Agenda a Chofnodion

Cyngor Sir - Dydd Mercher, 15fed Tachwedd, 2017 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr C. Campbell, D. Cundy, S. Davies, D. Harries, M.J.A. Lewis, B.A.L. Roberts, A.D.T. Speake, D. Thomas ac E. Williams.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

K. Madge

10 - Cofnodion y Bwrdd Gweithredol - 23 Hydref 2017 (cofnod rhif 16 - Cynllun Buddsoddi mewn Gweithio Ystwyth)

Ei ferch yn gweithio i'r Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·         Estynnodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad â Mrs Aelwen Wooldridge a'i meibion a'u teulu ar farwolaeth y cyn-Gynghorydd Gwynne Wooldridge, Ward Bynea;

 

·         Estynnodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad â Mrs Jill Davies a'i merched a'u teulu ar farwolaeth y cyn-Gynghorydd Jim Davies, Ward Manordeilo a Salem;

 

·         Cyfeiriodd y Cadeirydd at gefnogaeth y Cyngor i Ddiwrnod y Rhuban Gwyn ar 25 Tachwedd 2017.  Roedd y digwyddiad hwn yn nodi Diwrnod ac Ymgyrch y Rhuban Gwyn, a oedd yn cael ei harwain gan ddynion sy'n sefyll yn gadarn yn erbyn trais yn erbyn menywod a merched a bod yn esiampl dda i ddynion eraill yn eu cymuned. Gwahoddwyd yr aelodau i lofnodi llyfr addunedu a rhoi cyfraniad at yr ymgyrch, a bydd yr holl elw yn mynd tuag at oroeswyr lleol;

 

·         Diolchodd y Cynghorydd Gwyneth Thomas i'r aelodau hynny a noddodd Ceri Murphy o Langennech yn ei driathlon cyntaf ar 7Hydref er budd ymchwil canser;

 

·         Gwahoddodd y Cynghorydd Alun Lenny yr aelodau i gymryd rhan mewn gorymdaith drwy Gaerfyrddin yng ngolau cannwyll ar 23 Tachwedd 2017 i nodi Ddiwrnod y Rhuban Gwyn;

 

·         Gwnaeth yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant apêl am offerynnau cerdd nad oedd neb yn eu defnyddio er budd y gwasanaeth cerdd i ysgolion. Dywedodd fod yna amnest yn cael ei gynnal ar hyn o bryd er mwyn dychwelyd unrhyw offerynnau sydd ar fenthyg oddi wrth y gwasanaeth cerdd i ysgolion ac a ddylai fod wedi'u dychwelyd eisoes.

 

·         Estynnodd yr Arweinydd, ar ran y Cyngor, ei longyfarchiadau i Mr Gareth Morgans ar gael ei benodi'n Gyfarwyddwr Addysg yn ddiweddar.

 

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR YR 18FED HYDREF 2017 pdf eicon PDF 271 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 18 Hydref 2017 yn gofnod cywir.

 

5.

CYFLWYNIAD GAN Y SCARLETS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gan gyfeirio at gofnod 5 o gyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 11 Rhagfyr 2013 croesawodd y Cadeirydd y Meistri Nigel Short, Jon Daniels a Phil Morgan o Glwb y Scarlets a wahoddwyd i roi cyflwyniad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cyngor am weithgareddau'r Clwb. Tynnodd y cynrychiolwyr sylw at bwysigrwydd y Clwb i'r gymuned ac i fywyd busnes yng Ngorllewin Cymru ac at ei waith estyn allan gyda chlybiau lleol yn y rhanbarth. Soniwyd wrth yr aelodau am lwybr datblygu chwaraewyr y clwb, ac roedd nifer y chwaraewyr o'r rhanbarth sydd yng ngharfan Cymru yn dangos llwyddiant hyn. Cyfeiriwyd hefyd at lwyddiant y stadiwm o ran denu digwyddiadau nad ydynt yn rhai chwaraeon megis bandiau byw y tu allan i'r tymor rygbi cartref.

 

Ar ôl y cyflwyniad cafwyd sesiwn holi ac ateb ac ar ôl hynny diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am gyflwyniad rhagorol a llawn gwybodaeth.

 

6.

CWESTIYNAU CYHOEDDUS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

7.

CWESTIYNAU GAN AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

7.1

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD BILL THOMAS I'R CYNGHORYDD GLYNOG DAVIES - AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

“Ni all gofalwyr fod mewn addysg lawn amser a hawlio Lwfans Gofalwyr hyd yn oed os ydynt yn gofalu am y 35 awr yr wythnos sy'n eu gwneud yn gymwys i gael y budd-dal hwn. A wnewch chi ymrwymo i lofnodi’r ddeiseb a lansiwyd yn ddiweddar gan ofalwyr ifanc Sir Gaerfyrddin i newid y rheol hon fel bod gan ofalwyr sy’n oedolion ifanc y cyfle i gyrraedd eu potensial llawn?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

 

“Ni all Gofalwyr fod mewn addysg amser llawn a hawlio Lwfans Gofalwyr hyd yn oed os ydynt yn gofalu am yr 35 awr yr wythnos sy'n eu gwneud yn gymwys am y budd-dal hwn.  A wnewch chi ymrwymo i lofnodi'r ddeiseb a lansiwyd yn ddiweddar gan ofalwyr ifanc Sir Gaerfyrddin i newid y rheol hon fel bod gofalwyr sy'n oedolion ifanc yn cael cyfle i gyrraedd eu potensial llawn?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

Mae'n flin gen i siomi'r Cynghorydd Bill Thomas ond mae'n rhy hwyr, rwyf eisoes wedi llofnodi'r ddeiseb sydd wedi bod yn mynd o gwmpas. Roeddwn wedi llofnodi'r ddeiseb cyn i'r cwestiwn ymddangos yma ar ein hagenda a byddwn yn annog pob un ohonoch i lofnodi'r ddeiseb hon hefyd. Yr hyn yr wyf wedi'i wneud yw sicrhau bod y ddolen gyswllt ar gael a'i bod wedi cael ei hanfon at holl staff y Cyngor a hefyd at staff ein hysgolion, ac os nad ydych chi fel Cynghorwyr wedi derbyn y ddolen byddaf yn sicrhau eich bod wedi'i derbyn erbyn diwedd y dydd. Mae'n ddeiseb bwysig iawn ac ers i'r mater ddod yn hysbys mae bron i 50% o'r bobl sydd wedi'i llofnodi yn bobl o Sir Gaerfyrddin ond mae'n amlwg fod y nod yn un uchel - 10,000 o lofnodion - a dim ond wedyn y bydd San Steffan yn cymryd unrhyw sylw ohonom. 10,000 fel bod rhaid i Lywodraeth San Steffan ymateb ond byddwn yn eich annog i wneud hynny. Wrth gwrs syniad a godwyd gan Ofalwyr sy'n Oedolion Ifanc yn Sir Gaerfyrddin yw'r ddeiseb hon ac maent wedi ymuno â'r Ymddiriedolaeth i Ofalwyr a'r Sefydliad Fixers i drefnu'r ddeiseb a cheisio newid y rheol 21 awr hon sydd, maent yn dweud, yn gwahaniaethu yn erbyn gofalwyr  sydd am astudio, sydd am wella eu cyfleoedd i gael gwaith ac sydd am gyrraedd eu potensial llawn mewn bywyd. Roedd rhai o'n haelodau yn bresennol yn y lansiad a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.  Roedd y Cynghorwyr Alun Lenny, Emlyn Schiavone a Carl Harris yn bresennol, ynghyd â'r Cynghorydd Jane Tremlett, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd, a Jane fydd yn y pen draw yn gofyn i'r Gofalwyr Ifanc ddod atom i roi cyflwyniad i'r Cyngor llawn. Credaf ei bod yn bwysig dros ben ein bod yn cael y cyflwyniad hwn gan y Gofalwyr Ifanc fel y gallant dynnu sylw at eu sefyllfa anodd a bydd yn gyfle delfrydol i ni eu holi am y gwaith y maent yn ei wneud. Roedd Jonathan Edwards AS hefyd yn bresennol yn y lansiad a chyhoeddodd ei fwriad i geisio codi'r mater yn y Senedd drwy Gynnig Ben Bore. Dywedodd Mr Edwards ar y noson honno mai'r hyn sydd wrth wraidd yr ymgyrch hon yw galluogi gofalwyr sy'n oedolion ifanc - y rheiny sy'n mynd ati mewn ffordd anhunanol i helpu i ofalu am eu hanwyliaid - i astudio a gwella  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.1

8.

YSTYRIED Y RHYBUDDION O GYNNIG CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

8.1

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD ANDRE MCPHERSON:

“Gofynnaf i’r Cyngor hwn gadarnhau fy nghynnig, sef ein bod yn hedfan Baner yr Enfys uwchben adeiladau’r Cyngor Sir ar 1 Rhagfyr bob blwyddyn ar Ddiwrnod Rhyngwladol Aids, fel symbol o’n cydsafiad gyda phobl HIV positif a'r rheiny yn Sir Gaerfyrddin sy’n byw gydag AIDS a’r holl liwiau a gynrychiolir gan y faner.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Andre McPherson:-

 

“Gofynnaf i’r Cyngor hwn gadarnhau fy nghynnig, sef ein bod yn hedfan Baner yr Enfys uwchben adeiladau’r Cyngor Sir ar 1 Rhagfyr bob blwyddyn ar Ddiwrnod Rhyngwladol Aids, fel symbol o’n cydsafiad gyda phobl HIV positif a'r rheiny yn Sir Gaerfyrddin sy’n byw gydag AIDS a’r holl liwiau a gynrychiolir gan y faner."

 

Eiliwyd y Cynnig.

 

Rhoddwyd cyfle i'r Cynigydd, gyda chefnogaeth ei eilydd, siarad o blaid y Cynnig a bu iddo amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Cynigiwyd y gwelliant canlynol i'r Cynnig gan y Cynghorydd Alun Lenny a chafodd ei eilio:-

 

“Mae'r Cyngor hwn yn ymrwymedig i ddangos cydsafiad gyda phobl HIV positif a'r rheiny yn Sir Gaerfyrddin sy'n byw gydag AIDS trwy annog pawb i wisgo rhuban coch, sef symbol Ddiwrnod Rhyngwladol Aids, ar 1 Rhagfyr bob blwyddyn.”

 

Cafodd cynigydd ac eilydd y gwelliant gyfle i siarad o blaid y gwelliant a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno.

 

Cafwyd nifer o ddatganiadau o blaid y Cynnig a'r gwelliant ac, yn sgil cael cais gan fwy na 10 o aelodau yn unol â Rheol 16.4 Gweithdrefn y Cyngor, cynhaliwyd pleidlais gofnodedig ynghylch y gwelliant gyda'r pleidleisiau yn cael eu bwrw fel a ganlyn:-

 

O blaid y gwelliant (45)

Y Cynghorwyr S. Allen, L. Bowen, K. Broom, M. Charles, A. Davies, C.A. Davies,

G. Davies, H. Davies, I.W. Davies, J. Davies, T.A.J. Davies, W.R.A. Davies, E. Dole, H.A.L. Evans, L.D. Evans, W.T. Evans, J. Gilasbey, C. Harris, J.K. Howell,

P. Hughes Griffiths, P. Hughes, A. James, D.M. Jenkins, J. Jenkins, G. John, C. Jones, B.W. Jones, H.I. Jones, T.J. Jones, A. Lenny, A.G. Morgan, D. Nicholas, D. Phillips, S. Phillips, D. Price, E. Schiavone, H. Shepardson, L.M. Stephens, E. Thomas, G. Thomas, G.B. Thomas, J. Tremlett, A. Vaughan-Owen, D.E. Williams, D. Williams;

 

Yn erbyn y gwelliant (19)

Y Cynghorwyr F. Akhtar, S. Curry, J. Edmunds, P. Edwards, D.C. Evans, A. Fox,

T.M. Higgins, J. James, R. James, D. Jones, G. Jones, K. Lloyd, K. Madge,

S. Matthews, A. McPherson, E. Morgan, S. Najmi, J. Prosser, B. Thomas;  

 

Ymataliadau (1)

R. Evans.

 

PENDERFYNWYD cefnogi'r Gwelliant i'r Cynnig.  

 

Wedi i'r gwelliant gael ei gymeradwyo, daeth yn Gynnig Terfynol a

 

PHENDERFYNWYD YMHELLACH gan y Cyngor gefnogi'r Cynnig Terfynol.

 

 

8.2

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD BILL THOMAS:

“Bydd un o bob pedair menyw yn dioddef trais neu gamdriniaeth ddomestig yn ystod eu bywydau ac un o bob chwe dyn. Mudiad rhyngwladol o ddynion sy'n sefyll yn gadarn yn erbyn trais yn erbyn menywod yw Ymgyrch y Rhuban Gwyn. Mae dynion sy'n cefnogi'r ymgyrch yn gwisgo rhuban gwyn fel symbol eu bod yn gwrthwynebu trais yn erbyn menywod. 25 Tachwedd yw Diwrnod Rhyngwladol y Rhuban Gwyn. Mae achrediad y Rhuban Gwyn yn gydnabyddiaeth o'r gwaith y mae sefydliad yn ei wneud i gael dynion i siarad ar goedd yn erbyn trais gan ddynion yn erbyn menywod, ac i herio ymddygiad o'r fath. Felly bydd y Cyngor hwn yn:

a)    Penodi Aelod o’r Bwrdd Gweithredol i fod yn Llysgennad y Rhuban Gwyn

b)    Rhoi mesurau ar waith er mwyn i Gyngor Sir Caerfyrddin geisio cael Achrediad y Rhuban Gwyn erbyn Diwrnod y Rhuban Gwyn yn 2018.

Bydd y camau hyn yn helpu i leihau trais yn erbyn menywod ac yn ysgogi'r syniad o gymdeithas sydd wedi ei seilio ar gydraddoldeb a pharch.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Bill Thomas:-

 

“Bydd un o bob pedair menyw yn dioddef trais neu gam-driniaeth ddomestig yn ystod eu bywydau ac un o bob chwe dyn. Mudiad rhyngwladol o ddynion sy'n sefyll yn gadarn yn erbyn trais yn erbyn menywod yw Ymgyrch y Rhuban Gwyn. Mae dynion sy'n cefnogi'r ymgyrch yn gwisgo rhuban gwyn fel symbol eu bod yn gwrthwynebu trais yn erbyn menywod. 25 Tachwedd yw Diwrnod Rhyngwladol y Rhuban Gwyn. Mae achrediad y Rhuban Gwyn yn gydnabyddiaeth o'r gwaith y mae sefydliad yn ei wneud i gael dynion i siarad ar goedd yn erbyn trais gan ddynion yn erbyn menywod, ac i herio ymddygiad o'r fath. Felly bydd y Cyngor hwn yn:

a)      Penodi Aelod o’r Bwrdd Gweithredol i fod yn Llysgennad y Rhuban Gwyn

b)      Rhoi mesurau ar waith er mwyn i Gyngor Sir Caerfyrddin geisio cael Achrediad y Rhuban Gwyn erbyn Diwrnod y Rhuban Gwyn yn 2018.

Bydd y camau hyn yn helpu i leihau trais yn erbyn menywod ac yn ysgogi'r syniad o gymdeithas sydd wedi ei seilio ar gydraddoldeb a pharch.”

 

Eiliwyd y Cynnig.

 

Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau yn mynegi cefnogaeth i'r  Cynnig.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r Cynnig.

 

9.

AILBENODI AELODAU CYFETHOLEDIG O'R PWYLLGOR SAFONAU. pdf eicon PDF 163 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Cyngor adroddiad a oedd yn argymell bod Mr Andre Morgan a Mr Alun Williams yn cael eu hailbenodi yn aelodau cyfetholedig o'r Pwyllgor Safonau am  dymor pellach o 4 blynedd yn y swydd wedi i'w tymor presennol yn y swydd ddod i ben ar 5 Rhagfyr 2017. Ar y pryd Mr Morgan a Mr Williams oedd yr aelodau mwyaf profiadol o'r Pwyllgor Safonau a Mr Morgan oedd y Cadeirydd. Roedd Rheoliad 21 o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001 yn dweud y gellir penodi aelodau cyfetholedig o Bwyllgor Safonau am dymor pellach yn y swydd o 4 blynedd ar y mwyaf.

 

PENDERFYNWYD bod Mr Andre Morgan a Mr Alun Williams yn cael eu hailbenodi yn aelodau cyfetholedig o'r Pwyllgor Safonau am dymor pellach o 4 blynedd yn y swydd o 5 Rhagfyr 2017 tan 4 Rhagfyr 2021.

 

10.

DERBYN ADRODDIAD CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALIWYD AR Y 23AIN HYDREF, 2017 pdf eicon PDF 237 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

[NODER:  Roedd y Cynghorydd K. Madge wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

PENDERFYNWYD bod adroddiad y cyfarfod uchod yn cael ei dderbyn.