofyniad deddfwriaethol hwn.”

 

6.8

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ROB JAMES I'R CYNGHORYDD EMLYN DOLE, ARWEINYDD Y CYNGOR

“A fyddai modd i Arweinydd y Cyngor ddarparu gwybodaeth am y pecyn cydnabyddiaeth ariannol sy'n gysylltiedig â swydd newydd Cyfarwyddwr Gweithrediadau Delta Llesiant Cyf?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Gallai Arweinydd y Cyngor ddarparu gwybodaeth am y pecyn taliadau sydd ynghlwm wrth swydd newydd Cyfarwyddwr Gweithrediadau Llesiant Delta?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd E. Dole, Arweinydd y Cyngor:-

 

“Nid oes swydd o'r fath yn ein Cwmni, ond rwyf yn falch o gael achub ar y cyfle hwn i roi gwybod i'r Cyngor, o ganlyniad i greu'r gwasanaeth, ein bod bellach wrthi'n penodi chwech o bobl ychwanegol yn Llanelli, oherwydd y gwaith newydd a sicrhawyd drwy drefniadau ein Cwmni. Mae'r Cwmni hefyd wedi sicrhau gwerth £2.5m o fusnes newydd, sydd yn ganlyniad gwych mewn cyfnod byr o amser ac sy'n cyfiawnhau ein penderfyniad i greu'r Cwmni yn y lle cyntaf.  Rhaid imi ddweud unwaith eto fy mod yn synnu braidd eich bod am danseilio'r datblygiad cadarnhaol hwn ar gyfer Llanelli, yn enwedig gan eich bod yn Aelod sy'n cynrychioli Ward Llanelli.”

 

Gofynnodd y Cynghorydd James y cwestiwn atodol canlynol:-

 

“Wel, rwyf yn rhyfeddu eich bod yn dweud nad oes swydd pryd y mae gennych unigolyn yn y gymuned sy'n rhedeg yr Awdurdod hwn yn datgan ei swydd ar-lein o dan ei CV. Felly a allech edrych i mewn i'r mater hwnnw?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:-

 

“Dylwn egluro unwaith eto eich bod wedi enwi swydd yn eich cwestiwn, ond nid oes swydd o'r fath. Fe enwoch y swydd fel 'Cyfarwyddwr Llesiant Delta' ac fe atebais hynny.”

 

 

6.9

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ROB JAMES I'R CYNGHORYDD EMLYN DOLE, ARWEINYDD Y CYNGOR

“Mae'r Awdurdod hwn wedi sefydlu nifer o gwmnïau yn y deunaw mis diwethaf sydd wedi arwain at lai o oruchwyliaeth o ran y gwasanaethau sy'n cael eu cyflawni fel arfer gan y Cyngor; nid yw Cynghorwyr na'r cyhoedd yn ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd yn y cwmnïau hyn; ac mae cyllid cyhoeddus sy’n gysylltiedig â mentrau'r sector cyhoeddus yn cael eu cwestiynu.  Yn hynny o beth, a oes modd i Arweinydd y Cyngor roi addewid y bydd yn atal gwasanaethau rhag cael eu trosglwyddo'n allanol yn barhaus i gwmnïau teckal ac addo peidio â chreu unrhyw gwmnïau newydd, gan gynnwys unrhyw rai sy'n ymwneud â'r Fargen Ddinesig, ar gyfer gweddill y tymor hwn?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Mae'r Awdurdod hwn wedi sefydlu nifer o gwmnïau yn y deunaw mis diwethaf sydd wedi arwain at lai o oruchwyliaeth o ran y gwasanaethau sy'n cael eu cyflawni fel arfer gan y Cyngor; nid yw Cynghorwyr na'r cyhoedd yn ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd yn y cwmnïau hyn; ac mae cyllid cyhoeddus sy’n gysylltiedig â mentrau'r sector cyhoeddus yn cael eu cwestiynu.  Yn hynny o beth, a oes modd i Arweinydd y Cyngor roi addewid y bydd yn atal gwasanaethau rhag cael eu trosglwyddo'n allanol yn barhaus i gwmnïau teckal ac addo peidio â chreu unrhyw gwmnïau newydd, gan gynnwys unrhyw rai sy'n ymwneud â'r Fargen Ddinesig, ar gyfer gweddill y tymor hwn?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd E. Dole, Arweinydd y Cyngor:-

 

“Na.”

 

Gofynnodd y Cynghorydd James y cwestiwn atodol canlynol:-

 

“Mae'n amlwg o'r drafodaeth hon fod y weinyddiaeth hon dros ei phen a'i chlustiau ac yn cael ei thywys ar hyd llwybr tywyll iawn. A ydych wir yn credu y bydd y cyhoedd yn ymddiried ynoch i fod yn gyfrifol am y pwrs cyhoeddus yn y dyfodol?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:-

 

“Ydw yw'r ateb. Efallai y gallaf dreulio munud yn esbonio beth yw Cwmni Teckal i'r Cynghorydd James?  Cwmni Teckal yn enw cyffredin ar gwmni sy'n elwa ar gontractau ar gyfer gwaith, gwasanaethau neu gyflenwi o'i Awdurdod contractio rheoli heb orfod mynd drwy broses dendro gystadleuol. Yn yr un modd â phob Awdurdod arall, rhaid i Gyngor Sir Caerfyrddin reoli'r holl gyfranddaliadau yn y cwmni hwn a hefyd arfer y rheolaeth o ddydd i ddydd dros ei faterion. Does dim ffynonellau allanol yma, rwy'n gwybod ei fod yn dwlu ar y term ond mae'n  amherthnasol.  Mewn geiriau eraill mae'n union yr un peth â'r berthynas rhwng y Cyngor ac un o'i gyfeiriaduron mewnol.  Gellir cyflawni hyn drwy'r strwythur llywodraethu hwnnw.  Hefyd mae'n rhaid i'r Cwmni edrych am mewn ac nid am allan. Gofyniad y gyfarwyddeb yw bod yn rhaid i o leiaf 80% o weithgarwch Cwmni Teckal, sef dros 80% o'i drosiant fod er lles ei berchennog sector cyhoeddus. Ni fydd unrhyw gontractau gyda chyrff sector cyhoeddus eraill neu endidau'r sector preifat yn elwa o'r esemptiad Teckal a byddai'n rhaid i'r cwmni gyflwyno tendr yn y ffordd arferol ar gyfer contractau o'r fath yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth gaffael briodol.

 

Diddorol yw nodi bod yr ymagwedd hon at sefydlu cwmnïau, gan gynnwys at ddibenion Bargen Ddinesig, wedi cael sêl bendith gan Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, a'i olynydd tebygol, Mark Drakeford, rai misoedd yn ôl.  Nawr dyna ichi rywfaint o realiti gwleidyddol.  Dyma'r peth Rob, y realiti ymarferol ac ariannol yw bod Awdurdodau Lleol ar draws Cymru yn gorfod meddwl am syniadau arloesol i ddarparu'r gwasanaethau mae'r bobl maent yn eu cynrychioli yn dibynnu arnynt o ddydd i ddydd. Mae'n rhaid inni wneud hynny mewn ffordd sy'n golygu ein bod yn gwneud gwell defnydd o adnoddau ariannol cyfyngedig ac yn chwilio am gyfleodd newydd i greu incwm newydd.  Prin bod angen ein hatgoffa ein  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.9

6.10

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD EDWARD THOMAS I'R CYNGHORYDD JANE TREMLETT, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS GOFAL CYMDEITHASOL & IECHYD

“Yn ddiweddar, gwnes fynychu cyfarfod â chi i drafod y posibilrwydd o wneud Llandeilo yn Dref sy'n Cefnogi Pobl â Dementia. A oes modd ichi roi diweddariad i mi a'm cyd-aelodau ynghylch y posibilrwydd o wneud Sir Gaerfyrddin yn Sir sy'n Cefnogi Pobl â Dementia."

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Yn ddiweddar, gwnes fynychu cyfarfod â chi i drafod y posibilrwydd o wneud Llandeilo yn Dref sy'n Cefnogi Pobl â Dementia. A oes modd ichi roi diweddariad i mi a'm cyd-aelodau ynghylch y posibilrwydd o wneud Sir Gaerfyrddin yn Sir sy'n Cefnogi Pobl â Dementia."

 

Ymateb y Cynghorydd J. Tremlett, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd:-

 

“Mae creu Sir Gaerfyrddin yn Sir sy'n Cefnogi Pobl â Dementia yn uchel ar yr agenda strategol, ac mae gwaith eisoes yn digwydd yn Llanelli, Rhydaman, Llanymddyfri ac yn fwy diweddar Talacharn, Sanclêr, Hendy-gwyn a'r ardaloedd cyfagos.  Yr ardal hon yw'r ardal fwyaf gwledig yng Nghymru sy'n gweithio tuag at fod yn gymuned sy'n cefnogi pobl â dementia. Mae sefydlu strwythur lleol yn allweddol i lwyddiant a chynaliadwyedd creu cymuned sy'n cefnogi dementia, a Chynghrair Gweithredu Dementia Lleol neu gr?p tebyg yw'r model a argymhellir i'ch galluogi i ddod ag unigolion, sefydliadau a busnesau lleol at ei gilydd, gan rannu'r un amcanion i helpu'r gymuned i fod yn fwy cefnogol tuag at bobl â dementia.

 

Mae'r Gr?p Cynghrair Gweithredu Dementia Lleol yn gasgliad o randdeiliaid sydd wedi'u dwyn at ei gilydd i helpu i wella bywydau pobl sydd â Dementia yn eu hardal.  Fel arfer maent yn cynnwys Cynghorwyr Sir, Cynghorwyr Tref a Chymuned, yr Heddlu, Ambiwlans, y Gwasanaeth Tân, Meddyg Teulu, Busnesau, Awdurdodau Lleol, grwpiau cymunedol, y Bwrdd Iechyd ac aelodau o'r cyhoedd i enwi ond rhai. Dyma'r model a fabwysiadwyd pan fydd cynrychiolydd o'r Awdurdod Lleol wedi cysylltu ag ardal ynghylch bod yn un sy'n cefnogi dementia.

 

Ar y cyd â Chynllun Gweithredu Dementia ar gyfer Cymru 2018-2022, mae'r awdurdod lleol wedi ymrwymo i greu Sir Gaerfyrddin sy'n cefnogi dementia. Er mwyn gwneud hynny, mae angen staff arnom i gefnogi'r fenter ac yn ddiweddar rydym wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru i gyflogi staff sy'n arbenigo mewn dementia. Mae'r rhain yn cynnwys gweithwyr allweddol dementia ym mhob ardal a staff cydnerthu cymunedol, unwaith eto ym mhob ardal. Bydd hyn yn ein galluogi i gefnogi mwy o gymunedau er mwyn cyrraedd y nod.  Mae'n bwysig nodi nad ydych byth mewn gwirionedd yn dod yn gymuned sy'n cefnogi dementia, ond rydych bob amser yn gweithio tuag at ddod yn gymuned sy'n cefnogi dementia, fel y nodwyd yn y meini prawf ar gyfer cofrestru gyda'r Gymdeithas Alzheimer. Mae hyn er mwyn sicrhau bod y cymunedau eu hunain yn parhau i ymrwymo i'r rhaglen.  Mae Talacharn, Sanclêr, Hendy-gwyn a'r ardaloedd cyfagos yn cynnal eu lansiad ar 1 Chwefror 2019.  Mae'r gwaith wedi bod yn mynd rhagddo dros y flwyddyn ddiwethaf, ond mae'r lansiad yn brawf ffurfiol o'r gwaith hwnnw gan Gymdeithas Alzheimer.  Y bwriad ar noson y lansio yw pasio'r baton i dref Caerfyrddin a thref Llandeilo.

 

I gloi, rydym eisoes yn gweithio tuag at ddod yn Sir Gaerfyrddin sy'n Cefnogi Dementia, ond mae angen i ni wneud hyn yn y ffordd gywir er mwyn cael cydnabyddiaeth gan Gymdeithas Alzheimer drwy ddilyn y saith maen prawf a nodir yn y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.10

12.

URGENT QUESTION SUBMITTED BY COUNCILLOR DERYK CUNDY TO COUNCILLOR EMLYN DOLE, LEADER OF THE COUNCIL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod y Cynghorydd Cundy wedi cyflwyno cwestiwn brys o dan ddarpariaethau Rheol Gweithdrefn Cyngor 11.4(b) yr oedd y Cadeirydd wedi caniatáu:-

 

“Mae'r bwriad i gau Schaefflers â cholli 220 o swyddi da yn ergyd drom i'r Bynea, Llanelli a Sir Gaerfyrddin. Beth mae'r Cyngor Sir yn barod i'w wneud i geisio gwrthdroi penderfyniad y cwmni i adael, ac os na fydd yn gallu newid y penderfyniad hwnnw, beth fydd yn ei wneud i gefnogi gweithwyr presennol a'u teuluoedd drwy'r cyfnod anodd hwn ac yn y dyfodol?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:-

 

“Rwyf yn deall eich pryder fel yr Aelod Lleol ar gyfer Dafen.  Gallai cau'r safle olygu colli dros 200 o swyddi ac roedd y newyddion yn syndod i ni i gyd. Cysylltodd swyddogion y Cyngor ag uwch-gynrychiolwyr y cwmni cyn gynted ag y cyhoeddwyd y newyddion ddydd Llun wythnos diwethaf, i weld beth y gellid ei wneud i achub y swyddi o safon hynny, ac mae'r gwaith hwnnw'n parhau. Rwyf hefyd wedi ysgrifennu at Mr Greig Littlefair, Rheolwr Gyfarwyddwr Shaeffler UK, yn gofyn am gael cyfarfod brys i drafod dyfodol y safle yn Llanelli.  Mae Shaeffler yn gwmni rhyngwladol sy'n cyflenwi cydrannau modurol a diwydiannol ledled y byd ac a symudodd i Lanelli yn 1957.  Mae'r cwmni wedi dweud y bydd y safleoedd yn Llanelli ac yn Plymouth yn cau o fewn y ddwy flynedd nesaf, ac y bydd y gwaith cynhyrchu'n symud i safleoedd eraill yn yr UDA, Tsieina, De Corea a'r Almaen.  Cafwyd ambell awgrym hefyd fod eu penderfyniad yn rhannol oherwydd yr ansicrwydd ynghylch Brexit.  Dylwn ychwanegu hefyd fy mod wedi cyhoeddi datganiad i'r wasg i rannu ein pryder am y bygythiad i 200 o swyddi yn dilyn y cyhoeddiad gan Shaeffler yn Llanelli, er mwyn dweud y byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac yn siarad â'r cwmni  i wneud popeth yn ein gallu i'w berswadio fod Llanelli yn dal yn lle gwych iddynt wneud busnes gyda'r sylfaen beirianegol sydd gennym a phopeth mae hynny'n ei gynnig. Fodd bynnag, mae'n rhaid inni wneud mwy ac rwyf am ofyn i Lywodraeth Cymru weithio gyda ni i gymeradwyo a rhyddhau'n ddi-oed y £40m o gyllid y Fargen Ddinesig ar gyfer Llynnoedd Delta, gan fod y datblygiad arloesol ac unigryw rydym wedi siarad amdano yn ennill cydnabyddiaeth ryngwladol, wrth i gwmnïau mawr edrych i fuddsoddi yn yr ardal. Rhaid i ni fanteisio ar y diddordeb hwn mor gyflym ag y gallwn er mwyn dechrau ar ddarparu'r 1,800 o swyddi o'r radd flaenaf y bydd y pentref Gwyddor Bywyd, ynghyd â'r cyfleusterau cysylltiedig o ran y brifysgol, iechyd, ymchwil, addysgu, hamdden a gofal yn eu darparu.  Rydym hefyd yn dal i aros am i £5m o gyllid gael ei ryddhau ar gyfer Yr Egin yng Nghaerfyrddin, sydd wedi'i adeiladu a'i agor.  Mae angen inni gael yr arian hwn wedi ei ryddhau er mwyn galluogi rhagor o swyddi i gael eu creu yn ystod y cyfnod heriol hwn, ac mae angen i ni  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 12.

7.

YSTYRIED Y RHYBUDD O GYNNIG CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

7.1

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD CEFIN CAMPBELL

“Mae’r Cyngor hwn yn nodi:

 

  • Papur Gwyn Brexit a’n Tir Llywodraeth Cymru;
  • Y cynigion o fewn y papur i ddileu Taliadau Sylfaenol i ffermwyr;
  • Bod y taliadau sylfaenol hynny yn cyfrannu tuag at ryw 80% o elw net ffermwyr;
  • Bod y diwydiant amaeth yn parhau i fod yn gyflogwr sylweddol yn Sir Gaerfyrddin a bod llawer o fusnesau bach a chanolig eu maint ar draws y sir yn dibynnu’n sylweddol ar y sector;
  • Bod cynigion Llywodraeth Cymru yn caniatáu perchnogion tir eraill (h.y. sefydliadau trydydd sector, cwmnïau coedwigaeth, unigolion neu sefydliadau cyfoethog) i gystadlu am y cyllid cyhoeddus sydd ar gael i ffermwyr ar hyn o bryd;

 

Mae’r Cyngor hwn yn mynegi pryder nad yw Papur Gwyn Llywodraeth Cymru Brexit a’n Tir yn cynnwys model neu asesiad o’r effaith y bydd y newidiadau arfaethedig yn ei gael ar yr economi leol neu genedlaethol.

 

Mae’r Cyngor yn bryderus y gallai’r cynigion arfaethedig gael effaith negyddol ar gefn gwlad Sir Gaerfyrddin a pheryglu dyfodol y fferm deuluol sydd wedi cynnal yr economi, bywyd cymunedol a’r iaith Gymraeg yn ein cymunedau gwledig am genedlaethau.

 

Mae'r Cyngor yn credu na ddylid cyflwyno newidiadau i daliadau ffermydd nes y cyflwynir asesiadau manwl o’r effeithiau posibl ar swyddi ac economi Sir Gaerfyrddin a Chymru gyfan ac y dylai unrhyw drawsnewid ddigwydd dros gyfnod hir o amser.

 

Yn ychwanegol at hyn mae’r Cyngor hefyd yn credu y byddai’n gwneud synnwyr i Lywodraeth Cymru ohirio unrhyw benderfyniad ar daliadau sylfaenol i ffermydd nes ar ôl i gytundeb masnach gael ei gytuno rhwng y DU a’r Undeb Ewropeaidd yn sgîl Brexit.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr Kim Broom, Cefin Campbell, Mansel Charles, Ann Davies, Arwel Davies, Joseph Davies, Emlyn Dole, Hazel Evans, Linda Evans, Tyssul Evans, Ken Howell, Andrew James, Alun Lenny, Jean Lewis, Emlyn Schiavone, Mair Stephens, Gareth Thomas, A. Vaughan Owen ac Eirwyn Williams wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.  Bu iddynt aros yn y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth, ond gadael cyn y bleidlais.  Cafodd y cyfarfod ei gadeirio gan yr Is-gadeirydd, yn absenoldeb y Cadeirydd.]

 

Ystyriodd y Cyngor y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Cefin Campbell:-

 

“Mae'r cyngor hwn yn nodi:

 

  • Papur Gwyn Brexit a'n Tir Llywodraeth Cymru;
  • Y cynigion yn y papur i ddileu'r Taliadau Sylfaenol i ffermwyr;
  • Bod taliadau sylfaenol yn cyfrannu tua 80% at elw net ffermwyr;
  • Bod y diwydiant amaeth yn parhau i fod yn gyflogwr sylweddol yn Sir Gaerfyrddin a bod llawer o fusnesau bach a chanolig ar draws y sir yn dibynnu i raddau helaeth ar y sector;
  • Y gallai cynigion Llywodraeth Cymru arwain at dirfeddianwyr eraill, (e.e. sefydliadau'r trydydd sector, cwmnïau coedwigaeth, sefydliadau ac unigolion eithriadol o gyfoethog) allu cystadlu am yr arian cyhoeddus sydd ar gael ar hyn o bryd i ffermwyr.

Mae'r Cyngor hwn yn mynegi pryder nad yw papur ymgynghori Brexit a'n Tir yn cynnwys unrhyw fodel nac asesiadau ynghylch sut y bydd y newidiadau arfaethedig yn effeithio ar yr economi leol neu genedlaethol.

 

Mae'r Cyngor hwn yn pryderu y gallai'r newidiadau arfaethedig gael effaith negyddol ar gefn gwlad Sir Gaerfyrddin a bygwth dyfodol ffermydd teuluol sydd wedi cefnogi'r economi, bywyd y gymuned a'r iaith Gymraeg yn ein cymunedau gwledig am genedlaethau.

 

Mae'r Cyngor hwn yn credu na ddylid cyflwyno unrhyw newidiadau i'r taliadau i ffermydd hyd nes bod asesiad manwl a thrylwyr yn cael ei ddarparu am yr effaith bosibl ar swyddi a'r economi yn Sir Gaerfyrddin ac mewn rhannau eraill o Gymru, ac y dylai unrhyw newidiadau ddigwydd dros gyfnod hir.

 

Yn ychwanegol at yr uchod, mae'r Cyngor hefyd yn credu y byddai'n synhwyrol pe bai Lywodraeth Cymru yn ymatal rhag gwneud unrhyw benderfyniad ar daliadau sylfaenol hyd nes bod cytundeb fasnachol rhwng y DU a'r Undeb Ewropeaidd mewn perthynas â Brexit.”

 

Eiliwyd y Cynnig.

 

Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o'i blaid ac aethant ymlaen i amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau yn mynegi cefnogaeth i'r Cynnig.

Yn sgil cael cais gan fwy na deg o aelodau, yn unol â Rheol 16.4 o Weithdrefnau'r Cyngor, cynhaliwyd pleidlais gofnodedig gyda'r pleidleisiau yn cael eu bwrw fel a ganlyn:-

 

O blaid y Cynnig (37)

Y Cynghorwyr F. Akhtar, L. Bowen, D.M. Cundy, S. Curry, G. Davies, H. Davies, I.W. Davies, K. Davies, W.R.A. Davies, J.S. Edmunds, P. Edwards, A. Fox, J. Gilasbey, C. Harris, T. Higgins, P. Hughes Griffiths, P.M. Hughes, J.D. James, R. James, D.M. Jenkins, G. John, C.E. Jones, B.W. Jones, D. Jones, G. Jones, K. Madge, S. Matthews, A.G. Morgan, E. Morgan, S. Najmi, D.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.1

8.

YSTYRIED ARGYMHELLION Y BWRDD GWEITHREDOL O RAN Y MATER CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

8.1

CYNLLUN DATBLYGU LLEOL DIWYGIEDIG SIR GAERFYRDDIN 2018-2033. pdf eicon PDF 418 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 22 Hydref  2018 (gweler Cofnod 12), wedi ystyried Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin 2018-2033 - Strategaeth Ddrafft a Ffefrir ac wedi gwneud dau argymhelliad, fel y nodir yn adroddiad y rheolwr Blaengynllunio, i'w hystyried gan y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

 

“Cymeradwyo cynnwys y Strategaeth Ddrafft a Ffefrir (a'r dogfennau ategol) ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig 2018-2033 at ddibenion ymgynghori ffurfiol;

 

Rhoi awdurdod dirprwyedig i swyddogion wneud addasiadau teipograffyddol neu ffeithiol ansylweddol yn ôl yr angen, i wella eglurder a chywirdeb y Fersiwn Drafft o'r Strategaeth a Ffefrir”.

 

 

9.

DERBYN ADRODDIAD CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALIWYD AR 22AIN HYDREF, 2018 pdf eicon PDF 281 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 22 Hydref 2018.

 

10.

AELODAETH PWYLLGORAU

Dogfennau ychwanegol:

10.1

NODI BOD Y GRWP LLAFUR WEDI ENWEBU'R CYNGHORYDD JOHN PROSSER I GYMERYD LLE'R CYNGHORYDD ERYL MORGAN AR BANEL HEDDLU A THROSEDDU DYFED POWYS.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 2(2)(n), roedd yr enwebiad canlynol gan y Gr?p Llafur wedi dod i law ar gyfer aelodaeth sefydliad allanol:-

 

Y Cynghorydd John Prosser i gymryd lle'r Cynghorydd Eryl Morgan ar Banel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi bod y Cynghorydd John Prosser i gymryd lle'r Cynghorydd Eryl Morgan ar Banel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys.